Billeder på siden
PDF
ePub

ddau baladr yn nghanol y Nôd. Felly cynwysai rhych want y Nod yr oll o oleuni yr Haul. Cawn fod y Dr. J. SMITH, yn ei lyfryn ar y "Côr Gawr," wedi gwneuthur sylw neillduol o'r meini hynod hyny a ddy nodant rychwant y Nod yn yr hen Orsedd ambawr dra Thydeinaidd hono; er na ddeallodd ef ddim am eu dybenion godidog. (Gwel ei lyfryn, tudal. 51, 52. Hefyd, y meini, rhif I. a'r II., yn ei ddarlunleni.)

Yr oedd Cyfrinion o bwys yn perthyn i rych want y Nod; y rhai yma a gadwwn yn nghudd.

Yn awr, dyna y pelydr hyny, pa rai mor athronyddol a wnaent i fyny, yn nghyfundrefn Barddas, lun llewyrchus Enw Duw, neu y Gair mawr cyntefig; yr hwn a ystyrid fyth yn cyhoeddi mor arddunawl Enw y Celi; hyny yw, a eglurai y Celi yn ei allu, ei ddoethineb, a'i ddaioni, drwy holl gyfundrefn Anian. Ac, mewn gwirionedd, ni ellir gwybod dim am Dduw ond a ddysg y priodoleddau hyny a gynrychiolir gan y pelydr uchod yn mhynciau y Nod ; sef Duw yn Creu, Duw yn Cynal, a Duw yn Dinystrio. Dyna y cwbl am dano.

Yn mhaladr Hefin, o bwne Haul uchder Haf, y cynrychiolir yr oll o'r amlygiad o Dduw, fel Perydd, neu Greydd; am mai yn nylanwad yr Haul, tua'r pwnc hwn ar y nef, ei canfyddir, fel y cyfryw, yn benaf o un man yn Natur; herwydd mai dan ddylanwad y paladr Haf y ffurfir o'r tryblith bob twf; coed, llysiau, by wiolion, a'u cynydd.

Hwn oedd pwnc y Bywyd; a Phlenydd, neu bwnc y Goleuni; lle cynrychiolid egwyddor y Da yn y Nef, am ei fod yn gynyrchydd llawndid Haf; yr hyn a ystyrid y Da penaf.†

Yn mhaladr Alban Arthan, o bwnc dyfnder Gauaf, y cynrychiolid yr amlygiad penaf o Dduw, fel Dofydd, Dinystrydd, &c., am mai dan ddylanwad hwn y ca gwaith a chynyrch Haf eu difa; ac wrth hyny yn dangos y Celi mawr fel Dadansoddydd (Decomposer) ei waith cynwysedig mewn bodau cyfansawdd, i'w nwyon (gases), a'u helfenau syml cynhenid, gan eu dychwelyd i wlad yr ysbrydion, yn Annwn; mewn llwybr i ffurfio â hwynt fodau newyddion, drwy eu hail eni o'r dwfr ac o'r gwynt, dan ddylanwad y pelydr ereill.‡

bywiolon gwaelaf, neu symlaf, yn y dwfr, ac ar y tryblith chaos): yr Annwn Daear-gronenawl; sef, y ddaear o'r tu deheuol i'r gyhydedd, a'i gwaelod yn mhegwn y de: a'r Annwn Nengronenawl, neu yr wybr a'r ffurfafen serenog o'r tu deau i'r gyhydedd ; ac yn cyferbynu y Nef neu Gylch y Gwynfyd ar y tu gogleddol; a'i gwaelod o bwne haul Alban Arthan, i'r pegwn dehenol.

Wrth y tryblith (chaos) yn gyntefig, golygid defnydd diddechreuad yn ei fodoliaeth syml annghyfansawdd, yn daenedig drwy gwylloedd annherfynol; neu mewn sefyllfa mwy cydgynulliadol.

Hefyd, hwn oedd Idris Gawr cyntefig y Cymry. Ac efe wedi ei ddwyfoli oedd, ac yw, Brahina yr Hindwaid; Oromazes y Persiaid,

&c.

Sef fel Dadansoddydd, cyflwyna y nwyon

Pwnc-baladr y Dadansoddydd hwn, oedd Gwron-Pwnc Angen ac Angau-Pwnc y Tywyllwch a phorth y llifogydd, neu Lyn Llion, lle cynrychiolid Egwyddor y Drwg yn Annwn, am ei fod yn gynyrchydd angen a thraIlodion Gauaf; herwydd Angen ystyrid y prif Ddrwg.* Fel pwnc y Dinystrydd, hwn oedd

hyn i'r Creydd yn mhwnc Hefin, i ffurfio hadau i'w haddfedu a'u perffeithio dan ddylanwad Alban-baladr y Forwyn, yn Elfed; er diogela y byd llysieuog rhag dinystr Gauaf. Yna, yr hadau hyn yn derbyn yni egino dan baladr pwnc Eilir (adnewyddiad) er peri cynydd, twf, a ffrwythan, yn y byd llysieuog, dan ddylanwad paladr y Creydd, yn Hefin; i fod yn ymborth, mewn llwybr i gael modd i rithio, cynyddu, a chynal yn mlaen y byd bywydawl.

