Billeder på siden
PDF
ePub

cynddaredd yn ei frawychu. "A llifeiriant yn myned trosodd," gwnaethpwyd tranc ar ei benogaeth a'i awdurdod dymmorol, fel nad oes yn aros o honi iddo ond yr enw yn unig, ymron; ac y mae ei awdurdod ysbrydol wedi cael ysigfa drom hefyd. Disgynai yr hyn a fawr ofnai arno, sef taeniad yr ysgrythyrau yn mysg ei ddeiliaid. Un o'r newyddion diweddaraf o'r Itali a hysbysa fod galwad am ddeng mil o Fiblau i diriogaethau y pab. Nid yw y bobl yno mwyach yn prisio dim oll yn rhuadau y teirw pabawl yn erbyn yr ysgrythyrau. Y mae dyddiau eu harswyd wedi myned heibio. Ei ebychiad diweddaf a ddengys fawredd ei gyfyngder a gofid ei feddwl. Ar ddiwedd gwasanaeth cyhoeddus yn un o eglwysydd dinas Rhufain, ychydig ddyddiau yn ol, torodd y pab allan i gwyno o herwydd yr amserau enbyd presennol-"Bod Protestaniaeth yn cael ei thaenu trwy yr holl Itali Gatholicaidd, ïe, hyd yn nod yn nghanolbwnc Cristionogaeth, bod Protestaniaeth yn cael ei meithrin a'i lledanu, nid gan ryw ambell un, ond gan filoedd a degau o filoedd. Amlyga y dynion hyn y zel wresocaf dros wladoldeb Italaidd; ac eto, dan gymeryd arnynt ei meithrin, hwy a arferant y mesurau mwyaf ffiaidd a niweidiol," &c.

Ni chaniata ein terfynau i ni y waith hon fwrw golwg dros y chwildroadau mawrion ac ofnadwy a ruthrasant yn rhyferthwy dros gyfandir Ewrop yn nechreu y flwyddyn 1848; ond bwriadwn ddychwelyd at hyn dro arall. Cymerwn ein cenad wrth derfynu y tro hwn i wneuthur rhai nodiadau mewn ffordd o adolygiad ar yr hyn a fu dan ein hystyriaeth, ac hefyd fel rhagarweiniad i'r hyn a fwriadwn ei draethu yn ol llaw.

Yr ydym wedi cael mantais yn yr hyn a fu dan ein sylw i weled gwerth a mawr ragorol ogoniant efengyl ein Harglwydd Iesu Grist. Trodd y ddoethineb ddynol wychaf allan yn hollol wag a diffrwyth. Addawodd ac ymffrostiodd lawer, ond ni chyflawnodd ddim. "Pa le y mae y doeth? Pa le y mae yr ysgrifenydd? Pa le y mae ymholydd y byd hwn? Oni wnaeth Duw (trwy yr efengyl) ddoethineb y byd hwn yn ynfydrwydd." Cafodd y doeth fil o flyneddau, a mwy, i wneyd prawf o'i athroniaeth, a pha beth a wnaeth? Dim yn y byd. Clywch gŵynion gofidus un o'r penaf o'r doethion eu hunain. Yr hen athronydd Stöicaidd, Epictetus, wedi treulio oes faith a llafurus i ddysgu rhinwedd, ac i arwain y byd i ddedwyddwch, fel yr hònai, a dorai allan mewn diflasdod somedig ar ddiwedd ei oes a'i lafur, gan ddywedyd, "Dangoswch i mi Stöic, os gellwch. Chwi a allech, yn wir, ddangos i mi fil a fedrant adrodd dadleuon ac egwyddorion Stöic. Dangoswch i mi ryw ddyn wedi ffurfio ei nodwedd yn ol yr egwyddorion hyny. Dangoswch i mi ddyn yn glaf, ac yn hapus; mewn perygl, ac yn hapus; yn marw, ac yn hapus; yn alltudiedig, neu dan waradwydd, ac yn hapus. Dangoswch ef i mi, canys yn enw y nefoedd mi a ddymunwn weled Stöic. Dangoswch i mi ddyn yn dyfod rywbeth yn agos i'r nodwedd hwn, gwnewch â mi y gymwynas hon, na wrthodwch i hen ŵr yr hyfrydwch o fwynhau golygfa na chafodd efe cto erioed." Yr hyn ni allai Stoiciaeth, y gangen oreu o'r hen athroniaeth neu ddoethineb ddynol, ei gyflawni, o herwydd ei llesgedd a'i hafles; a gyflawnwyd ac a gyflawnir yn berffaith gan athroniaeth (goddefer yr ymadrodd am unwaith) croes Crist. Ni bu yr efengyl yn nhir Groeg gynnifer o oriau ag y buasai yr hen athroniaeth o flyneddau ynddi, nad oedd wedi effeithio, mewn lliaws o anghreifftiau, yr hyn a hollol fethasai y llall ei gwblhau unwaith. Cododd lawer o golofnau i arddangos rhagorol

