yn ysbryd ac ymddygiad y Pab drwy yr holl amgylchiad, falchder a bydolrwydd ar y naill law, a dichell gyfrwys ar y llaw arall, yr hyn a gynhyrfodd holl alluoedd ei enaid mawr ef i ymosod ar yr Archbuseyaeth Rhufeinig. Rhoddwn yma ddifyniad byr o'i waith ar "The truth and meaning of Scripture," fel engraifft o'i olygiadau cywir o berthynas i awdurdod Ilt a'i air. Y mae efe yn haeru, "Fod cyfraith Ilt yn ddigon; y gall y Cristion sydd yn ei deall yn dda gasglu digon o wybodaeth o honi yn ystod ei daith yma; fod yr holl wirionedd yn gynwysedig yn yr Ysgrythyr; na ddylem ni dderbyn un athrawiaeth nad yw yn gyson â'r Beibl; nad oes yr un llys ond llys y nef; a phe byddai cant o Babau, a'r holl fonachod sydd yn y byd wedi eu troi yn gardinaliaid, y dylem ni ddysgu mwy o'r efengyl nag oddiwrthynt hwy oll; ac nad oes neb sydd wir blant yn myned o gylch mewn modd yn y byd, i droseddu ewyllys a thestament eu Tad nefol." Gan i Wicliff golli ei feistrolaeth yn Rhydychain, gwnaethpwyd ef tua'r amser hwn, mewn ffordd o gydnabyddiaeth gan y goron, yn brebendwr Worcester, ac yn beriglor Lutterworth. Terfynwn y darn hwn yma, canys y mae daru neu ddau i ddyfod eto. P. S.-Y mae defnyddiau y darn uchod wedi eu cymeryd, yn agos oll, allan o'r Footsteps of our Forefathers." un cyfansoddiad arall yn tynu sylw dynion yn eu sefyllfa gysefin, anniwylliedig; a phan nad oedd ysgrifenu mewn arferiad cyffredin, mai cân yn unig a ellid argraffu yn effeithiol ar y cof i'w throsglwyddo i'r oesau dyfodol; gan hyny yn y dull difyrus a swyniadol yma y trosglwyddid hyfforddiadau, yn yr hen amseroedd, ar bob pwne, pa un bynag ai celfyddyd, ai hanes, ai natur, ai cyfraith, ai crefydd a fyddai y testun.* "Am ddechreuad prydyddiaeth, mae yn dra sicr iddi gyd-gychwyn â chynulliadau cymdeithasol cyntaf dynolryw, megys gwleddoedd, addoliadau, a chyfarfodydd cyhoeddus ereill, yn y sawl yr oedd cerddoriaeth, cân, a dawns yn brif arfolliad.† "Mae hanesion boreuaf holl genedloedd y byd yn cadarnhau y ffeithiau yma. Tystia teithwyr ac ereill mai yn y dull hwn yr oedd dysgawdwyr a phenaethiaid holl lwythau cyntefig America, a manau ereill, yn trosglwyddo eu hyfforddiadau ar ddefodau, a chrefydd, a chyfraith, o'r fath ag oedd yn eu plith, i'w cydwladwyr. Mewn prydyddiaeth yr oedd offeiriaid, ac athronwyr, a seneddwyr cyntaf Groeg yn traddodi en holl gyfarwyddiadau. Dynodir Apolo, Orpheus, ac Ampheion, eu prydyddion henaf, fel gwareiddwyr cyntaf dynolryw, a sefydlwyr cynaraf cyfraith a gwladyddiaeth. Mewn prydyddiaeth yr ysgrifenodd Periander, Pittacus, Solon, Chwilo, a Hippias reolau eu crefydd, eu moesolaeth, a'u gwladyddiaeth, LLENYDDIAETH CENEDL Y CYMRY. y sawl a efelychwyd gan Teognis o Malgera Llith III. GAN LLWYD O'R WEMPA. BARDDONIAETH-GORSEDDAU-TALIESIN. ER mwyn cadw y dosbarth, byr a melus, ar ddihun uwchben ein Llithiau, bydd i ni am. rywio eu cynwysiad, sef, bydd i ni roddi o fis i fis, mân ddarnau ar Farddoniaeth, Gorseddau, Graddau y Beirdd, &c., yn gysyllt. iadol â'r engreifftiau a godir o Lênyddiaeth gynoesol cenedl y Cymry. Barddoniaeth yn gyffredin.