Ond i egluro yr hyn a feddylid yn well, sylwwn: Golygid defnydd yn bodoli erioed yn y Tryblith (chaos), sef yn ei gyflwr annghyfansawdd, neu yn ei elfenau syml pur, dan lywodraeth y Dadansoddydd ; lle ca y galla Creawl ef, i ffurfio llws a hadau, y rhai a addfedir gan yr Egwyddor Fenywaidd ; ac yna, i gael rhoddi gwth neu yni ynddynt gan yr Eg wyddor Wrry waidd i egino, a deori yn fodau byw perffaith; ac wedi hyn i'w parhau ar gynydd gan y Creydd; ac i'w cynal am dymor drwy weinidogaeth y ddwy Egwyddor a ragenwyd. Ond o'r diwedd i'w cyflwyno yn ol i'r Dinystrydd drachefn a thrachefn, ar gylch, nes eu perffeithio. Y Dadansoddydd oedd Purydd neu Santeiddydd y Gread oddiwrth bob anmhuredd.

* I brofi mai Angen, neu ddiffyg o Dduw, yn yr amlygiad o hono ei hun, olygid bod Drwg, ae wrth hyny nad oedd ef yn awdwr o hono, digon yw y modd y dysgid am y Duw Celi oddiwrth y Gair, neu y llyfr pren, ag oedd gyhoeddiad a darluniad o'i Enw; sef, Duw yn estyn ei yni allan, fel ei gwelir yn Haul-baladr Hefin y llyfr, dyna Dduw (neu) yn creu; Duw yn dal ei yni allan, fel ei gwelir yn Haulbaladr Eilir ac Elfed y llyfr, dyna Dduw (neu

\) yn Cynal; a Duw yn tynu ei yni yn ol, fel ei gwelir yn Haul-baladr Arthan, dyna Dduw yn Dinystrio; neu, yn hytrach (fel y dysga y gymhariaeth rhwng Duw a'r Haul) dyna Dduw yn ymattal; ac yn ganlynol, Dinystriad, neu ddadansoddiad bodau cyfansawdd yn cymeryd lle; sef eu dychweliad rheidiol yn ol tua phwne y Marw a'r Tryblith cyntefig yn ngwaelod Annwn; o ba le y daethant, sef pwnc y Drwg eithaf. Gan hyny, mae yn amlwg mai attal ei ddäoedd yn unig a olygid fod Duw, pan gymerai Dinystr neu y Drwg le; ac o ganlyniad, nad oedd ef yn Achos Drygau, yn fwy na'r Haul (fel y dangosid oddiwrth), yn attaliad ei belydr, yn achos o oerfel, dinystr, caledu, a drygau gauaf.

Dysgid mai Da i gyd oedd Duw. Nad oedd Drwg moesol onid ymestyniad Drwg Anianol i'r byd moesol, lle cymer arno agwedd foesal Nad oedd Duw yn llidio ac yn cosbi mewn ffordd o ymddialu, eithr i'r dyben o ddiwygie Fod graddau o fwynhad daionus yn mhob sefyllfa a chyflwr bywydawl; ond yn lleihau bwnc Rhyddid, neu y sefyllfa ddynol, i waered i'r pryfyn dystadlaf. Mai natur y gosh drymsť

pwne y Cythraul (o cyd a traul), sef gair yn arwyddo yr un peth a Dinystrydd ; ac nid oedd mewn gwirionedd ond y pwnc nacäol (negative) o Dduw yn yr amlygiad o hono ei hun.*

Ond am y paladr canol a deublyg, yn cynwys y ddwy brif Egwyddor fawr a chyffredinol, sef yr Egwyddor Wrrywaidd a'r Egwyddor Fenywaidd yn Anian, cynrychiola hwn y cwbl o'r amlygiad sydd genym am Dduw fel Rhi, Ior, a Chynalydd; ac fel Duw Rhagluniaeth, a Duw'r Cariad, yn llawn o dynerwch, gofal, a serchogrwydd y tad a'r fam; herwydd mai dan ddylanwad y naill baner i'r paladr hwn a gynyrchir o odreu arwydd y Forwyn (Ceridwen,t neu dduwies cynauaf) yr addfedir ac y diogelir hâd a ffrwythau, er cadwraeth, ac er sicrhau parhad pob twf, coed, llysiau, &c., rhag eu llwyr ddinystrio dan ddylanwad paladr Gauaf, neu Egwyddor y Dadansoddydd, &c., ac wrth hyuy, diogelu parhad bywiolion ar y ddaear. Y pwnc-baladr hwn gynrychiolai y Fam Fawr gyffredinol, neu yr Egwyddor Fenywaidd yn Natur.

yn

allai gymeryd lle oedd, nid Duw rhoddi poen, ond Duw yn cymeryd pob da ymaith, nes gollwng y creadur am dymor maith tua gwaelod Annwn, i annheimladrwydd y Tryblith.

