Billeder på siden
PDF
ePub

ddelw yma.

cydymdeimlad lleiaf yn mwynhâd na gofidiau plant dynion. Yr oeddynt yn rhy bur a goruchel i gael eu heffeithio i'r graddau lleiaf yn y modd hwn. Nod yr hen athroniaeth hono oedd codi dynoliaeth i'r cyflwr a'r

Eu desgrifiad o ddyn doeth oedd yn cyfateb i'w desgrifiad o'u duwiau. Nid oedd iddo i fod a wnelai âg amgylchiadau tymmorol y byd presennol;-nid oedd na da na drwy y bywyd hwn i gael unrhyw effaith arno ef—y gallai edrych ar losgiad dinasoedd, dibobliad gwledydd, ïe, a chyfarfod â phob trychineb a gystuddia ddynoliaeth yn ei deulu, ac yn ei berson ei hun, a bod yn berffaith ddisylw o honynt, ac ymdeimlo yn gwbl ddedwydd o danynt? Pethau hollol islaw ei urddas ef, y doeth, fuasai rhoddi ei feddwl am fynyd i ddyfeisio neu ddysgu celfyddyd. Diystyr a dirmygedig yn ngolwg yr athroniaeth hon oedd pob ymgais i ysgafnhau beichiau ac esmwythau doluriau dynoliaeth. Annheilwng o’i dyn doeth hi fuasai iddo roddi ei fyfyrdod ar waith i geisio ychwanegu at gyfleusderau, manteision, a dedwyddwch tymmorol bywyd. Mor gywir a phriodol y dywedai yr apostol am yr athronwyr hyny, "Pan dybient eu bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid !” Ymddengys eu hathroniaeth yn ardderchog iawn ar bapyr. Gosodent hi allan yn ymadroddion cryfaf yr iaith gyflawnaf a rhagoraf a feddai y byd. Yr oedd yn arddangos “doethineb ymadrodd” o'r fath mwyaf ysplenydd, y mae yn wir; eto nid oedd doethineb yn yr ymadrodd hwnw. Yr oedd nod yr hen athroniaeth hono yn anghyrhaeddadwy, gan hyny yr oedd yn ynfyd. Ymladdai yn erbyn holl deimladau a greddfau priodol y natur ddynol. Profodd y doethion hyny ynıldynt eu hunain mai “ofer oeddynt yn eu rhesymau. Yr oeddynt yn teimlo gofidiau, ac yn mwynhau melusion bywyd yn gystal a dynion craill

. Yr oeddynt mor awyddus a neb i ochelyd poen, neu i gael ymwared oddiwrtho :-pan wrth ddiystyru parch a phoblogrwydd, dyrchafiad ac anrhydedd yn y byd, ni bu dynion erioed yn fwy awyddus i'w mwynhau. Rhyfedd fel y swynodd yr athroniaeth hon y byd dysgedig am oesau. Gynnifer o allorau a gyfodwyd i Plato, Aristotl, a Seneca, ac eraill. Yr oeddynt yn ddiau yn ddynion o'r galluoedd a'r talentau mwyaf ysplenydd, ac ar yr un pryd yn dallu y byd, ac yn ei gamarwain â hudlewyn twyllodrus. Bacon oedd yr athronydd cyntaf a feiddiai feddwl_0 leiaf a feiddiai ddadgan yn gyhoeddus, yn erbyn nod eu hathroniaeth : y cyntaf fel athronydd, ydym yn feddwl. Gosododd ef nod arall a hollol wahanol i athroniaeth i gyrchu ato. Yr hyn a ddiystyrid ac a ddirmygid ganddynt hwy fel peth rhy isel a gwael, a ddyrchefid ganddo ef fel yr unig nod teilwng o honi. Ei amcan ef ydoedd cael athroniaeth i ddwyn ffrwyth i'r byd-i leihau gofidiau, attal trueni, ychwanegu cyfleusderau a dedwyddwch bywyd yn mhob peth ac yn mhob modd-arwain y meddwl dynol at naturiaeth, rhoddi gwialen celfyddyd yn ei law i daro y graig â hi, fel y ffrydiai y dyfroedd allan o honi.

