Meddygon Alyddkai. LLYMA Lyfr Meddyginiaethau a gafwyd yn oreuon ac arbenniccaf wrth Gorph Dyn drwy ddeall ac ymbwyll ystig Rhiwallon Feddyg ai dri meibion, nid amgen, na Chadwgan a Gruffydd ac Einion; sef Meddygon oeddynt i Rys Gryg ab Gruffydd ab Rhys ab Tewdwr eu Harglwydd, yr hwn a roddes iddynt ansawdd a thiroedd a breintiau ym Myddfai, fal y gellynt ymgynnal ac ymddarbod au celfyddyd au dysgeidiaeth er iachâd a lles au hymgeisiai. Ac yma gan borth Duw y dangosir y gelfyddyd o iachau y dolurau a'r clefydon arbenniccaf ar Gorph Dŷn a'r modd au meddyginiaethir. Yn enw'r Tâd a'r Mab a'r Yspryd Glân, Amen, a phoed felly fyth y bo. RHAG Y CYLLWST WYNT. § 1. Cymmer had y perllys, a phwya 'nhwy yn dda, au berwi mewn seg ac yf e'n frwd pan fo'r poen arnat. RHAG Y GWST MAWR NEWYDD DDWAD. § 2. Cymmer ffa'r gors, a phwya'n dda, a golosg had yr eithin, neu had y banadl, mewn crochan harn, a mal e'n N fflwr, a bwrw ar y llysiau ar fflwr alwynaid o hen fedd cadarn, a chan gau arnynt yn ddiwall, rho ias berw iddynt, a gad oeri cyn agor, ag yf yn ddiod, nos a bore, yn wag, a fo raid ith ddiodi, ac na yf brydiau eraill mamyn dwr yn ddiod oni bot iach. ARALL. § 3. Yf isgell yr asgallen fendigaid naw bore, ac ar ol hynny gorphwys naw bore, yna yfed a gorphwys fal or blaen, wedi hynny yfed naw bore'r drydydd waith, ag ymborth ar fara gwenith a llaeth gwartheg. DWR LLYGAID. § 4. Cymmer lonaid ffiol geiniog o'r gwin gwynn goreu, a chymmer maint wi gâr o fwn pres a thwyma ef yn y tân nes byddo coch, yna diffod ef yn y gwin, a gwna felly naw gwaith, yna dod y llynn mewn llestr gwydr a chauadu'n dda, a gwedi aros dan gaead nawnieu ymarfer ag ef fal y bo gofyn, gan ddodi diferyn neu ddau yn dy lygad nos a bore, lle nas gellir gwin, hen fedd cadarn, neu hen ossai da sef gwin afalau. ARALL. § 5. Golch dy lygaid a'th ddwr dy hunan, yna eu cadw yng 'nghaead tra rifer cant. I DORI ADDWYD. § 6. Cymmer ychydig o'r llysewyn a elwir gras Duw, ag ychydig fara surdoes yn friwsion, a hanner llwyaid o liw'r gliwydd, a berwa nhwy mewn gwaddod hen ddiod, a chymysg nes bytho'n tewhau, a phan arferer gosoder ar liain yn frwd wrth y dolur. RHAG Y DDANNOEDD. § 7. Cymmer ddistyll rhos cochon, ag ychydig gwyr melyn, ag ychydig menyn newydd, yr un faint o'r cwyr ar menyn, cymmysg ynghyd mewn dysgyl ar y marwor, gwlych liain ynddo a gosod ar yr ên lle bo'r dolur mor frwd ag y gellych ei oddef. ELI CLWYF. § 8. Cymmer bedwar amcan o rosin, dau amcan o gwyr, ac un amcan o hen floneg, a phedwerydd amcan o rwd gwyrdd, yna berwa 'nghyd ar dan araf, a hidla drwy liain bras, a dod i gadw mewn llestr plwm caeedig. RHAG GWAYW O BOB RHYW. § 9. Cymmer linhad a berw mewn llefrith, gwna blasder o hono a gosod wrth y dolur. RHAG BRIW. § 10. Cymmer gwyr melyn, a thodd ef ar dân araf, a chymer had cwmin pwyedig, a chymmysc ar cwyr tawdd, gan eu cymmysg a modlain oni bo'n oer, gosod hwn yn blasder ar y briw. ARALL. § 11. Cymmer linhad pwyedig, a gwynn wi, ag ychydig hufen llaeth dafad, ag ychydig fel, gwna'n blasder, a dod wrth y briw. RHAG LLOSG TAN NEU DDWFR BRWD. § 12. Rhostia ddeuddeg wi yn galed fel y garreg, yna cymmer y melyn o honynt, a dod mewn padell ffrïo, ffrïa nhwy oni bont yn eliw, yna hidla, ag ira'r llosg ag ef, wedi hynny cymmer bledren ac ira hi a gliw'r liwydden, a dod wrth y llosg. RHAG CLWYF YR EISTEDDFA, A ELWIR HEFYD CLWYF Y MARCHOGION. § 13. Cymmer goch yr wden a sych ef, a gwna'n lwch mor fâl ag y gellych, yna dod ef ar farwor mewn tanllestr, a dod y llestr mewn cadair gist, ag eiste uwch ei benn. ELI I DYNNU CIG PWDR ALLAN O DDOLUR. § 14. Cymmer lwyaid o aesel da, llwyaid o fel, ac ychydig rwd gwyrdd, a chymmaint a hynny o'r elyf, berw ynghyd, a chadw yn barod wrth law i'w arfer. GOLCH I OLCHI DOLUR. § 15. Cymmer lydan y ffordd, dail y gwinwydd, a rhos gwynnion, a distylla 'nhwy ynghyd, ag yn y distyll dod amcan o gamffyr, a gad ei aros yn y dwr yn wastadol. RHAG Y CRYD A'R MWYTH AR BLENTYN. § 16. Berw dail y pumpbys mewn llaeth, gymmaint o'r dail ag a wedd yn y llaeth, a rho'n unig ddiod i'r plentyn oni bo iach, hyn hefyd a lwydd fynychaf i ddyn mewn oedran gwr. ARALL. § 17, Rhostier afalau sirion y coedydd, a chymmerer y bywyn un amcan, a hanner amcan o fêl, a rhodder hwnnw yn unig ymborth i'r plentyn ddiwarnod a noswaith. RHAG Y MWYTH GWENWYNLLYD YN GYRRU ODDIWRTH Y GALON. § 18. Gwna bossel gwin gwynn, a chymmer ymaith y caws, a chymmer ebod march mor frwd ag y del oddiwrtho, a chymmysc ef yn dda yn y possel, yna hidla ef, gwedi hynny berw ychydig o ddail yr ysgall bendigaid ynddo, neu, os bydd, yn lle'r dail, dod yn y possel lonaid llwy o ddistyll yr ysgall bendigaid, a dyro i'r claf iddei yfed yn wag naw bore, lwne syched o hono. RHAG MAGL AR Y LLYGAD. § 19. Cymmer sudd y perllys, a hanner cymmaint o fel, a difer ag asgall yn y llygad, ai gadw ynghau hyd y rhifer cant, a thrin yn llynn yn fynych. |