Billeder på siden
PDF
ePub

pab gwlad yn y dyddiau hyn-llyfr ag sydd yn debygol, ie, yn sicr o wneud mwy tuag at ddiddymu y ffieidd-dra o gaethwasiaeth na dim a wnaed erioed yn y ffordd hono o'r blsen.

Ei

Wedi ei ddarllen, tarewid ein meddwl yn rymus gan yr ymadrodd,-" Yn llaw gwraig y gwerth yr Arglwydd Sisera," a theimlwn ar ein calon i arall-eirio ymadroddion ereill o eido Debora, a'u cymhwyso at awdures y Bvir hwn :-"Bendithier Harriet Beecher Stowe, goruwch gwragedd yn y babell. llow a estynodd hi at y papur, a'i llaw ddehan at bin yr ysgrifenyddion, hi a bwyodd geethrasiaeth, ac a dorodd ei ben ef, gwán. odd hefyd, a thrywanodd ei arlais ef. Wrth ei thraed yr ymgrymodd efe, yno syrthiodd yn farw." Do, hi a bwyodd, ac a wanodd arlais anghenfil mwy creulawn a drygionus ddeng miliwn o weithiau, na'r Sisera hwnw a hoeliodd Jael gwraig Heber y Cenead gynt, ei arlais wrth y ddaear. Disgyned, ac fe a ddisgyna, bendithion myrddiynau o gaethion truain, yn gawodydd ar ei phen, a bydd coffadwriaeth Harriet Beecher Stowe yn fendigedig hyd derfynau

Cesau amser.

Y mae darnau cyfieithedig o'r llyfr hwn yn wythnosol yn Yr Amserau.

"Yr oedd Mr. Shelby yn ddyn o nodweddind canolig, yn meddu natur dda a thymher aldwyn, ac yn dueddol i fod yn dyner tuag at y rhai o'i amgylch; ac nid oedd byrdra o ddim a a ai gynyddu eysur corfforol y negroaid ar ei etifeddiaeth. Yr oedd, pa fodd bynag, wedi rhoi llawer o'i arian ar anturiaethau, a hyny heb Dear ddoethineb-yr oedd wedi myned i ddyled yn ddwfn, ac yr oedd ei ymrwymiadau am symiau mawrion wedi dyfod i ddwylaw Haley; a'r hysbysrwydd bychan hwn ydyw yr allwedd i'r ymddyddan blaenorol.

Yn awr yr oedd yn dygwydd fod Eliza, ran yn dynesu at y drws, wedi deall digon o'r ymddyddan i wybod fod y masnachydd yn gwrend cynygiadau i'w meistr am rywun.

- Baasai yn dda ganddi allu aros wrth y drws i wrando fel yr oedd yn dyfod allan; ond gan fod ei meistres yn galw arni ar y pryd, yr oedd yn rhaid iddi frysio ymaith.

"Éto yr oedd yn tybied iddi glywed y masrachydd yn gwneud cynygiad am ei phlentyn: as tybed ei bod yn camgymeryd? Chwyddodd a chriodd ei chalon, a gwasgodd y plentyn at ei mynwes mor dyn, yn ddiarwybod iddi ei hun, fel yr edrychodd y creadur bychan i fyny i'w gwyneb mewn syndod.

Eliza, fy ngeneth I, beth sydd arnat ti heddyw?" ebe ei meistres, pan oedd Eliza wedi troi'r ddysgl ymolchi, wedi taflu'r weithfasged i lawr, ac yn y diwedd yn cynyg, megys dan synfyfyrio, goban nos laes i'w meistres, yn Be'r gwn sidan yr oedd wedi peri iddi ei hestyn o'r ddilladgell.

"Startiodd Eliza. O meistres!' ebe hi, gan godi ei llygaid; yna, gan dòri allan i wylo, eisteddodd i lawr mewn cadair, a dechreuodd grio yn hidl.

"Wel, Eliza anwyl, beth sydd arnat ti ?" ebe ei meistres.

[blocks in formation]

"O! meistres! a ydych chwi yn meddwl y gwnai fy meistr werthu Harri?" a thaflodd y greadures dlawd ei hunan i gadair, ac wylodd ddagrau ingol.

