Billeder på siden
PDF
ePub

YMDDYDDANION

Rhung Dafydd a William yn nghylch yr Ysgol Sabothol.

Dafydd.

'Rwy'n meddwl llawer am yr oes Sy'n awr yn dod i fyny,

A'r gofal pwysig ddylai fod

Gan Eglwys Dduw am dani.

Mae'r Ysgol Sul yn dra chyfleus

I ddynion gael gwybodaeth ;

Ond, gwaetha'r modd, mae llawer iawn
Na welwyd ynddi unwaith.

Mae llawer iawn o'r diffyg hyn,
Os nad yw'n wir yn hollol,
Yn herwydd fod ein brodyr da
Mor aml yn absenol.

William.

Mae'r Ysgol Sul, mi wn yn dda,
I bawb sy'n ei hanwylo;

Ond er pob peth 'rwy'n methu gwel'd
Fod eisieu 'mi fod yno.

Dafydd.

Mae llawer iawn 'r un modd a thi
Yn methu gwel'd yn eglur
Y dylent ddyfod iddi'n llon,

Gwell ganddynt fod yn segur.
Dymunwn dd'od â'r cyfryw rai
I weled eu dyledswydd,

Ac wedi'n gadael rhyngddynt hwy
A'u Duw, eu cyfiawn Arglwydd.

Mae gwaredigaeth dynolryw
Yn ymddibynu 'n hollol
Ar dderbyn grasol eiriau Duw,
A rhodio 'n ol ei reol.

Ac nid yw'r geiriau hyn i ddod
Byth, byth i glust pechadur,

Ond drwy ymdrechion Eglwys Dduw,
Dan nawdd yr Ysbryd cein-bur.
Dyledswydd pawb yn ddiwahan
Sy'n arddel Cristionogaeth,
Yw dyfal geisio drwy eu hoes
I daenu'r Iachawdwriaeth.
Nid oes un man yn fwy cyfleus
Nâ'r Ysgol hoff Sabothol
I iawn hysbysu trefn Duw
I gadw dyn yn hollol.

William.

'Rwyf fi yn awr yn myn'd yn hên, A bellach am gael llonydd; 'Rwyf wedi gweithio'n ddyfal iawn, A ffyddlawn gyda chrefydd.

Dafydd.

Y gwir ddywedaf gyda pharch,
Rwy'n hoff o barchu henaint;
A gochel dithau mewn un modd
I gadw'r un digofaint.

Mi wn am lawer sydd yn hen,
Ac henach na thi ddigon,
O blaid yr Ysgol Sul y maent

Mewn ymdrech yn dra ffyddlon.
Paid byth a bostio'r hyn a wnest,
Na feddwl byth ymffrostio
Yn dy ffyddlondeb amser gynt,
Aeth hwnw'n hollol heibio.
Gwell iti wneud y goreu'n awr
O'r cyfle sy'n dy feddiant,
Bydd hyny iti'n gysur cryf
Wrth ofyn am faddeuant.

William.

Dy lef a'th lafar di o hyd
Yw, Deuwch bawb i'r Ysgol,
Fal pe bai pawb a wnelo hyn
Er pob peth yn ddiangol.
'Does yn y Gair, o'i chwilio oll,
Ddim cymaint ag un adnod
Yn dweyd am ddod i'r Ysgol Sul,
Ac onid yw hyn yn hynod ?
Dafydd.

Ymbwylla, frawd, na feddwl mwy
Fod yr ysgrythyr santaidd
Yn hollol ddystaw ar y pwnc,
Ymchwilia eto'n wylaidd.

Os chwilio'r Gair yn fanwl wnei,
Cei weled dy ddyledswydd

I ddysgu pawb drwy'r byd o'r bron
I rodio llwybrau'r Arglwydd.
'Rwyf 'nawr am gael dy fryd yn llwyr
At unran o'r Ysgrythyr,
Sef siampl Iesu Grist, yn wir,
Mae hyn yn ddigon eglur.
Tyr'd, gwel yr Iesu'n ddyfal iawn
Yn dysgu'r egwyddorion,

Gan wneuthur defnydd o bob peth
I eglurhau'i faterion.
Felly dylem ninau wneud,

Gan achub cyfleusderau

I wneud daioni yn mhob modd,
A'n gofal am eneidiau.

