Billeder på siden
PDF
ePub

24

O tosturiwn wrth y gweinion,

Sy â'i boliau 'n wag, a'u traed yn nocthion,
Braidd do i'w ty, braidd dân i'w haelwyd,
A braidd wely dan eu cronglwyd.

Wel, ni ganwn haleluwia,
Am fod haulwyn ar ei yrfa
Tuag atom-unwaith eto
Daw y flwyddyn i flodeuo.

Y NATURIAETHYDD.

YN y trefydd, efallai mai mis Ionawr yw y mis mwyaf anghysurus yn yr holl flwyddyn. Y mae difyrwch wedi hollol lechu o dan dô, ac o fewn ystafelloedd cynes. Nid oes unpeth i'w gael yn yr heolydd ond llithro drwy y llwtrach aflan ac oerllyd. Eithr nid felly yn y wlad. Yma y mae difyrwch yn campio drwy yr eira, ac ar y rhew. Natur, ar dreion, a ymwisga mewn gogoniant rhagorol; gellid meddwl fod yr holl goed, a phob bargod tŷ a chlogwyn yn tyfu a dyferu perlau, yn ymyl pa rai na fyddai y Kohinoor ei hun onid rhith o beth. Ac, er na fwynheir cerddoriaeth myrdd o ednod yn y goedwig werdd, eto gyd, miloedd mwy o adar a ymfudant i'r wlad hon yn y gauaf nag yn yr haf. Y fath heidiau afrifed o adar y pigau hirion; y pigau caledion; ac o'r cyfandroedolion a ymwelant â chrigyllau ein moroedd, glenydd ein hafonydd, a chanol ein llynoedd yn y tymor hwn. Y rhan fwyaf o honynt ydynt wedi glanio er mis Tachwedd; ond fel y mae y gauaf yn caledi yn ngororau gogledd ddwyreiniol Ewrop, heidiau newyddion a ddeuant drosodd, ac yn eu plith yr alarch gwyllt (cygnus.)

Cyfansoddiad hwn a ddengys ei fod yn går i'r hwyaden a'r wydd; ac nis gellir gwahaniaethu ei gorpws noeth oddiwrth yr wydd. Eithr yr olwg allanol arno sydd lawer ardderchocach; a phawb a'i hedwyn pan yn nofio y llyn mewn mawrhydi megys brenin yr adar dwy-elfenol. Gwyn yw ei liw yn gyffredin. Dywedir fod rhai duon yn Holland Newydd. Addurna yr alarch yr afonydd a'r llynoedd yn yr hinsoddion gogleddol. Nofiant yn gyflym; ac y mae eu hehediad yn nerthol ac yn faith, 100 milldir yr awr; y maent yn byw yn gymdeithasol, ac ymborthant ar hadau, gwreithiau, a rhanau ereill y dwfr-lysiau; eithr bwytânt hefyd lyffaint, pryfaid, Gwnant eu nythod yn agos i fin y dwfr, ar a thrychfilod. y ddaear. Byddant byw i oedran hen. Y mae eu cnawd yn fras, tywyll, a lled aflasus. Pig coch sydd gan yr alarch dof, a chnwpa ar ei flaen. Yn ei gyflwr gwyllt, yr alarch

a

breswylia ddyfroedd gogledd-ddwyrain Ewrop. Mesura wyth droedfedd o flaen un aden i'r llall pan yn estynedig; a phwysa ugain neu bump ar ugain o bwysau. Y mae mor nerthol, fel nad adnebydd ei gryfach, ond yr eryr, a daw weithiau yn fuddugoliaethwr o'r frwydr yn erbyn hwnw. Y mae ei bluf mor fan, aml, a thyn, fel mai anhawdd

ei glwyfo ond ag ergydion cryfion a thrymion. Aflafar yw ei lais, er hyny, deua drwy' sŵn y gwynt yn soniarus, yn enwedig i'r Laplandiaid, y rhai a lawenychant ynddo fel darogan yr haf. Nid gwir yw, mai yn unig o flaen marw y cana. Ychydig o honynt a fagant gywion yn nes atom na'r Orkneys ac ynysoedd ereill yn ngogledd Ysgotland. Kamschatka, Siberia, a Lapland yw eu prif gartref.