"Ei werthu! Na wnai, yr eneth ffoli ti! Gwyddost na fydd dy feistr byth yn ymwneud dim â'r masnachwyr deheuol yna, ac nad ydyw byth yn bwriadu gwerthu yr un o'i weision, tra yr ymddygant hwy yn eu lle. Taw, yr hen beth ffoli ti, pwy feddyliet ti a brynai dy Harri? A wyt ti'n tybied fod pawb yn meddwl cymaint o hono ag yr wyt ti, yr hen fules i ti? Tyr'd, cod dy galon, a chau fy ngown I. Yna c'od fy ngwallt ôl i fyny yn y dull tlws hwnw a ddysgaist ti ddoe, a phaid a myn'd i wrando wrth ddrysau byth mwy.'

666

Wel, meistres, wnaech chwi byth oddef

i-i-.'

"Paid ag ynfydu, fy ngeneth I na wnawn I byth. Pa'm yr wyt ti yn siarad fel yna? Ni fyddai waith genyf werthu un o'm plant fy hun. Ond yn wir, Eliza, yr wyt ti'n myn'd yn rhy falch o'r haner o'r hogyn bychan yna. Ni chaiff dyn roi ei drwyn y tu fewn i'r drws na raid i ti feddwl ei fod yn dyfod i'w brynu.'

"Wedi ei sicrhau fel hyn gan dôn hyderus ei meistres, aeth Eliza yn mlaen gyda'i gorchwyl, gan chwerthin am ben ei hofnau tra yn gwneud hyny.

"Yr oedd Mrs. Shelby yn ddynes o ddosbarth uchel, mewn ystyr foesol a meddyliol. At y mawrfrydigrwydd a'r hynawsedd meddwl naturiol hwnw sydd yn aml yn hynodi merched Kentucky, yr oedd yn ychwanegu teimlad cryf o egwyddor grefyddol a moesol, yr hon a gariai allan gydag yni a gallu mawr i arferiad cyffredin. Nid oedd ei gŵr yn gwneud un honiad i feddiant o nodwedd grefyddol neillduol, eto yr oedd yn parchu cysondeb yr eiddo hi, ac yn sefyll, efallai, mewn tipyn o ofn yn ngwyneb ei barn hi. Yr oedd yn ffaith, pa fodd bynag, ei fod yn caniatâu perffaith ryddid iddi yn ei holl ymdrechion hynaws er ychwan egu cysur, hyfforddiant, a gwelliant ei gweinidogion, er na byddai efe byth yn cymeryd rhan benderfynol ynddynt ei hunan. Yn wir, er nad ydoedd yn credu yn yr athrawiaeth o effeithioldeb gweithredoedd o orober gan y saint, eto yr oedd ryw fodd yn credu fod gan ei wraig dduwioldeb a chym wynasgarwch ddigon i ddau -fel yr oedd yn mynwesu math o ddysgwyliad niwlog y gallai fyned i'r nefoedd yn nghysgod ei rhinweddau aml hi, y rhai nad oedd efe yn gwneud un honiad iddynt.

"Y peth oedd yn pwyso drymaf ar ei feddwl ar ol ei ymddyddan â'r masnachydd, oedd yr angenrheidrwydd i ddadguddio'r cwbl i'w wraig-a chyfarfod â'r gwrthwynebiad a'r erfyniadau, yr oedd yn gwybod y byddai raid iddo, oddiwrthi.

"Gan fod Mrs. Shelby yn hollol anhysbys o'r dyryswch yn amgylchiadau ei gŵr, ac yn gwybod ond am dynerwch cyffredinol ei natur, yr oedd yn eithaf dibwyll pan yn dangos anghrediniaeth hollol yn ngwyneb amheuon Eliza

Yn wir, taflodd y peth o'i meddwl heb ail ystyriaeth; a chan ei bod yn gwneud darpariadau ar gyfer ymweliad dyeithriaid y noson hono, aeth y peth o'i meddwl yn llwyr."

ROBINSON O CAMBRIDGE.

"There is a lust in man no charm can tame,
In loudly publishing his neighbour's shame:
Hence on eagles' wings immortal scandals fly,
While virtuous actions are but born to die."

Y Deisyfiad cyntaf at Senedd Prydain yn erbyn y Gaeth-fasnach.