Ein hoes sydd fèr, ein nerth sydd fach,
I allu gwneuthur llawer ;

Ni fydd ein gwaith ond bychan iawn,
Er bod yn gydymdrechgar,

I ddwyn yr ie'nctyd oll mewn pryd
I arddel Cristionogaeth,
A'u dysgu'n ddyfal yn y Gair,
A phob rhyw wir athrawiaeth.
Nid oes fath le a'r Ysgol Sul,

Mor gyflawn o fanteision,
I wasgu at feddyliau pawb
Eu dyledswyddau moesol.
Ac os wyt ti am wneuthur lles
Mewn unrhyw ran o grefydd,
O, tyr'd i'r Ysgol bob dydd Sul,
Bydd ffyddlon iawn ac ufydd.
William.

Os gwir ddywedaist di yn awr,
Paham na byddai'r Ysgol
Yn fwy derbyniol gan y rhai
A elwir "yr hen bobol?"
Ychydig iawn o honynt hwy
A welir ynddi un-pryd,
Maent fel rhai wedi uno 'nghyd
I'w gwrthod byth a hefyd.
Ac hefyd, nid yw'r rhai sy'n dod
Yn dysgu bod yn ufydd,
Athrawon nid yn hawdd a geir
Yn mhlith arddelwir crefydd.
Dafydd.

'Does unrhyw frawd heb ynddo fai,
Mae hyn yn beth na wadir;
Ond nid oes neb all gyfiawnhau
Y diffrwyth ddynion segur.
Tyr'd di yn awr, O, tyr'd yn wir,
I roddi gwell esiampl,
Ac yna gwnawn dy ganlyn di,
Gwnawn oll yn eithaf syml.

William.

'Rwy'n gwel'd yn awr yn wir, yn wir, Mai gwell yw bod yn ddiwyd

I ddo'd i'r Ysgol bob dydd Sul,
Lle ceir manteision hyfryd..

I gyfarwyddo'r ieu'netyd llon I gofio eu Creawdwr

Yn moreu 'hoes, ac ufyddhau I lesu, ein Gwaredwr.

Dafydd.

Mae'n llon genyf glywed dy ddwys gyfaddefiad,
A gweled argoelion o drylwyr ddiwygiad;
Parha o byn allan yn wresog dy galon,
I ddyfod i'r Ysgol Sabothol yn ffyddlon;
Ymro i wneud daioni i bawb yn garedig,
Ac arwain eu meddwl at Grist bendigedig;
Cei weled llaweroedd o blant y gym'dogaeth
Yn sefyll mewn angen am ddwyfol wybodaeth ;
'Does dim a'u digona ond geiriau y bywyd,
'Does neb eill eu hachub ond Iesu'r anwylyd.
Gan hyny, ty mrodyr, sy'n selog dros grefydd,
O, deuwch i'r Ysgol yn llon ac yn ufydd,
Fel delo'r dô ieuane sy 'r awrhon yn cwni
I gynal yr achos pan byddom ni'n ffaelu ;
Cawn dál am ein gwaith, ein lludded, a'n llafur,
Bydd 'r Arglwydd yn ran i'r ffyddlon a'r cywir.
Maesteg.
STEPHEN JONES.

ADENEDIGAETH Y CRISTION.

