I BERI CYSGU. § 807. Cymmer gorn gafr ag ysgrifenna enwau y saith S gysgadur arni, a dod hi yn garn cyllell, a dechreu yr ysgrifen oddiwrth y llafn, a llyma eu henwau, Anaxeimeys, Malchws, Marsianws, Denys, Thon, Serapion, Constantynn; a gwedi ysgrifenu yr enwau dod y gyllell dan benn y claf heb yn wybod iddo, ag ef a gwsg. Pro morbo kadendo, HYNNY YW Y CLEFYD CADARN, PAN DDEL A CHWYMPO O DDYN. § 808. Dyro dy feddwl at Dduw yn dda a dywed y geiriau hynn dair gwaith yn ei glust Anamzapta, a phan gotto'r dyn o'r llygfa dyro iddo fustl ci, a chrog ef yn y tŷ y bo'r claf yn preswylio, a dod ef lle y caffo wynt hyd ymhen y tridiau, yna bwrw mewn chwart o gwrw hyn el yn beint, a dyro yfed i'r claf cyn y delo y clwyf eilwaith. Llyma swyn a wnaeth yr Arglwydd Iesu Grist ei Hun, ag a ddangoses i'r tribrodyr gan ofyn iddynt pa le yr aent, ni awn ebent hwy i fynydd yr Olifer i gasglu llyseuau i iachau brathau a dyrnodau, yna y dywad Ef ymhoelwch drachefn a chymmerwch eliw'r eliwydden, a gwynn wi, a gwlan du, a dodwch wrthynt gan ddwedyd fal hynn: Mi a'th dynghedaf di frath drwy rad a grymiant yr wyth archoll yr rhain a fuant yn y gwir Dduw a'r gwir Ddyn, ac au cymmerth yn y santeiddaf gorph er yn prynu ni, ac er yr hwn a ddymyneisti dy hun, ac er y blinder a gefeisti, ag er y bridwerth a bryneisti dy Hun, Iesu Grist, hyd na ddolurio ag na ddrewo, ag na ddrygroglo y brath hwn y mau, yn enw y Tad, a'r Mab, a'r Yspryd Glân; poet gwir. Amen. * Berw yn ddiau. RHAG Y MWYTH GRYD CYFERDDAWN. § 809. Dod yr ysgrifen honn ar bwll calon y claf yn grogedig am ei fwnwgl. Pan weles ein Harglwydd Iesu Grist y grog a ddarparesid iddaw, Efe a grynes yn ddirfawr, a'r Iuddewon a ofynasant iddaw yn llynn, ai ofni ydd wyd o weled y grog honn, neu ynteu y mwyth gryd y sydd yn dy ddoluriaw, a'r Iesu au hattebes yn llyn, Myfi nid wyf yn ofni y grog honn, ag nim doluria'r mwyth gryd, eithr crynu ger bronn fy Nhad nefawl ydd wyf gan weled ei ddarpar Ef i'r rhai am crogant, ag wrthych yn lle gwir y dywedaf y neb o ddyn a glywo'r geiriau a ddywettwyf ag au cretto ag a wnelo yr hynn oll a ddodais yn orchymynedig ynddynt gann ymgrynu ger bron ei Dad nefawl, efe ni ddolurir fyth gan y mwyth gryd, ag ni ellir a bair iddaw ofnau. Ag yn awr o Arglwydd Iesu Grist poed o'th drugaredd na chaffed y mwyth gryd ddoluriaw a blinaw dy was hwnn a gwasanaethwr Duw Dad o'r nef, nag yn awr gyndrychol nag yn un amser arall ynghyffryd ei fywyd ai einioes yn y byd hwnn, yn enw y Tad, a'r Mab, a'r Yspryd Glân, a phoed felly y bo. Amen fyth. I WYBOD PAN FO DYN YN GLAF PUN FYDD EF AI BYW AI MARW. § 810. Cymmer wi a ddydwer ddydd Iau yn y tŷ lle bo y claf, ag ysgrifenna y llythyrennau hynn arno, F.G.O.G. Y. L. Q. Y. S. a dod hwnnw mewn lle safedig y maes o'r tŷ, a thrannoeth y bore torr y wi, ag o daw gwaed y maes marw fydd, ag oni ddaw gwaed byw fydd. RHAG Y DYFRGLWYF, SEF YR IDROPS. § 811. Ira wenholod bychain a saffar, a chyn nemmor o ennyd fe ddaw yr hen wenholod a maen iddynt hwy, ag a hwnny y llesheir y claf o'r Idrops. AM ELLWNG GWAED I YMDDIFFYN GOLWG DYN. § 