Golygai ein hynafiaid fod defnydd yn bodoli erioed yn annghyfansawdd, ac ar dan drwy y gwylloedd diderfyn (a dyna y Tryblith yn yr ystyr eangaf, neu bwne eithaf y Drwg eithaf, a gwaelod Annwn, gynrychiolid yn mhwne Arthan) dan arglwyddiaeth y Dinystrydd, neu y Dadansoddydd, neu y pwnc nacäol o Dduw yn yr amlygiad o hono ei hun; hyny yw, nacãol dda. A chan mai yn yr ystad annghyfansawdd hyn y cawd defnydd, fel y tybid i greu ag ef fodau cyfansawdd, dyna paham y dysgai ein cynfeirdd ddyfod y Byd a chwbl oll o Annwn, ac odditan lywodraeth Egwyddor y Drwg; ac wrth hyny, dechreuad a dystryw pob peth yn cael eu gosod i ddal rhyw berthynas neillduol, yn aml, â phwne Haul Alban Arthan ar y gronen serenog.

* Hwn hefyd oedd Gwyn ap Nudd y Cymry; ac wedi ei ddwyfoli, y pwnc-baladr hwn oedd Siva India, Aharimanes Persia, Sevek-ra â'r pen crocodile, yr Aifftiaid, &c. Ond er mwyn rhyddhau cymeriad y Duwdod, fel y tybid, gan rai yn camddeall yr hen gyfundrefn, oddiwrth y dybiaeth o'i fod yn awdwr drygau, symud wyd pwne y Drwg, yn foreu iawn, i arwydd y Sarff, dan yr enwau Gwarthawn, l'endaran, İlyagriva, Rahu, Typhon, Shatan, &c.

Herwydd mai gorsedd foesol y byd oedd gorsedd y Beirdd, ceir ei holl gymeriadau ffug gwedi eu cynrychioli yn y cydseroedd (costellations), fel y byddent yn ngolwg yr holl fyd,

Er mai Anian yn gyfanswm a deilliedig o Dduw oedd y Dduwies Ceridwen, yn yr ystyr helaethaf, fel ag oedd yn Gymhares, eto, mewn ystyr gyfyngach, weithiau arwyddai y Ddaear; ac yn neillduol yr Egwyddor Feny waidd ; ac hyd y nod yr Egwyddor hono yn gynrychioledig yn Haul-bwne Elfed, neu arwydd y Forwyn yn y nef.

Y pwnc-baladr, neu yr Egwyddor Fenywaidd hon, oedd Ogyrwen-Ambad yr hen Gymry

Y rhan arall yw Haul-baladr pwnc Eilir, neu y Gwanwyn, yn cynrychioli y Tad, neu yr Egwyddor Wrrywaidd," am mai dan ei ddylanwad adfywiol ef, o'r Hwrdd, y rhoddir gwth ac yni (impulse and energy) yn holl had y Forwyn, i egino a chynyddu, er adnewyddiad gwyneb y ddaear, mewn twf, a ffrwythau, er cynaliaeth pobpeth byw. Tra yr haul yn y pwne hwn, saif y Ddaear hithau (yr hon yn fynych gynrychiolai yr Egwyddor Fenywaidd) yn wastad yn mhwne Elfed; ac ar y pryd yn ymdrwsio yn ei blodau a'i pheraroglau Gwanwyn, fel priodaswraig i'w gwr Tegid.

Fel hyn, gosodid y ddwy Egwyddor Gynaliol yn y Nef; a'u godreu ar y Gyhydedd, ac yn cyferbynu eu gilydd ar bob tu i'r Sidydd (Zodiac); ac yno, wrth edrych megys y naill ar y llall, fel tad a mam gyffredinol, yn hilio y byd â bywiolion o oes i oes yn dragywydd, gan eu tymorol gynal rhwng pwnc y Creu a'r Bywyd, a phwne y Marw a'r Dinystr.