Gwrandewch, O! genadon efengyl tangnefedd,
Gwrandewch un a bechodd drwy ystod ei oes,
Ai gwir a ddywedwch am Dduw a'i drugaredd?
A gaf fi faddeuant yn aberth y Groes?
Fy nghalon dromlwythawg sydd wir edifeiriol
Am sathru ar santaidd orch'mynion fy Rhi,
Ymdrechaf fy ngoreu i fyw yn wir dduwiol,

Ond ofnwyf na faddeu'r fachawdwr i mi.
Deffrodd fy nghydwybod, a rhuo fel arthes
Ar ol ei chenawon colledig y mae ;
Y gethern uffernawl a rwygant fy mynwes,
Llesmeiria fy enaid yn ngwyneb fy ngwae;
Yn nrych y gwirionedd fy nghyflwr gresynawl
A welaf gan ddued ag annwn ei hun;
Y Farn! O, y Farn! Ŏ! y damnio tragwyddawl,
A wna im' ddychrynu wrth weled fy Ïlun.

Fel tawdd-blwm eiriasboeth yn berwi 'ngholuddion
Yw 'ngwrthryfelgarwch yn erbyn fy Nuw;
Wyf bron a gwallgofi, a chri'r damnedigion

Feddyliaf a swnia'n barhaus yn fy nghlyw.
Yn erchyll ffyrniga hyll deyrn y brawychion,
A chwardd wrth fy hongian uwch cerwig y pla,
A'i golyn sy'n mhleth & llinynau fy nghalon,
A llarpio 'i ysglyfaeth yn fuan a wna.

Anobaith fel mantell gaddugawl a guddia
Fy enaid trallodus o olwg y nef,
Fel na ddel i'w glyw addewidion Jehofa,
Caffaeliad yn nghrafanc y cadarn yw ef;

Medd ef, os mai braidd bydd y cyfiawn gadwedig
Filwriodd dan faner Calfaria cyhyd,

Pa fodd beiddi di, O, bechadur colledig,
Fyth erfyn maddeuant Iachawdwr y byd?

Iachawdwr y byd! O, ai gwir a ddywedaist?
O, eiriau melysion,-Iachawdwr y byd!
O'th faglau a'th ddwylaw dy hun i'm gollyngaist,
Er cadw fy enaid yn gaethwas cyhyd.
Iachawdwr y byd! Wil Wi! gorfoleddaf;

Tyr rhuddain wawr gobaith yn ngwaed Iawn y
bryn:

Mae nawdd i drueiniaid yn nghol y Goruchaf,
Byth folir Meichnïydd pechadur am hyn.

Yn iach i'th wasanaeth! ddinystrydd eneidiau;
Yn iach, lyffetheiriau tywysog y fall;
Alawon Caersalem ogleisiant fy nghlustiau,
Wyf heddyw yn gweled, os bu'm gynt yn ddall:
Dychlama fy enaid a nefawl orfoledd,

E ddawnsia ar balmant addewid fy Nuw;
Drwy ffydd ei bellwelyr canfydda drugaredd
Yn datgan i'r nefoedd fy nghadw i'n fyw.

Chwim! chwim! yr eheda drwy'r wynfa ysblenydd
Y gair fargyhoeddi o fawredd fy mai,
Ar fil myrdd o santaidd wefusau y newydd
Ymrolia fel tunau y môr yn ddidrai;
Angylion coronawg, a flamawg gerubiaid,
A cheincwyr seraffaidd gororau y gwawl,
Y seintiau puredig, a'r llu patriarchiaid,
Yn llengoedd gydunant mewn tanllwyth o fawl.
Ac mewn hwyl ymarllwys telynau gogoniant
Eu mawl ar achubiad pentewyn o'r tån,
Ac ar lyfr y bywyd â phin aur maddeuant
Uwch f'enw'sgrifenwyd-ef olchwyd yn lân;
Galluoedd y fagddu 'nawr ymgynddeiriogant,
Uffernawl gynddaredd a dddodd eu gwedd,
Mewn malais cythreulig a llid ysgyrnygant,
Tra gwelant fi'n rhodio ar fur dinas hedd.
Yn awr ymarfogaf, ymdrecbaf yn wrol,
Ymladdaf hyd drauc & Philistiaid yr oes;
Fy nghad-floedd yw, Llwydd yr efengyl dragwyddol;
Lleshâd yr hil ddynol, ac aberth y Groes;
Mi frwydraf yn nerth buddugoliaeth Calfaria,
Mi sathraf elynion fy lesu dan draed;
Hawddamor! Dywysog y Nef! Halelwia!
E gedwir hil Adda drwy rinwedd dy waed.
LLAWDDEN.

