ARALL. 20. Cymmer sudd llysiau'r clefyd melyn, a difer yn y llygad, a chau'r llygad arno oni rifer cant, a mynych ei drin yn llynn. I WELLHAU BRYST DOLURUS. § 21. Cymmer y glarllysg a thor yn fân, gwaddod diod fain, bran gwenith, a gwêr myharen, malbwya 'nhwy'n dda mewn mortyr, yna berwa nhwy ynghyd ar dan araf a gosod yn blasder wrth dy fryst. I BERI CAEL YSTOL. § 22. Cymmer wi newydd ddodwi, a bwrw allan y gwynn, yna dod ynddo menyn newydd heb halen, a thwyma ef, yna ei fwytta, a gwna hynny yn fynych os rhwym o gorph yn naturiol y boch. I BERI GWNEUTHUR DWR. § 23. Cymmer egfaen, a dod nhwy mewn llestr pridd coch, a chyda amcan o fel, a'i melusa'n dda, yna dod yn y ffwrn gyda bara, yna cymmer ef drwyddo'r cyfan o hono bedair llwyaid ar y pryd, deir gwaith y dydd. ARALL. § 24. Gwahana had yr egfaen oddiwrth y bywyn, a sych nhwy oni bont gras, yna mal nhwy'n fan, a dod i gadw mewn lle sych, a phan fo arnat ei eisiau, cymmer lwyaid o hono, a llwyaid o fel, a gwna'n gyfleth, a chymmer y nos wrth fyned i'r gwely, ag eilwaith y bore'n wag, gan ymattal rhag ymborth deirawr ar ei ol, ag os bydd achos gwna felly eilwaith, a digwydd o fil nad iach y byddi. RHAG LLYNGER AR BLANT. § 25. Cymmer fflwr gwenith gwedi ei wegryn drwy wagr sidan teg, manwëaidd, gymmaint ag a safo ar dair coron aur, a dod of mewn pottel wydr, a diwal arno ddwr ffynon, gymmaint ag ai gwlycho oni bo fal lleffrith, ag nid yn deneuach, yna dyro i'r plentyn iddei yfed, ag ef a geir gweled yn ei bridd bryfed meirwon, a hynn y sydd yn gyfarwyddyd dda iawn. ARALL. § 26. Cymmer wallt y plentyn, a thorr ef mor fân ag a ellir, a rho gymmaint ag a wedd ar goron aur mewn bywyn afal rhost, neu mewn mel, a hynn a ladd y llynger. RHAG CRACH GWYLLTION A DARWYDENI. § 27. Cymmer falwed a phiccia nhwy'n aml a nodwydd, oni ddelo fal dwr o honynt, ag a'r dwr hynny golch y crach neu'r darwydeni, ag ar hynny ddod ddail y gwinwydd yn rwymedig, gwna hynny hwyr a bore, a chyn bo hir ti a fyddi iach. RHAG POERI GWAED O ACHOS TORRI GWYTHIEN YN Y BRYST. § 28. Cymmer dom llygod a sych ef yn yr haul, neu o hirbell o flaen y tan, a gwna'n bylor, a chymmer gymmaint ag a safo ar ucha grôd, a dod e mewn hanner llonaid ffiol win o sudd llydan y ffordd, gydag ychydig o fel cras, a dyro i'r claf i yfed hwyr a bore, gan barhau felly nes elo'n iach. RHAG ANADL DREWLLYD. $ 29. Cymmer ddail rhosmari a'r blodeu os byddant i'w cael, a berw mewn gwin gwynn, gydag ychydig myrr a chanel, a chai weled ffrwyth rhyfedd oddiwrtho, os arferi'n fynych yn dy enau. RHAG DOLUR Y GARREG. $ 30. Cymmer bylor y felencuraid, a elwir yn lladin virga aurea, a dod lwyaid o hono mewn wi newydd ddodwi, gwedi 'i rostio'n dyner a dyro i'r claf yn fwyd bore, ag na fwyttaed ddim bedair awr yn ol hynny, ag efe a wna ddwr cyn penn hanner awr ar ol hynny, ag arfered felly ddeg neu ddeuddeg diwarnod, ac efe a gaiff wared y garreg yn ddiboen, a da iawn yw hynn hefyd rhag y cyllwst wynt. RHAG LLYGAID DYFRLLYD. § 31. Cymmer ddalen bresygen goch, ag ira hi a gwynn wi, a gosod hi ar dy lygaid wrth fyned i'r gwely. RHAG CNOAD CI CYNDEIRIOG. § 32. Cymmer a weddo mewn hanner plisgyn cneuen ffreinig o bylor Blodau'r ysgall gwylltion, wedi eu sychu yn y cysgod, a dod mewn llonaid ffiol win o'r gwin gwynn