NID yw pob un yn Nghymru yn gwybod mai y Parch. Robert Robinson, gweinidog y Bedyddwyr yn Cambridge, oedd y dyn cyntaf a ysgrifenodd Archiad at y Senedd i ddymuno am ddilead y fasnach mewn dynion. Yn y flwyddyn 1788, ysgrifenodd Robinson y "Petition" canlynol, yr hwn a arwyddwyd gan lawer yn Cambridge, ac a anfonwyd i'r Senedd.

To the Honourable, the Commons of Great Britain, in Parliament assembled. The humble Petition of the Gentry, Clergy, Freeholders, and others, in the county of Cambridge, Sheweth:

"That your Petitioners, understanding that the Slave Trade is likely to become a subject of parliamentary investigation, cannot help expressing their most earnest desire of a change in the present African trade.

"Your Petitioners are aware that Britain derives innumerable benefits from her plantations, and that the plantations depend upon the labours of Negroes; but they are not convinced that a Slave Trade is necessary for a supply of labourers. They abhor Slavery in every form, and that kind most of all, which renders cruelty necessary to the safety of the Slave-holders.

"Your Petitioners humbly represent that a Slave Trade is neither just nor safe, nor, in the present case productive; for it obstructs other branches of traffic, which promise far greater national advantages.

"Nor can your Petitioners help observing, with sorrow, that a Slave Trade is a dishonour to humanity-a disgrace to our national character-utterly inconsistent with the sound policy of Commercial States, and a perpetual scandal to the profession of Christianity.

"Your Petitioners, therefore, humbly pray this Honourable House to take the premises into consideration, and to grant such relief as they in their great wisdom shall see fit.

"And your Petitioners, as in duty bound, shall ever pray."

Fe allai y bydd i chwi, Olygwyr SEREN GOMER, fod can fwyned a rhoddi lle i'r uchodyn yn eich Cyhoeddiad tra defnyddiol; ac mewn cysylltiad â deisyfiad Robinson, y bydd i minau gael cenad i roddi un deisyfiad i mewn, at bawb a gymerant enw yr enwog Robinson yn lled ddibris yn eu genauau, neu yn eu hysgrifellau. Pell iawn ydwyf o amddiffyn un peth oedd allan o le yn y dyn mawr hwnw, ie, y dyn mwyaf a addurnodd

ei oes, neu, efallai, un oes arall o'r byd presenol; eto, gofynaf ai nid gwell i bob un gadw ei law yn llonydd na cheisio cael gafael mewn rhywbeth allan o le yn y syniadau a gofleidiai Robinson, gan fod y cwbl a ddy. wedir am dano yn hollol yn y tywyllwch, a llawer yn amheus. Eithafion o un tu a'i gyrent yntef i eithafion o'r tu arall, mewn dadleuon; ond nid oedd na gelyn na chyfaill yn cael gwybod beth oedd Robinson yn ei gredu. Dr. Priestly oedd ben Athronydd y byd yn y dyddiau hyny-ac yr oedd Robin. son o'r un chwaeth am bethau athronyddol, yr hyn a'u gwnaeth yn gyfeillion calonog, a byddent yn aml yn nghymdeithas eu gilydd. Gŵyr y byd darllenyddol fod Dr. Priestly yn awr yn un o'r Undodiaid; ac, am ddim a wn I, yn myned yn mhellach yn y gyfundraeth ddifywyd hono, na nemawr o'r ysgrifenwyr Sosinaidd ; beth bynag, mae llawer o wahaniaeth rhwng ei weithiau ef a gweithiau Dr. Channing o America. hyny, nid yw gwaith Robinson yn cyfeillachu â Dr. Priestly yn un rheswm fod y ddau o'r un daliadau ar bethau crefyddol. Nid oes achos i ni ladd dynion, na lladd eu henwau, nag ymwrthod â'r hyn sydd yn dda ynddynt, er eu bod yn gwahaniaethu oddiwrthym mewn pethau ereill--ïe, a'r pethau hyny o'r pwys mwyaf.

Er

[blocks in formation]

"For the grandeur of thy nature, (Grand beyond a Seraph's thought ;) For created works of power

Works with skill and kindness wrought, Hallelujah, &c.

"For thy providence that governs Through thine empire's wide domainWings an angel, guides a sparrowBless'd be thy gentle reign. Hallelujah, &c.

"But thy rich and free redemption,
Dark through brightness all along;
Thought is poor, and poor expression,
Who dares sing that awful song!
Hallelujah, &c.