MAWL I'R CREAWDWR. (Cyfieithad o Saesneg Robinson.)

Gadarn lor! tra'th fola engyl,

A gaiff plentyn seinio'th glod? Arglwydd dynion, fel angylion, Ti wyt destun pob rhyw fod:

Halelwia, halelwia, hal., Amen. Arglwydd pob rhyw wlad a theyrnas, Tad y tragwyddoldeb draw, Seinio drwy y faith fydysawd Wnelo'th foliant yn ddidaw!

Hal., hal., bal., Amen.

Am orharddwch pur dy natur-
Hardd tu hwnt dychymyg dyn;
Am holl waith dy ddwyfol allu-
Gwaith a wnaed drwy ddyfais gun:
Hal., hal., hal., Amen,

Am ragluniaeth a lywydda
Drwy derfynau'th deyrnas fawr,
Gyffry angel, geidw bryfyn,
Clodfawr byddot ar y llawr:

Hal., hal., bal., Amen.

Ond, dy brynedigaeth rasol-
Dywell gan ddysgleirdeb glân!
Gwan yw meddwl, llesg yw geiriau,
Pwy all ganu'r synfawr gån?

Hal., hal., hal., Amen.

Delw gwir ogoniant Duwdod,
A oes neb a seinia'th fawl?
Deffro, f'enaid, chwith ddystawrwydd!
Cân dy Geidwad yn ddidawl;
Hal., hal., bal., Amen.

Ganai engyl dy ddyfodiad?
Dysgai'r bugail glodydd glån?
Gwarth fai im', yr anniolchgar,
Pe gwrthodai'm tafod gân:

Hal., bal., bal., Amen.

O uchelaf sedd gogoniant
Lawr i eigion dyfnaf gwae,
Oll er arbed caethion euog-
Héd, fy mawl, ei haeddu mae :
Hal., bal., bal., Amen.
Dos, anfarwol Geidwad, dychwel!
Gad dy droedfaine, myn dy sedd;
Yna dychwel a theyrnasa
Ar y ddae'r mewn bythol hedd:
Hal., bal., hal., Amen.
HARI LWYD.

Hulfordd.

PENILLION,

Am Farw-anthemau ar ba rai y cynygir gwobrwyon gan Eisteddfod Brynhyfryd. (Gweler yr Amlen.)

Y CYMRO BACH.

O wylwn, wylwn am y CYMRO BACH!

Ei lais ni chlywir yn Nghwmgwenen mwy: Ar fryniau gwynfyd mae efe yn iach,

A ninau'n cwyno tàn hiraethlawn glwy'; Mawr oedd ei gariad at y pagan du,

Ei wisgo fynai â rhyw newydd wedd;
Ond, er ein galar, y mae'r CYMRO CU
Yn huno'n dawel tan oer lèni'r bedd.

O! bydded balmaidd wlith,
Fel dagrau engyl nèn,
Yn harddu'r blodau brith
Sy'n tyfu uwch ei ben;
Boed corau'r adar mån,
A si'r awelon iach,
Byth yn rhoi galar-gân

Uwch bedd y CYMRO BACH.

Diniwed iawn a dyfyr ydoedd ef,
Boneddwr natur oedd, was ffyddlawn nef;
Yn wrol daliodd ar ei lwybrau glân,
Nes cyrhaedd fry yn sant i wlad y gan,
A chanu byth mwyach a fydd yn y wynfa
Am gonewest ei Brynwr ar fynydd Calfaria.

Y PARCH. MICAH THOMAS.
Oh! MICAH THOMAS mawr ei fri,
Tan oerion leni'r bedd
Orwedda 'nawr, a ninau sy

Am dano'n drist ein gwedd;
Ein bathraw call, er dysg a dawn,
A rhagoriaethau lu,

Yn gynar, gynar yn mhrydnawn
Ei oes wnai'n gadael ni.
Holl rwymau marwoldeb a dorodd,
Diangodd uwch gelyn a gloes:
Ysbrydoedd y cyfiawn perffeithiol
Yw nefol gymdeithion ei oes:
A'u dwylaw ar delyn eur-dànau,

Byth canant anthemau y Groes.