"Nod yr athroniaeth Blatonaidd," medd Mr. Macauley, "ydoedd gwneuthur dyn yn dduw. Nod athroniaeth Bacon ydoedd darparu i ddyn yr hyn sydd yn anghenrheidiol arno tra y parhao i fod yn ddyn. Amcan yr athroniaeth Blatonaidd oedd ein codi uwchlaw anghenion cyffredin ein natur. Amcan athroniaeth Bacon ydoedd di. wallv yr anghenion hyny. Yr oedd nod y cyntaf yn ardderchog, ond yr eiddo yr olaf oedd yn gyrhaeddadwy. Tynai Plato mewn bwa rhagorol, ond yn gyffelyb i Acestes yn Virgil, annelai at y ser; o ganlyniad, er nad oedd nerth na dyfais yn eisieu, yr oedd y saeth yn cael ei gollwng yn ofer. Yr oedd yn wir megys yn lluchedenu yr awyr &

dysgleirder tanllyd ar ei gyrfa, ond nidoedd yn cyrhaedd un nod. Sefydlai Bacon ei lygad ar nod gosodedig ar y ddaear, a tharawodd ef yn ei galon. Dechreuai athroniaeth Plato mewn geiriau, a dybenai mewn geiriau; geiriau ardderchog iawn yn wir-y cyfryw eiriadaeth ag a allesid ei dysgwyl oddiwrth y dealltwrineth gwychaf, yr hwn a feddai gyflawn feistrolaeth ar y iaith ddynol ardderchocaf. Dechreuai athroniaeth Bacon mewn sylwadaeth, a dybenai mewn celfyddydaeth.

Y mae erw o dir yn Middlesex yn well na thywysogaeth yn nhiriogaeth dychymyg. Gwell yw y daioni gwirioneddol lleiaf, na'r addewidion gorwychaf o bethau anmhosibl eu cyflawni. Byddai dyn doeth y Stöiciaid yn wrthddrych mwy ardderchog nag agerbeiriant yn ddiau. Ond y mae agerbeiriant yn bod. Y mae doethwr y Stöiciaid heb ei eni eto. Byddai yr athroniaeth a alluogai ddyn i deimlo yn berffaith ddedwydd yn nirdyniadau poen, yn well na'r athroniaeth a liniarai boen. Ond gwyddom fod cyfferiau a leddfant boenau i'w cael ; a gwyddom hefyd nad oedd yr hen ddoethion yn hoffi y ddannodd mwy na'u cymydogion. Gwell fyddai yr athroniaeth a ddileai drachwant, yn sicr, na'r athroniaeth a ffurfiai gyfreithiau er diogelwch meddiannau. Ond y mae yn ddichonadwy ffurfio mesurau er diogelu eiddo, i raddau pell; ond ni allwn ddeall pa fodd y gallai rhesymeg yr hen athroniaeth ddileu trachwant. Nyni a wyddom, yn wir, nad oedd yr hen athronwyr eu hunain yn fawr gwell na dynion eraill. Y mae yn eithaf eglur, oddiwrth dystiolaeth cyfeillion yn gystal a gelynion, oddiwrth addefiadau Epictetusa Seneca, yn gystal ag oddiwrth gyhuddion Lucian, acedliwion llymion Juvenal, fod y dysgawdwyr rhinwedd hyn eu hunain yn euog o'r holl ddrygau cyffredin yn mysg eu cymydogion, gyda 'r drwg ychwanegol o ragrith. Dichon y tybia rhai bod nod athroniaeth Bacon yn isel, ond ni allant wadu nad ydyw wedi ei gyrhaeddyd, pa un bynag ai uchel ai isel ydyw. Ni allant wadu nad ydyw pob blwyddyn yn dwyn cynnydd at yr hyn a eilw Bacon yn ffrwyth. Ni allant wadu nad yw dynolryw yn myned rhagddynt yn barhaus yn y ffordd hono a ddangosai efe iddynt. A fu erioed y fath gynnydd a diwygiad yn mysg yr hen athronyddion ? Wedi iddynt fod yn areithio am wyth can’ mlynedd, a wnaethant hwy y byd yn well nag oedd pan oeddynt yn dechreu ? Ein cred ni ydyw, bod yr athronyddion eu hunain yn dirywio ac yn ymlygru yn hytrach nag yn diwygio ac yn ymgoethi. Ofergoel wrachaidd, a wrthod. asid gyda dirmyg gan Democritus neu Anaxagoras, a ychwanegai at warthrudd olaf yr ysgolion Platonaidd yn eu hen ddyddiau. Y mae ymdrechion aneffeithiol plentyn i barablu iaith yn hynod o ddifyr a dyddorawl, ond y mae ymdrechion henaint methedig dan effeithiau parlys yn hynod o ddiflas genym. Felly yr un modd-y chwedlau gwyllt-ddychymygol hyny, y rhai a'n difyrant pan y'u clywom yn cael eu bloesg ddadgan gan y brydyddiaeth Roegaidd yn ei babandod, a gyffröant ynom gymysg deimlad o ddiflasdod a gresyni, pan eu clywom yn cael eu llesg leisio gan yr athroniaeth Roeg. aidd yn ei hen ddyddiau.