-Difynwn yma o" Farddas y Cymry," eiddo Gweirydd ab Rhys, llyfr a ddaw dan sylw eto, a byddai yn dda pe cynorthwyai y cyhoedd yr awdwr i ddwyn y gweddill drwy y wasg. "Mae athronwyr yn barnu fod prydyddiaeth yn gyfoed â dynolryw, gan ei bod mor dra chysylltiedig â'r natur ddynol. Yr oedd yr henafiaid yn gyffredinol yn haeru fod prydyddiaeth yn henach na rhyddiaith; ond diau fod hyn yn gamsyniad, canys nid yw yn rhesymol tybied i un cyfnod erioed fod ar gymdeithas pan y siaradai dynion â'u gilydd mewn mesur a chynghanedd. Fe allai mai yr hyn a barodd i rai goleddu y syniad yma yw, y ffaith mai prydyddiaeth ydyw cyfansoddiadau boreuaf holl genedloedd y byd. Yr achos o hyn, fel y tybir, oedd, na fuasai a Phocylid.§ Arferai Minos a Thales ganu gyda'r delyn y cyfreithiau a luniasant; a dywedir am y Beirdd Cymreig y canent eu cyfansoddiadau eu hunain, ac y dilynid eu llais gan swn y delyn a'r crwth. Mewn ffurf brydyddol yn unig yr ymddangosai hanesyddiaeth hyd yr oes ddiweddaf o flaen Herodot; a thybir fod gan y Cymry hanes mewn mydr mor ddiweddar ag amser Gerallt o Gymru. Dywedir yn y Drysorfa Henafiaethol, ond ni wyddis ar ba awdurdod, fod "Gwrgant Farfdrwch wedi ysgrifenu hanesiaeth Gymreig ar gynghanedd, oddeutu y flwyddyn 350 cyn Crist."|| Mae yn amlwg, beth bynag, fod rhyw hanes Cymreig ar gael yn amser Gerallt, wrth y cyfeiriadau mynych a wna efe iddi; ac o herwydd mai mewn mydr yr ysgrifenai yr henafiaid braidd ar bob pwnc, mae yn dra sicr mai felly yr oedd eu hanesion cysefin. Nid y Cymry yn unig, fel yr awgrymwyd, oedd yn arfer y dull yma o gyfansoddi, yn yr hen amseroedd; oblegid mewn mydr y mae y Rhifyddeg Hindwaidd ; ac mewn rhai o'r hen Rifyddegau Seisnig, mae y rheolau a'r eng 1 reintiau ar gan; ac felly yn gyffredin yr celd rheolau cenedl enwau Lladin: ar fyr, myr oedd y prif foddion gynt i drosglwyddo hyfforddiad Oad er mai prydyddiaeth oedd dull borecaf yr holl genedloedd o gyfansoddi, ac o draddodi eu gwybodau a'u hyfforddiadau i'w cydoeswyr, ac o'u trosglwyddo i'w holafinid; ac er bod gan bob cenedl braidd ei Hofyddion a'i Phrydyddion-ei Doethion yn gystal a'i Hoffeiriaid;† eto, nid ymddengys fod y cyfryw yn mysg un genedl wedi ymdrefnu mor rheolaidd, ac wedi gallu gwneud en cyfundrefn mor bwysig yn mhob ystyr i gymdeithas, ag y gwnaeth Beirdd Ynys Prydain en hunain a'u "dosbarth."‡ Dywed Toland fod Barddoniaeth y Celtiaid. neu yr Offeiriadaeth orllewinol, fel y geilw efe bi, yn tra rhagori ar yr eiddo Soroaster, ac ar holl gyfundrefn gysegredig y Dwyrain§ Yr celd prydyddion y genedl fawr, ddiwylliedig hon, dan yr enw Beirdd, y radd bwysicaf yn eu plith, gan fod holl ddysg, a chrefydd, a chyfraith y genedl yn hollol dan eu Lawdurdod; ac fel y cyfryw, yr oedd eu treintiau yn fawrion a chysegredig dros ben, a'n proffes yn ddosbarth drwyddedog,' reolaidd, yn ol cyfreithiau y wlad, dan yr ew Barddoniaeth, mor foreu, medd y Trioedd, ag amser Plenydd, Alawn, a Gwron, y rhai a ddychymygasant y Breiniau a'r Defodau y sydd ar Feirdd a Barddoniaeth.¶ "Efaith Prydyddiaeth ar y Byd.