Mae lamp anfarwoldeb uwch ogof ddu angau
Yn dangos y llwybr i'r bywiol fynonau,
Yno mae'r tadau a'r brodyr bendigaid,
Tan lwyni Caersalem yn gwledda yr enaid;
Halelwia i'r Iesu, o'i ras mae nefoldeb
Yn taflu goleuni i lewyrch marwoldeb ;
O fyd i fyd, o nen i nen,
Fel mellten heded ein Amen.

Y PARCH. J. JENKINS, D. D. Ein tad a ddiangodd, mawr, mawr yw ein galarCledd angau dinystriol a rwygodd ein hedd; Er aros hir ddyddiau aeth ffwrdd yn rhy gynarMae cannoedd yn wylo yn ymyl ei fedd; Er cael ei raddebu fel medrus dduwinydd, Er enill serchiadau amrywiol a llon,

Mae'r gwr penderfynol wnaeth gymaint dros grefydd

Yn fud yn ei feddrod-gofidus yw'n bron.

Pwy deithiodd fwy nag ef,

Yn ffyddlawn dros ei Dduw ?
Pwy ddysgodd ffyrdd y nef
Yn well i ddynolryw?

Fel udgorn arian o nefolaidd swyn,
Cyhoeddai ryddid gras i'r Cymry mwyn;
Ail seren hardd drwy bob rhyw gwmwl du
Dyrchafai'n ddysglaer i ffurfafen clod;
A miloedd lawer yn y golau cu
Drwy'r anial blin a dynent at y nôd.

O, Hengoed! Hengoed! yn dy lwch mae'n gaeth ;
Ond, cyn ei fyn'd, dy anfarwoli wnaeth.

[blocks in formation]

A'r lli

Edmygai'i harddwch hi,
Drwy ffrwyno'i feirch, a'u cadw dàn
Orchymyn llym rhag rhuthro tua'r làn!
Glan a ystyriai'i dywod mân di ri'
Yn santaidd fyth ar ol ei sangiad hi!
Ac haul y nèn

Wagai drysorfeydd ei wawl di lèn,
Gan wisgo'r tonau oll ag arian byw,
I harddu'n fwy y fôr-olygfa wiw.

Edrych yr oeddym am y fan-
Anwylaf fan ini!
Gysegrir yn ein monwes gan
Adgofion pêr a chu.

Prif harddwch yr olygfa wiw!
Ein cyntaf gyfarfyddfan yw!

Gan sangu'n ysgafn, ysgafn, tröwn i,
A chyda gwên ddeallgar, tröai hi,
Tuag at y môr, a diolch wnaem ein dau
I'r tonau, oe'nt bryd hyn yn cydfwynhau
Eu hûn brydnawnol, nes pan dynai'r nos
Ei chauadĺèni dros ffenestri'r wybren dlos,
Yr ad-ddeffroynt å gwylltineb mwy

I nerthu braich y corwynt! iddynt hwy
Diolchem am ymweled â'n hoff fan, a'i gadw'n lân,
A thrwsio'i lawr å milfyrdd o gregyn gwynion mân.

Gan wênu'n fwyn, gofynai hi,
"Fy Islwyn hoff, cân dôn i mi ;"
A chanu wnaem am Galfari.

A chwyddai hithau fawl y gerdd,

Nes oedd cymanfa'r ednod yn addolfa'r wigfa werdd
Yn tewi gan ragorach swyn
Ein lleisiau mwyn.
Wrth ganu am Galfari.

Ond O! i hir barhau, rhy gu
Y mwyniant hyfryd hwn i mi!
A mil rhy bêr yr anthem fwyn

I'r ddaear hon, a mil rhy lawn o swyn.
Dihunais! ffoes y breuddwyd cu,
A chyda'r breuddwyd melus, Hi!