Tybier i Justinian, pan yn cau i fynu ysgolion Athen, alw ynghyd yr ychydig ddoeth. ion hyny a arferent ymgyrchu i'r porth, ac a ymdroent o amgylch yr hen orsafau, er hòni eu hawl i barchedigaeth y bobl—tybier iddo eu hanerch, gan ddywedyd, 'Y mae mil o flyneddau wedi myned heibio er pan fu Socrates yn addysgu yn y ddinas enwog hon. Yn ystod y mil Åwyddi hyny, bu nifer fawr o'r dynion mwyaf galluog yn mhob oes yn ymdrechu yn ddyfal i ddwyn yr athroniaeth a ddysgwch chwi i berffeith. iad. Cafodd yr athroniaeth hon gefnogaeth a nawddiaeth rhai galluog y byd. Delid ei chyffeswyr yn y parch mwyaf gan y bobl. Sugnodd iddi ei hun holl nodd ac yni y dealltwriaeth dynol ymron : à pha beth a wnaeth? Pa wirionedd buddfawr a ddysgodd i ni, yr hwn na buasem yn ei wybod cystal hebddi ? Pa beth ddarfu iddi ein gall. uogi i'w gyflawni, na buasem yr un mor alluog hebddi ?' Tybiem y buasai y cyfryw gwestiynau yn dyrysu Simplicius ac Isidore. Gofynwch i un o ddysgyblion Bacon, pa beth a wnaeth yr athroniaeth newydd, fel ei gelwid yn nyddiau Charles yr Ail, ac y mae ei ateb yn barod — Estynodd einioes, lliniarodd boenau, lleihaodd glefydau ; ychwanegodd at ffrwythlonrwydd y tir ; ychwanegodd at gyfleusderau a diogelwch y morwr; rhychwantodd afonydd mawrion a phontydd o ffurfddull anadnabyddus i'n tadau; arweiniodd y daranfollt o'r nef i'r ddaear, heb wneuthur niwed a dinystr ; goleuodd y nos megys â goleuni dydd; helaethodd derfynau y golwg dynol ; cynnyddodd rym a perth y gewynau ; ychwanegodd at gyflymdra ysgogiad, dilëodd bellder, rhwyddhaodd lwybrau cyfathrach, gohebiaeth, masnach, a chyfeillgarwch. Gallu odd ddyn i ddisgyn i ddyfnderoedd y môr, i ehedey i'r awyr, i dreiddio yn ddiogel i gilfachau y ddaear, i deithio y ffyrdd mewn cerbydau a ffrystiant ymlaen heb feirch i'w llusgo, a'r môr mewn llongau a weithiant eu ffordd yn erbyn gwynt a llanw. Nid yw y pethau hyn oll ond cyfran o'i ffrwythau, ac o'i ffrwythau cyntaf. Athroniaeth nad yw byth yn

[ocr errors]

gorphwys ydyw, byth yn cyrhaedd perffeithrwydd. Cynnyddiant ydyw ei deddf. Pwynt oedd yn anweledig ddoe, ydyw ei nhod i'w gyrhaeddyd heddyw, ac a fydd ei man cychwyn yfory.”

Yr oedd gweledigaeth yr hen athroniaeth “ megys newynog a freuddwydio, ac wele ef yn bwyta, a phan ddeffrô, gwag fydd ei enaid ; ac megys sychedig a freuddwydio, ac wele ef yn yfed, a phan ddeffró, wele ef yn ddiffygiol a'i enaid yn chwennych diod.” Mae fel "geiriau llyfr seliedig, yr hwn os rhoddant ef at un a fedr ar lyfr, gan ddywedyd, Darllen hwn, attolwg: yna y dywed, Ni allaf, canys seliwyd ef. Os rhoddir y llyfr at yr hwn ni fedr ar lyfr, gan ddywedyd, Darllen hwn, attolwg : yna y dywed, Ni fedraf ar lyfr.” Trefniant anymarferadwy ydoedd. Porthi y dychymyg â breuddwydion yr oedd, ac ni pharai i'r saw a'i carent etifeddu un math ar sylwedd. Llanwai feddyliau ei ddysgyblion â syniadau a drychiolaethau uchel-wychion mewn ymddangosiad; ond tawdd ddelwau gwynt a gwagedd oeddynt. Llefarai yr athroniaeth hono with ddynoliaeth yn iaith у sarff