812. Pwy bynnag ag y gellyngir gwaed arno y ddeunawfed dydd o fis Mawrth yn y fraich ddeheu, ag ar yr ugeinfed dydd y fis Ebrill ar y fraich asswy ni bydd byth ddall, canys hyn a brified yn fynych. RHAG DAFADENNAU. § 813. Golch y dafadennau a dwr o'r bedyddfaen lle y $ bedyddiwyd y seithfed fab i yr un gwr a gwraig o briod. Y FFORDD Y CEIR GWELED Y PETH NAS GALLO ARALL EI WELED. § 814. Cymmer fustl cath a bloneg giar, a chymysgc hwynt ynghyd a dod ar dy lygaid ag di a gei weled y peth na chaiff arall ei weled. MODD Y GEILL DYN DDALA TAN YN EI LAW. $ 815. Cymmer y malw bendigaid, a gwynn dau wi, ag ira dy ddwylaw ag hwynt ynghymysg, a dod bylor elyf arno ar dy ddwylaw, ag felly di a elli deimlo tân yn ddi ddolur, a dala tân a harn brwd yn dy law yn ddiofn. Llyma ddeuddeg cyffredinrwydd y sydd ar groen neidr y rhai a dystia Alphibam ei bod yn dda, ag a ddwad i fod yn wir ag yn ffrwythlawn i'r sawl a arferei o honynt, a minnau o'r iaith Arabaidd ai troes i'r Llading, ag o'r Llading i'r Gymraeg, nid amgen. Pan fo y lleuad ar dyfiant cyntaf o'r arwydd a elwir Aries sef yr Hwrdd, ys sef yw hynny gwydyr yr arwydd, hwn a ddigwydd ynghylch hanner mis Mawrth, y trydydd dydd o Galan Ebrill yno y bydd yr had cyntaf i'r arwydd yn yr hwn ar yr amser hwnnw llosgwch groen neidr yr hwn a fwr hi oddiwrthi amser cynhauaf, a dwg y lludw hwn genit, a chadw ef yn dda o achos mawr werthfawrogaf yw ef or holl eliau, yr hwn ni ddichon tafod dyn i gyfarwyddo, y cyfarwyddyd cyntaf yw hwnn. Pwy bynnag y fai yndo frath newydd doded ychydig o'r lludw hwnnw yndo, a iach o fewn tridiau fydd. Llyma bellach ddangos enwau y llysiau, a'r ffrwythau, a'r defnyddiau Llyseugael ag eraill a ddylai pob meddyg eu gwybod ag ymarfer a nhwy er iachau doluriau, a chlefydau ynghorph dyn. yspargam yr Attramendwm, ammor. Aletorolofws, arianllys. blaidd, bleiddan, bleiddlys. Anaglis, llysiau'r cryman. Aptiaca, gwŷg, pys gwyllton. Apolinaris, y belai, llewyg y iar. Aristologia, llysiau'r galon, ysgarllys. Angelica, llysiau'r angel, y wreiddber. Alsinc, gwlydd y perthi, llau'r perthi. Asphodelwm, y gilgain. Alga, gwimon, gwigmor. B. Bacca, gwyfon, gwyfonen, maccwn, maccynen, grawn coed, greol, egroes, manaeron coed. Baccalina, bae, baewydd. Balania, greol gwin, grabon, ffrwyth gwinwydd. Balsamwm, balmwydden. Balsaminwm, balm. Bambata, morwynwyn. Betonica, cribau sanffred, y bittain, y bitton, y feddyges lwyd, dannogen. Betonica aquatica, dannogen y dwr, y feddyges ddu. Barba aeron, pys y ceirw, pwys y ceirw. Barba sacti, y ganwraidd lwyd. Buglosswm, tafod yr ych. Bursa pastoris, pwrs y bugail, llysiau'r tryfal. Batinwm, mwyar y perthi. Buboniwm, y serlys, serenllys, dail y tenewyn, blodiau gwydion. Botrus, gwinwyfon. Byglosa, glesyn y coed. Beneria, grug, grel. Bibilis, brwynen. Burneta, y rhwyddlwyn. Borago, tafod yr ych, tafod y fuwch. Barba Jovis, llysiau pen tai, y ferllys, berllys. Bellis, llygaid y dydd. Bipnelia, gwyddlwyn. Biciona, pys y llygod, gwyg. Barba capri, barf y bwch, erwaint, barfogan. Batis, corn y carw mor, eliglys. Bardana, cyngaw, caresgar. |