fawredd nerth ei dylanwad ar diriogaeth, a cher bron llygaid synedig yr hen athroniaeth wag-ymogoneddgar. Casglai nifer o'i dysgyblion o'i hamgylch, cyfeiriai eu golygon â'i bys at yr hen bydewau bryntion o halogrwydd ac aflendid, lle eu gadawsid i ymdrybaeddu gan hen ddoethineb Athen, a lle yr oedd holl ddysgyblion hono eto yn aros : ac anerchai hwynt, gan ddywedyd, "Hyn a fu rai o honoch chwi, eithr chwi a olchwyd, eithr chwi a sancteiddiwyd," &c. Gall ddangos niferoedd o'i dysgyblion yn glaf, ac yn hapus; yn alltudiedig ac wedi eu gwneuthur yn wawd trwy waradwyddiadau, ac yn hapus; eu hyspeilio o'r oll a feddent, eto yn llawen ac yn hapus; yn marw, ïe, y marwolaethau mwyaf gwaradwyddus a phoenus, ac "yn y pethau hyn oll yn fwy na choncwerwyr;" yn gorfoleddu yn nghanol yr holl orthrymderau hyn, ac yn "dra chyflawn o lawenydd." Ymddengys i ni ddarfod i'r ysgrifenydd ardderchog o Edinburgh (Mr. Macauley) esgeuluso talu y deyrnged ddyledus oddiwrtho i'r efengyl, pan draethai ar y ddwy athroniaeth, yr hen a'r ddiweddar.

Mor wahanol ᎩᎳ tôn yr arwr efengylaidd i yr eiddo arwr yr hen athroniaeth: "I Dduw y byddo y diolch, yr hwn sydd yn wastad yn peri i ni oruchafiaeth yn Nghrist Iesu, ac sydd yn eglurhau arogledd ei wybodaeth trwom ni yn mhob lle;"-pan oedd hanesydd yr hen athroniaeth yn adolygu ei gyrfa a'i gweithrediadau, yn niwedd ei hoes faith, yn gorfod cyfaddef na ddygasai ddim ffrwyth-nad oedd ganddi gymaint ag un swp o rawn i'w fwyta-na thyfasai cymaint agundywysen addfed ar ei maes-iddi lafurio yn hollol ofer ac am ddim. Tyr yr hanesydd cristionogol allan ar ddechreuad ei gyrfa hi mewn syndod at fawredd ac amledd ei ffrwythau a'i heffeithiau, gan ddywedyd, "Mor gadarn y cynnyddodd gair yr Arglwydd, ac y cryfhaodd!" Mewn gwirionedd y mae "ffolineb Duw yn ddoethach na dynion, a gwendid Duw yn gryfach na dynion," a bydded y gelynion yn farnwyr. Sylwai yr hanesydd enwog Gibbon, yr hwn oedd yn anffyddiad, na chafodd achos rhinwedd ond cymhorth gwan a thlawd iawn oddiwrth athroniaeth, a'r ofergoelion paganaidd. Dan yr amgylchiadau digalon hyny y gallasai swyddog gwladol call edrych gyda hyfrydwch ar ledaniad a llwyddiant crefydd a daenai yn mysg y bobl drefniant o egwyddorion moesol pur, haelfrydig, cariadlawn, cymhwysiadol at bob dyledswydd, a phob sefyllfa a chyflwr bywyd ; ac yn cael ei chymhell ar y bobl fel ewyllys a syniadau y Bod Goruchaf, ac yn cael ei chyfnerthu âg ardystion o wobrau a chosbau tragywyddol. "Yr ymadrodd am y groes" ydyw yr efengyl. Y groes yw dirgelwch ei nerth a'i dylanwad. Yr hyn a gyfansodda ei gwendid a'i hynfydrwydd yn ngolwg yr athronydd y Groegwr, ydoedd, ac ydyw eto, ei doethineb a'i nerth i gwblhau yr hyn a fethodd efe.