yn Eden wrth ei rhieni cyntaf, gan addaw y caffai fod megys duw, os bwytâai o ffrwyth ei phren gwybodaeth hi; a thwyllai hi fel hono, drwy ei thaflu yn îs i lawr, yn lle ei dyrchafu i fynu. Cadwai hyny o wirionedd oedd ganddi fel na wnelid un defnydd na dyben ymarferol o hono.

Rhoddodd yr athronydd Seisnig galon ac wyneb newydd i athroniaeth. Tynodd yr hen galon gareg, oer a dideimlad o'i chnawd, a dododd ynddi un newydd dyner a fedrai gydymdeimlo â holl anghenion dynoliaeth, ac â'i gofidiau ;-calon i ddychymygu haelioni a chymwynasgarwch. Gwisgodd hi âg wyneb siriol a hawddgar, yn lle yr hen wynebpryd sarug, a'r golygon uchel a thrahaus Groegaidd a'i dynodent o'r blaen. Trodd ei llaw i weithio allwedd o'r gwyddorion i agoryd pyrth naturiaeth âg ef, er dwyn allan y trysorau cuddiedig oedd yn yr ystafelloedd dirgel, at wasanaethgarwch cyffredinol bywyd. Rhyw leban diog diddaioni, a digymwynas, oedd doethwr yr hen athroniaeth. Un yn rhoddi ei fryd ar wneuthur lles a daioni cyffredinol, oedd doethwr Bacon. “Y mae y dyn doeth," meddai ef, “yn ymdrechu amlhau manteision a chyfleusderau ei oes, a gadael y byd yn y meddiant o fwy a gwell cyfleusderau nag y cafodd efe ef.” Dylid cydnabod ddarfod i ambeli athronydd cyn dyddiau Bacon droi aml i ddarganfyddiad i ddyben ymarferol ; ond efo oedd y cyntaf i droi athroniaeth fel trefniant cyffredinol at y nod hwn, ac i ddysgu dwyn yr holl dybion a'r gwyddorion i brofiadaeth, er cynnyrchiad y ffrwyth ag yr oedd mor awyddus am ei weled. Dadleuai ef achos athroniaeth yn gyffelyb i'r modd y dadleua yr apostol Iago achos ffydd :-“ Ffydd heb weithredoedd, marw yw,” ebai Iago: “ athroniaeth heb ffrwyth, marw yw,” ebai Bacon yntau. Pan welai yr hen athroniaeth Stoicaidd frawd yn noeth, yn glaf, yn newynog, neu mewn poen a thrallod, hi a ddywedai wrtho yn

ddirmygus, « Bydd dawel, bydd ddedwydd, na ofala, na theimla, ac na chwyna ddim oll.” Ond ni roddai oldim yn y byd iddo tuag at ddiwallu ei anghen ac esmwythau ei ofid. Ond yr athroniaeth newydd Faconaidd a ddarpara ar gyfer ei drueni. “Hi a egyr ei llaw i'r tlawd.” Rhydd ei doethwr ar waith i chwilio allan fyddion cyfaddas i esmwythau ei boen, ac amlhau ei gysuron.

Soniai yr hen athroniaeth lawer iawn am rinwedd, y mae yn wir. Cymerai arni arwain y byd ato a'i ddysgu ynddo. Addawai wneuthur ei

[ocr errors]

dysgybl yn ddedwydd drwy ei wneyd yn rhinweddol: ond yr oedd yn gamsyniol ynghylch natur rhinwedd—“ erbyn chwilio eu hanrhydedd, nid anrhydedd yw. Nid rhinwedd, eithr rhyw gymysgedd mympwyol a gamenwid felly, ydoedd yr eiddo hi. Ni chynnygiai at farweiddiad gwyniau a thrachwantau llygredig y galon, ond yn hytrach dileu nwydau a theimladau priodol y natur. Amcanai goegddadleu y natur ddynol allan o honi ei hun-ei pherswadio i ddiystyru ei hun, i gasâu ei chnawd ei hun, ac i ymladd yn ei herbyn ei hun. Nid rhyfedd gan hyny iddi hollol fethu yn ei hamcan proffesedig. Ni wnaeth gymaint ag un yn rhinweddol-cymaint ag un yn ddedwydd. Ni hona athroniaeth Bacon, o'r tu arall, y gwna un o'i dysgyblion yn rhinweddol a moesol ddedwydd : nid yw hyn o fewn cylch ei hamcan. Athroniaeth anianyddol ydyw. Dwyn allan a gosod ffeithiau anianyddol i ateb dybenion anianyddol yw ei gwaith. Symud trueni ac amlhau cysuron anianyddol ydyw y hendithion a addawa; ac y mae yn llawn cystal a'i gair— Hi a wel, erbyn hyn, bod ei marsiandiaeth yn fuddiol.