"Brightness of thy Father's glory,
Shall thy praise unutter'd lie?
Flee my tongue, such guilty silence,-
Sing the Lord who came to die!
Hallelujah, &c.

"Did archangels sing thy coming?

Did the shepherds learn their lays? Shame would cover me ungrateful, Should my tongue refuse to praise. Hallelujah, &c.

"From the highest throne in glory,

To the cross of deepest woe,
All to ransom guilty captives,
Flow my praise--for ever flow.
Hallelujah, &c.

"Go, return immortal Saviour!

Leave thy footstool, take thy throne;
Thence return, and reign for ever;

Be the kingdom all thy own.
Hallelujah, &e., &c. Amen."

Nid wyf yn meddwl fod achos i mi ofyn cenad un dyn o chwaeth am osod yr uchodion yn SEREN GOMER, er eu bod yn Saesneg; ac ni fydd achos gofyn maddeuant un yn meddu y gradd lleiaf o ysbryd barddonol am roddi y canlynol atynt. Bydded iddynt gael eu canu gan holl ganwyr y Dy. wysogaeth.

EBENEZER.

[ocr errors]

"Come, then fount of every blessing, Tune my heart to sing thy grace; Streams of mercy, never ceasing, Call for songs of loudest praise; Teach me some melodious sonnet, Sung by flaming tongues above Praise the mount, O fix me on itMount of God's unchanging love. "Here I raise my Ebenezer, Hither by thy help I come; And I hope, by thy good pleasure, Safely to arrive at home. Jesus sought me, when a stranger, Wand'ring from the fold of God; He, to save my soul from danger, Interposed his precious blood. "O! to grace how great a debtor Daily I'm constrained to be; Let that grace, Lord, like a fetter, Bind my wand'ring heart to thee; Prone to wander, Lord, I feel it; Prone to leave the God I love: Here's my heart, Lord, take and seal itSeal it from thy courts above." Tangnefedd i enw y dyn a fedrai ganu y penillion uchod, a llonyddwch i'w lwch, medd yr eiddoch yn serchog,

CYMRO BACH.

SERYDDIAETH.

Y LLEUAD.

[Parhad o Rifyn Tachwedd, tudalen 513.] Un peth arall, tra hynod, i sylwi arno mewn perthynas i'r Lleuad, yw, pan yr edrycher armi drwy bellwelyr, bod ei gwyneb yn llawn o olygfeydd amrywiaethol, megys mynyddoedd, dyffrynoedd, creigiau, a gwastadoedd o bob gwedd a maintioli. Mae ei hagosrwydd atom, ragor y planedau ereill, fel y crybwyllwyd eisoes, yn rhoddi i ni y fantais o allu sylwi ar y golygiadau hyn gyda mwy o fanylrwydd ; ac felly yr ydys yn gallu sicrhau y pethau hyn i fwy o foddlonrwydd. Mae rhai o'r mynyddoedd yn drumiau birion ac uchel, ereill yn foelydd crynion, pigfeinion, tebyg eu llun i fynyddoedd tanllyd, yn sefyll ar ganol y gwastadoedd. Ond golygfeydd hynotaf i'w gweled ar wyneb y Llenad yw y gwrymiau cylchynol, a'r pantJau yn eu canol, y rhai sydd yn daenedig yn

mhob man drosti, fel y gellir lled deall oddiwrth y darlun yr ydym wedi ei roddi o honi. Mae y gwrymiau hyn fel breichiau mawrion yn amgylchynu gwastadoedd eangfawr, a'r moelydd pigfein hyny yn eu canol. Mae amryw ganoedd o'r gwastadoedd hyn i'w canfod ar unwaith, drwy bellwelyr da, a'r amrywiol barthau o'r gwyneb; a'u hëangder yn wahanol, o dair milldir i ddeugain o drawsfesur.

Y mynyddoedd lloerawl hefyd ydynt o wahanol faintioli a lluniau; rhai Seryddwyr a farnant bod ambell un o dair milldir i bump o uchder; ereill a haerant nad ydynt ddim cymaint. Canfyddwyd weithiau amrywiol ysmotiau dysglaer ar wyneb y lleuad pan na byddo yr haul yn tywynu arni; ac y mae'r Dr. Herschel, ac amryw astronomyddion ereill, yn barnu mai mynyddoedd tanllyd oeddynt; ereill a dybiant mai tânau mawrion oeddynt yn cael eu gwneud gan y trigolion i oleuo eu nosweithiau hirion. lloerenau dysglaer ar wyneb y lleuad a gyf rifir yn fynyddoedd, a'r rhanau tywyllion yn ddyffrynoedd neu wastadoedd. Fe allai fod rhai llynoedd bychain ac afonydd yn y Lleuad; ond nid ydym yn gallu sicrhau bod dim moroedd eang iddi.