-Nid oes dim wedi gwneud cymaint tuag at goethi a dyrchafu chwaeth cenedloedd y byd, a Phrydyddiaeth, Cerddoriaeth, a Phaentio. Prydyddion a Phrydyddiaeth fu yr offerynau penaf, braidd, yn llaw Rhagluniaeth i wareiddio a dyrchafu cenedloedd y ddaear, trwy geethi eu chwaeth, a chyfoethogi eu llênoneth. Y fath ddetholiad dewisol o eiriau addas i amlygu pob amrywiad o ddelfrydau a syniadau a geir yn ngweithiau Prydyddion cenedl! O waith y prydydd y benthycir yr holl ddarluniau godidog sydd yn treiddio trwy iaith, ac yn gwneuthur cydymddyddan hyd y nod am bethau cyffredin yn ddyddorol ac anogiadol. Iddo ef hefyd yr ydys yn ddyledus am y rhan fwyaf o wareddoldeb. Nis gall cenedl yn meddu iaith bar wael byth ymddyrchafu yn uchel yu ngradd gwareddoldeb. Yr ydys nid yn unig yn cyfeillachu, ond yn meddwl hefyd mewn geiriau; ac yn ol cyfartaledd addasrwydd ac amrywiaeth geiriau i amlygu y meddwl, y bydd cywirdeb a chyfoethogrwydd • Proberts' Ancient Laws, Pref. p. 3. + Hor. Brit. Vol. i. p. 148. "Dosbarth" ydyw y gair a arferir yn gyffredin yn y Troedd a'r hen ysgrifeniadau Cymreig, i arwyddo cylundrefn, trefniant, deseb, neu ddosbarthdrefo-system. Toland's Hist. of the Druids, p. 48. 1 Cæsaris Commentarii De Bello Gallico, Lib. Ti. e. 13. Myfyrian Archaiology of Wales, Vol. ii. p. 6. Tri. 58. y meddyliau eu hunain. Yn y golygiad yma, nis gall cenedl y Cymry byth gydnabod llafur ieithyddol eu hen Feirdd gyda theimladau rhy frwdfrydig. Yr oedd holl ddysgeidiaeth y Prydeiniaid wedi ei chyfyngu i Ysgol y Beirdd, fel y ceir achlysur i grybwyll yn fynych: y Beirdd oedd eu hoffeiriaid, eu barnwyr, a'u hathrawon mewn moesolaeth a gwyddoriaeth. Cán oedd un o'u prif gyfryngau i roi parhad i'w gwireddau a'u defodau traddodiadol; a thuag at roi effaith i'w haddysgiadau, dygasant yr iaith Gymraeg, yn dra boreu, i berffeithder cwbl anhygoel i estroniaid-mor berffaith, fel y dywed dysgedigion cymhwys yn mhob ystyr i farnu, fel nad oes ei rhagorach, os ei chyffelyb, yn yr holl fyd, o ran cyfartaledd ei chydseiniaid a'i llafariaid, o ran amlder ac ystwythder ei geiriau, ac, uwchlaw y cwbl, fel peiriant prydyddiaeth, o ran amrywiaeth ei ffurfiau cyfystyr o ymadroddi, a gynyrchir yn benaf gan gyfuniadau cyfoethog ei berfau; canys y mae i bob berf unigol o gylch ugain o ddullweddiadau drwy gyfrwng arddodiadau; a gellir treiglo pob ffurf naill ai drwy leddfiad, neu amrywiad terfyniadau, fel y Lladin, neu drwy gynorthwyolion, fel y Saesneg; ac am hyny mae yr holl dreigl iadau dros bedwar ugain o nifer, yr hyn ynddo ei hun sydd yn ddigon i ddangos pa mor egniol yr ymroddodd y Beirdd i ddiwyllio y Gymraeg, er ei gwneud yn mhob ystyr yn iaith briodol prydyddiaeth.