Y mae dylanwad yr athroniaeth hon ar gyflwr gwladwriaethol y byd hefyd yn anamgyffredadwy fawr. Nid ydyw hyn i'w gyfrif fel ei ffrwyth uniongyrchol, efallai, ond ei chanlyniadau achlysurol. Pan y mae celfyddyd trwy gyfrwng agerdd, wedi cael allan foddion i drosglwyddo cannoedd o ddynion gannoedd o filldiroedd o ffordd, mewn cynnifer o gannoedd o fynydau, amlhâ nifer teithwyr o'r naill le, ac o'r naill wlad i'r llall yn ddirfawr: ac fel y byddo “ llawer yn cynniwair, bydd gwybodaeth yn amlhau.” Dygir gwahanol genedloedd y ddaear i gyfathrachu a gwybod mwy am eu gilydd, ac felly i gydymdeimlo mwy a'u gilydd. Pan y mae dychymyg a medrusrwydd dyn wedi ei alluogi i lunio peiriant i ddal a rheoli hyd yn nod y fellten ei hunan-i glymu ei feddwl a'i ewyllys wrth ei llosgwrn, a'u gwneuthur yn adnabyddus mewn lle penodol yn yr eithafion mwyaf pellenig mewn llai o amser nag a gymer i'n hysgrifell redeg llinell ar draws ein llen bapyr hon—pan y mae dygwyddiadau a gymerant le mewn un wlad yn cael eu gwneuthur yn adnabyddus mewn gwlad arall gyda eu bod wedi tori allan, ni ddichon na bydd i ganlyniadau mawrion, a chyfnewidiadau pwysig ddeilliaw oddiwrth y cyfryw ddarbodion. Trawsffurfia ysbryd a delw cymdeithas. Rhydd galon a theimlad arall yn y bobl. Llenwir hwynt âg yni a meddylfryd anturiaethus gyda holl orchwylion bywyd. Cynnydda masnach a thrafnidaeth yn ddirfawr. Amlhëir gweithiau mawrion yn helaeth. Egyr y byd ei lygaid gan edrych o'i ddeutu. Chwydda meddyliau dynion, a chynnyddant i fawrfrydigrwydd na oddefa gymeryd ei blygu a'i ddarostwng a'i gadwyno â gefynau träawdurdod a gormes. Annichonadwy fydd i hen ffurflywodraethau cyfyng a chyfreithiau caethion yr oesau tywyllion sefyll eu tir a dàl i fynu yn hir mwyach.

Profai yr hen bab ei hun yn "gall yn ei genedlaeth,” yn ei waith yn gwrthwynebu hyd ei eithaf ac hyd ei angeu, i agoryd ffyrdd haiarn yn nhiriogaeth yr eglwys. Gwelai o bell y drwg a ddeuai ar y Babaeth a Phabyddiaeth mewn canlyniad ; ac ymdrechai ymguddio rhagddo drwy ei ragflaenu. Yr oedd yn ddigon llygadgraff i ganfod y dygid ei ddeiliaid i fwy o gyfathrach â dyeithriaid, ac y deuai syniadau ac egwyddorion

1 Pan glywodd y diweddar enwog Ddr. Arnold swn treiglad olwynion yr agergerbyd cyntaf—"Dyna ben ar drawsawdurdod yn Lloegr am byth," eb efe.

