Billeder på siden
PDF
ePub

ADOLYGIAD Y WASG.

"NINEFEH A'I GWEDDILLION. Gan A. H. LAYARD, YSW., D.C.L., wedi ei dalfyru ganddo ef ei hun, gydag arluniau lluosog. Llanymddyfri: Argraffwyd a Chyhoedd. wyd gan W. Rees; Llundain, John Murray, Heol Albemarle." 1852.

DYWENYDD yw genym hysbysu ein darllenyddion fod y gwaith tra dyddorawl uchod allan weithion o'r wasg, mewn cyfrol dlos, mewn gwisg Gymreig. Ni fyddai ychwanegu canmoliaeth i'r gwaith oddiwrthym ni ond afreidiol, canys y mae wedi cyrhaedd cymeradwyaeth uchel a chyffredinol eisioes oddiwrth y Saeson a'r Cymry, a chyrhaedda uwch gymeradwyaeth eto gan bawb a bryn. ent y llyfr ac a'i darlleno. Ein darllenyddfon a wyddant o'r goreu ddarfod iddynt gael eu siomi lawer gwaith mewn llyfrynau gystal ag mewn ceffylau a phethau ereill-y nwyddau yn waelach nag y tybid eu bod; ond ni phetruswn ddywedyd os siomir hwynt yn y ilyfr dan sylw, y bydd eu siomedigaeth yn foddlonrwydd. Difynwn ychydig ranau o Ragymadrodd Dr. Layard i'r llyfr :

"Mae y teimlad a ddangoswyd yn y darganfyddiadau a wnaed yn Ninefch, wedi bod mor gyffredinol, fel ag yr awgrym wyd i mi, y byddai talfyriad o'm gwaith ar Ninefeh a'i Gweddillion, ond ei gyhoeddi yn rhad, ac mewn dull poblogaidd, yn dderbyniol gan y werin. Yr oeddwn yn barod wedi dechreu ar y cyfryw dalfyriad, pan y galwyd arnaf ar ail neges i Assyria, ac ni chefais hamdden i'w orphen.

"Yr wyf yn barhaus yn cael fy nhueddu i gredu, bod yr holl adfeilion a chwiliwyd yn arddangos sail hen Ninefeh; a phan yn priodoli y colofnau diweddaf i'r breninoedd a grybwyllir yn yr Ysgrythyrau, Shalmanezer, Sennacherib, a Essarhadon, yr wyf yn credu bod amser mawr wedi myned heibio rhwng eu seiliad ac adeiladaeth y palasau hynaf gan Nimrod. Mae effeithiau y cynygion i ddarllen yr argraffiadau, hyd yma yn rhy ansier i wneud defnydd o enwau y breninoedd cyntefig a grybwyllir ynddynt.

"Yn fuan gwedi fy nychweliad i Loegr o Assyria, yn 1851, aethum gyda mintai, yn nghylch cant mewn nifer, o weithwyr o waith haiarn Syr John Guest, i'r Amgueddfa Brydainaidd yn Llundain. Synnais oblegid y sylw a wnaed ganddynt o wareiddiwch a chelfyddydau yr hen oesau, a synnais fyth yn fwy oblegid eu gwybodaeth mewn hanesyddiaeth Ysgrythyrol, megis ag yr eglurid y cyfryw hanes yn y colofnau a nodid genyf iddynt. Ar ddau achlysur ar ol hyn, cyfarfyddais â'r un bobl yn Dowlais, pryd y cefais gyfleusdra i'w hannerch, ynghyd ag ereill na chawsant y cyfleusdra o fod yn Llundain, ar y pwnge o'r darganfyddiadau a wnaed ar sail Ninefeh. Yr argraff ag oedd yn barod arnaf gyda golwg ar wybodaeth a galluoedd gweithwyr Cymru, a gadarnhawyd yn fwy y pryd hyny. Un ag sydd a lleshad

*

* Well done, pobl Merthyr a Dowlais, well done; eich gwybodaeth mewn hanesiaeth ysgrythyrol yn synu Dr. Layard. Mae y cyfaddefiad hwn yn llefaru cyfrolau, ac yn gwrth-lefaru yn effeithiol audystiolaethau gwyr y "llyfrau gleision."