PIBELL DDYBACO Y FRENINES. GWELSOM, yn ein dydd, bibelli o bob maint a dull. Yn Germani, lle y ceir y fath oreu o ddybaco am ugain ceiniog y pwys, a dail tybaco rhagorol am bum ceiniog, y mae pibelli ail i ffwrnesi, mewn cymhariaeth i'r pibelli cyffredin, a cheir dynion yn y wlad hono yn arfer ysmocio haner pwys o ddybaco ac yfed galwyn o gwrw cyn cyfodi oddiar eu heistedd. Ond nid yw hyny onid rhyw ffrit o orchwyl at y bibell freninol a gallu ysmociol Victoria o Loegr. Yn ddiddadl, canys nyni a'i gwelsom, y mae pibell y Frenines gymaint a mil o'r pibellau mwyaf a ellir ddwyn allan o ystordai y byd ysmocyddol presenol. Nid yn unig y mae ganddi was i gyflwyno y bibell iddi pan y bydd arni eisieu ysmocio, eithr y mae efe o dan orchymyn arbenigol i gadw y cyfryw bibell yn y gywair ysmociol oreu bob amser, gan ofalu fod tân bythol yn ei phen, gan nad faint o ddybaco a losgir; y canlyniad yw, mygu y mae hi-(y bibell) ddydd a nos yn oestadol. Ac er ei chadw felly, nid yn unig y mae gorfeistr yn perthyn iddi, ond amryw wasanaethwyr hefyd yn chwilio beunydd am y tybaco cymhwysaf dy y Frenines (canys y mae ganddi ystordy iddi. Y mae bob math o ddybaco yn ystorcang pwrpasol) Siag, Cwt-yr-hob, Cafanig, Manilig, Hafanig. Ceglys, Sierwtig, Pen-ynegro, a phob rhyw nicotig; a phrofir pob un o honynt yn eu tro mewn ffordd o amrywiaeth. Nid yw un geglysen i'r bibell hon onid ail i wibedyn mewn safn llew. Arfera

y gorfeistr daflu maweidiau mawrion o Hafanigion i'r bibell hon, ac wedi hyny sypynau dirfawr o Giwbigion. Efallai y lleiheir peth ar syndod y darllenydd fod y fath allu ysmociadol gan y Frenines, wrth i ni nodi, fod y Frenines, fel y cyflawna hi amryw o'i gweithredoedd breninol, felly hefyd yn ysmocio drwy eu gwasanaethyddion. Mewn gair, a chyfaddef y gwir, nid yw ei Mawr. hydi byth yn ysmocio ond drwy ei gweision. Ac ymddengys hyn yn dra phriodol, pan ystyrir maintioli pen ei phibell, yr hwn sydd o'r mesur mwyaf ymerhodrol; canys, pan y mae ei sawdl ar lawr y seler, ei safn sydd uwchlaw tô yr ystordy. Dyna y ffaith, fel y gall pob un a gaffo docyn i'w gweled, farnu pan y myno drosto ei hun. Diamheuol yw, fod yn rhaid cael amryw o dunelli o ddybaco i gadw hon i fygu drwy y flwyddyn.

1. y mae cymaint o ddybaco yn angenrheidiol, fel y cedwir llawer o longau yn unswydd i'w drosglwyddo, ac y mae llonglyn (dock) o er ei faintiolaeth, yn perthyn i'r llongau hyn yn unig yn Mhorthladd Llundain. Mewn gair, ni bu mewn unrhyw oes gwlad, bibell ysmocio, o ran maint, gwasanaethiad, diwalliad, a difâd tybaco, yn ail i Bibell y Frenines.

Os yw ein darllenwyr yn synu wrth y sylwadau yna, synant fwy at yr hyn a ychwanegir am y bibell hynod hon; ac os oes gradd o amhenaeth yn eu meddyliau o barth gwirionedd ein chwedl, gwasgerir ef drwy y feithiau dyfodol.

Ffarnes fawr yw Pibell Ddybaco y Frenines, yr hon sydd wedl eu hadeiladu yn nghanol ystordy tybaco fawr llonglynoedd Llundain. Dyben y ffwrnes hon ydyw, difa yr holl ddybaco gwaethygedig a gludir i borth. A chan mai ystordy y Frenines yw yr ystordy, gelwir, o dan ei henw felly, y Ernes yn Bibell y Frenines; ac y mae y pethau nodedig yn wirioneddau am dani, ac yn peri fod y bibell hon, a'r pethau perthyansol iddi, yn un o'r pethau rhyfeddaf yn y deyrnas.

Pe byddai unrhyw un yn ewyllysio ffurfio barn gywir am ryfeddodau Llundain, a

theg o erwau, gyda dwfr i nofio pedwar cant o longau, ac ystordai i gynwys pedwar cant a phedwar ugain o filoedd o dunelli o nwyfau; y mae cyfalaf y Cwmni hwn yn fwy na chwe miliwn o bunau; a gwelwyd, cyn hyn, werth mwy nag ugain miliwn o bunau o fewn eu terfynau. Yn olaf, Llonglynoedd yr India Ddwyreiniol, ar ddeuddeng erw ar ugain, ac ystordai i bumtheg mil o dunelli o nwyddau.

