Billeder på siden
PDF
ePub

I BERI CYSGU.

807. Cymmer gorn gafr ag ysgrifenna enwau y saith gysgadur arni, a dod hi yn garn cyllell, a dechreu yr ysgrifen oddiwrth y llafn, a llyma eu henwau, Anaxeimeys, Malchws, Marsianws, Denys, Thon, Serapion, Constantynn; a gwedi ysgrifenu yr enwau dod y gyllell dan benn y claf heb yn wybod iddo, ag ef a gwsg.

Pro morbo kadendo, HYNNY YW Y CLEFYD CADARN, PAN DDEL A CHWYMPO O DDYN.

§ 808. Dyro dy feddwl at Dduw yn dda a dywed y geiriau hynn dair gwaith yn ei glust Anamzapta, a phan gotto'r dyn o'r llygfa dyro iddo fustl ci, a chrog ef yn y tŷ y bo'r claf yn preswylio, a dod ef lle y caffo wynt hyd ymhen y tridiau, yna *bwrw mewn chwart o gwrw hyn el yn beint, a dyro yfed i'r claf cyn y delo y clwyf eilwaith.

Llyma swyn a wnaeth yr Arglwydd Iesu Grist ei Hun, ag a ddangoses i'r tribrodyr gan ofyn iddynt pa le yr aent, ni awn ebent hwy i fynydd yr Olifer i gasglu llyseuau i iachau brathau a dyrnodau, yna y dywad Ef ymhoelwch drachefn a chymmerwch eliw'r eliwydden, a gwynn wi, a gwlan du, a dodwch wrthynt gan ddwedyd fal hynn: Mi a'th dynghedaf di frath drwy rad a grymiant yr wyth archoll yr rhain a fuant yn y gwir Dduw a'r gwir Ddyn, ac au cymmerth yn y santeiddaf gorph er yn prynu ni, ac er yr hwn a ddymyneisti dy hun, ac er y blinder a gefeisti, ag er y bridwerth a bryneisti dy Hun, Iesu Grist, hyd na ddolurio ag na ddrewo, ag na ddrygroglo y brath hwn y mau, yn enw y Tad, a'r Mab, a'r Yspryd Glân; poet gwir. Amen.

* Berw yn ddiau.

RHAG Y MWYTH GRYD CYFERDDAWN.

§ 809. Dod yr ysgrifen honn ar bwll calon y claf yn grogedig am ei fwnwgl.

Pan weles ein Harglwydd Iesu Grist y grog a ddarparesid iddaw, Efe a grynes yn ddirfawr, a'r Iuddewon a ofynasant iddaw yn llynn, ai ofni ydd wyd o weled y grog honn, neu ynteu y mwyth gryd y sydd yn dy ddoluriaw, a'r Iesu au hattebes yn llyn, Myfi nid wyf yn ofni y grog honn, ag nim doluria'r mwyth gryd, eithr crynu ger bronn fy Nhad nefawl ydd wyf gan weled ei ddarpar Ef i'r rhai am crogant, ag wrthych yn lle gwir y dywedaf y neb o ddyn a glywo'r geiriau a ddywettwyf ag au cretto ag a wnelo yr hynn oll a ddodais yn orchymynedig ynddynt gann ymgrynu ger bron ei Dad nefawl, efe ni ddolurir fyth gan y mwyth gryd, ag ni ellir a bair iddaw ofnau. Ag yn awr o Arglwydd Iesu Grist poed o'th drugaredd na chaffed y mwyth gryd ddoluriaw a blinaw dy was hwnn a gwasanaethwr Duw Dad o'r nef, nag yn awr gyndrychol nag yn un amser arall ynghyffryd ei fywyd ai einioes yn y byd hwnn, yn enw y Tad, a'r Mab, a'r Yspryd Glân, a phoed felly y bo. Amen fyth.

I WYBOD PAN FO DYN YN GLAF PUN FYDD EF AI BYW AI MARW.

§ 810. Cymmer wi a ddydwer ddydd Iau yn y tŷ lle bo y claf, ag ysgrifenna y llythyrennau hynn arno,

F.G.O. G. Y. L. Q. Y. S. a dod hwnnw mewn lle safedig y maes o'r tŷ, a thrannoeth y bore torr y wi, ag o daw gwaed y maes marw fydd, ag oni ddaw gwaed byw fydd.

RHAG Y DYFRGLWYF, SEF YR IDROPS.

$ § 811. Ira wenholod bychain a saffar, a chyn nemmor o ennyd fe ddaw yr hen wenholod a maen iddynt hwy, ag a hwnny y lleshëir y claf o'r Idrops.

AM ELLWNG GWAED I YMDDIFFYN GOLWG DYN.

§ 812. Pwy bynnag ag y gellyngir gwaed arno y ddeunawfed dydd o fis Mawrth yn y fraich ddeheu, ag ar yr ugeinfed dydd y fis Ebrill ar y fraich asswy ni bydd byth ddall, canys hyn a brified yn fynych.

[ocr errors]

RHAG DAFADENNAU.

§ 813. Golch y dafadennau a dwr o'r bedyddfaen lle y bedyddiwyd y seithfed fab i yr un gwr a gwraig o briod.

Y FFORDD Y CEIR GWELED Y PETH NAS GALLO ARALL EI WELED.