pobl Cymru yn fawr ar ei meddwl, ac un ag sydd wedi cyfranu yn fawr iawn tuag at eu gwellhau a'n llesoli, sef yr Arglwyddes Charlotte Guest, ynghyd ag ereill ag oeddynt yn gyflawn addas i roddi pob hysbysrwydd i mi, a gyd-dystiolaethent am syched mawr trigolion y Dywysogaeth am wybodaeth ar y pynciau hyny sydd yn gysylltiedig â hanes Ysgrythyrol, a'u hawydd i gael eu goleuo yn y pyngciau hyn, drwy y darganfyddiadau diweddar a wnaed, ag sydd a thuedd ynddynt i daffu goleuni ar wirioneddan yr Ysgrythyr Lân. Meddyliodd yr Arglwyddes Charlotte Guest ar y pryd, y byddai cyfieithad o'r argraphiad talfyredig o'm bymchwiliadau yn Ninefeh, yn dderbyniol ganddynt; a'r awgrymiad hwn, ynghyd â theimlad gwladwriaethol, a dueddodd Mr. Rees, Llanymddyfri, i gymeryd mewn llaw y gorchwyl o'i gyhoeddi yn Gymraeg. Y mae amryw sylwnodau eglurhaol yn yr argraphiad Cymreig hwn, nad ydynt yn yr un Saesonaeg, gwedi eu hychwanegu er mwyn gwneuthur y gwaith yn fwy dealladwy i'r darllenwyr Cymreig. Mae yr holl arluniau a'r cynlluniau a gynhwysid yn y gwaith gwreiddiol, trwy ganiattad Mr. Murray, ei gyhoeddydd, wedi eu gosod yn yr argraphiad hwn, tuag at ei wneuthur yn egluri bob dosparth o ddarllenwyr. Yr ydwyf yn gobeithio yn ddidwyll, y bydd cyhoeddiad o'r gwaith hwn yn yr iaith Gymraeg, wirio tyb y rhai hyny a ddymunent iddo gael ei gyhoeddi, ac y bydd iddo fod yn ychwanegiad at leenyddiaeth Cymru. A. H. LAYARD."

Gallwn ninau ychwanegu ein bod yn cyd-obeithio â'r Dr. yn ei ddymuniad o barthed cylchrediad y gwaith,-y bydd i'n cydwladwyr argyhoeddi y byd eu bod hwy yn sychedig am lyfrau da,-pethau, nid rhithiau; ac felly y diogelir ganddynt o byn allan bob awdwr a ddygo allan ystwff teilwng rhag cael ei golledu yn y fargen.

Terfynwn yn awr, dichon y bydd i ni ddywedyd ychwaneg ryw bryd eto, drwy gyflwyno ein diolchgarwch gwresocaf i Dr. Layard, yr Arglwyddes Charlotte Guest, ac i Mr. Rees, Llanymddyfri.

ATEB

I Mr. W. Jones, Caerfyrddin. Anwyl Syr,-Mae yn ymddangos i mi oddiwrth eich gofyniadau nad ydych wedi talu ond ychydig iawn o sylw i'r ysgrif y cyfeiriwch ati; canys pe gwnaethech, chwi a welsech ei bod yn cynwys atebiad iddynt. Efallai na fyddai yn ormodd genych, er fy mwyn, i ddarllen yr ysgrif unwaith eto, ac os gwelwch chwi trwy wneud hyny fod eich gofyniadau yn ofer, da; ond os na welwch hyny, fe ymddengys i mi fod rhyw ddiffyg yn rhywle-ynof fi fel ysgrifenydd, neu ynoch chwi fel darllenydd, ac o herwydd hyny mai cystal i ni beidio ymhelaethu ar y pen hwn.' Os byddaf fi yn ysgrifenu ar rywbeth arall, ymdrechaf gofio mai dyledswydd ysgrifenydd yw bod yn eglur, fel y gallo pob darllenydd ei ddeall; fe fydd hyny yn foddion i gadw dyn rhag ysgrifenu llawer. Ydwyf yr eiddoch yn serchog, E. THOMAS.

ODLIG Y FRECH WEN,

A ddanfonwyd mewn llythyr at Huw Tegai.

Wele fi yn galw f’awen,
I farw pill myfyr y pen;
Eiddil bill meddwl, heb os,
I Degai, fy mrawd agos.
At Tegai, fy mrawd bygar,
Yr åf fi, heb unrhyw får:
I'w neuadd lwys, anedd lân,
A hynt åf-sef Pant Ifan,
Hygar le yn fangre lon,

Ger y wirferth GAERʼARFON.
Atolwg, sut mae'r tylu ?—a ydych
Wedi eich adferu?

A ydych, yn ddiwadu,
Drwy eich oes oll yn dra chu?