A chyda'i chysgod hi, e ffoes
Fy hoff orfoledd pêr, a throes
Y felus gân yn chwerw gwyn!
Dystawodd fyth yr anthem fwyn !
Yr addoledig lun ni chaed,
Ac, wele! unig oedd IsLWYN.
Ynysddu, Tach., 1853.

[graphic][graphic][merged small][merged small][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed][merged small]
[merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small]

CYLCHDREMIAD Y MIS.

ADOLYGIAD AR EISTEDDIAD DIWEDDAF Y
SENEDD.

AR ddiwedd yr eisteddiad, yr hyn a gymer-
odd le ar y 12fed o Awst diweddaf, yr oedd
ein terfynau yn rhy gyfyng, fel yr awgrym.
asom yn ein rhifyn diweddaf, i wneuthur
dim tebyg i gyfiawnder â'r achos; am hyny,
addawsom yr amser hwnw y taffem fras-olwg
dros weithrediadau diweddar y Senedd yn y
rhifyn presenol. Y mae ein darllenwyr wedi
cael genym o fis i fis gofnodion byrion o'r
prif weithrediadau, yn nghyd a'n barn ninau
ar y cyfryw; ni ddysgwylir i ni yn awr,
ynte, i adysgrifio yr oll o'r cyfryw, ond yn
hytrach ymdrechu dangos pa beth ydynt
ganlyniadau ymarferol yr eisteddiad maith a
chynhyrfus sydd yn awr wedi terfynu.

Ar y dechreu, pan agorwyd y Senedd,

gweithrediadau y Senedd yn yr eisteddiad diweddaf fod llawer o ddiffyg undeb yn y Weinyddiaeth.

Yn awr, taflwn olwg mwy cyflawn ar weithrediadau yr eisteddiad. Agorwyd y Tŷ ar y 30ain o Ionawr diweddaf, gan ei Mawrhydi yn bersonol; ac oddiar hyny hyd y diwedd, cyfarfyddodd Tŷ y Cyffredin tua 144 o weithiau, a pharhaodd eu heisteddiadau tua 948 o oriau. Cyfarfyddodd Tŷ yr Arglwyddi tua 98 o weithiau, ac eisteddasant am oddeutu 263 o oriau. Cyfartaledd hŷd yr eisteddiadau yn Nhŷ y Cyffredin yw, 64 oriau, ac yn Nhŷ yr Arglwyddi 24; rhyw beth yn llai nâ'r eisteddiad blaenorol. Rhanodd y Tŷ tua 240 o weithiau; nid oedd rhyw ddyddordeb neillduol yn cael ei ddangos ar un o'r achlysuron hyn, fel ag i beri fod y Tŷ yn llawn, gyda dau eithriad yn unig, sef gwrthodiad ysgrif y llwon, a chynydd

treth mewn canlyniad i'r wlad ddarllen yr araeth freninol, ac i'r Weinyddiaeth ddadblygu y mesurau a fwriadent eu dwyn yn mlaen, cod. wyd dysgwyliadau y wladwriaeth i edrych am ddiwygiadau mawrion a phwysig mewn amrywiol gysylltiadau; ond nid hir y buwyd heb ganfod fod ein gobeithion wedi eu codi yn rhy uchel, a dechreuwyd teimlo siomed. igaeth; a chlywid iaith achwyngar yn dra chyffredin.