* Dywed Lewis Morris ei bod yn meddu y perffeithder yma dri chant ar ddeg o flynyddau yn ol; ïe, sicrha'r Dr. Puw ei bod felly er ys dwy fil o flynyddau, os nad cyn hyny. O ganlyniad, gan fod y prydydd wedi gwneud cymaint er ein cynysgaethu nid yn unig â geiriau, ond ag ymadroddion cyfaddas i hardd-wisgo y meddwl; a chan fod hyd y nod y weithred o feddwl ei hunan yn dibynu cymaint ar y fath eiriau ac ymadroddion, nis gellir llai na'i gydnabod fel prif offeryn gwareiddioldeb. Yn mhellach, mae y prydydd wedi cynyrchu meddyliau sydd o'r gwerth mwyaf er dedwyddu dyn, y sawl a addaswyd i barhau cyhyd a dynoliaeth; ac y mae y cyfryw feddyliau wedi eu gwisgo ganddo yn y fath iaith flodeuog, fel y maent o herwydd hyny yn ddeublyg ddeniadol. Trwy gyfrwng y prif allu meddyliol yma, gwnaed drygioni yn atgas, a rhinwedd yn anwyl, prydferth, a deniadol; fel y perl, yr hwn dan law y gemydd a goethir oddiwrth y sothach a'i amgylchyna, ac a wneir i belydru ei oleuni ysblenydd yn ei burdeb cysefin; felly rhinwedd dan alluog law y prydydd, a adlewyrcha ei gogoniant cynhwynol, ac a ymddengys yn ei holl hawddgarwch naturiol. Mae wedi gwneud llawer er cynyrchu mawrygiad uchel a meddylgar o weithredoedd Duw; ac er Cambr. Reg. Vol. i. p. 400. + Ib. p. 334 4. Pughe's Outline, appended to his Dict. p. 14. gosod i lawr sail v gyfundrefn ogoneddus o anianyddiaeth, sy mor ardderchog o addas i arwain dyn drwy natur i efrydio Duw natur. Dychwelir yn y nesaf at Farddoniaeth y Cymry yu neillduol. GORSEDDAU BEIRDD. Gorsedd, Brawdle, neu Athrofa Farddol, neu fel ei gelwir yn bresenol, Eisteddfod, sydd hen sefydliad, ag sydd wedi disgyn i ni o'r oesoedd Derwyddol. Nid oes yn Ewrop sefydliad llenyddol henach, ti gofi hyny, ddarllenydd, i'th gynorthwyo i edrych gyda thosturi ar fab Dic pan fyddo yn cablu. Dybenion Gorsedd Beirdd oedd cadw trefn a dosbarth ar gerdd dafod a thant;-rhoddi hyffordd i ddysgyblion, a graddoli yr ymgeiswyr teilwng ;-dodi cefnogaeth, a dysg, ac urddau, i wŷr wrth gerdd. Perthynai i'r Cymry hefyd, er cyn cred, orseddau neu ddygynull gwladol, sef er ffurfio a gweinyddu cyfreithiau a barn; megys, "Dygynull Clud a Gosgordd" (Mote and Retinue) a sefydlid yn ol y Trioedd, gan Hu Gadarn; "Gor"Dygynull Gwlad ac Arglwydd ;" sedd Cynghyd Cynal;" "Gorsedd Annghyfarch, &c.; ond yr urddas olaf a ystyrid oedd "Gorsedd Beirdd Ynys Prydain." Y mae Iwl Caisar (Bell Gall. Lib. iii.) yn crybwyll am y sefydliad neu y llys hwn, fel peth ag oedd yn hen hanfodi y dyddiau hyny. Mae y drieb ganlynol yn gofnod cynoesol parth y gorseddau gwlad a beirdd, uchod a enwyd, "Tri Chynofydd Cenedl y Cymry. Cyntaf Hu Gadarn a wnaeth Glud a Gosgordd gyntaf ar gened! y Cymry. Ail, Dyfnwal Moelmud a wnaeth ddosbarth gyntaf ar gyfreithiau, a breiniau, a defodau gwlad a chenedl. Trydydd, Tudain, tad awen, a wnaeth drefn a dosbarth ar gof a chadw Cerdd Dafod." Cedwid y gorseddau hyn yn y Maengylchoedd, a elwir yn gyffredin yn Demlau Derwyddol, ar y tymor pan fyddai yr haul yn un o'r pedwar Alban. Byddai y Maengylchoedd hyn wedi eu hadeiladu wrth egwyddorion Seryddol, a'r "Maen Chwyf" yn ddarlun o gydbwysedd y greadigaeth (Arch. Cam., April, 1849.) Cynelid yr orsedd "Yn ngoleu haul a llygad goleuni." Y Bardd cadeiriog yn llywyddu. Agorid hi drwy osod cleddyf noeth yn y wain, ar y maen canol, a'r beirdd yn cynorthwyo. Eisteddid mewn barn ar y gystadleuaeth, a graddid a rhoddid trwyddedigaeth i'r ymgeisyddion Ilwyddianus. Cymaint a allwn wneud yn y Ilith presenol yw rhoddi Llafar Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, a