Ai yn llym y bu grym greddf
Y Freeh Wen, lofr ei chynneddf?
A wnaeth anwar noeth yni

Y Frech Wen, eich lwfrhau chwi?
A yw y fron o hoew fryd,

A'ch ysbryd, mewn gwych asbri?
Och! o'i salwch iselwael-
Sál o gorff, heb sylw i'w gael!
Ya ei chur hyll chwaer yw hon
I'r ddannodd fydd ar ddynion.
A! Tegai fad, hoewgu fwyn,
Oes ichwi achos achwyn?
O'r holl loes, a lwyr wellasoch,-gyfaill,
Er ei gofid gawsoch?
A oes brwnt &l iasau broch
Y Frech Wen, yn frych ynoch?
Adroddwyd gan dri, heddyw,
Nad oes ôl y nwydes wyw;
Na wnaeth y Frech, annoeth frau,
I gyd ond man-bigiadau ;
Mai cochion yw'r olion roes
Yn awy-rudd y wên eirioes,
O'r un llun hagr, yn llenwi

Nodau chwain blin, hydoch chwi!

O Degai garedigol,
Sut'r ych? Oes eto ryw 61?
O chaf hael air, rhowch, fel hyn,
O'r hanes i mi renyn.

Rhowch hanes ei thrychineb,-a gwaeau
Gwewyr ei anhwyldeb:

Ow! a wnaeth greddf noeth hagr web
Y Frech Wen, friw i'ch wyneb?

Ai olion chwain, arlun chwith,
Ydyw malldod ei melldith?
Ha! dwy-rudd wedi arwain
Nodau chwith blin haid o chwain;
Ei dull hi, heb dyllau hafn,
A wisgir-os yn ysgafn :
Daionus ydyw hyny-
Achos ail ddiolch y sy'.

Y Frech Wen drom frycha'n drwch-
Anurddo wna ein harddwch;
Hon hefyd a greithia groen,
A garwi gwenau gorhoen.
Dyg erwin nodau gorbyll—
Gwenau heirdd a ddyg yn hyll:
Difa prydferthwch dwy-foch,
Gyda nodau rhychau rhoch!
Anwar iawn yw! hon, i'r naill,
Hylla ddwy-rudd-lladd eraill !-
Na hiliwch hyllu natur,
Gwell yw pwyll a gallu pur.
Anwylbeth geneth, yn går
I'w llygaid, yw croen lliwgar;
Ond talent yw tystiolaeth
Enaid corff dan nodau caeth.

• Neu,

Byth i gorff rhywbeth a går Y llygaid yw croen lliwgar.

[blocks in formation]

MEIRIADOG, yma'r ydwyf—
Gwych yn awr, ac iach iawn wyf.
E går y gân gwr y gwydd,
Neu lan yr afon lonydd:

A lle gwych felly i gân,
Yw pwynt hafaidd Pant Ifan.
Daethum o fwg adwythol
Y dre'n awr adre'n ol;-
Caf bellach gyfeillach fydd
Gan awen fel gwin newydd.
Wrth ganfod sorod y Sais,
Am dd-1-d y meddyliais;
Dyfod maent o'u tad diafol,
Ant ato dan heidio'n ol.

I wae trwm yn cyd-dramwy
Mae glythion a meddwon mwy!
Y twyllwyr sy'n mantellu,
A'u gwên deg, eu gwenwyn du.
O gwr i gwr, mae'r dref i gyd
Yn un tanllwyth puteinllyd;
Yn eu plith, acw'n y pla
Y gwelir meibion Gwalia.

O! fy enaid cwynfanus,
Wyd am roi'n dom ar ûs
Rai fagwyd, freintiwyd ar fron
Y daer efengyl dirion.

Er hyn y mae rhai yna,
Ocs yn hon, rai dynion da,
O deg Gymry digamrwysg,
Na ro'nt i bechod ei rwysg,
A'u camrau yn neddfau Naf,-
Llwydd iddynt oll a waeddaf.

Gofynwch ar gyfanwaith
Barddonol, ag ethol iaith,
"A oes brad hen iasau broch
Y Frech Wen yn frych ynoch ?"
Nac oes; fy loes droes ar drai,
Ac ol y Frech Wen giliai.
Gan ochain yn gwanychu
Bum dro, dan ei dyrnod du,
Do, frawd, mewn carchar di fri,
Ac o dan y cadwyni:

Ei hebillion, heb balliant,
Fy nhyllu a'm nodi wna'nt;

A mi'n un yn min henoed,
Ie'n wir, dros ddeugain oed;
Bum o'm traed i'm pen enyd,
Drwy'r Frech Wen, yn gen i gyd,
A'm croen brychlyd, crachlyd, crin,
Yn arwach na photen eirin.
E giliodd pawb o'm golwg
Arw draw, fel rhag gwr drwg;
Ond un, daeth enaid hono
Yn y daith i'm dilyn, do.
Dyn nid yw o'i ryw ond rhan,
Haner yw dyn ei hunan :
Mynych, yn wir, gwelir gwall
Ar wr, heb haner arall.
Mynwes a dwylaw menyw,
A'i gofal dihafal yw.
Dagrau o garedigrwydd
Ymlithrant-rhedant yn rhwydd

Drwy lygaid hon, i'r fron frau,
Fu lwythog fil o weithiau.