Y

Mae holl wyneb y lleuad yn tua phumtheg miliwn o filldiroedd ysgwâr, ac felly yn ddigonol i gynwys cynifer o drigolion ag sydd ar ein daear ni, a rhoddi 53 o bobl i bob milldir ysgwâr. Nid ydys yn barnu bod dim annghysondeb â phriodoliaethau y JEHOFAH yn y dyb o fod y lleuad yn cael ei phreswylio gan greaduriaid rhesymol, eithr yn hytrach i'r gwrthwyneb; ac y mae awdwyr cyfrifol wedi datgan eu dysgwyliad y daw amser pan y ceffir allan brofion boddlonol o drigianolrwydd y blaned hon.

Mae'r naturiaethwr dysgedig, Dr. Tho mas Dick, wedi cyhoeddi yr opiniynau canlynol ar y mater hwn :

"Os cyrhaeddwn ni byth eglurhad boddlonol o drigianolrwydd unrhyw o'r cyrff wybrenol, y lleuad yw yr unig un yn yr hon y gallwn ddysgwyl bod yn alluog i olrhain, drwy delesgobau, arwyddion o weithrediadau creaduriaid rhesymol; ac y mae yn lled ddiamheuol yn fy meddwl I, pe bai amrywiol bersonau, mewn gwahanol sefyllfaoedd, yn parhau i wneuthur sylwadau manwl ar y blaned hon, y gallent mewn amser ddyfod i benderfyniad ar y mater, sef 'Pa un a yw y lleuad yn drigianol ai nid yw.' Pe bai nifer lluosog o bersonau, mewn gwahanol barthau o'r byd, yn cymeryd arnynt y gorchwyl o ddyfal graffu ar y lleuad -pe bai gwahanol ranau o honi yn cael eu dosbarthu i wahanol bersonau, fel tasg i'w chwilio-pe bai pob mynydd, bryn, ogof, clogwyn, a gwastadedd yn cael manwl syllu arno-a phob cyfnewidiad a ffurfiad newydd yn ymddangosiad gwahanol wrthddrychau, yn cael eu nodi i lawr yn fanwl o bryd i

[ocr errors]

bryd, fe ddelid mewn amser i benderfyniad boddlongar mewn perthynas i'w hansawdd. Fe ellir profi y gwnai telesgob a barai i bethau ymddangos gymaint ganwaith ag ydynt, nodi allan wrthddrychau yn y lleuad o 1223 llath o drawsfesur; ac o ganlyniad, pellwelyr a barai i bethau ymddangos fil o weithiau yn fwy nag ydynt, a nodai allan wrthddrychau ynddi o 122 llath o draws. fesur; ac felly gellid canfod gwrthddrychau o faintioli Eglwys St. Paul yn Llundain yn ddigon eglur. Gan hyny, yn ol y dull hwn o ymresymu, pe bai unrhyw gyfran o wyneb y lleuad yn cael manwl syllu arni gan amrywiol bersonau, fe ellid sicrhau a fyddai cyfnewidiadau yn y byd yn cymeryd lle yn y cyfryw fanau, naill ai drwy achlysuron naturiol, neu drwy weithrediadau dynol (os goddefir yr ymadrodd.) Pe byddai coedwig fawr yn cael ei thòri i lawr-pe bai dinas helaeth yn cael ei hadeiladu ar wastadeddpe bai dinas helaeth yn cael ei hadeiladu ar wastadedd-pe bai anial ëang yn dyfod i ymddangos yn ffrwythlawn-neu, pe byddai tyrfa dra luosog o greaduriaid byw yn ym. gasglu yn nghyd ar ryw achlysur i ryw fan benodol, neu yn ymgyrchu o un lle i le arall -y cyfryw ddygwyddiadau a ddynodid trwy gyfnewidiad cysgodau, lliwiau, neu ysgogiadau; ac o ganlyniad, a roddent brofion diamheuol o weithrediadau creaduriaid rhesymol cyffelyb i ddynolion, ac felly bod y Ileuad yn breswyliedig. Oblegid, er nad yw yn debygol y gallwn ddarganfod trigolion y Iloer (os oes y cyfryw), eto os gallwn olrhain effeithiau, y rhai nas gallant gael eu gweithredu oddieithr drwy offeryndod dirprwywyr rhesymol, fe fyddai hyny yn brawf digonol o hanfodiad y cyfryw wrthddrychau, ar yr un seiliau ag y mae moryddwr yn penderfynu trigianolrwydd ynys anhysbys, pan y canfyddo ddynol drigfanau, a meusydd amaethedig ynddi.