Y ddau baladr hyn yn nghyd, fel yn gwneud i fyny baladr canol llun Enw Duw, sef yn ngorsedd, oedd Alawn (Harmony); ac yn cael ei alw felly, am mai ynddo ef yn benaf y cyfarfyddai cynghaneddiad gwrthbynciau pelydr y Nod, a hyny yn mheroriaeth bereiddsain gweinidogaeth y Tad a'r Fam, yn nygiad yn mlaen y lles cyffredinol yn y bydysawd-amcan mawr a therfynol y Duwdod. Ond y ddau baladr hyn, neu y ddwy Egwyddor briodid yn nghyd yn un paladr yn nghanol y Nôd, a'u cymeryd bob un yn wahanol, oeddent Dwyfan a Dwyfach, &c., y Cymry. Ac wedi eu dwyfoli, oeddent Vishnu a Diva India; Mithras a Mathra Persia; Orisis ac Isis yr Aifft; ac hefyd, Jupiter a Latona y Rhufeiniaid a'r Groegiaid, &c.

(I'W BARHAU.)

-a'r unrhyw wedi ei dwyfoli oedd y dduwies Cnaya, Devi, Lacshmi, &c., neu dduwies wen Hindostan; Mithra, Persia; Isis, neu Mant (y Fam) yr Aifft. Am y safai yn mhwne Elfed, neu gyfnod y cynauaf, tynid llun y dduwies hon ar y Sidydd, a manau ereill, a thywys ŷd yn ei llaw.

Y pwne-baladr, neu yr Egwyddor yma, weithiau elwid Tegid, ac weithiau, am mai y paladr yma yn benaf a gynrychiolid gan y Bardd llywyddol, neu y prif Wyddon yn ngorsedd, yn Gwdion (Woden). A'r unrhyw bwne-baladr gwedi ei ddwyfoli oedd Vishnu y Brahmiaid; Mithras y Persiaid; Osiris ac Ammun, neu Dduw Dad yr Aifftiaid; a Jupiter Ammon yr Eidaliaid a'r Groegiaid; ac yn herwydd mai pwnc a phaladr Eilir, yn disgyn o arwydd yr Hwrdd, ydoedd y duw hwn, y tynid llun Jupiter Ammon, yn wastad, ag iddo ben hwrdd; ac oddiwrth yr hyn eilwaith y deuai y Duw Fab, neu yr iachawdwr, mab Iau (^\), ganedig o'r Forwyn, megys Thoth, Hermes, &c., i gael ei olygu yn Oen-ac fel y Bardd Cymreig, yn sefyll i lywyddu yn nghanol yr orseddfaine (Gr. Thronos, o'r gair Trwn; sef hen cnw ar Orsedd y Beirdd ; ac yn y cangen-ieithoedd Celtaidd yn arwyddo cylch.)

[blocks in formation]

Y Rhyfel yn y Dwyrain-ei ddechreuad-a thalfyriad o'i hanes hyd yn bresenol.

WEDI gorphen fy ngwaith am yr wythnos gyntaf yn mis Hydref (er nad wyf yn gweithio llawer, ond fod yr ardd yn gofyn tipyn o sylw yn awr ac eilwaith), ymolchais, eilliais fy marf, tynais y grib drwy fy ngwallt, cefais bar o esgidiau glân am fy nhraed, a ffwrdd â mi tua thŷ Mr. Morgan y Gof, gan feddwl ei fod ef yn arfer gadael gwaith yn gynar dydd Sadwrn, ac felly i gael tipyn o siarad am y ffermwyr, gan ini adael y pwnc ar ei haner tro o'r blaen. Yr oedd yr efail yn ddystaw-John a Billy yn eu dillad glân yn yr ardd; Siencyn yn eistedd ar ben y gamfa, yn darllen yr "Athraw Bach;" a Hwmffre a'r ford round o'i flaen, a looking-glass arni, yn shavo; a Sion yn rhoi pryd o sôg i'r hwch a'r moch bach, wrth gefn yr efail. Yr oedd Paly hefyd wedi crynhoi tipyn arni ei hun, fel y d'wedai; yr oedd wedi newid ei gŵn gwaith, wedi gwisgo ffedog lân, ac yr oedd ei chap hi can wyned a'r galchen, a'r gwaith wedi ei orphen yn gynar yn y prydnawn. Yr oedd pob peth yn awr yn ymddangos yn ffafriol i gael tipyn o glec, heb fod neb yn colli amser.

"Hawyr bach ni! Mr. Capten, a glywsoch chi erio'd y fath disapwyntment shocin ma' ni wedi cael; mae o bron yn gyru ni yn gwallgof wrth meddwl am y disapwyntment fawr; a clychau Cwn.berllan wedi bod yn canu, a fi rhoi cwrw i'r dynion am eu canu nhw; a Lord Mayor Llundain yn gweyd y speech ar steps y Royal Exchange, yn Llundain, nos Sadwrn. O, mae yn shocin i ni! O, dear me !"

Felly y dywedai Sponk y Siopwr, yr hwn oedd wedi rhedeg â'i anadl mewn un dwrn, a'r Times Newspaper yn y dwrn arall.

"Be' sy' ar y dyn ?" gofynai Sion, mewn syndod.

"Mae Sponk wedi myn'd yn wallgof," meddai Billy with John.