Yn bwyllog, fy mrawd, bellach (Gan fy mod yn hynod iach) Oni ddylwn addoli

Fy Ner, am fy adfer I?

Fy awen, os awen wyd, Mwy esgyn, ac ymysgwyd O'th syrthni, i foli'n fad Fy Ior, am fath adferiad; Dyro gân fywlan o fawl Gwresog, i'r Ceidwad grasawl; Gwan a dim, heb genad Ion, Yw meddyg a phob moddion; Am hyny, frawd, ymuner Mewn mawl, yn unawl, i Nêr. H. TEGAI.

DAROSTYNGIAD CRIST.

"Yr hwn ac Efe yn gyfoethog er ein mwyn ni a ddaeth yn diawd."-PAUL.

Messia y nefoedd oedd ryfedd gyfoethog,

Er mwyn yr annuwiol, a welwyd yn dlawd; Er mwyn y pechadur oedd euog a damniol, Disgynodd i'r ddaear, ymwisgodd mewn cnawd. Hyn heddyw sy' destun yn deilwng o sylw

Angylion, Cerubiaid, rhai canaidd eu pryd,
Fod Crist y Goruchaf, ar fynydd Golgotha,
Yn rhoddi ei fywyd i achub y byd.

Pen Awdwr y bydoedd, yn gorwedd mewn cadach;
Yn orwael ei wisgoedd, yn welw ei wedd;
Yn gadael dysgleirdeb gogoniant y nefoedd;
Yn gadael yr orsedd anfeidrol ei sedd;
Gadawodd addoliad gwirfoddol angylion,

Sy'n cyson glodfori Tri Pherson mewn Un;
Gadawodd holl gyfoeth dyhysbydd y Wynfa,
Wrth ddyfod i'r ddaear i achub y dyn.
Er cread bydysawd y molwyd ein Harglwydd,
Gan dyrfa aneirif sy'n uchel eu cân;
Seiniwyd alawon soriarus dihafal

Gan lu o seraphiaid oedd santaidd a glân;
Ymlonai cerddorion melusbêr gogoniant,

Gan ddedwydd ymsyllu wrth fydru eu mawl, A Christ ein Hachubwr a dynai brif sylw Holl ddeiliaid claer-wynion pur wledydd y gwawl.

Ond er yr anrhydedd berthynai i Iesu

Hyd faith ymherodraeth y nefoedd i gyd; Cariad tragywyddol y fonwes drugarog,

A'i denai i farw dros yr "annuwiol mewn pryd." Fy nghalon alara wrth gofio y driniaeth

A gafodd ein Hiesu o'r preseb i'r groes;
Pwy feddwl ddych'myga y tlodi aeth iddo?
Pwy enaid a draetha ei fywyd a'i oes?
A myrdd o gystuddiau y blinwyd ein Prynwr;
Cymerodd ein dolur, a'n dirmyg, a'n poen;
Holl uffern yr eglwys a yfodd i'w enaid ;-
O ryfedd y tlodi oedd tlodi yr Oen!
Ein Pen a orthrymwyd hyd eithaf galluoedd
Gelynion anhygar, atgasaidd eu bryd.

O garchar a barn y cymerwyd ein Harglwydd-
Ow! 'rerlid a gafodd wrth dramwy drwy'r byd.
Hynyna a gynwys "ddirgelwch duwioldeb,"
Fod Crist, er ei gyfoeth, yn dyfod yn dlawd;
Fod Perydd anfeidrol y maith eangderau,

Yn gwisgo ei Dduwdod mewn mantell o gnawd; Fod marw Creawdwr yn fywyd creadur,

A gynwys ddirgelwch annhreiddiol pob oes; Fod llwybr i achub y dyn ydoedd euog,

Sy'n dangos rhagoriaeth athroniaeth y groes. Trwy dlodi yr Iesu boddlonwyd cyfiawnder, A chliriwyd y llwybr i deyrnas yr hedd; Trwy dlodi yr Iesu, bydd miloedd i'w gweled Yn fwy na chonewerwyr yn dyfod o'r bedd: Tlodi ein Harglwydd fydd testun y ganiad, Am oesoedd diderfyn ar fryniau y gwawl; O Arglwydd, fy Nghrewr, santeiddia fy enaid, Ac yna yn dragywydd y rhoddaf it' fawl. ERYR GLAN TAF.