newyddion i mewn fel lltfeiriant, y rhai a beryglent fywyd a bodolaeth ei awdurdod dymmorol ac ysbrydol yn fuan. Sicrhaodd farau ei byrth goreu y gallai. Taranodd ei anathemaau yn erbyn rheilffyrdd, a höll athrawiaethau amryw a dyeithr celfyddydau yr oes. Ymdrechai yn galed i sefydlu meddyliau anwadal ei ddeiliaid yn yr hen ffydd iachusol—"Megys yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr lion, ac y bydd yn wastad”_fel na'u cylcharweinid gan awelon y ddysgeidiaeth newydd ddiweddar. Gwyddai yr hen dad mai nerth a gobaith bywyd ei deyrnas ydoedd llonyddwch a thawelwch mewn anwybodaeth. Gwyddai cystal ag y gwyr satan, y byddai i oleuni gwybodaeth beryglu ei awdurdod â dadymchweliad; ac os na allai gadw y ffyrdd haiarn draw, na allai gadw allan wybodaeth chwaith, ond y deuai ei elyn i mewn fel afon arno. Wel, syrthiodd penwyni yr hen dad druan i'r bedd mewn tristwch. Yr oedd sŵn olwynion yr agergerbydau yn "drwst ofnadwy yn ei glustiau” yn ei ddyddiau olaf.' Yr oedd nesad pla y celfyddydau a'r Fibl Gymdeithas at ei diriogaethau yn ei frawychu o amgylch, yn ei yru “i gymeryd ei draed,” ac yn ei arwain at “frenin dychryniadau," yn gynt na'i amser. Ond bu yn ffyddlawn hyd angeu, fodd bynag. Daliodd i fynu wir ysbryd pabaeth ac anghristiaeth yn ddihalog hyd y diwedd. Rhoddodd ei anadliadau olaf allan yn ebychion yn erbyn rheilffyrdd, rhyddid y wasg, a'r Fibl Gymdeithas, a phob aflwydd a dystryw o'r fath. Bu farw, a chasglwyd ef at ei dadau. Codwyd Pius IX. i'r gader babawl yn ei le. Y peth cyntaf a wnaeth yntau oedd agor y pyrth a gwahodd celfyddydau a diwygiadau ymlaen. Croesawodd y rheilffyrdd. Agorodd y carcharau lle y cauesid i fynu gyfeillion rhyddid a diwygiad wrth y cannoedd gan ei ragflaenor. Llaciodd gryn lawer ar rwymau tafod y wasg; ond gofalai yntau am gadwyno yr ysgrythyrau, a gwahardd eu taeniad yn ei diriogaethau. Rhuthrodd y diwygiadau i mewn fel cefnllif grymus. Safai Ewrop gan safnrythu a thorwynu ei llygaid mewn syndod uwch ben y newydd-beth—pab yn ddiwygiwr! Yr oedd mab hynaf yr eglwys, Brenin y Ffrancod, a'i mab ffyddlonaf, Ymherawdwr Awstria, yn barod ignoi eu tafodau gan ofid wrth weled amryfusedd eu sancteiddiaf dad yn ei waith yn cefnogi y diwygiadau trychinebus hyn-rhyddid y wasg yn neillduol.

Achwynent yn ofidus, ac ymbilient yn daer arno i ymattal, a newid ei bolicy. Gwelent hwy a'u gweision ffyddlawn, Guizot a Metternich, yr effeithiai pethau fel hyn yn fawr ar feddyliau eu deiliaid hwythau. Meddyliai Pius yntau, y gallasai ffrwyno a rheoli y diwygiadau wrth ei ewyllys, a dywedyd wrth ymchwydd y tònau, “ Hyd yma y deui, ac nid ymhellach,” pan fynasai. Ond trodd y canlyniad yn somedigaeth iddo, fel y gwelir heddyw. Yr awyddfryd am ryddid, ac ymwared odditan iau hen sefydliadau caethiwus ag oedd wedi ei hir gauad i fynu yn mynwesau ei ddeiliaid, a ennillai nerth a bywiogrwydd adnewyddol wedi iddo gael ychydig awyr, megys. Yr oedd ei gylla newynllyd yn annigonadwy. Po fwyaf a deflid iddo, uchaf i gyd y codai ei gri am ychwaneg. Aeth yn fuan i ofyn am ffurflywodraeth gynnrychioledig a phoblogaidd. Dechreuodd Pius synu a phetruso; erfyniai am amser i ystyried ac ymgynghori. Ceisiai lonyddu y dymhestí drwy ei cheryddu weithiau, a bryd arall drwy dywallt olew geiriau ac addewidion teg ar ei thonau. Ond yr oedd weithian yn rhy ddiweddar. Rhwymodd y gwynt ef yn ei adenydd, a dug ef ymaith. Bu raid iddo ystwytho a chaniatâu llawer o bethau na fynasai ar un cyfrif wneyd, gan fel yr oedd llefau y bobl yn ei syfrdanu, ac ofn eu

« ForrigeFortsæt »