"Myn cebyst i, y dyn! Be' sy' ar y dyn, rwan? Fum i agos a thori 'ngheg, rwan, a'r do, gan eich hofn chi, y dyn; a phe buse dim o awch ar y razer, buswn wedi tòri r'wbeth hefyd," meddai Hwmffre.

"Beth yw'r newydd heddyw, Mr. Sponk?" gofynai John, yr hwn oedd wedi tynu erbyn hyn i'r gyfeillach.

"Ma Sebastopol dim wedi cymeryd, ar ol yr holl noise fawr am hyny," oedd ateb y siopwr newydd. "Yr oedd heb 'i gymeryd ar y 28th o September, fel sicr i chi. Ma' y news wedi d'od gyda y llong Fury i Ffrainc ddoe; a ni cewn y despatches dydd Llun." Yna ffwrdd aeth Sponk i gario y newydd i'r

[blocks in formation]

finau.

[ocr errors]

Wyddoch chi beth, Capten," meddai Sion, "w'i bron a d'rysu yn y rhyfel yma, wrth y dywedyd yn ol a gwrthol sy' wedi bod yn y siop yma yn 'i chylch-w'i bron wedi myn'd yn ddwl ar y mater. 'Nawr, i chi, Capten, wedi bod, ys llawer dydd, yn y gwledydd hyny, lle ma' nhw wrthi; a ellwch chi weyd tipyn p'am ma' nhw yn ymladd? ac am beth? ac yn mha fan? a phwy sy' yn cario fynychaf 'nawr?"

[ocr errors]

"Yn wir, Sion Morgan, mae llawer iawn fel chithe; ne' o leia' yr w'i felly; ac wi wedi clywed bagad yn d'eyd yr un peth,' meddai Tomos o'r Pandy, yr hwn oedd yn darllen llawer.

66

"'Dw'i yn rhyfeddu dim," oedd fy ateb; ac os gallaf gael tipyn o help cof y bech. gyn yma, o berthynas i'r amser, bydd yn dda gen i roi braslun o hanes pethau hyd yma, er mwyn ein helpu i ddeall pethau yn well."

"Diolch i chi, Capten," meddai Sion; "fydd yn dda gen i glywed tipyn am hyny.'

"Mae gwahanol resymau gan y pleidiau hyn dros fyned i ryfel. Rwsia sydd yn ymosod; a gwir achos dechreuad yr ym. rafael o du Rwsia yw, dymuniad Nicholas, yr Emprwr, i helaethu terfynau Rwsia; yn neillduol tua'r gorllewin a'r deau. Cawn y duedd hon yn Rwsia o amser Pedr Fawr hyd amser Nicholas. Yr esgus a gymer o'r ffrae bresenol yw, ei ofal am hawliau crefyddol Eglwys Groeg yn Nhwrei; ond nid ei gariad a'i ofal gymaint am hawliau y crefyddwyr hyn yw y gwir achos, ond cymer fantais o deimladau y Groegiaid yn Nhwrci i gyrhaedd ei amcan mawr, sef helaethu ei derfynau. Mae Rwsia wedi dechreu ar y gwaith er ys blynyddau lawer; megys trwy y cyfamod a wnawd yn Rainardji, yn y fl. 1774; ac yn Acerman, yn 1826; ac yn Adrianople, yn 1829; a thrwy gyfamod a wnawd yn 1834. Mae yr oll o'r cyfamodau hyn yn dal perthynas â'r lleoedd santaidd; ac, yn mis Mawrth, 1853, anfonodd Nicholas y Tywysog Menschikoff i hawlio mwy o awdurdod nag erioed ar y lleoedd santaidd hyn, a'i fod ef i gael ei ystyried yn ben crefyddol ar y Groegiaid yn Nhwrci, sef ar dros ddeng miliwn o ddeiliaid y Twrc. Chwi gofiwch hefyd, fod tua'r amser hwn dwrw direswm yn y wlad hon-yr holl hen fenywod yn ofni y buasai Boni III., a chan mil o Ffrancod, yn tirio yn yr ynys, ac yn ein cymeryd oll yn garcharorion rhyfel rhyw foreu cyn i ni godi o'n gwelyau. Fe gredodd Nic, o ganlyniad, na fyddai Lloegr a Ffrainc byth yn cyduno, nac yn cyd-dynu;

a barnodd mai adeg burion oedd hono iddo ef roi ergyd marwol i'r "dyn claf," fel y galwai y Twrc.

"Yna am y Twrc, mae e' yn myned i ryfel mewn hunan-amddiffyniad, er cadw yr hyn sydd ganddo, rhag cael ei lyncu i fyny gan y gogleddwr gwancus.'

"O! 'rwy' yn gwel'd," meddai Sion; "ond be' sy' fyno Ffrainc â'r mater hwn?"