Glan-yr-afon.

PENILLION

A gyfansoddwyd ar ol darllen ysgrifau g
Parch. J. Evans, Abercanad, ar
"Ar-
ddodiad Dwylaw," yn Y Bedyddiwr, ac
ysgrifau y Parch. J. Jones, Caersalem,
mewn atebiad iddynt yn Y Greal.

Ar y macs mae dau o gewri,
Mewn prysurdeb yn ymddadla;
Evans fawr o Abercanad,

A Jones, Caersalem, gyfaill difrad.
Hardd yw gweled dynion gwylaidd,
Da eu gair ac efengylaidd,
A'u hamcanion mewn prysurdeb,
I gael allan bob cywirdeb.

Pwy addasach i gael allan,
Drwy eu dysg a'u doniau gwiwlan,
O hyll gorsydd dwfn anwiredd,
Berlau drud a thêg gwirionedd ?

Nid ymfrwydrant fel gelynion,
Er mwyn derbyn clod gan ddynion;
Ond cyd-ddygant i'r goleuni
Bob athrawiaeth er eu profi.

Y pwne sy ganddynt idd ei chwiliaw,
Yn awr yw pwne y "Gosod dwylaw;
Nis gadawant hwn yn llonydd,
Heb yn llwyr egluro'i arwydd,
Chwi aelodau yr eglwysi,
Sylwch ar y pwnc heb oedi;
A chalonau union bernwch,

P'un o'r ddwy athrawiaeth gredwch ?
D'wedai Evans mewn modd cadarn,
Beth sydd idd ei bwnc yn sylfa'n,
Arferiadau'r apostolion,

Ef a ddilyn mewn dull ffyddlon.

Yn Y Greal mae Mathetes,
Mewn agweddiad gun a chynes,
Yn beirniadu ar ysgrifau

Evans gadarn-mawr ei ddoniau.

Llwyddiant fo i'r ddau wr mwynaidd,
I ddwyn allan y gwirionedd :

A chalonau têg i ninau,

I iawn farnu cu rhesymau.

MACWATH.

NESAU AT DDUW I MI SY DDA.

Nerth a chadernyd plentyn Duw
Yw gorsedd gweddi, tra bo byw;
Cyfeillach felus yma ga-
Nesâu at Dduw, am hyn, sy dda.
Yr hwn sy'n gofyn, er yn wael,
A'r hwn sy'n ceisio sydd yn cael;
F'r hwn sy'n curo, agor wna-
Am hyn, Nesâu at Dduw sy dda.

Er gwaeled wyf, gwrandawiad llawn
A gaf, er byred yw fy nawn;
Heb ddannod bai, fy nerbyn wna-
Nesâu at Dduw i mi sy dda.

Maddeuant yma gaf gan Dduw,
O'm holl golliadau o bob rhyw;
A than fy mron rhoi heddwch wna-
Nesâu at Dduw i mi sydd dda.

Hoff gan y llygaid wel'd y dydd,
A hoff gan gaeth yw bod yn rhydd;

I minau, er fy holl draha,
Nesâu at Dduw yn wir sy dda.

Ni raid im' ofni dweyd fy nghwyn,
Mae'n Dad sy'n hoffi cyd-ymddwyn;
Er bloesged wyf, fy neall wna-
Nesau at Dduw, fel hyn, sy dda.

Llanfair.

MEIRIADOG.

CYLCHDREM Y MIS.

Y GYLLIDEB.

MAE dirgelion y gyllideb o'r diwedd wedi eu gwneud yn hysbys. Llawer o ddychymygu a dyfalu a fu mewn perthynas i'w natur. Addawsid pethan mawrion. Yr oedd Disraeli i foddloni pob dosbarth, yr oedd y trethi i gael eu gosod ar y deiliaid, mewn Daybr mor esmwyth, fel na byddai gan neb le i yngaa gair mewn ffordd o achwyniad. Nad ydyw wedi gwneuthur hyny a ganfyddir yu amlwg oddiwrth y talfyriad canlynol o boni. Y tuchanwyr cyntaf oeddynt y dosbarth lluosog hwnw oedd â wnelont a llongsu, ac i'r rhai hyny cynygiai Disraeli i estyn y cymborth canlynol:

1. Nid oedd llongau masnachol i dalu ond am oleuadau a ddefnyddient.

2. Tollau mynedol i gael eu symud. 3. Y dreth ar longau er cynaliaeth cluschan corfforaeth i gael ei symud. Costiai y cyfnewidiadau hyn i'r wlad oddeatu can mil yn y flwyddyn.