goreu, ag yf of dair gwaith y dydd dridiau, ag iach y fyddi drwy Dduw. RHAG LLYGAID DOLURUS. § 33. Cymmer sudd iorwg y ddaear, a llaeth bronn gwraig, hanner yn hanner, a'u hidlo drwy liain manwëaidd, yna dod ddiferyn yn y llygad a fo dolurus, ag yn y ddau lygad o bydd achos. ARALL. § 34. Cymmer ddistyll ffenigl, ac amcan o fel newydd, a chymmysga nhwy ynghyd, a dod ddiferyn neu ddau yn y llygad; profedig yw. ARALL. § 35. Cymmer ddail drysi cochon, a dail llydan y ffordd, a berw nhwy mewn dwr rhedegog hyd oni el i'r hanner, ag arfer wrth y dolur. DWFR LLYGAID I LADD GWRES A DOLUR YN Y LLYGAID. § 36. Cymmer ddyrnaid o'r geidwad goch, a berw mewn au cudd o ddwr gof yny flanno'r hanner ymaith, yna hidla'n galed, a dod geiniogwerth o elyf yn y llynnor, a chymmaint o goprys gwynn yn ol ei gymmeryd oddiar y tân, a llynora dy lygaid ag ef. RHAG MAGL AR LYGAD. § 37. Cymmer wynn wi yn frwd o'r nyth, heb ddim o'r melyn, dod atto faint cneuen fechan o elyf yn bylor, ac ychydig fel crâs, cymmhwya nhwy yn dda, a dod amcan o ddwr a wnelo fal y gellir ei hidlo drwy liain manwe, a their gwaith yn y dydd difera ddefnyn neu ddau ymhob llygad, neu yn yr un a fo achos. RHAG GWYN YN Y GOES. $ 38. Cymmer ddryll o surdoes trasur, yr un bwys o ferman, ar un o sebon du, tymmhera nhwy ynghyd, yna taner ef ar liain, a dod wrth y goes lle byddo'r gwres, a symmud ef ddwywaith yn y dydd, a thrwy borth Duw fe iachâ ymhen tair gwaith neu bedair. I BERI GWELED YN DDA. § 39. Cymmer y golyglys, a ffunel cochon, ddyrnaid o bob un, hanner dyrnaid o ryw, distylla nhwy, a golch dy lygaid beunydd a'r dwr. RHAG DOLUR YN Y PENN. § 40. Cymmer ddryll o gig eidion heb ferwi, a gosod ar dy wegil, a symmud ef bob nos wrth fyned i'r gwely, ag arfer hynny mor fynych ag y bo achos; profedig yw. RHAG Y GWST MAWR. § 41. Dolur yw hwn a fydd gan fwyaf yn y traed a'r dwylo. Cymmer chwerwyn y twyn, a'r murlys, a brann gwenith, a thom bywch, a halen, a berwa nhwy mewn aesel gwin neu ossai, a dod yn blaster wrth y dolur. I WNEUTHUR SUGLIAIN RHAG GWYNIAU O BOB RHYW. § 42. Cymmer bunt o gwyr heb weithio, hanner punt o rosyn, a chwedran punt o dus, a phunt a hanner o wer myharen, berw ynghyd, a hidla nhwy i fasyn glan, yna dod y basyn ar danllestr a than marwor, a gwlych ddryll o liain ynddo, ag felly dod ar y dolur. RHAG Y PESWCH. § 43. Cymmer had mwstardd wedi eu brasfalu, a dod nhwy mewn ffigys, a berwa nhwy felly mewn cwrw da, ag yf ef. § RHAG DARWDEN. 44. Cymmer wraidd tafol cochon, a hallta nhwy, yna dod nhwy mewn aesel, a rho ias berw iddynt, a golch y ddarwden a'r llynnor. RHAG Y FAM. § 45. Cymmer rosyn, a malbwya ef yn dda, yna dod ef mewn gwin gwynn, ag eliw'r liwydden ber, a llwnc ef, a thi a gai les oddiwrtho. I UN A FO'N DYWEDYD YN EI GWSG. § 46. Cymmer lysiau'r corph, a phwya nhwy'n fâl ag yn dda, yna dod attynt win neu hen fedd cadarn, a hidla'n galed, ag yfed y claf o hono'r bore ac wrth fyned i gysgu. I WRAIG A FYTHO'N CAEL GORMOD O'I BLODAU. § 47. Cymmered droed ysgyfarnog, a llosged yn bylor, a chymmered ganel yn bylor, y ddau hanner yn hanner, a doded mewn gwin coch, ag yfed o hono lwnc syched yn gyntaf a diweddaf nawniwarnod, a hi a gaiff les o hynny. RHAG Y DDANNOEDD. $ 48. Cymmer bwrs y bugail, a phwya'n soppyn, a dod wrth y dant. 1 |