Drachefn, mor hardd a defnyddiol ydyw pob peth yn ei le priodol ei hun. Wedi i Bacon blanu athroniaeth anianyddol yn ei thir cynhenid a naturiol, a'i chymhwyso at ei dybenion priodol, mor gynnyddfawr a ffrwythlawn ydyw! Estyna ei cheinciau hyd y môr a'i blagur hyd yr afon. Dan amaethiad yr hen ddoethion ni thyfai ond afalau Sodoma, a grawnwin Gomorra arni. Safai ar ffordd yr efengyl i'w gwrthddywedyd, ei chablu, a'i dirmygu. Ond wedi iddi gael ei hadblanu megys, a'i dwyn adref, a'i chymhwyso at gynnyrchiad celfyddydau anianyddol, daeth i fod, nid yn unig yn wasanaethgar a buddiol i'r byd, drwy ddwyn ffrwyth da iddo, ond hefyd yn llawforwyn ufudd a gwasanaethgar iawn i'r efengyl. A yn awr o'i blaen i barotoi ei ffordd, i symud y rhwystrau, i ostwng y bryniau,

cyfodi y pantau, ac unioni y gŵyrgeimion. Gwna lwybr gwastad iddi yn niffeithwch y ddaear, cynnydda gyflymdra ei symudiadau, a phrysura berffeithiad ei buddugoliaethau. Ei dylanwad ar gyflwr anianyddol a gwladwriaethol y byd a rwyddha y ffordd i'r efengyl i weinyddu ei meddyginiaeth at ei gyflwr moesol ac ysbrydol. Gweithreda ac adweithreda y naill ar y llall hefyd. Egyr yr efengyl ddrysau newyddion o flaen athroniaeth a chelfyddyd mewn un man, ac agorant hwythau ddrysau newyddion o'i blaen hithau mewn man arall. Par dylanwad yr efengyl alwad am gynnyrch y celfyddydau mewn un parth o'r byd; a phar dylanwad y celfyddydau alwad am air Duw mewn parth arall o hono. Dan ddylanwad yr efengyl y cynnydda athroniaeth, ac y ffyna y celfyddydau; a thrwy y celfyddydau y prysurir taeniad yr efengyl dros y byd.

Os edrychwn eto ar helyntion y byd o'n hamgylch yn y dyddiau presennol, yr ydym yn barod i ofyn mewn pryder, Beth fydd diwedd y rhyfeddodau hyn? I ba le y mae y byd yn myned? Edrycher ar ei symudiadau anianyddol yn ngoruchwyliaeth y gwyddorion a'r celfyddydau, ac y mae i'w weled yn ymdeithio gyda cherddediad cyflym a diysgog. Edrycha ei lygaid, a deil ei amrantau yn union o'i flaen; y mae ei nod yn ei olwg, ac y mae ei olwg arno; ni thry oddiwrtho tua'r tu deheu, na thua'r aswy. Sylwer ar ei symudiadau gwladwriaethol a moesol drachefn, a ni a ddywedwn gyda'r prophwyd, "Gan ddryllio yr ymddrylliodd y ddaear; gan rwygo yr ymrwygodd y ddaear; gan symud yr ymsymudodd y ddaear. Y ddaear gan symud a ymsymud fel meddwyn." Ysboncia o'r naill ochr i'r ffordd i'r llall. Rhed yn gyflym yn ei blaen am enyd, cerdda o chwithig yn wysg ei chefn dro arall. Y mae nerthoedd yn gweithio ac yn gwrthweithio ynddi. Egwyddorion rhyddid a chaethiwed â'u dwylaw yn ngyddfau eu gilydd. Marchoga gwybodaeth yn ysgil y celfyddydau, gan dywallt ei thân ar y ddaear, yr hwn a ysa rwymau trais a gorthrymder. Ceisia awdurdodau gorthrymus fwrw eu dyfroedd arno i'w ddiffoddi, eyfyd cymylau o fwg, ac agerdd, a llwch, nes cuddio yr ymdrechwyr o'r golwg, fel na ellir gweled beth sydd yn dyfod o honynt. Daeth ein gwlad ni i fod yn ddinas noddfa i lofruddion rhyddid ac iawnderau gwledydd Ewrop ar ddechreu y flwyddyn hon: ac wele y rhai penaf o honynt, Louis Philippe, Guizot, Metternich, ac eraill, yn rhedeg iddi, â'u gwisgoedd yn rhwygedig, a phridd ar eu penau. Breninoedd, tywysogion, duciaid, a phenaethiaid o bob graddau ac enwau, yn dïanc ac yn ymguddio rhag gofwy cynddaredd y rhai a orthrymasent; ond y mae y rhai hyn yn awr eto yn dechreu dyfod allan o'u llochesau, ac ymddengys tebygolrwydd y bydd i rai o honynt, o leiaf, allu adsefydlu eu hawdurdod a'u trais unwaith drachefn. Y mae ymysgaroedd y byd mewn cyffro dirfawr. Edrycher ar Babyddiaeth hefyd, hen fammaeth gormes, traws-lywodraeth, a thrueni gwledydd Ewrop; a gwelir hi o un tu fel yn gwywo, yn crino, ac yn dihoeni, nes ydym yn penderfynu bod ei henaid yn nesâu i'r bedd, a'i bywyd i'r dinystrwyr, awdurdod y pab yn myned yn fethiant a dirym: cader Pedr yn cael ei thyllu gan bryfaid, nes ydyw yn bwdr-lwch trwyddi oll. Perchir yr hwn a eistedd arni yn awr fel dyn o nodwedd hawddgar, ac o ysbryd rhyddfrydig, ac ystyried ei sefyllfa. Ni thelid erioed fwy o anrhydedd, ac yn fwy teilwng efallai, i'r pab yn bersonol, nag a delir i'r pab presennol; ond erioed ni fu pab yn ei gymeriad swyddol mor isel a diddylanwad. Y mae bulls a concordats y pabaeth wedi myned yn bethau