4. Pwyllgor i gael ei benodi i chwilio i mewn i'r cwestiwn o longlywiaeth (pilotage)

5. Morwyr mewn llongau masnachol yn ymrestru yn y llynges freninol i beidio a derbyn eu cyflogau hyd nes y telid i'r dwy. law ereill, ac os byddai i'r cadben ddyoddef trwy golli y dynion a ymrestrent, yr oedd i gael ei ddigolledu gan y wlad. A dau neu dri o bethau dibwys ereill. Ar ol taflu asgwrn bychan i foddloni y trefedigaethau oeddynt yn tyfu siwgr, y rhai y byddai Sr. J. Pakington yn proffwydo eu dinystr byth a hefyd, ychydig o amser yn ol daeth Disraeli at yr amaethwyr. Gwnaeth lawer • addewidion teg iddynt hwy, ond druain, y cyfryw ydoedd y cyfnewidiad yn amgylchjadau pethau fel nad oedd ganddo i'w gynyg gyda golwg arnynt, ond y cyfnewidiadau canlynol, ac os bydd iddynt lesoli yr amaethwyr, cofier mai nid o herwydd hyny yr oedd Disraeli yn eu cynyg, ond meddai efe ei hun, yr hyn oedd ganddo mewn golwg oedd lles y trenlydd. Wel dyma'r cyfnewidiadau y mae Disraeli yn eu cynyg, yn dwyn perthynas a'r amaethwyr.

1. Treth y prif ffyrdd i fod yn destun rheithsgrif benodol.

2. Am y dreth sirol nid oedd gan y Llywodraeth un gwrthwynebiad i'r egwyddor ynarychiolawl.

3. Haner y dreth ar frag ac ar hopys i gael ei dynu ymaith, yr hyn a gostíai i'r wlad £2,600,000.

Gan mai lles y treulydd oedd gan Disraeli mewn golwg, yr oedd yn foddlawn, mae'n yaddangos, i golli dros ddwy filiwn a haner bunan er mantais y diotwr a'r meddwyn ! Ar ol gwneud cymaint er mantais yfwr Carw, gallesid dysgwyl y buasai yn gwneud llawer mwy dros yr yfwr te. Ond i'r gwrth

wyneb yn hollol y mae. Y cwbl a wna i ostwng pris y drwyth dra llesol hono ydyw gostwng y dreth 44c. y flwyddyn gyntaf, a 2c. bob blwyddyn hyd nes y bydd y dreth yn swllt y pwys. Wrth gynyg gwneud y gostyngiadau mawrion hyn mae yn naturiol gofyn a oddef cyllid y wlad hyny. Mae yn rhaid ateb na wna, ond y mae Disraeli yn cynyg gwneud y diffyg i fyny drwy ychwanegu nifer y personau sydd i dalu treth uniongyrchol, ar eu derbyniadau blynyddol, sef pawb a dderbynio gan punt oddiwrth fasnach neu yn gyflog yn y flwyddyn i dalu 54c y bunt, a'r neb a dderbynio haner can punt ac uchod oddiwrth eiddo sefydlog i dalu 7c. y bunt, ac i'r dreth gael ei hestyn at yr Iwerddon. Cynygia ddyblu y dreth ar dai, a gwneud pawb a dalo ddeg punt o ardreth yn agored iddi. Nid ydym mewn un modd yn gallu canfod y bydd y goden hon yn dderbyniol gan y wlad. Er mwyn ychydig o gymhorth amheus i'r amaethwyr, a'r tirfeddianwyr, ac er mwyn gwneud cwrw yn rhatach, a thrwy hyny ychwanegu meddwdod ac anfoesoldeb y tir, gwneir beichiau y dosbarth canol a'r gweithiwr cyffredin yn drymach o lawer na chynt. Gostyngiad y dreth ar frag ydyw prif nodwedd y goden hon, ac a ydyw y wlad yn barod i ddweyd mai hon oedd y dreth fwyaf angenrheidiol ei symud, ac ychwanegu trethi ereill er gwneud y diffyg i fyny, sydd gwestiwn ag y mae yn afreidiol i ni dreulio dim geiriau i'w ateb, pe buasai ein gofod yn caniatâu hyny.

