Billeder på siden
PDF
ePub

Llyma bethau da eu bod ar wybod gan bob Meddyg, a phob Pen Teulu, nid amgen.

Berwyn, bwrw dwr neu arall o
lynn yn ferw ar y llysiau
neu'r amgen a fo'r achos neu
raid wrtho.
Isgell, berwi'r llysieu neu'r
amgen yn y dwr neu
arall o lynn a fo gan raid ag
achos.

Gwysg, hefyd gwysgon, bwrw
berw neu oer 0 ddwr,
neu o amgen o lynn fal
y bo gofyn ar lysiau neu
amgen o ddarbod a gadael
sefyll, ag yna hidlo drwy
wasg.
Mwyd, bwrw oer neu ferw o
ddwr neu arall o lynn ar a
blyddhao, ag a elo ynghym-
ysg ar gwlyb a fwrer

arno.

Cyffaith, defnyddiau llynnoraid ynghymysg, a phyloreu neu eraill o bethau a ellir ar ddiawdlwnc.

Ednyw, anwedd neu roglaeth, a

gymmer ar lwne anadl i'r
genau, neu'r ffroenau, a'r
cylla, a'r penn, a'r werddyr,
neu amgen

Cyflaith, cyfladd ar ddefnyddiau
yn does yn bwydlwnc.
Cyfnyw, hefyd cyfnywydd, y
gnif a fytho mewn dyn neu
greadur byw arall, neu lyse-
wyn, neu amgen o beth, sef
y rhinwedd, neu'r gyfer-
ddawn, neu'r nattur a fo
iddaw ac arnaw.
Pelennau, defnyddiau meddyg-
giniaethol cyfladdedig a wnel-
er yn belennau bychain, i'w
cymmeryd ar draflwne.
Ennaint, isgell neu ferwyn a eler
iddaw, neu a ddodir aelod
vnddo.

Agolch enneinllyn a olcher dolur
ag ef, brwd neu oer fal y bo
gofyn.

Edlyn, diawdlwne, neu lynn a Cyfarpar, unig o fwyd a llynn wneir o gelfyddyd. wrth gyngor Meddyg.

Llyma bethau a ddylaint fod gan Feddyg, ar cynneddau a ddylynt fod arnaw, ac a elwir anhepcorion Meddyg, nid amgen,

3. Llafnen waedu, er gollwng gwaed, ag agor ar ddolur, a chyllell a fo ychydig yn fwy.

if. Ysciw ddur neu ariant i dannu plasderon ag eliau.

tij. Chwistrell, a phledren, i fwrw gellwng i'r cwndid, neu'r werddyr.

fiij. Ei blasteron, ai eliau, ai belennau, ai bylorau, ai edlynnau, yn gadwedig ganthaw, er gofyn ag achos.

b. Gardd coed a llysiau er cadw yn lledfegin y rhywiau ar lysiau, a llyswydd, a choedydd, nas ceffir ymhob mann yn grewyllion, ag er cynnal coed a llysiau pellenigion o wledydd a ofynont wasgawd a thrinaeth arnynt cyn y tyfont yn gadwedig yng Nghymru.

bj. Hefyd, efe a ddylai fod ganthaw ei lysiau sychon, ai wreiddiau, ai hadau, ai risgloedd, yn gadwedig gyda llaw, fal ai ceffir yn y gauaf, a'r amseroedd eraill nas byddant ar dwf, ag uwchlaw daear.

bij. Hefyd, efe a ddylai gyda llaw yn gadwedig, ei fèl, ai gwyr, ai byg, ai ystor, ai rwsin, ai ymmau, ai eliw, ai wêr, ai saem, ai floneg, ai fynorau, ai gwrw, ai win, ai fedd, ai opeion, ai ddistyll, ag eraill o bethau rhaid ag achos.

biff. Hefyd, efe a ddylai gyda llaw ei fortyron, ai hidl, ai wasg, ai lestri pridd, ai lestri gwydrynaid, ai lestri coed, ai lestri tân, ai lestri cadw yn wydrynaid, neu yn briddaid,neu yn arianaid, a chaeadau da iddynt, fal nas anffrwythlono'r meddyginiaethau, na myned gwenwyn ynddynt, na chael ei gwenwynaw o anghadw, a gwall, ag anneall.