[ocr errors]

Wel, teimlad crefyddol sydd gan Ffrainc. Mae Ffrainc wedi bod er ys cannoedd o flynyddoedd yn fath o amddiffynydd i Eg. lwys Rhufain. Mae Eglwys y Pab yn selog iawn dros i'w haelodau hi i wneud pererindodau, a mwynhau ei mympwyon o barthed i'r lleoedd santaidd yn Judea; ac fel amddiffynydd i'r Pab, mae Ffrainc yn dyfod i'r maes, i gael chwareu têg i'r Pabyddion yn erbyn y Groegiaid."

"Beth, yn enw pob peth, yw y lleoedd santaidd yna sydd o gymaint pwys ganddynt?" gofynai Sion.

Stabal Bethlehem, Preseb Bethlehem, y Bedd Newydd, Lle y Derchafiad, Bedd Mair, a phethau o'r fath yna."

"Wel, beth y mae'r Twrc yn wneud ar y pen yna ?" oedd gofyniad Hwmffre.

"Dim yn prisio dim am danynt; ond yn foddlawn i'r ddwy blaid i'w mwynhau, ond iddynt beidio codi terfysg yn ei deyrnas; nid oes ganddo ef fwy o olwg arnynt nâ thithau, Hwmffre."

"Mae o yn right, ar odi," ebe Humffre. "Wel, bellach, Mr. Capten," meddai Sion, "be' ma' Lloeger yn 'mofyn â'i bys yn y baste? 'Dyw Rwsia yn 'mofyn dim o Loeger; 'dyw Lloeger yn 'mofyn dim o Dwrci; a 'do's neb yma yn hidio taten bwdwr pwy gaiff y lleoedd santaidd, am wn i; yna beth i ni 'mofyn â'r rhyfel?"

"Rheswm masgnachol sydd gan Lloegr dros fyned â'i bys i mewn, Sion. Dyma y map gan John. Welwch chwi yn awr sefyllfa Caercystenyn, prif ddinas y Twrc; yr ochr uchaf, dyma y Môr Dû; welwch chwi y fath le cil iawn sydd i ddyfod oddiyno i lawr i'r Marmora, y Dardanelles, ac i'r Canolfor; byddai gadael Nicholas i gael meddiant o Gaercystenyn yn rhoi yn ei law yr allwedd i'r heol fawr sydd gan Lloegr i gario yn mlaen ei masgnach â rhanau helaeth o'r byd. Nid yw John Bull yn gofalu dim am y lleoedd santaidd, na phwy fydd yn cadw allwedd Stabal Bethlehem; ond mae o bwys mawr iddo ef i gadw allwedd y moroedd, tra y byddo Prydain Fawr yn ymddi. bynu cymaint ar fasgnach ag ydyw yn awr. Felly, er cadw y peth a elwir y balance of power yn Ewrop, mae Lloegr yn ei ystyried o bwys i gadw Nicholas o fewn ei derfynau priodol."

"Da iawn, Capten," ebe John; "ond beth am Awstria a Phrwsia yn y fusnes ?" "Mor bell ag y mae y bobl yn y ddwy deyrnas hyn, byddent yn barod i droi gyda

Lloegr a Ffrainc; ond am Emprwr Awstria, a Brenin Prwsia, maent yn ddiamheuol o blaid Nicholas. . Mae yna undeb teimlad yn bodoli; teyrn gormesol yw Nic, a dau deyrn yw Joseph o Awstria a Frederick o Prwsia. Maent eill tri yn llywodraethu eu deiliaid â gwialen haiarn. Cas beth ganddynt yw rhyddid; ac ni faidd y deiliaid braidd ddywedyd mai hwy biai eu hunain. Peth arall, mae rhyw gysylltiadau priodasol rhyfedd yn bodoli rhwng Rwsia a theuluoedd Breninol

Cyfandir. Er enghraifft, mae chwaer i Frenin Prwsia yn briod â Nicholas ei hun; a gwyddoch yr hen ddiareb, " Agosach penelin nag arddwrn." Hefyd, priododd Catherine, ei chwaer, frenin Wurtenburg; priododd Charles, mab y brenin yna, Olga, merch Nicholas; ac y mae nith i'r brenin yn briod â Michael, mab i'r Emprwr Paul; mae Mary, chwaer y Duc Louis III., yn briod ag etifedd Coron Rwsia; mae y Tywysog Frederick yn briod â merch i Nicholas; tra mae y Duc Adolphʼyn briod â nith i Nicholas. Fel yna y maent yn gymysgedig trwy eu gilydd."

"Fel perfedd moch," meddai Hwmffre. "Manners, manners, wrth sôn am waed breninol," meddai Sion.