FFRAINC.-YR YMHERODRAETH.

Prydnawn ddydd Mercher diweddaf, aeth y Seneddwyr yn un corff i St. Cloud, er mwyn hysbysu i Louis Napoleon derfyniad eu hymchwil i'r bleidleisiaeth, yr hyn a ddatganent fel y canlyn:-O blaid yr ymherodraeth, 7,824,189; yn erbyn, 253,145. Mewn atebiad i gyfarchiad y Senedd wrth gyflwyno llais y wlad, traddododd Napoleon araeth, o'r hon y talfyrwn yr hyn a ganlyn:

[ocr errors]

Foneddigion,-Nid yw y teyrnasiad newydd a sefydlir genych heddyw yn sylfaenedig, megys llaweroedd a goffêir mewn hanesiaeth, ar drais, buddugoliaeth, neu ystryw, y mae fel y datganasoch yn awr, yn ganlyniad cyfreithlon o ewyllys y bobl oll, yn cydgorffoli mewn tawelwch yr hyn a sylfaenwyd yn nghanol cynhwrf. Yr wyf yn ddwys ddiolchgar i'r genedl, yr hon dair gwaith mewn ysbaid pedair blynedd, a'm cynaliodd â'u pleidlais, a phob tro yn mwyhau y mwyafrif er ychwanegu fy ngallu. Ónd pa fwyaf yr enillo y gallu hwnw mewn cangder ac mewn grym bywiol, o hyny yn fwy y mae mewn angen am ddynion goleuedig, fel y rhai o'm hamgylch bob dydd o ddynion annibynol, megys y rhai a gyferchir genyf yn awr-i'm harwain â'u cynghor, ac

i gyfyngu fy awdurdod o fewn terfynau cyfiawn, os byth y gall grwydro y tuhwnt iddynt. Yr wyf yn cymeryd heddyw, gyda'r Goron, yr enw o Napoleon III., o herwydd bod ewyllys y bobl eisioes wedi ei roddi i mi gyda bonllefau, o herwydd fod y Senedd wedi ei gynyg yn gyfreithlon, ac o herwydd ei fod wedi ei gadarnhau gan yr holl genedl." Wedi addef cyfreithlondeb y llywodraethau a'i blaenorodd er marwolaeth ei ewythr, a chyflwyno ei ddiolchgarwch i'r Dirprwy wyr a'r Seneddwyr, efe a derfynai fel hyn: -"Cynorthwywch fi oll i sefydlu yn y wlad hon, yr hon a ddyryswyd gan gynifer o chwyldroadau, lywodraeth ddiysgog, sylfaen yr hon gaiff fod crefydd, cyfiawnder, gwirionedd, a chariad at y dosbeirth llai ffodus. Ac yna derbyniwch fy llw, nad arbedaf unrhyw ymdrechion i sicrhau llwyddiant ein gwlad ein hunain; a thra yn myntumio heddwch, ni roddaf i fyny mewn un pwnc a fyddo yn perthynu i anrhydedd ac i fawredd Ffrainc." Derbyniwyd yr araeth gyda bloeddiadau uchel o gymeradwyaeth gwresog, ac yn enwedig ei therfyniad.

[ocr errors]

Am un ar ddeg boreu ddydd Iau, darfu i Prefect y Seine, wedi ei amgylchu gan y swyddogion perthynol i gorfforaeth Paris, gyhoeddi yr Ymherodraeth wrth yr Hotel de Ville, yn nghanol bloeddiadau o "Vive l'Empereur.' Yr oedd y Senedd wedi ymgyfarfod saith o'r gloch y boreu, ac aethant yn eu gwisgoedd swyddol i St. Cloud, er mwyn ffurfio yr orymdaith yn nygiad yr Ymherawdwr i'r brif ddinas. Gwnaeth Napoleon ei ymddangosiad yn Paris, gyda'i osgordd fawreddog tuag un o'r gloch, yn nghanol bonllefau y bobl, y guard cenedlaethol, a'r fyddin. Ond dywedir fod lluaws yn edrych arno yn bur oeraidd, heb amlygu y gradd lleiaf o lawenydd. Y mae Napo

leon yn awr wedi cyrhaedd nod uchaf ei uchelgais; ac er fod cryn anfoddlonrwydd iddo ymgyfenwi yn Napoleon III. gan awdurdodau peuaf Ewrop, nid ydyw yn debyg y gwneir nemawr sylw o hyny. Ond ym. ddengys nad ydyw Rwssia nac Awstria yn rhoi fawr o ymddiried yn ei broffes am feithrin heddwch; canys y mae Rwsia yn casglu yn nghyd fyddin o 200,000 ar ei therfynau gorllewinol; ac Awstria hithau, yr hon oedd yn lleihau ei byddinoedd, wedi rhoddi attalfa ar hyny.-Yr Amserau.