Cym

"Bod cyfnewidiadau achlysurol yn dygwydd ar yr ochr agosaf i'r ddaear o'r lleuad sydd ddiwâd, oddiwrth y sylwadau a wnaed gan Herschel a Schroetor, yn enwedig yr olaf. Yn hanesion gweithrediadau deithas Philosophyddiaeth Naturiol,' yn Berlin, y mae Schroeter yn adrodd, ddarfod ar y 30ain o Ragfyr, 1791, am bump o'r gloch brydnawn, ei fod ef yn syllu ar y lleuad drwy delesgob saith troedfedd, yn mwyhau pethau yn 161 o weithiau, ac iddo ganfod safn danllyd fechan yn tori allan ar lechwedd de-orllewinol y llosg-fynydd a elwir Mare Cristium, ag iddo gysgod o leiaf yn ddwy eilran a chwarter. Wrth graffu ar yr un lle ar yr 1leg o Ionawr, ugain mynyd wedi pump, nis gallai ganfod dim o'r safn danllyd grybwylledig nac o'i chysgod. Drachefn ar y 4ydd o Ionawr, 1792, canfyddai yn safn ddwyreiniol Helicon, fynydd Hwyd-oleu o dair eilran o draws fesur, yr hwn nis canfu ddim o hono mwyach, er sylwi

[ocr errors]
[ocr errors]

lawer o flynyddoedd. Yr ymddangosiad hwn,' medd yr awdwr, oedd hynod gan fod yn debygol fod y parth gorllewinol o Helicon yn ymffurfio i'w ddull presenol er amser Hevelius,* ac y mae yn ymddangos fod naturiaeth yn weithgar iawn yn yr ardal hon.' I wneuthur y fath sylwadau manwl ag a grybwyllais uchod, fe fyddai yn ddymunol, heblaw craffu ar ochr oleu y lleuad, bod i nodiadau gael eu gwneuthur ar wahanol ranau o'i hochr dywell, pan y bydd yn cael eu lledlewyrchu gan dywyniadau o oleuni ein daear ni, yn fuan ar ol ymddangosiad lloer newydd. Fe fyddai yn ofynol i'r cyfryw sylwadau gael eu parhau yn ddyfal dros hir amser, a chan luaws mawr o syllwyr yn amrywiol barthau o'r ddaear, pe byddai yn bosibl perswadio dynion i'r perwyl. Ond pe cydunid ar y peth, a bod i sylwadan lluosog gael eu gwneuthur oddiar benau mynyddoedd yn yr hin-gylchoedd gloëw, eglur yn y dehau, lle nad yw galluoedd y telesgobau yn cael eu llesteirio gan gaddug a niwloedd, nid oes fawr amheuaeth na cheid profion boddlonol o fod y lleuad yn fyd preswyliedig; neu, o leiaf, y ceid pen. derfyniad hollol ar y mater."

Am welediad y llosg-fynyddoedd yn y lleuad, mae'r Dr Herschel yn ysgrifenu fel y canlyn:

Ebrill 19, 1787.-Yr wyf yn awr yn canfod tri o fynyddau tanllyd ar wahanol leoedd o'r parth tywyll o'r lloer newydd. Mae dau o honynt naill ai ar ddiffoddi, neu ynte yn darparu i dòri allan o'r newydd; yr hyn, fe allai, a ellir ei benderfynu yn well y newidiad nesaf. Mae'r llall yn awr yn bwrw allan dân, neu ryw sylwedd dysglaer.