Saif yr holl longlynoedd hyn ar bedwar cant a haner o erwau, yn cynwys cyfleusderau i fil a dau gant o longau, a phum cant a deg ar ugain o filoedd o dunelli o nwyddau.

Eithr nid yw y rhai yna ond y llonglynoedd ar yr ochr aswy i'r afon; ar yr ochr arall estyna llonglynoedd o Rotherhithe hyd Deptford; Llonglynoedd Surry, a Llonglynoedd gwlad y Dwyrain. Pan yr edrychir ar ëangder dirfawr y llonglynoedd hyn, a phan ystyrir swm y nwyddau ynddynt, Tyrus a Sidon a ymddiflanant megys yn ddim yn eu hymyl.

Ond, ar hyn o bryd, nid oes fynom ni ag un o'r llanerchi rhyfeddol hyn, oddieithr Llonglynoedd Llundain, fel eu gelwir, canys hwynt-hwy sydd mewn cysylltiad â Phibell y Frenines ymborth yr hon ydyw, nwyddau gwaethygol ac anwerthadwy yr ystordai hyn.

:

gwin, gwlân, chwaethion, tê, ifori, cyffuriau, tybaco, siwgr, coed lliwio, meteloedd, a phethau cyffelyb cludiedig o'r Dwyrain; gellir cael tocyn gan yr ysgrifenydd er gweled yr holl bethau fel y gorweddant yn bentyrau anferthol, oddieithr y tê a'r ifori. Os byddis yn ewyllysio profi y gwin, rhaid cael tocyn priodol i hyny.

mawredd cyfoeth y deyrnas hon, dylai ym-Y pethau neillduol a ystorir yma ydynt, weled a llonglynoedd Llundain. Ar ol iddo gerdded hyd a lled, synu at y miliynau pell, en bywiogrwydd, eu gorlawn gyfoeth, yr aneitif amryfal gelfyddydau cyflawnedig ya mhrif-ddinas y ddaear, ar ei fynediad i'r Longlynoedd, efe a deimla, yn adnewyddol, y syndod mwyaf bythol ag a deimlodd erined. Canfydda, o ymyl y Tŵr hyd Blackwall, am bedair milldir o ffordd, fyd o glynoedd. Nid oes y fath nifer o longan, y fath ystordai ëang ac uchel, laweroedd ohonynt yn bum, saith uchder, oll yn orlawn o glogwyni anferthol o nwyddau o bob parth o'r byd, yn un parth o'r ddaear, ac ni fu ychwaith. Y mae dychymyg dyn yn pallu o dan y fath fynyddoedd o gyfoeth ag a welir yn y mangreoedd hyn. Dyna yr ymwelydd yn myned i Longlynoedd St. "Catrin, gwel eu bod yn sefyll ar dair erw ar ngain o dir, ac yn alluog i nofio chwech ugain o longau; ac yn perthyn iddynt ystordai digon eang i gynwys cant a deg o filoedd o dunelli o nwyddau; y mae cyfalaf (capital) y Cwmni yma ei hun yn ddwy filiwn o bunau. A yr ymwelwr yn mlaen i Longlynau Llundain, fel eu gelwir, a dyna y rhei'ny yn sefyll ar fwy na chan erw o dir, ae yn alluog i nofio pum cant o longau, ac ystordai i ddau gant a phedwar ar ddeg ar ugain o filoedd o dunelli o nwydd. an; y mae cyfalaf y Cwmni hwn yn bedwar miliwn o bunau. Llonglynoedd yr India Orllewinol ydynt y rhai nesaf, ac y maent dair gwaith mor eang a'r olaf, yn sefyll, nid ar laí na dau gant a phedwar ugain a phum

Wel, dyna chwi a minau, f'ewythr, yn myned i mewn drwy ddorau Llonglynoedd Llundain. Ceir cerdded oddiamgylch y lle, gweled y llongau, a'r bobl yn gweithio heb docyn. Dyma ni, yn amgylchynedig gan ystordai, a dynion, ceffylau, trolfeni, &c., rhai yn cludo nwyddau i mewn, a'r lleill allan o honynt. Ar y llaw dde, dyna ystordy yr ifori, i'r hon ni cha undyn fyned heb docyn neillduol. Nis gallwn ddeall yr achos o'r ddeddf fanwl hon, yn enwedig, gan ei bod yn hollol benderfynol yn erbyn y boneddigesau. Nis gallai un fenyw ddwyn dant elephant ymaith yn ei mwff, y mae yn rhy drwm, tua 112p. Ond rhaid fod rhyw fenywod lladronllyd wedi dwyn ymaith ddant rhinoceros, o ddeuddeg pwys, efallai, neu rywbeth cyffel yb, o werth saith swllt ar ugain y pwys, i beri sefydliad y fath ddeddf, er darostyngiad i'r holl rywogaeth.

