Billeder på siden
PDF
ePub

MORWYNION GLAN MEIRIONYDD.

GAN LEWIS MORYS, Ysw.,

(Llewelyn Ddu o Fôn.)

Er a we-lais dan y Ser O lawn-der glew-der gwle-dydd O

gw-rw da a gwyr i'w drin A gwin ar fin a-fonydd,

Go-reu bir a go-reu bwyd A ran-wyd i Feir-ion-ydd

Er a welais dan y Ser,

O lawnder, glewder gwledydd,
O gwrw da, a gwŷr i'w drîn,

A gwîn, ar fin afonydd,
Goreu bîr, a goreu bwyd

A ranwyd i Feirionydd.

Da ydyw'r gwaith, rhaid d'weud y gwîr,

Ar fryniau Sîr Feirionydd,

Golwg oer o'r gwaela' gawn,

Mae hi etto 'n llawn llawenydd ;

Pwy ddisgwyliai canai 'r Gog,

Mewn mawnog yn y mynydd?

[blocks in formation]

Mwyn yw can o-ddeutu'r tân Mor-wyn-ion glân Meir-ion-ydd. Two last bars.

Of all I've seen, beneath the stars,

Of plenteous, glorious lands,

Of mighty ale, of men to till,

And wine on river strands,

For best of beer, of food the best,
Full foremost Meirion stands.

Well fares the work, 'tis sooth to say,
On Meirion's every hill;

Though bleak and bare the prospect be,
With mirth she's brimming still;
Who'd look to hear, on mountain-soak,

VOL. V.

The cuckoo's springtide-trill!

L

Pwy sydd lân o bryd a gwêdd,
Ond rhyfedd mewn pentrefydd?
Pwy sy' mhob hyswiaeth dda,
Yn gwlwm gydâ'u gilydd?
I'wy sy'n ymyl dwyn fy nghô'?
Morwynion bro Meirionydd.

Glân yw'r gleisiad yn y llyn,
Nid ydyw hyn ddim newydd;
Glân yw'r fronfraith yn ei thŷ,
Dan danu ei hadenydd:
Glanach yw, os d'wedir gwîr,
Morwynion tir Meirionydd.

Anwyl yw gan adar byd

Eu rhyddid hyd y gwledydd;
Anwyl yw gan faban laeth

Ei fammaeth, odiaeth ddedwydd;
O! ni ddywedwn, yn fy myw,
Mor anwyl yw Meirionydd!

Mwyn yw telyn o fewn tŷ,

Lle byddo teulu dedwydd,
Pawb a'i benill yn ei gwrs,

Heb sôn am bwrs y cybydd:
Mwyn y cân, oddeutu'r tân,
Morwynion glân Meirionydd.

Er bod fy nghorph mewn hufen byd,
Yn rhodio ar hyd y gwledydd,

Yn cael pleser môr a thîr,

Ni chaf yn wir mo'r llonydd;

Myned adre 'i mi sy raid,

Mae'r Enaid ym Meirionydd.

["Caniad y Gog i Feirionydd" yw yr enw a geir uwch ben y gân hon yn y Diddanwch Teuluaidd. Yno hefyd ceir cyfieithiad Saesneg, attempted by a Member of the Society. Gol. Y C.]

Who are the marvel of her towns-
So bright of form and face?
In harmony united close,

All housewives give them place ;
Who all but steal my wits away?
The maids of Meirion's race.

The salmon's lovely in the lake,
-These are no novel things:
The thrush is lovely in her nest,
Outspreading both her wings;

But lovelier far-the truth to tell-
The maidens Meirion brings.

To all the birds in forest-world
How dear 'tis to be free!

Dear to the babe his mother's milk,-
Supremely happy he!

How dear I cannot for my life
Say, Meirion is to me!

A harp within a house is sweet,
When each recites his verse ;
Where happy is the social throng,
And scorn'd the miser's purse :
Around the hearth how sweet the

That Meirion's maids rehearse !

song

What though the cream of life I sip,
While o'er the world I roam!
On land no pleasure brings me rest,
Nor where the waters foam;

I needs must go-my heart is there-
For Meirion is my home.

PROFESSOR RHYS ON WELSH ANTIQUITIES AND FAIRY TALES.

THE following address was delivered by Professor Rhys in the afternoon meeting of the Eisteddvod, held at Llanaelhaiarn, Friday, the 18th of August. The remarks on the value of traditional literature, and on the connection between our Welsh tales and those of other Aryan peoples, are so interesting, and the Professor's manner of treating the subject is so happy, that we feel sure our readers will thank us for giving the address a place here.

"Tebyg genyf mai y peth cyntaf i chwi ofyn wrth fy ngweled i yn sefyll yn y fan hon ydyw-yn enw pob daioni o ba le y daethoch chwi? Gan nad moesau da i neb sôn llawer am dano ei hun, cewch ateb yn ddioed heb amgylchu na môr na mynydd: y Tylwyth Teg a ddaeth a mi yma o Bwllheli. Chwerthwch chwi neu beidio, dyna'r gwir; ni buasai na pherson na phregethwr yn medru fy arwain i yma, mwy na bwch i odyn, chwedl yr hen bobl, oni buasai am y Tylwyth Teg. Ië, medd rhywun, yr oeddym ni yn medwl eich bod chwi cyn galled a'r cyffredin, ond ymddengys eich bod yn dechreu penwanu. Hwyrach hyny: myn rhai fod rhyw lecyn gwan ar ben pob dyn, a'm penwendid i yw pwnc yr hynafiaethau yma. Y mae genym ninau, medd rhywun drachefn, feddwl mawr o hynafiaethau ein gwlad; ond peidiwch sôn am y Tylwyth Teg fel yn perthyn i hynafiaethau un wlad yn y byd: nid oes y fath bethau yn bod. Purion, ond meddyliwch fod un ohonoch chwi am wneyd allan hanes ei hendaid neu rywun arall o'i hynafiaid, pa un fuasai yn fwyaf, yn eich tyb chwi, o gaffaeliad hanesyddol, cael allan pa sawl pryd o uwd oedd yr hendaid hwnw wedi fwyta yn ei oes, a pha sawl côt gochddu oedd wedi dreulio o'i febyd i'w fedd, neu ynte wneyd allan pa beth oedd ei gred am y byd yr oedd yn byw ynddo? Ni waeth beth a haero neb, un ran bwysig o hanes yr oesoedd a aethant hebio ydyw pa beth a goeliai pobl yr oesoedd hyny ; ac yn mhlith pethau eraill yr oeddynt o'r farn yr ymwelid a'u cartrefydd yn awr ac eilwaith gan greaduriaid bychain a elwid yn Dylwyth Teg. Nid hawdd cysoni y crediniaethau cyffredin am danynt â'u gilydd, ond

« ForrigeFortsæt »