Ebrill 20, 1787.-Mae'r mynydd tanllyd a grybwyllais ddoe, yn llosgi heno yn fwy tanbaid fyth. Yr wyf yn casglu nad yw ei draws-fesur ddim llai na thair eilran, wrth ei gymharu â'r blaned Uranus; ac o herwydd bod un o leuadau Jupiter gerllaw, mi a droais y telesgob ati, ac yr oeddwn yn cyfrif bod traws-fesur y rhan danllyd o'r llosgfynydd yn y lleuad o leiaf cyn lleted ddwy waith a lleuad Jupiter. Felly, gellir penderfynu fod y sylwedd tanllyd, neu ddysglaer, crybwylledig, yn fwy na thair milldir o draws-fesur. Ei lun sydd hirgrwn anffurfiol, a'i ymylau yn fylchog. Mae holl amgylchoedd y llosg-fynydd hwn yn cael eu lled lewyrchu gan ddysgleirdeb y tân sydd yn tori allan, a'r dysgleirdeb hwnw sydd yn myned wanach wanach fel y byddo y pellder oddiwrtho yn cynyddu.

Mae y ddau losg-fynydd ereill a grybwyllais, yn mhellach i mewn tua chanol y lleuad, ac yn ymddangos fel dau gwmwl lled oleu, a'u canol yn ddysgleiriach na'u hymylau;

*John Hevelius ydoedd astronomydd enwog o Ddantzic, yr hwn a ysgrifenodd lawer o lyfrau seryddol, &c., ac a fu farw yn y lle hwnw yn 1688.

[blocks in formation]

Y LIUUAD GYNAUAF.*-Mae'n hysbys i'n holl ddarllenwyr, ond odid, fod y lleuad wythnos y byddo'n llawn yn amser yf yn codi yn gynt ar ol machludiad haal, nag un lawn lleuad arall yn y flwydd. . Mae hyn yn ymddangos fel pe byddai Raglaniaeth yn darbod dros ddyn i roddi iddo ychwaneg o fantais tuag at gasglu yn nehyd ei ymborth a diogelu firwyth y ddaear erbyn y gauaf, er bod y peth yn dygydd oddiar achlysuron naturiol.

Yr achos o'r dygwyddiad hwn yw bod y lead yn dyfod i'w llawn l'onaid yn y ty nor han o'r flwyddyn pan y byddo yn myned drwy ddosbarth y Pyag a'r Hurdd, y rhai ydynt gyferbyniol i ddosbarthau yr Haul yn arwyddion y Forwyn a'r Fantol; ar o herwydd fod y dosbarthau hyny yn dyrchafe yn gynt na'r dosbarthau ereill, y mae'r lleuad yn codi yn gynarach yn y tymor baw nag y mae yn amser ei llawn un tymor arall o'r flwyddyn. Yn y chwarter graf y mae'r lleuad yn myned drwy arwyddion y Pysg a'r Hwrdd yn yr wythnos yntaf o'i hoed, pan y mae'n codi tua chanol dydd; ac felly nid oes fawr o sylw yn rael ei wneud arni. Yn y chwarter gwanya, y mae hi yn myned drwy'r arwyddion ayay tuag amser ei newid, pan y mae yn weledig. Yn y chwarter haf drachefn, y mehi yn myned drwy'r un arwyddion yayr wythnos olaf o'i hoed, pan y mae hi yn codi yn y nos, ac felly yn fwy disylw gan dynion. Ond yn y chwarter cynauaf, am yr hwn yr ydym yn son, mae'r lleuad yn yaed drwy arwyddion y Pysg a'r IIwrdd pan y mae ar ei llawn llonaid, ac yn codi mryw nosweithiau yn olynol yn fuan ar ol machlud haul, yr hyn sydd yn peri i'w chyfodiad fod yn fwy sylwadwy nag yn un tyor arall o'r flwyddyn.