Ar lawr yr ystordy hwn, y mae pentyrau mawrion o ddanedd elephantod, o ugain i gan pwys o drymder; cyrn rhinoceros, cleddyfau y cleddbysgodyn ac ungorn y môr. Dyma lle yr oedd, yn ddiweddar, ysbail Mr. Cumming yn Affrica: ac, yn wir, yr olygfa a drosglwydda y meddwl yno, i syllu ar y per

yglon a gyfarfyddir yn yr anialwch, pan preswyliwn ni yn heddychol gartref.

Fel yr elom i lawr i gadlas y llonglyn, chwi a welwch o'ch blaen lanerch eang wedi ei phalmantu â chostrelau gwin, oll yn llawn o'r gwinoedd goreu. Dyna dwll bwng pob un o honynt yn agored, brathwch eich bŷs i mewn, efallai mai y Bordeaux pereiddiaf ydyw. Y ffaith yw, dyma ystordy mawr y gwin, perthynol i farsiandwyr Llundain, lle yr ystorir, dim llai na thri ugain mil o beip. iau yn y daear-gelloedd. Y mae un gell yn unig, yr hon, amser yn ol, oedd yn saith erw o faintiolaeth, wedi ei helaethu o dan Gravel Lane, hyd onid ydyw yn ddeuddeng erw yn awr? Lled-oleuir celloedd hyn gyda lampau, a phan y byddwch ar fyned i mewn, gofynir i chwi y frawddeg hynod-" A oes arnoch eisieu cowper?" Amryw, heb fod yn deall y gofyniad, a atebant, "Nac oes yn enw dyn.' Yr ystyr yw, "A oes arnoch eisieu profi y gwin?" Ac os atebir yn ga. darnhaol, daw cowper gyda chwi, er tyllu y casgiau, a rhoddi i chwi y gwin. Y mae cyfeillion bob dydd, a thrwy y dydd, yn tramwy y celloedd hyn er eu gweled a phrofi y gwinoedd. Rhoddir i bob dyn ar ei fynediad i mewn, lamp ar ben aisen, tua dwy droedfedd o hyd, a buan y gwel dyn ei fod yn tramwy rhai o'r ogofeydd rhyfeddaf yn y byd. Wrth oleu y lamp, gwelir heolydd culion a'u hei. thafion yn ymgolli yn y gwyll, a rhai ereill yn eu croesi yn y fath fodd dyrys, fel na wyddai undyn, onid un eithaf cyfarwydd â daearyddiaeth y fangre dànddaearol, pa ffordd i esgyn o honynt. Uwchben, yn y celloedd, yn enwedig un o honynt, gwelir yn grogedig gyrff dyeithr yr olwg arnynt, mor ddued a'r nos, mor ysgafned a'r gwawn, a thua llathen o hyd neu ragor, yn debyg eu hun i grwyn bwystfilod, neu hen grysau wedi eu trochi mewn huddygl. Tawch y gwin a grea y rhai'n. I'r ymwelyddion ag fydd yn ewyllysio profi y gwin, tylla y cowper ben y peiprau, y rhai ydynt wedi eu rhestru yn filoedd a degau o filoedd, ar bob llaw, yn yr holl selerydd eang hyn, ac arllwysa wydraid. Y gwydrion hyn, er wedi eu llunio fel gwydryn gwin, ydynt o faint cwpan, ac a gynwysant amryw wydrion o win. Wedi i'r dyn yfed a fyno o'r gwydraid, tywelltir y gweddill ar y llawr; a chyfrifir fod tua hogsied o win yn cael ei wastraffu fel yna bob dydd. Aml gyfeillion, pan yn trachwantu cyfeddach, a ymofynant am docyn profi, a chan gymeryd teisenod celyd (biscuits) gyda hwy, ânt i'r seleri hyn, ac a yfant y fath foroedd o'r gwinoedd goreu, ag a yrai ddysgyblion y Tad Mathew i anobaith tragywyddol am eu cyfIwr. Y mae deddf hynod eto yn y lle hwn, yn gwahardd i fenywod fyned i mewn ar ol un o'r gloch. Rhaid fod rhyw achos o'r ddeddf hon, efallai, rhywbeth yn debyg i'r ffaith grybwylledig.