dynwyd i maes o Lyfr Meiryg Morganwg yn nghastell Rhaglan, gan Llywelyn Sion o Langewydd, Morganwg. Ac nis gellir braint Prif-fardd ar y neb na wypo hyn o drefn ar Feirdd a Barddoniaeth. "Cyn nog amser Prydain ab Aedd Mawr nid oedd namyn gwyddoniaid yn wŷr wrth ddysg ac athrawiaeth gwlad a chened; a chan nad oedd na deddf na llafar gorsedd ar y wyddai y gwyddoniaid ef a ddygwyddwys coll ar lawer o wybodaeth, a chof, ac ysbysrwydd cenedl y Cymry; a gwedi gwladychu o'r Cymry yn nawdd gwladwriaeth Prydain, ac ymroddi'n hollol i fod wrth y deddfau daionus, a'r drefn ddoeth a wnaeth efe, fe cafwyd lonyddwch ac ysbaid anraith. Yna y mynwys Brydain chwilio'r holl Ynys i weled a geffid neb a wyddai am a fu gynt o ddysg ac ysbysrwydd cenedl y Cymry, fal y gellid ei roddi ar gof a chadw; yna y cafwyd yn wyddoniaid o Gymry cynhenid o fonedd a deddfoldeb dri gŵr a'u henwau Plennydd, Alawn, a Guron, y rhai a ddywedasant y gwyddent o hen gof lawer o'r addysg a wyddai y Cymry er yn oes oesoedd; a gwedi datgan o honynt a wyddynt, ef a rodded hyny ar osteg a datgan ynghlyw gwlad ac arglwydd, dan rybudd undydd a blwyddyn, a nawdd i bawb a wyddai naws o'r byd ar gof a deall o'r hen wybodaeth gynt, ddyfod ynghyrch gorsedd yn nawdd gwlad ac arglwydd, ac yno datgan ei lafar, a hyny a fu; gwedi hyny y rhoddwyd gosteg yr ail waith, dan rybudd undydd a blwyddyn, a llawer a ddaethant yngorsedd; a gwedi rhoi ar gof a llafar gorsedd y maint hysbysrwydd a gaffed y rhoddwyd y cyfan y drydedd waith ar osteg a rhybudd undydd a blwyddyn; a phan ddaethant bawb o ddoethion cenedl y Cymry yngorsedd y waith hono, y dangoswyd trefn a deddf ar wybodaeth ac addysg yr hen ddoethion a fuant gynt, a chyda hyny Dosbarth Cerdd dafawd, gwaith Tydain, Tad Awen, y gŵr a wnaeth gerdd Gymraeg ddosbarthus gyntaf erioed; a gwedi rhoddi barn ar y ddosbarth hono, ac ar bob arall o addysg a chof am a fu gynt, erchi y wnaeth i'r tri phrydydd a gafwyd yno yn oreuon, roddi y cyfan ar gof, cân, a llafar, y modd y gellid hawsaf ddysg a chof trefnus arnynt, a hyny a fu; a gwedi dyfod y tro nesaf yn ngorsedd, a dangos eu cerddi tafod, y barnwyd en rhoddi dair gwaith olynol dan osteg a rhybudd undydd a blwyddyn. A gwedi gorphen y tair blynedd, a dyfod yngorsedd, fe drefnwyd gradd i bob un o'r tri Phrydyddion hyn, gan nad oedd yn eu herbyn, nag yn erbyn eu cerddi, na llafar na llais gan wlad na gorwlad; a threfnu o'r awr hyny hyd fyth bythoedd a wnaethant, a chadarnbau breiniau a defodau; ac wrthynt rhoddi beirdd o hyny hyd fyth, a breiniau a defodau Beirdd Ynys Prydain, a'u gelwir a galw pob bardd yn fardd wrth fraint a defod Ynys Prydain. Gwed trefnu y pethau hyn fe gymmerws y tri Phrif fardd hyny, nid amgen na Phlennydd, Alawn, a Gwron, awenyddion attynt yn drofedigion idd eu dysgu a'u hathrawiaethu yn nghelfyddyd Barddoniaeth; a thrwydded a rodded i'r beirdd a'u hawenyddion; am hyny y gelwir Beirdd yn Drwyddedogion Braint, a'r Awenyddion Trwyddedogion lawl Nawdd, a gwneuthur hynny oll ym mraint raith gwlad ac arglwydd; a llyna ddangos y breiniau a'r