Bu gweithrediadau y rhyfel ag ydym wedi argymeryd yn foddion i osod attalfa ar amryw o'r mesurau daionus a fwriedid ar y cyntaf eu dwyn yn mlaen, a bu yn fwch diangol i lawer o bethau ereill, gan y cymerid ef yn rheswm dros roddi mesurau i fyny; y mae hwn yn niwed anocheladwy, ac nid oes genym ond ymostwng iddo nes y byddo yr ymgyrch wedi ei ddwyn i derfyniad. Nid ydym yn meddwl fod neb yn teimlo gofid yn wyneb terfyniad yr eisteddiad Seneddol diweddaf; diau fod y weinyddiaeth ei hunan wedi blino arno, a'r aelodau yn gyffredin yn teimlo awydd i ymadael â'r Brif-ddinas, a myned allan i'r wlad er newid awyr, adara, &c.; ac mewn gwirionedd, yr oedd y wlad yn gyffredinol yn teimlo awydd mawr am iddynt roi fyny, mewn gobaith y buasent yn ymddangos yn fwy cymhwys i ail ymaflyd yn eu gwaith mewn canlyniad i gael gorphwys ychydig oddiwrth eu llafur. Beia llawer larll Aberdeen hefyd am beidio taflu fyny ei swydd. Nis gallesid dysgwyl oddiwrth gymeriad gweinyddiaeth Iarll Aberdeen, yr hon a wneir i fyny o wahanol elfenau, ac yn cael ei nodweddu â gwlaneneiddiwch, ond siomedigaeth; tra y mae y rhyfel wedi lladd gobeithion, a ellid, dan amgylchiadau ereill, yn naturiol eu meithrin. Rhoddwyd rhai mesurau da i fyny; methodd y weinyddiaeth a chario rhai ereill; ac y mae llawer o ddrygau gerwin yn bodoli eto, na fu un ymestyniad at eu symud; ac ar y cwbl, dengys

brag: ar bob un o'r ddau hyn, yr

oedd yn nghyd 498. Yn yr eisteddiad diweddaf, pan syrthiodd gweinyddiaeth Derby, yr oedd yn nghyd 592 o aelodau. Dygwyd gerbron y Tŷ gan wahanol aelodau y Weinyddiaeth tua 121 o fesurau, 101 o'r cyfryw a ddaethant yn gyfraith y tir; a chollwyd, neu tynwyd yn ol, tua 20. Yr oedd deuddeg neu bumtheg ar ugain o'r mesurau hyn yn ymwneud yn uniongyrchol ag achos y rhyfel, 4 yn perthyn yn uniongyrchol i'r trefedigaethau, a'r lleill yn perthyn i'r Deyrnas Gyfunol a'r Iwerddon. Dygwyd 24 o fesurau gerbron y Tŷ gan aelodau cyffredin, y rhai a basiwyd, tra y darfu 53 o fesurau ereill fethu a dyfod yn ddeddfau. Cynaliwyd dau bwyllgor neillduol (select committees) yn Nhŷ yr Arglwyddi, a thua 26 yn Nhŷ y Cyffredin.

Ar agoriad y Senedd, un o'r pethau cyntaf a wnaed, ar ol cytuno ar yr anerchiad i'w Mawrhydi, oedd rhyddhau y Tywysog Albert oddiwrth y cyhuddiadau a ddygid yn ei erbyn o fod yn euog o ymyraeth yn annghyfreithlawn ag achosion tramor y deyrnas.

Chwef. 2.-Dygodd Canghellydd y Trysorlys ei gynllun yn mlaen tuag at gyfnewid y dull er darparu ar gyfer rhai o'r treulion gofynedig ar y cyllid cyhoeddus.

3ydd.-Dygodd Mr. Cardwell ei fesur yn mlaen gyda golwg ar long-fasgnachaeth.

6fed.-Ardalydd Clanricarde a alwodd sylw y Tŷ at achos y dwyrain; ac Argl. J. Russell a ddygodd gerbron ysgrif y llwon.

7fed.-Argl. Hardwicke a gyfeiriodd sylw at gofres y llynges. Mr. Butt a ddygodd yn mlaen y modd y triniwyd achos aelodau Gwyddelig, a sefydlwyd pwyllgor neillduol i edrych i mewn i'r achos.

10fed.-Bu dadl yn Nhŷ yr Arglwyddi ar achos y dwyrain, yn nghyd a'r priodoldeb i Argl. J. Russell dynu yn ol ei fesur diwygiadol. Dygodd Argl. J. Russell ddwy ysgrif

« ForrigeFortsæt »