Y mae uwchben y selerydd hyn le a elwir

Tŷ y Cymysgu, mor hynod a hwythau-ynddo y mae amryw gerwynau mawrion, i ba rai, pan y bydd marsiandwr yn ewyllysio cyfartalu ei holl winoedd o un gwin gynauaf, y gall ollwng y peipiau, a'u llenwi drachefn. Deil y gerwyn fwyaf yn y lle hwn dair mil a dau gant o alwyni, ac nid yw y glodwiw Gerwyn o Heidelburg ond casgen fach yn ei hymyl.

Eithr gofynwch, f'ewythr, Beth sydd fyno celloedd gwin hyn â Phibell y Frenines? Hyn yn nghanol y gell fawr ddwyreiniol, deuwch at adeilad fawr gron heb un fynedfa iddi. Sail a gwraidd Pibell y Frenines ydyw. Pan esgynir i'r ystordy uwchben y seler, gwelwch eich bod yn ystordai mawr y tybaco, yr hon a elwir ystordy y Frenines, am yr ardrethir hi gan y llywodraeth am £14,000 yn y flwyddyn. Nid oes ystordy gyfartal i hon yn y byd, y mae yn bum erw o eangder, er hyny, y mae tô arni, ffrâm yr hwn sydd o haiarn, a meddyliwn mai Mr. Barry, adeiladydd y Senedd-dai, a osododd y tô hwn hefyd, yr hwn sydd mor oleu fel y gellir gweled yr holl le; ac y mae y colofnau mor feinion, a phob peth yn ymddangos mor ysgafn, fel y gellid tybied fod y tô ëang yn crogi ar ddim. Y mae wmbredd o ddybaco mewn casgiau mawrion, wedi eu cyfleu yn rhestrau dwbl, y naill gasg ar y Hall, yn ystoredig dan y tô hwn. Dywedir, pan y bydd yr ystordy hwn yn llawn, y cynwysa bedair mil ar ugain o hogsiedi, ac yn mhob un o honynt, ar gyfartaledd, fil a dau gan pwys o ddybaco; ac yn gyfartal i ddeng mil ar ugain o dunelli o nwyddau cyffredinol. Y mae pob casgen, a rhoddi y cyllid i mewn, yn werth dau gant o bunau; ac felly, pan y byddo ond yr un ystordy hwn yn llawn, bydd ynddo werth pedair miliwn ac wyth can milo bunau o ddybaco! Heblaw hwn, y mae ystordy arall agos gymaint ag yntau, yn yr hwn y diogelir y fath oreu o ddy baco, llawer o hono mewn sachau o groen Buffalo, a'r nodyn, "Giron" a Manila," arnynt, a pheth arall mewn sachau lliain, yn wisgedig o fewn â daily balmeto. Ac y mae ystordy arall i'r ceglys (cigars), yr hwn a elwir Llawr y Ceglys, yn yr hwn y mae yn aml fil a chant o gistiau, yn werth can punt yr un, ar gyfartaledd, neu werth can mil a haner o gegIysion.

Y mae yr olygfa yn ystordy y Frenines yn un hynod iawn. Heolydd hirion a ymestynant rhwng rhestri o gasgeni tybaco ar bob Пlaw; a phan y mae y dynion yn absenol ar amser bwyta, ca dyn hyd iddo ei hun mewn unigfa hynod, ac mewn awyr o ddy baco. Ca pob un o'r casgeni ci wagâu ddwy waith yn yr ystordy o'r tybaco, unwaith pan y daw i mewn i'w bwyso, a'r ail waith pan ei prynir, er mwyn edrych pa un a ydyw wedi gwaethygu neu beidio; ac er pwyso yr hyn sydd gyfaddas i fyned o dan gyllid, a'i werthu i'r marsiandwr. Ac fel hyn, cymera y cowper