defodau hynny, a'r modd a'u cynnelir gan lefar, a chof, a gorsedd. Gorsedd Beirdd Ynys Prydain a gynnelir ac a gedwir ar fan amlwg yngolwg a chlyw gwlad ac arglwydd, ac yn wyneb haul a llygad goleuni, sef nid rhydd cadw gorsedd dan dô nag ar hyd nos, eithr lle bo a thra bo gweled haul yn yr wybren, sef y dywedir fal hyn, “Gorsedd a Chadair Beirdd Ynys Prydain a gynnelir yn yr amlwg, yn wyneb haul a Bygad, ac yn rhyddid wybren agored, fel a'i gwelo ac a'i clywo bawb. "Barn Gorsedd Beirdd Ynys Prydain a fydd ym mraint y trechaf o nifer, wrth fwrw melbren, neu ryw ffordd arall a wypper y trechaf o rif, sef y gorfodrif, ac a'i cynullier a gwneuthur pob gorchwyl ym mraint barn gorsedd. Modd y gwypper barn gorsedd yw hyn, yn ol barn a cawdd yr orsedd a ddangoser ar a fo cais ac achos, yna ei roddi wrth gyrch ail orsedd ; ac o gael barn a nawdd yr ail orsedd, ei roddi ar gyrch y drydedd orsedd; ac o gaffael barn a nawdd hono cadara y bernir a ddangoswyd a chyfallwy: ac nid oes barn gorsedd amgen na hyny. Yr orsedd gyntaf i bob cais a dangos, a elwir grsedd gyfarch; ac o gael nawdd a barn bono, myned ar gyrch gorsedd yr ail waith, a'r orsedd hono a elwir Gorsedd hawl; ac o el nawdd a barn yn hono, cyrcha'r drydedd, a galw hono gorsedd gyfallwy, a chyfailwy y gelwir o hyny i maes a fu wrth gais neu achos gorsedd; ac heb farn a nawdd y tair gorsedd hyn nid â unpeth ai can ai beth bynnag y bo, ym mraint Gorsedd Beirdd Yays Prydain. "Pedair Cadair wrth gerdd a barddonlaeth y sydd yng Nghymru, nid amgen Cadair Morganwg, a Gwent, ac Ergain, ac Enas, ac Ystradyw; a'i gair cyfarch a chyswyn yw, Duw a phob daioni.' Ail, yw Cadair Deheuharth, a Dyfed, a Cheredigion; a'i gair cyswyn cyfarch yw, 'Calon wrth galon. Y drydedd Gadair yw un Bowys a Gwynedd uchis Gonwy; a'i gair cyswyn cyfarch yw, A laddo a leddir.' A'r bedwaredd Gadair yw un Gwynedd, a Môn, a Manaw; a'i gair cyswyn cyfarch yw, ‘Iesu, nen o lesu nad gamwaith,' medd hen gof Blythyr. A'r pedair Cadair hyn a ellir eu cynnal yn un mam y bo achos yn Ynys Prydain; eithr trefnusaf yw eu cynal yn eu hardaloedd eu hunain, lle ni raid wrth rybadd undydd a blwyddyn, a rhaid yw hyny lle bo angen. "Gorsedd Beirdd Ynys Prydain a gynnelir ym mhob man gorsedd egored, sef a roddwyd ar ostegundydd a blwyddyn oni bai cyfallwy; lle ni bo felly myned wrth fraint a defod, gan osteg, a rhybudd, a hawl, a chyfarch, i bo cyfallwy; ac yn y modd hynny y gellir deffraw cadair a gorsedd lle y mynir, ey bo rhaid ac achos. "Cadair na fu cynnal arni ynghof neb byw a elwir Cadair Gwsg parth ei thalaith ei hun, eithr braint effraw iddi a fydd ymhob cadair neu orsedd arall a fo'n effraw, megis Cynal Cadair Lundain, neu un Gerniw a Dyfnaint, neu un gadair arall yng Nghadair Morganwg, neu un Gwynedd, o byddant effraw. A barna pob cadair yn effraw yn Nghorsedd Beirdd Ynys Prydain. Ar bedwar amser arbenigion yn y flwyddyn y mae cadw a chynal gorsedd a chadair wrth fraint a defod Beirdd Ynys Prydain, nac ym maint unrhyw Gadair Ardal ba bynnag, sef yw'r amseroedd hynny, pedwar Bann Haul, sef y cyntaf yw yr Alban Arthan, a'i