MODRYB LYDIA A'R YSWAIN. "WEL, Lydia, sut yr ydych chwi heddyw? ni chefais y pleser o'ch gweled er's amryw wythnosau, mae'n debyg eich bod wedi darllen llawer o helyntion y wladwriaeth, ac y mae genych erbyn hyn eich barn am arwyddion yr amserau.'

"Dydd da i chwithau, Esquire, hyderaf eich bod yn iach, fel yr wyf finau yn ymdeimlo. Yr ydwyf wedi darllen yr oll o'r cyhoedd

iadau wythnosol a misol, ag y gallaswn gael gafael arnynt, ac nid wyf heb feddwl drosof fy hun, a ffurfio rhyw farn am yr amseroedd, ac hefyd am bethau a phersonau. Ond gyda eich cenad, Syr, mae rhai pethau a ddywedasoch y tro o'r blaen y buom yn ymgomio, sef mai buisness gweinidogion yr efengyl yw aros gartref a myfyrio eu Beiblau a'u pregethau, yn hytrach nag ymdrafferthu o barthed politics, a'ch bod wedi clywed hyn gan ddynion cyfrifol perthynol i'r Ymneillduwyr, ac mai eu barn hwy fel chwithau,

yw, mai yr Eglwys a'r cysylltiad sy rhyngddi a'r Wladwriaeth yw "bulwark Rhyddid," yn bwynt ag y carwn fel hen wreigan gael ymddyddan pellach yn ei gylch; ac er fy mod wedi blino wrth geisio lloffa ychydig lafur, y rhan fwyaf o'r dydd, eto, os oes genych amser, ni ymdrafodwn ychydig ar y pethau a enwyd. Mae arnaf chwant cael gwybod genych, Syr, pwy a olygech wrth gweinidogion? a ydych yn cymeryd i mewn yn yr ymadrodd, weinidogion yr Eglwys Waddoledig?"

"O na, Lydia, nid wyf am fynyd yn golygu Archesgobion, Esgobion, Deoniaid, Prebendariaid, Cannoniaid, Ficariaid, Rectoriaid, Curatiaid, ac Incumbiaid Eglwys Loegr; oblegid yr wyf yn ystyried eu bod hwy, fel dynion o uchel waed a dysg, a mawr eu dylanwad, ac fel dynion sydd yn derbyn degwm y wlad, dan rwymau i byfforddi a blaenori, ac i wneud eu goreu i gymhell a gorfodi y werin anwybodus, i sefyll yn wrol a ffyddlon dros hen drefniadau ; mae hyn, yn ol fy marn I, yn rhan bwysig o'u swydd hwy ; ac y mae fod eich gweinidogion chwi yn ymyraeth â phethau gwladwriaethol, yn beth annghyson a phechadurus, ac yn beth na ddylai yr aelodau ei oddef ynddynt; ac yr wyf yn gobeithio, Lydia, weled y tymor yn gwawrio, a hyny heb fod yn hir, pan y bydd Dissenters respectable, y rhai sy'n parchu yr hen Eglwys, er y tu allan i'w mhuriau, i arfer eu hawdurdod a'u dylanwad i attal y pregethwyr ymyrgar rhag iddynt ddynesu i gablu urddas hen sefydliadau."

"Wel, Esquire, dyna fi yn deall eich meddwl yn eglur, ein gweinidogion ni a olygwch. Yr ydych yn eu cydnabod yn weinidogion yr efengyl; ac am mai gweinidogion yr efengyl ydynt, dyna 'nol eich barn chwi sy'n eu hannghymhwyso i ymyraeth â phethau gwladol. Yn ol yr ymresymiad yna, mae pethau daear yn fwy pwysig na phethau'r nef; a phethau'r corff yn fwy pwysig na phethau'r enaid; a phethau tragywyddol yn llai eu pwys na phethau amser; ac mi dybiwn wrth eich ymresymiad eich bod yn lled ganiatâu (fe allai heb yn wybod i'ch hunan) fod ein gweinidogion ni, yn fwy cymhwys i ymwneud â phethau'r efengyla'r eiddoch chwithau a phethau gwladol a thy morol. Ond yn wir, Syr, fy meddwl a'm

« ForrigeFortsæt »