mae

Wedi

iaid yr hogsiedi hyn ddwywaith oddiwrth eu gilydd, a dodant hwy i fyny drachefn. Y tybaco hwn yw y brasaf a'r cryfaf, ac a defnyddir i wneuthur cwt-yr-hob, siag, snisyn, &c. Yn yr ystordy arall, ceir y gorea. Dyna fynegfys, ac arno yn argraff. edig, "I'R ODYN," yn dwyn sylw y llygaid. Gan ddilyn y cyfarwyddyd yna, deuwn i anol yr ystordy ac at Bibell y Frenines. Awa i fewn drwy ddrws, ar yr hwn brasiun o'r goron freninol, a'r llythyrenau V. R., a dyna ni mewn ystafell yn nghanol yr hon y mae yr odyn yn ymgodi tuag i fyny; fernes ydyw yn y ffurf bigfain, fel tŷ gwydr neu odyn lestri. Y mae y llythyrenau V. R. a llun y goron ar ddrws y ffwrnes. eyrhaedd yma, canfyddir tân anferthol yn y fwrnes, ac oddiamgylch y mae pentyrau mawrion o ddybaco, tê, a phethau ereill wedi gwaethygu yn barod i'w taflu iddo pan ddel y cyflensdra. Tân anniffoddadwy yw hwn o ddydd i ddydd, ac o flwyddyn i flwyddyn. Y mae gŵr y tân yn gofalu am dano i'w ddiwallu fel y bydd yn galw, ddydd a nos; ac yn y dydd, y mae dynion yn cludo beichiau yn barbaus tuag ato o ddybaco, ceglysion, a phethau ereill dedfrydedig i'r fflamiau. Beth bynag a fforffetir, ac sydd yn rhy ddrwg i'w werthu, bid a fyddo, ei dynged yw yr odyn yn y llonglynoedd ereill, sicrheir i ni eu bod yn claddu nwyddau gwaethygedig yn y disear byd oni byddont wedi pydru, ac yna ya eu gwerthu yn wrtaith. Eithr yma, Pibell y Frenines a ysmocia y cwbl i fyny, oddieithr tomenydd mawrion o dê, yr hwn ni kegir onid yn anaml yn awr, am y bu agos i'r lle fyned ar dân wrth ei losgi amser yn

. A phethau rhyfedd iawn a losgir yn y fernes hon weithiau. Ar un pryd, dywedodd y gwasanaethydd, efe a losgodd naw cant o forddwydydd defaid Awstralia.

Yr

oedd y rhai hyn wedi cael eu hystori cyn i'r cyllid gael ei dynu ymaith. Eu perchenog a'u gadawodd hyd nes y diddymwyd ef; gan hydera y celai hwy yn ddigyllid, ond pan na chaniateid hyny iddo, efe a'u gadawodd yn yr ystordy nes eu dyfetha. Eto gyd, dywedodd y dyn, fod llawer iawn o honynt ya eithaf blasus; ac iddo ef wneuthur ychwanegiad rhagorol at ei foreufwyd o'r rhost, yr hwn am amser, a ddygwyd yn mlaen mor beraroglaidd. Ar dro arall, bu iddo losgi tair mil ar ddeg o bârau o fenyg Ffrainc.

Y mae tunelli lawer o ludw y bibell mewn man eyfagos, yr hwn a werthir, ar arwerthiad, wrth y dunell i'r garddwyr a'r ffermwyr ya wrtaith, ac er lladd pryfaid; gwerthir ef hefyd i gyfferwyr, a gwneuthurwyr sebon. Gwelir pentyrau o hoelion mewn congl arall, a darnau ereill o haiarn, y rhai a ysgubwyd oddiar y llawr neu a lynasant yn y nwyddau taffedig i'r ffwrnes. Y rhai hyny a gasglwyd o'r iladw a brynir gyda'r parodrwydd mwyaf gan y dryll ofiaid, er gwneuthur barilau dry ilau, at yr hyn y maent yn dra chymhwys,

gan eu bod yn wydnach na phob haiarn arall, ac am hyny, yn annhebycach o hollti. Ceir aur ac arian hefyd yn aml yn y lludw canys torir amryw gelfi llaw-grefftyddol an farchnadol a thwyllodrus, a theflir hwy i'r ffwrn. Ar rai prydiau a fu, llosgwyd nifer fawr o watches tramor, proffesedig mai aur oeddynt, eithr a brofasant yn dwyllodrus, malwyd hwy mewn melin, a thaflwyd hwy i'r odyn.

Dyna, f'ewythr, i chwi hanes Pibell y Frenines, un heb ei hail o ran rhyw a'i gallu i ddifa. Nid oes yn un o'r llonglynau ereill un peth tebyg iddi. Hi a saif yn unig. Hi yw y bibell- -ac fel y dywedasom, y mae hi wedi cyfodi enw Brenines Lloegr, nid yn unig yn ben teyrn y ddaear, ond hefyd yn ben ysmocrag y ddaear-heb eithrio y Twrc Mawr, neu Ymherawdwr Awstria, tybacwr mwyaf Ewrop.

NODWYDDAU DUR.