hollol ddibwys gan ei ddeiliaid, oni fyddant yn gymeradwy yn eu golwg. Ymlidir a hwtir y Jesuitiaid allan o bob gwlad yn Ewrop, cauir i fynu eu sefydliadau, ac atafaelir eu meddiannau gan y llywodraethau gwladol ; nid oes iddynt achles na gorphwysdra i wadn eu troed yn un man ond yn Lloegr Brotestanaidd; yn awr y mae swn syrthiad y brif golofn hon i deml anghrist yn llenwi y byd, ac nid oes neb yn ei gymeryd at ei galon, oddigerth hen frenines Ffrainc, gynt ; ac ymherodres wrach grefyddol Awstria.

Ond edrycher ar Babyddiaeth o du arall iddi eto, a gwelir golygfa hollol wahanol. Erioed ni ymddangosai yn fwy heinif, gweithgar, a phenderfynol. Enfyn ei chenadau i bob cwr o'r byd; amgylcha fôr a thir i wneuthur proselytiaid; nid oes nemor iaith nac ymadrodd lle ni chlywir ei lleferydd; estyna ei llinyn trwy yr holl ddaear. Y mae fel yn ymgadarnhau yn ddirfawr yn Mrydain yn neillduol. Adeilada demlau gwychion yn mhob tref, a sefydla esgobaethau, colegau, a lleiandai newyddion yn lliosog. Rhana y tir megys wrth linyn, heb anghofio Cymru. Daeth Rhydychain allan yn gynnorthwy iddi. Cannoedd, ïe, miloedd o weinidogion Eglwys Loegr a ddirgel ddymunant ei llwyddiant, ac a wnant eu goreu i'w brysuro. Edrycha llywodraethwyr a mawrion ein teyrnas yn siriol arni, a siaradant yn barchus iawn am dani. Mynodd ein llywodraeth cyn gollyngiad y senedd basio mesur i'w hawdurdodi i ffurfio cyfathrach â llys y pab. ddengys argoelion cryfion y bydd iddi yn fuan eto gynnyg cymeryd yr Eglwys Babaidd yn Iwerddon gydag Eglwys Loegr i undeb â hi ei hun, a'i gwaddoli ar draul y wlad. Addawa Pabyddiaeth iddi ei hun fuddugoliaeth rwydd a buan yn y deyrnas hon, ac y bydd iddi adennill yr holl dir a gollodd yn amser y Diwygiad Protestanaidd ; ac nid yw heb argoelion go gryfion i'w chymhell i hyderu fel hyn. Ni a'i gadawn yn bresennol yn y mwynhâd o'i gobaith hwn, ond bydd genym air i'w ddywedyd yn ei chlust eto pan ddelom i draethu ar y flwyddyn 1848.

Ym

ADGOFION CARADOC.

YN nghanol Mai-haf-hin, ar fore diwrnod tesog ysplenydd, cychwynasom gyda ein hen gyfaill Caradoc, at faen Garmon, ar lethr Bryn Gole, trum cangenog o fynydd Berwyn. Uwchlaw i ni yr oedd trumau cribog yn ymddyrchafu, ac islaw i ni yr oedd dyffryn bychan Cwm Garmon yn ymestyn i'r gorllewin, ac yn cael ei groesi yn y terfyn gan drum heb fod yn hynod mewn dim, ond am ryw draddodiad gwrachïaidd ynghylch chwareufan y tylwyth teg, a llawrfaes gorchestion ein hynafiaid gynt. Nid oedd y Cwm ei hun ond bychan, ond eto yr oedd prydferthwch anian yn ei gwylltedd yn ei hynodi. Oddiar faen Garmon yr ydys yn cael golwg gyfan arno, a tharawodd fi yn y fan y buasai y maen hwn yn gader ddymunol gan lawer bardd da, â "llygad i weled anian," &c. neu fro-luniedydd cywrain, a fynasai dynu ei bwyntel ar hyd ei lèni i ddangos natur yn harddwch a gwylltedd ei symlrwydd cyntefig.