"Fel hyn, chwi welwch pa fodd mae y deiliaid o blaid Lloegr a Ffrainc, a'r teyrn o blaid Rwsia. Mae y ddau, Joseph o Awstria, a Frederick o Prwsia, heb wybod yn iawn beth i wneud; tra mae Prwsia o'r ddau yn fwy onest, mae Awstria yn gwaeddu, 'His gyda'r ci, a hoi gyda'r cadno,' gan ddysgwyl sut bydd yr awel yn debyg o chwythu tua'r diwedd, gan fod yn barod i waeddu hure gyda'r trechaf. Gwell o lawer, yn ol fy marn i, fyddai i Ewrop weled Awstria a Phrwsia yn troi gyda Rwsia, yna gwelem Poland yn cael cyfiawnder, yr iau yn cael ei thòri yn Hungary, a rhyddid gwladol a chrefyddol yn cael ei gyhoeddi trwy Italy; ond nid oes gobaith am hyn am dro eto, fel mae pethau yn sefyll yn awr. Yn awr, os nad ydych wedi blino, ni ddilynwn gwrs y ffrwd o doriad y rhyfel allan hyd yn bresenol."

"Blino, Capten! na, na,' " meddai Sion; "ewch yn mlaen; mae yma bawb yn gwrando yn eager right; a 'dyw Paly ddim heb fod yn cael tipyn o'r glec heno hefyd."

"Yn wir i," meddai Paly, "weithiau w'i yn cael eich clecs chi, ond w'i yn lico cl'wed Capten, a 'do's gen i ddim i wneud heno, ond par'toi tipyn o swper."

"O'r gore, Mistres Morgans," meddai Sion, "rhowch bibed o 'bacco i fi eto. 'Nawr Capten; 'tention, fechgyn! Maddeuwch fy Sasneg, Capten.'

"Wel, i ddechreu. Gwnaeth Nicholas ei gais trwy Menschikoff, Mawrth 1af, 1853; a pharhaodd i geisio am tua ddeg wythnos; ac yn niwedd mis Mai, 1853, y Twrc a wrthododd y cynyg haerllug gyda dirmyg.

Dechreuodd Nicholas ddarparu er cosbi y Twrc am feiddio barnu drosto ei hun, yn achos materion ei deyrnas. A Gorph. 2, cafwyd gorchymyn oddiwrth Nicholas i'w filwyr groesi afon y Pruth, a chymeryd meddiant o Dywysogaethau perthynol i'r Twrc, rhwng y Pruth ag afon y Danube. Ufyddhawyd i'r gorchymyn hwn o eiddo Nicholas gyda'r fath hwylusdod, fel y cawn y Rwsiaid, ar y 14eg o Orphenaf, yn Bucharest a'i chymydogaeth, yn bedwar again neu gan mil o wyr, ac yn eu meddiant 144 o'r magnelau mwyaf. Erbyn dechreu Medi, yr oedd y Rwsiaid wedi cymeryd cyflawn feddiant o'r Tywysogaethau; ac ar y 4ydd o Fedi, gyrwyd teyrngri (proclamation) allan gan y Tywysog Gortschakoff, yn yr hwn y cawn y frawddeg gaulynol, yr hon a ddengys ei ysbryd :

"Mae Rwsia yn cael ei galw i ddifodi Paganiaeth, a phob un a'i gwrthwyneba a ddifodir gyda'r Paganiaid. Hir oes i Nicholas; a hir oes i Dduw y Rwsiaid."

"Rhag y safio ni, Capten!" meddai Hwmffre. "Hir oes i Nic yn nghynta' oll; ag os bydd tipyn dros ben, caiff Duw y Rwsiaid hir oes wedi'n! O'r safio ni rhag 'i impidence e'!"

Pwy baganiaid mae e' yn sôn am danyn' nhw, Capten?" gofynai Sion.

[ocr errors]

'O, paganiaid yw pawb yn eu golwg, nad ydynt yn aelodau yn Eglwys Nicholas."

"Ond be' oedd y Twrc yn wneud y pryd hwn?" gofynai gwr y Pandy.

"Yr oedd y Twrc yn parotoi hefyd. Gorph. 11eg, rhoddwyd holl ofal y fyddin Dyrcaidd yn Nhwrci yn Ewrop, i ddyn o'r enw Omar Pasha; ond gan mai teitl yw Pasha yn Nhwrci, ni chaf ei enwi mewn cysylltiad â'r dynion fydd yn dyfod i mewn i'r hanes; galwaf hwynt wrth eu henwau. Medi 1, cododd y Twrc 80,000 o wyr i gyfarfod â'r amgylchiadau; ac yn nechreu mis Hydref, cyhoeddodd y Twrc ryfel yn rheolaidd, a chododd eto 150,000 o wyr i roi nerth a grym yn ei gyhoeddiad. Yr oedd Omar a thua 50,000 o wyr erbyn hyn ar làn afon y Danube un ochr, a Gortschakoff a rhyw 80,000 yr ochr arall i'r afon.