syrth ar y ddegfed ddydd o fis Rhagfyr, pan y byddo dydd byraf y gauaf, a'r dydd hyny y cyntaf o'r flwydd. yn; a'r gauaf herwydd defod yr hen Gymry, a chyfrif y Beirdd, herwydd hen gof a chadw. Yrail yw'r Alban Eilir a'i syrth ar y ddegfed ddydd o fis Mawrth, a'r dydd cyntaf o'r Gwanwyn yw. Y trydydd yw yr Alban Hefin a'i syrth ar y ddegfed ddydd o fis Mehefin, a dydd cyntaf yr haf yw, a dydd hwyaf yr haf. Y pedwerydd yw'r Alban Elfed, a'i syrth ar y ddegfed ddydd o fis Medi, a'r dydd ar cyntaf o'r Mesyryd yw, a hefyd dydd Cyhydedd haul y Mesyryd, ac y dydd. iau hyn y cadwent y beirdd eu gorseddau a'u cadeiriau, ac ar yr undydd blaen ac ol o'r pedwar Alban ac y trafodent eu prif oruch wylion, ag y drefnant a fo achos y dydd o flaen yr Alban a elwir Gwyl yr Alban; a'r dydd ar ol Gwledd yr Alban, a rhydd ac egor bob un o honynt, megis yr Alban, ac ernynt y gellir trafod a fynner a fo wrth gais ac achos yng ngorsedd a chadair, heb na gosteg na rhybudd. "Lle nis gellir un bardd o brydydd gorseddog, bernir y farddoniaeth a beirdd Ynys Prydain yn gwsg, ac nis gellir yn ddeddfawl eu heffraw, ond gan raid fyned wrth raid gwlad a chenedl dan osteg a rhybudd un dydd a blwyddyn dair blynedd olynol, ac yna myned hyd eler yn gyfallwy, fel y gwnaethpwyd yn amser Prydain Aedd Mawr. "Y modd y gradder ofydd yw ei roddi yn marn Pencerdd, sef yw hyny, Prif-fardd gorseddog a ddywetto ar ei air a'i gydwybod y gellir bardd o honaw. Eisteddfod Gwern y Cleppa a brodyr Marchwiail.-Coffadwriaeth am Feirdd a Phrydyddion o Lyfr Edward Dafydd Antoni Powel, &c. "Yn amser y brenin Edwart y III. y bu Eisteddfod yng Ngwern y Cleppa dan nawdd a dawn Ifor Hael, ag i hono daeth tri brodyr Marchwiail ym Maelor yn ngwlad Bowys, a Llywelyn ap Gwilym o'r Ddôl Goch yng Ngheredigion, a thri brodyr Marchwiail a Dafydd ap Gwilym gyda nhwy, a fuant yn ysgoleigion barddonaidd Llywelyn ap Gwilym yng Ngwern y Cleppa ys ef llys Ifor Hael. Ag yn yr Eisteddfod hono y doded braint cadair ar fesur Cywydd, lle nad oedd " felly o'r blaen; a phan canwyd am gadair, Dafydd ap Gwilym a enillws o nerth awen, a chanu, a Chymraeg cynhwynol. Ac o hyny maes braint cadair i fesur Cywydd deu-air, a gwisgo Dafydd ap Gwilym ag addurn Cadair Morganwg, a rhod enw Dafydd Morganwg ag yng Ngwynedd ei alw Bardd Ifor Hael, ac o hynny hyd yn awr serchocaf a goreu o'r holl fesurau y bernir Cywydd. Gwedi hyny bu Eisteddfod dan nawdd Llewelyn ap Gwilym yn y Ddol Goch yn Emlyn, ag i honno y daeth Sion y Cent a Rhys Goch o Eryri yng Ngwynedd, a thyfu ymryson rhwng Sion y Cent a Rhys Goch, goreu ar wengerdd Sion Cent, a goreu ar foliangerdd Rhys Goch, a rhodd y blaen a'r Gadair i'r wengerdd; ond ni fynnai Sion y Cent ei wisgo ag addurn Cadair Ceredigion a Dyfed; eithr i Dduw y rhoddai ef y blaen, am hynny, y gwedai rhai mai Duw ei hunan a ennillws y gadair hon; wedi hynny dodes Llewelyn ap Gwilym ganu er Cadair Ceredigion y goreu am Ricingerdd, a barnu Dafydd ap Gwilym yn oreu ar wisgo a'r Cae Bedw ys ef addurn Rieingerdd; yna Llewelyn ap Gruffudd, un o dri brodyr Marchwiail, a ganodd englynion