§ 814. Cymmer fustl cath a bloneg giar, a chymysge hwynt ynghyd a dod ar dy lygaid ag di a gei weled y peth na chaiff arall ei weled.

MODD Y GEILL DYN DDALA TAN YN EI LAW.

§ 815. Cymmer y malw bendigaid, a gwynn dau wi, ag ira dy ddwylaw ag hwynt ynghymysg, a dod bylor elyf arno ar dy ddwylaw, ag felly di a elli deimlo tân yn ddi ddolur, a dala tân a harn brwd yn dy law yn ddiofn.

Llyma ddeuddeg cyffredinrwydd y sydd ar groen neidr y rhai a dystia Alphibam ei bod yn dda, ag a ddwad i fod yn wir ag yn ffrwythlawn i'r sawl a arferei o honynt, a minnau o'r iaith Arabaidd ai troes i'r Llading, ag o'r Llading i'r Gymraeg, nid amgen.

Pan fo y lleuad ar dyfiant cyntaf o'r arwydd a elwir Aries sef yr Hwrdd, ys sef yw hynny gwydyr yr arwydd, hwn a ddigwydd ynghylch hanner mis Mawrth, y trydydd dydd o Galan Ebrill yno y bydd yr had cyntaf i'r arwydd yn yr hwn ar yr amser hwnnw llosgwch groen neidr yr hwn a fwr hi oddiwrthi amser cynhauaf, a dwg y lludw hwn genit, a chadw ef yn dda o achos mawr werthfawrogaf yw

ef or holl eliau, yr hwn ni ddichon tafod dyn i gyfarwyddo, y cyfarwyddyd cyntaf yw hwnn. Pwy bynnag y fai yndo frath newydd doded ychydig o'r lludw hwnnw yndo, a iach o fewn tridiau fydd.

Llyma bellach ddangos enwau y llysiau, a'r ffrwythau, a'r defnyddiau Llyseugael ag eraill a ddylai pob meddyg eu gwybod ag ymarfer a nhwy er iachau doluriau, a chlefydau ynghorph dyn.

[blocks in formation]

Assa nigrwm, y bengaled.

[blocks in formation]

Aletorolofws, arianllys.
Acopus, drewgoed.
Abiga, y dorllwyd.
Acorwm, gellesk, elestr.

Argentaria, y dinwen, y dinllwyd.

Apios, clor, clorlys
Alicubi, ffiol y ffrith.
Acetabwlwm, crynddail.

Acipitrina, gwlaeth y waun,

llaethygen y waun.

Aconitwm, llysiau'r

blaidd,

bleiddan, bleiddlys. Anaglis, llysiau'r cryman. Aptiaca, gwŷg, pys gwyllton. Apolinaris, y belai, llewyg y iar. Aristologia, llysiau'r galon, ysgarllys.

Angelica, llysiau'r angel, y wreiddber.

Alsinc, gwlydd y perthi, llau'r
perthi.
Asphodelwm, y gilgain.
Anethwm, gwewyrllys.
Athanasia, tanclys, llysiau'r tanc,
tanced, tancedlys.
Antylys, palf y gath.
Asplenwm, rhedyn y graig,
rhedyn y gwelydd.
Alliarwm, troed yr assen.
Andrachne, troed y cyw,
Anti rhinwm, trwyn y llo, safn
y llo, llwne y trothwy.
Arwm, pidyn y gwecw.
Alcea, malwen Alis.
Alicampania, marchalan.
Aquileia, troed y ceiliog.
Acetaria, melynsur.

Amera, had y rhos, grawn y

rhos, gwyfon rhonwydd. Anatolia, llorwydden. Ardaliwm, corsen, cyrs.

Alga, gwimon, gwigmor.
Alwmen, elyf.
Andonica, gwrlys.
Argimonia, y dinllwyd.
Argentina, arianwen, y dinllwyd.
Alcea, malwen Alis.
Arbutus, mefynwydd, mewydd,
mewydden.
Aquilegia, madwyse.

B.

Bacca, gwyfon, gwyfonen, maccwn, maccynen, grawn coed, greol, egroes, manaeron coed. Baccalina, bae, baewydd. Balania, greol gwin, grabon, ffrwyth gwinwydd.

Balsamwm, balmwydden.
Balsaminwm, balm.

Bambata, morwynwyn.
Betonica, cribau sanffred, y bit-
tain, y bitton, y feddyges
lwyd, dannogen.

Betonica aquatica, dannogen y
dwr, y feddyges ddu.
Barba aeron, pys y ceirw, pwys
y ceirw.

Barba sacti, y ganwraidd lwyd.
Buglosswm, tafod yr ych.
Bursa pastoris, pwrs y bugail,
llysiau'r tryfal.

Batinwm, mwyar y perthi.
Buboniwm, y serlys, serenllys,
dail y tenewyn, blodiau
gwydion.
Botrus, gwinwyfon.
Byglosa, glesyn y coed.
Beneria, grug, grel.
Bibilis, brwynen.

Burneta, y rhwyddlwyn.

Borago, tafod yr ych, tafod y fuwch.

Barba Jovis, llysiau pen tai, y ferllys, berllys.

Bellis, llygaid y dydd.
Bipnelia, gwyddlwyn.
Biciona, pys y llygod, gwŷg.
Barba capri, barf y bwch, er-
waint, barfogan.

Batis, corn y carw mor, eliglys.
Bardana, cyngaw, caresgar.

« ForrigeFortsæt »