"Tach. 2, taflodd Omar ychydig filoedd o'i wyr dros yr afon, gerllaw i Oltenitza, er gofyn hynt y dyn ag oedd yn myned i ddifodi y paganiaid.

"Tach. 3ydd a'r 4ydd, ymosododd y Twrc ar y Rwsiaid, ac ymladdwyd brwydr fawr Oltenitza, yr hon a barhaodd am ddau ddiwrnod. Curodd y Twrc y Rwsiaid yn ddidrugaredd; lladdwyd o Rwsiaid yma o 1,500 i 2,000, tra na chollodd y Twrc ond o 20 i 30. Yr oedd Omar yn llywyddu y frwydr hon, tra yn eistedd ar y làn arall i'r afon, ac yspienddrych yn y naill law, a'r bibell ddybaco yn y llaw arall, a'i drumpeter yn ei ymyl yn rhoddi y signal am y gwahanol symudiadau. Hon oedd y frwydr gyntaf

rhwng Buli mawr y Gogledd a'r 'Dyn Claf, fel y galwai Nicholas y Sultan, neu Amherawdwr Twrci; ond dangosodd y ' Dyn Claf' ei fod yn meddu doethineb i outwito cadfridogion Nic; a digon o nerth braich ac ysgwydd i guro y Rwsiaid nes oeddynt yn mygu ar làn yr afon."

"Well done! wirione fach anwyl," meddai Wil Aberteifi, gan droi ei het o amgylch ei ben; "y frwydr gyntaf i'r Twrc."

"Ychydig ddyddiau ar ol hyn, croeswyd yr afon mewn man arall gan un o faeslyw. yddion Omar, o'r enw Ismail Pasha, a chymerodd feddiant o Kalafat, Kalarash, a manau ereill. Ymladdwyd dwy frwydr yn y manau hyn ar yr 11eg a'r 14eg o Dachwedd; yn mhob un o'r rhai hyn, collodd y Rwsiaid y dydd, a channoedd lawer o'u dynion.

"Tach. 30ain, gwnaeth Rwsia orchwylyn Sinope, tref berthynol i'r Twrc yn y Mor Dû, a fydd yn ysmotyn du ar ei chymeriad am yr oesoedd dyfodol. Yr oedd gan y Twrc 13 o longau rhyfel yn y porthladd wrth angor, ac heb feddwl am un niwed yn y byd. Pan yn y sefyllfa hon, daeth Rwsia â nifer o longau rhyfel o'r maintioli mwyaf, heblaw amryw o rai oeddynt lai, ac ymosodasant ar y trueiniaid yn y porthladd. Ymladdodd y Twrcs fel tigerod; ondyr oedd yr annghyfartalwch mor fawr, fel nad oedd dim o'u blaen ond marw. Cymerodd Rwsia fantais o'r cyfle, llosgwyd a chwilfriwiwyd llongau y Twrc, a lladdwyd 5,000 o'i fobl, fel lladd cynifer o ddefaid mewn slaughter. house. Ymdrechodd rhai ddywedyd na fuasai Nicholas fyth yn cymeradwyo y fath weithred ysgeler o eiddo ei ddynion; ond cawd gweled yn fuan mai fel arall yr oedd hi. Cododd y Môrlywydd Nachimoff i anrhyd. edd am y weithred, a gorchymynodd Nicholas am i holl grefyddwyr St. Petersburgh gyduno ag ef i ganu y Te Deum, math o folawd i Dduw, am fuddugoliaeth Sinope! Mae hyn yn ddigon i ddangos i'r byd mai creadur dideimlad, calon-galed, creulawn, a gwaedlyd yw Nicholas, pe na byddai genym ddim arall i brofi hyny."

"Y filen diras!" ebe Paly; "ma' 'ngwaed i bron rhewi wrth feddwl am y fath weithred giaidd. Hawyr bach! 5,000 o ddynion wedi eu butchera ganddo yn y fan yna."

"Dyma ni yn awr wedi ein dwyn i'r flwyddyn 1854. Yr oedd Resia ar làn afon y Danube am agor y flwyddyn dipyn yn ogoneddus; a phenodwyd ar Ionawr 13eg o'n cyfrif ni, ond y dydd cyntaf o flwyddyn Rwsia, i wneud ymruthriad ar y Twre yn Kalafat. Tra yr oedd Fishback, maeslywydd Rwsia, yn parotoi yn mhentref Citate, ac yn aros am i'r 13eg o Ionawr ddyfod i mewn er gwneud cynyg eto i ddyfetha y "Dyn Claf," cymerodd y Twrc y flaenoriaeth ; ac ar y 6fed o Ionawr, gadawsant yr amddiffynfa yn Kalafat, ac ymosodasant ar y Rwsiaid yn

« ForrigeFortsæt »