Marchwiail bedw buglas ar hen ganiad; gwedi hynny y tri brodyr a ddodasant dan osteg a rhybudd undydd a blwyddyn Eisteddfod ym Maelor ym Mhowys yn nawdd Iarll Mortimer, dan goron y brenin Edwart, y trydydd; ac yno y canwyd am gadeiriau. Ac Ednyfed ap Gruffydd a gafas am Gywydd Gŵr ac am englynion byrraf Eiry Mynydd. A Madoc y trydydd brawd a gafas gadair a chae bedw am Rieingerdd. A Dafydd ap Gwilym a ganodd yn garedig i Fadoc am ei gerdd. Ac yn yr Eisteddfod honno ydd addurnwyd Iolo Goch ag addurn cadair am ei wybodau a ddysgws Ednyfed ap Gruffydd parth Gwybodau Cerdd Dafod a'i pherthynasau. Ac o'r tair Eisteddfod hyn y cafodd gwellhad ar Gerdd Dafod a Chynghanedd. Awn yn y nesaf, trwy y gorseddau un ac un. Awn bellach i roddi engraifft gynoesol neu ddwy am Daliesin. GWAITH ARGOED LLWYFEIN. Arwr y frwydr hon ydoedd Urien Rheged. Yn mha le yr ydoedd yr Argoed hyn anhyall gwybod erbyn hyn. Y frwydr oedd yn erbyn y Saeson, y rhai oeddynt, y pryd hyny, yn gwneud cadgyrch er meddianu yr holl ynys. Ymddengys, yn ol Taliesin, i'r cad. lywydd hwn wneud ei ddyledswydd yn mhlaid ei wlad a'i genedl. Y cadlywydd o du y Saxoniaid ydoedd Ida, a elwir yn y gân, "Fflamddwyn." Rhoddir yr orgraff yn y difyniadau fel ei ceir hi yn y cynlluniau gwreiddiol. "Y bore Dduwsadwrn cad fawr a fu Dyfwy o Argoed hyd Arfynydd Attorelwys Urien Udd yr echwydd Rhuddai frain rhag rhyfel gwyr Aralliad o'r gân uchod, "Boreu dydd Sadwrn, brwydr fawr fu, o godiad haul hyd fachludiad. Cyrchodd Flamddwyn gyda phedair byddin i ymladd â gwŷr Goddeu a Rheged. Cyrhaeddasant o Argoed hyd Arfynydd, ond ni chawsant einioes mwy nag un diwrnod.' Crochlefodd Fflamddwyn, mewn mawr ffrwst, "A roddant hwy (sef y Brython) a ydynt barod?" Atebws Owain gyda dyrchaf edig ergyd, "Ni roddant wystlon-nid ynt parawd. A Geneu ab Coel fyddai lew cynhyrfiedig cyn y talai o wystl i neb." Croch-alwodd Urien, penaeth y gwŷr, "Bydded ymgynulliad perthynasau a chyfodwn ein baneri ar y mynydd, a chodwn ein gwynebau tua'r gororau, a dyrchafwn ein gwaywffyn uwch penau gwŷr, a chyrchwn Fflamddwyn yn ei luoedd. A rhag brwydr Llwyfein y bu llawer celain, y brain a liwyd yn goch gan waed. Ac hyd nes pallwyf gan henaint a dyfod at farwolaeth anarbedol, na fydded i mi fyth wênu oni chlodforaf Urien." Dyna, ddarllenydd, fel y canai y Bardd Cymreig, er ys deuddeg can mlynedd yn ol; mae pob brawddeg yn ddarluniadol, ieithwedd seml, dlos, yn rhydd o'r chwyddiaeth amleiriog, eiddildeb yr oesau, &c., diweddar hyn. Yr ydych yn canfod Owain cadben, a'i ffos fyny yn uwch na'i ben, yn gwrthateb mewn darn-frawddegau toredig,-Nid dodynt (wystlon). Nid parawd! gan rhuthraw i'r frwydr. Mae y cyngload (peroration) yn llawn teimlad a chyffro. "A rhag brwydr Argoed," &c. Y brain yn goch wrth loddesta ar y celanedd, &c. Ac hyd nes pallwyf, &c. PREIDDEU ANNWN. Mae y gerdd hon yn llawn o draddodiadau Derwyddol,-cyfeiriadau eglur ynddi at y Dylif. Bydd ynddi hefyd engreifftiau o wybodaeth gelfyddydol ac athronyddol ein henafiaid. Ymddengys hefyd fod rhyfel anorfod rhwng y beirdd a thwyll-offeiriadaeth o Ffos, cleddyf. " |