Pe byddai llwybr yr haul a llwybr y Lead yr un, ni byddai dim gwahaniaeth ♫n nghodiad y lleuad gynauaf y naill flwydda ragor y llall; eithr gan fod llwybr y Heard yn gwahaniaethu 18° 18' oddiwrth lwybr yr haul, ac yn ei groesi mewn dau bne, y rhai a elwir ei hoddfau (nodes); felly yn rhai blynyddoedd ni byddai ei chod

ad wrth fyned drwy arwyddion y Pysg a'r Herdd yn gwahaniaethu dim dros awr a dengain mynyd drwy yr holl wythnos; ond men blynyddoedd ereill fe fydd gwahanaeth o dua thair awr a haner yn ei chodiad, ol gwahanol sefyllfaoedd ei hoddfau gyda lug ar yr arwyddion; ac y mae'r sefyllfaoedd hyny yn newid o hyd, am fod yr oddfyn croesi llwybr yr haul bob 18 mlyneld a 225 diwrnod.

nodol hon, megys lleuad gynauaf-lleund naw Mae gan y Cymry amrywiol enwau ar y lleuad nas oleu-liver y march melyn lleuad gwyr Iál, &c.

Y DDAEAR.

MAE daearyddiaeth yn bwnc dyddorawl a buddiol. Meddu gwybodaeth am y ddaear a gynhyrfa ein syndod, ac a duedda i gynyrchu ynom barch at yr hwn a'i gwnaeth, ac sydd yn ei chynal. Pob un teilwng o'r enw dyn, a sycheda am y wybodaeth hon. Ar y ddaear yr ydym yn preswylio; daear yw ein cyrff; cynyrch y ddaear sydd yn ein cynal; ac mewn cell fechan yn y ddaear y gorphwyswn hyd udganiad yr udgorn diweddaf.

Er eich mwyn chwi, ddarllenwyr ieuaine y SEREN, bwriedir dyferu, yn awr ac yn y man, rai defnynau ar ei thudalenau ar ddaearyddiaeth.

Gofyniad. Beth yw daearyddiaeth?
Atebiad. Darluniad o'r ddaear.

Gof. Beth yw ffurf y ddaear?

At. Barnai yr henafiaid ei bod yn wastad fel bwrdd, ac yn cael ei chynal gan golofnau. Bernir yn awr er ys mwy na 2,000 o flynyddau ei bod yn gron, neu yn agos felly, fel eur-afal (orange). Hawdd yw profi ei bod felly. Pan mae llong yn myned i'r môr, brig yr hwylbren a welir ddiweddaf; pan yn nesu at y lan, ei brig a welir gyntaf. Pe gwastad fuasai y ddaear, buasai y lleng oll yn myned o'r golwg ac yn dyfod i'r golwg ar yr un pryd. Diffyg ar y lleuad a brawf yr un peth mae cysgod y ddaear yn disgyn ar wyneb y lleuad yn gylchaidd. Mae y cysgod yr un ffurf a'r corfi a'i achosa.

Gof. Beth yw maintioli y ddaear?

Ateb. Ei hamgylchedd yw 24,872 milldir; ei thryfesur (diameter) wrth y cyhydedd yw 7,977 milldir, ac wrth y pegynau 7,940 milldir; o ganlyniad, ei gwyneb a gynwys yn agos i ddau gant o filiynau o filldir. oedd yn ysgwâr; ei phwysau ydynt tua 2,200,000,000,000,000,000,000 o dunelli. Os yw y ddaear mor fawr, rhaid bod yr hwn a'i gwnaeth yn fawr iawn!

Gof. Beth yw pellder y ddaear oddiwrth yr haul.

At. Pedwar ugain a phumtheg o filiynau o filldiroedd.

Gof. A yw y ddaear yn ysgogi?

At. Ydyw; mae iddi ddau ysgogiad, un o gylch ei phegynau, yr hyn a gymer le bob pedair awr ar ugain, ac yn ffurfio dydd a nos, goleuni a thywyllwch; gelwir hwn, yr ysgogiad dyddiol. Y llall o gylch yr haul, yr hyn a gymer le yn flynyddol, ac yn ffurfio haf a gauaf, oerni a gwres; gelwir hwn yr ysgogiad blynyddol. Y pegynau a ysgogant yn araf oddiwrth ac at yr haul. Y pegynau un tymor o'r flwyddyn, wrth droi o gylch yr haul, a ymsymudant oddiwrtho, yr hyn a ffurfia y gauaf. Y tymor arall ymsymudant ato, yr hyn a ffurfia yr haf. Pan mae y ddaear yn y canol rhwng y ddau bwynt hyn, yr haul yn unionsyth uwchben y cyhydedd, y mac yn wanwyn, a hydref, a'r dydd a'r nos yr un hyd i holl drigolion y ddaear.

LLAIS O G-B-N.

« ForrigeFortsæt »