YN Redditch, swydd Gaerangon, gan Mr. John James, y mae un o'r gweithfeydd nodwyddau dur mwyaf yn Lloegr. Awn yno i roddi tro. Y peth cyntaf yw, cael y gwefrau; ceir y rhai goreu o swydd York, a'r rhai gwaelaf o Birmingham. Y peth nesaf yw tòri y gwefrau i hyd priodol; hyny yw, hyd dwy nodwydd yn yr un darn, gwneir hyn â gwellaif mawr o dan fesuriad penodedig. Yn nesaf, unionir y gwefrau, gan eu bod wedi dyfod mewn cylchau, y mae rhyw faint o gylchder yn y darnau, gan hyny, llenwir dwy fodrwy â sypyn o'r darnau, a rhoddir hwy mewn ffwrn hyd oni byddant yn wyn eirias; yna, tynir hwy allan, gosodir bàr o haiarn ar wàr y sypyn rhwng y ddwy fodrwy, a rholir y sypyn yn ol ac yn mlaen ar ford briodol, hyd oni bydd y gwefrau yn wastad. Yn nesaf, dygir hwy at y maen- llifo i'w blaenllymu. Gwaith oedd yn lladd dynion mewn ychydig amser oedd hwn hyd o fewn ychydig o flynyddau yn ol; am fod mân-lwch y dur a'r gareg yn cael ei lyncu gan y gweithwyr i'w cyllâu a'u hysgy faint. Nid oedd nemawr o weithiwr yn byw hyd ddeugain oed. Y maent yn awr wedi dyfeisio bonet uwchben y maen, a gwyntyll oddi dano; y wyntyll i sugno y llwch ati, a'r bonet i'w lyncu dros wegil y maen. Ymeif y llifwr mewn dau ddwsin, mwy neu lai, o'r darnau, a deil y blaenau ar y maen, gan eu troi o hyd rhwng ei fŷs a'i fawd. Yna try y pen arall, a gwna yr un modd. Y gorchwyl nesaf yw pwyo (stamp) a rhigoli, yr hyn a wneir á pheithyn dwbl yn nghanol pob darn, a hyny yn nghynt nag y gellir cyfrif. Yn nesaf, tyllir y crai,-hyn eto ag ystoncyn dwbl ar y pwyad yn nghanol y wefran, ac fel yna, tyllir crai dwy nodwydd ar yr unwaith; tyllir pedair mil o wefrau, hyny yw, wyth mil o nodwyddau mewn awr, a dim onid un bachgen a ofala am y gwaith.

די

Y peth nesaf yw gwanu y nodwyddau. Bachgenyn a wthia wefren feinach na blew. yn pen drwy ddau lygaid y darnau, tua dau ddwsin ar y tro. Yna menyw gref o arddwrn a'u cymer o law y bachgen, ac a'u gesyd ar blâd, lle y ffeilia hi bob garwder ymaith. Yna, dygir hwy gan fenyw arall at ei heingion fach, lle y ffeilia hi y darnau yn y canol rhwng y ddau lygaid er ysgaru y nodwyddau. Hon hefyd a ffeilia ysgarthion y pen. Yna caledir hwy drwy eu rhoddi mewn ffwrn, a phan yn eirias wyn, eu taflu i ddwfr. Tymherir hwy ar lechwen boeth, a phan ymddangosant yn las, teflir hwy o'r neilldu i oeri. Y gorchwyl nesaf yw eu gloewi-heuir tua haner can mil o nodwyddau ar wrthban llyfnyr (mangle) mawr, a heuir gyda hwy lwch emeri, olew, a sebon meddal, yna rholir y gwrthban mor dyned ag y gellir, a rhwymir ef â llinyn, fel yr ymddengys yn debyg i bwdingen afalau; yna, manglir y rholyn o dan bwysau y llyfnyr am wyth awr; pan y dattodir ef.

Rhoddir

olew, sebon, a llwch emeri yn draphlith yr ail waith, a menglir am wyth awr drachefn. Ar ol y driniaeth hon, byddant yn arogli yn gryf: teflir hwynt i ddwfr, lle y rhwtir hwy yn dda.

Cyfodir hwy oddiyno, a theflir hwy i flawd llif i'w sychu. Cyfodir hwy oddiyno i ogr, gogrynir y blawd llif, a cheir y nodwyddau yn ngwaelod y gogr. Tynir ymaith y rhai gwallus-heb grai, neu flaenau, a theflir hwynt o'r neilldu. Seiri dodrefn a brynant y rhai digrai er hoelio celfi cywraint, a'r gweddill a brynir gan wŷr Birmingham er gwneud barilau drylliau. Yna, trydd genethig gadach o amgylch bŷs ei llaw ddehau, a theimla yn mhlith y nod. wyddau, glyna nifer yn y cadach, a thrwy gymhorth ei bysedd ereill, cyfyd hwy o'r pentwr, a gesyd hwy o'r neilldu: ac â at yr un gorchwyl drachefn. Y gorchwyl nesaf yw eu cyfartalu,-cymerir offeryn rhywbeth yn debyg i linyr (ruler) llechog, gosodir y nodwyddau arno, a menyw a deimla â'i bysedd o bob tu i'r llinyr, symuda y rhai annghyfartal, a lleinw ei lechwedd â'r rhai cyfartal. Gosodir hwy o'r neilldu i'w sypynio wrth y chwarthor cant; a'u hanfon i bob cwr o'r ddaear.