Wedi esgyn hyd at y maen, ac eistedd o honom arno, yr oeddym yn synu tipyn na tharawsai Caradoc ati yn ddiymdroi i sylwi ar yr olygfa o'n blaenau, trwy arganmawl tlysni y mân nentydd oedd yn ymwëu yn eu gilydd fel edafedd arian trwy y Cwm; neu ynte yn crybwyll am grochlef y rhaiadr oedd yn ein hymyl, fel pe mynasai y nant fechan oedd yn llamu dros y clogwyn roi banllef ar ei holl chwiorydd o'r bryniau cymydogol i'w chyfarfod yn y dyffryn gyda phob brys; neu ynte sylwi ar y creigiau oedd yn crogi wrth eu gilydd, â choed hirbreiff yn tyfu o'u hagenau, ar y naill law, neu y llethri grugog oedd ar y llaw arall. Ond nid oedd hyn oll ond hen beth i Caradoc, ac ni welai ac ni theimlai awydd i son gair am danynt. Er hyn oll, lled dybiem fod gan yr hen ŵr ryw amcan mewn golwg, a rhyw bethau pwysig i draethu arnynt pan yr ymgerddai yn arafbwyllog i fynu at y maen; a phenderfynasom na thorem ni y dystawrwydd, er y buasai yn llon genym ei glywed yn myned dros y traddodiadau a'r chwedlau oedd yn gylymedig wrth Gwm Garmon.

"Wel, fy nghyfaill, (eb yr hen ŵr) dyma ni yn eistedd ar y maen y bydd hoff genyf yn fynych orphwysaw arno. Yr oeddwn yn lled awyddus eich cael unwaith gyda mi i'r fan hon, cyn myned o honof i ffordd yr holl ddaear. Mi a ddymunwn wneuthur yr hynt hon, nid yn unig yn ddifyrol i chwi, ond yn adeiladol hefyd. Hanner can' mlynedd yn ol, yr oeddwn innau yn llencyn bochgoch penfelyn, yn arail praidd fy nhad ar y banc hwn. Fy unig ofal oedd medru taflu y trosol a'r maen yn well na neb yn y gymydogaeth, neu fod yn fwy deheuig a ffodus yn anturiaethau y niwl a'r caddug a wisgai y bryniau hyn ar brydiau fel gwisg am danynt. Erbyn heddyw, y mae fy nghyfoedion wedi chwalu-rhai i'r bedd, a rhai i'r byd; fel nad oes na chorn ar y garth, na dolef ar lethr y foel a all ein casglu at ein gilydd mwy. Er hyn oll, y mae y cof am a fu yn dwyn ei hyfrydwch i'w ganlyn weithiau, ac yn y teimlad hwnw y rhedodd fy myfyrdod at yr amser yr oeddwn yn hogyn yn ysgol y pentref, a phan yn ysgafn galon y rhoddwn

Dri llam a naid y'nghwr y ddol,
Rhoi 'r isa' dan y wasg,
Ymlwybro 'n drist & chalon drom,
Wrth fethu dysgu'r dasg;
A thori 'r gwiail hirion teg
Y'nghwr y tewfrig lwyn,
A ffurfio câd o filwyr dewr

Mewn hardd-bleth gapiau brwyn.

Hyfrydaf fan ar lawr yr ardd

Oedd llwyni 'r eirin mair;
A llawer camp a wnelid yn
Y weirglodd gyda'r gwair;

Rhoi naid o'r dorlan werdd i'r dŵr,
Pysgota yn nant y llyn,

A phlethu 'r teg friallu'n dorch
O gylch y rhosyn gwyn.

Cydeiste'n rhes, yn mrig yr hwyr,
Ar ganllaw 'r bont gerllaw,
A phawb a'i chwedl yn ei gylch,
Nes llenwi 'r fron o fraw;

Rhyw ysbryd blin, yn ddyn heb ben,

Yn fochyn gwyn, neu 'n llo;

Ystranc rhyw gnaf o'r tylwyth teg
Yn gwaeddi Ho! ho! ho!

« ForrigeFortsæt »