TEGANAU RHYFEDDOL.

Y MAE yn werth sylwi wrth fyned heibio, f'ewythr, ar ysgog-ddelwau (automatons) yn ysgogi drwy glocwaith. Yn y rhan flaenaf o'r ganrif o'r blaen, bu Ffrancwr cywraint yn y pethau hyn o'r enw Jacques de Vaucanson. Yn y flwyddyn 1738, gwnaeth gawr o Ffliwtiwr, yn sefyll ar letroed (pedestal): (yn yr hon, yn nghyd â'r corff, yr oedd y peirianwaith.) Y ddelw hwn a gyfodai y ffliwt at ei wefusau, y rhai a wlychai â'i dafod, teimlai am y twll a'i blaen, chwythai i'r ffliwt, a chwareuai y

tonau gosodedig yn berffaith gywir â'i fys. edd. Megin oedd o'i fewn ac nid blwchmiwsic. Vaucanson a wnaeth hwyaden hefyd ar yr un egwyddor-yr oedd ei holl gyfansoddiad yn berffaith ddynwarediad allanol a mewnol honcianai dan gwacian drwy y llaid i'r llyn, brathai am ei bwyd, ymsoddai a chwareuai yn y dwfr fel y rhai byw. Gresyn na buasai y fath gywreinydd wedi troi ei feddwl fel Arkwright, Watt, &c., at gelfyddyd fuddiol yn lle teganau. Ond ymddengys ei bod hi yn rhy foreu yn ei amser, canys cyflogwyd ef gan y llywodraeth unwaith i fyned i Lyons er ffurfio peiriant i weu sidan; eithr y gweithwyr a'i lluchiasant â cheryg o'r dref. Yntau, er dial arnynt, a wnaeth beiriant, yr hwn a weuai y blodau harddaf ar ddamasc sidan, ac a osododd asyn i'w weithio. (Digon tebyg nad oedd yr asyn gynt mor ufudd ag agerai y dydd hwn). Y mae dyn yn awr yn Boulogne, yn dangos swynwr cywraint o'r fath yma, yr hwn a chwery ysgwt-y-gwniadur (thimblerig) i berffeithrwydd. Y mae y swynwr hwn yn wisgedig yn nillad dwyreiniwr, yn sefyll ar fwrdd yn llawn, fel y gwelir byrddau swynwyr, o flychau a ffardialach ereill angenrheidiol at y grefft. Cymer ei wniaduriau a dengys y bysen o danynt; yr hon a ymddengys ac a ddiflana gyda'r deheurwydd arferol yn awr, bydd dwy neu dair pysen yn ymddangos ar lecyn gwag o'r blaen; mewn eiliad, byddant wedi diflanu, dacw hwy wedi eu gwasgaru, dacw hwy gyda'u gilydd eto yn y llecyn draw.

[ocr errors]

Ar ganmoliaeth yr edrychwyr, cyfyd y swynwr ei ben, edrycha o amgylch y dorf, gwena, pengryma iddynt, ac â at ei waith drachefn. Gosoda y gwniaduriau ar y pŷs, saif i ddidwyllo yr edrychwyr nad oes unpeth yn ei lewys. Yna ymeifl yn y gwniaduriau, ac â yn mlaen â'i orchwyl. Tery y ford, ymddengys wŷ, at yr hwn y cyfeiria; cyffyrdda â'r wŷ, yr hwn a egyr ar ei hŷd, a dyna aderyn yn rhedeg o hono, yn ysgwyd ei edyn prydferth (o wir blu' yr aderynhum), cân ei dôn, a dychwela yn ol i'r wŷ. Y swynwr a drydd ei olygon o amgylch y dorf, gwena, pengryma, ac eistedd i lawr, er dangos fod y chwareu wedi myned drosodd. Tair modfedd yw hyd y gŵr enwog hwn, a'i holl offer ydynt gyfartal. Saif ar leithig baentiedig fel marmor, eithr tin yw ei ddefnydd, ac o'i fewn y mae y clocwaith. Gyda phethau fel hyn, f'ewythr, yr oedd hen weilch crefft-offeiriadol gynt yn twyllo y byd.

Y WASG.

UNCLE TOM'S CABIN; or Negro Life in the Slave States of America. Gan HARRIET BEECHER STOWE.

LLYFR ag sydd yn rhedeg fel trydan drwy y byd, a thrwy galonau dynion gwareiddiedig

« ForrigeFortsæt »