fr. Hefyd, efe a ddylai gyda llaw ei bwysau, ai dafolan, yn arianaid, neu yn alcanaid, rhag myned gwenwyn yn y feddyginiaeth, ai holl fesurau llynn a gwlyb yn arianaid neu yn alcanaid, gan yr un pwyll, ac hefyd ei holl gelfi cnawd digerth gwaedlafneu, a chyllyll, ag eraill o gelfi torri, ai ysciwiau.

r. Efe a ddylai ei holl bwysau, ai fesuron, ai gwlyb ai sych y bont, yn warantedig o fesur a phwys, fal y gwypo'r meintiau ar bob peth rhag bod rhy o fawr, nag o fach, cans hynny a wnelei y naill ai diffrwythaw neu wenwynaw y feddyginiaeth.

xf. Efe a ddylai gyda llaw ei lyfrau gwarantedig o gelfyddyd, ag awdurdodawl o athraw, fal y gallo fedru ar farn a gwybodau y Meddygon doethion a chelfyddolion a fuant oi flaen ef, ag a ysgrifenasant eu llyfrau yn awdurdodawl yn y Gymraeg, ar Lladin, ag yn iaith Arafia.

xij. Hefyd, efe a ddylai fedru ar ei gelfyddyd o feddyginiaeth, yn warantedig ym marn Doethion, ag Athrawon, a Dysgedigion y gelfyddyd.

xiij. Efe a ddylai fod yn wr caredig, a mwyn, a thirion, a llaryaidd, a deallus, a doeth, a boneddigaidd, ar gamp ag ar ddefod, ag ar air, ag ar ymddwyn, a gofalu rhag cywilyddio a orfytho arno ei holi, ag yn benna dim lle gorffo arno holi merch neu wraig.

xiiij. Efe a ddylai fedru ar bob gwybodau parth ei gelfyddyd o feddyginiaeth, a medru ar bob lliw ag arwyddon clefyd a dolur, a holi y claf herwydd gofyn y dolur, ai gwr, ai gwraig, ai mab, ai merch y bo, herwydd oedran, ag amcwydd, ag ystlynedd, a gwneuthur hynny yn dra gweddus o fodd, ag yn eifwyn a boneddigaidd ei foes ai lafar.

II. Efe a ddylai gadw cyfrinach yn gadarn, ag nas dadrino er dim o beth, neu o ddyn, neu o gyfrif yn y byd.

rri. Efe a ddylai ymgadaw yn gadarn rhag meddidi, a llynna, a phutteina, a godinebu yn anghywelyfawg o wraig, can nas gellir coel ag ymddiried ar feddyg a wnelo y drygau hynny, ag nis gellir y parch a ddylid i ddysg, a gwybodau celfyddyd iddaw.

rrij. Efe a ddylai fod yn wr twng gwlad a gorwlad, rhag gwneuthur brad a brydyniaeth o honaw parth ei gelfyddyd ar na brodor nag estron, nag ar går nag ar elyn, canys nid lladd swydd Meddyg eithr gwared rhag a laddai, a bod wrth fodd Duw ai heddwch, ag nid wrth får a gelyniaeth dyn at ei gyd ddyn.

rriij. Efe a ddylai ddwyn yn ei gylch bynnag o le yr elo ei gelfi cnawd, ai gyfodau, ai waredau gantho, fal y gallo a fo achos wrthynt. Trin. Efe a ddylai ymgadw cylch ei gartref hyd eitha gallu, fal ai caffer yno pan ddelo gofyn am dano.

TMTM. Efe a ddylai fod yn ddwyfolion ei gynneddfau, ai ddefodau, fal y bo rhad Duw arno ag ar a wnelo, ag y bo cydwybod ynddo i wneuthur a fo iawn a llesgar parth ei gelfyddyd.

A'r pethau hynn a elwir anhepcorion Meddyg.

Ag felly y terfyna y Llyfr Meddyginiaeth yma, a myfi Hywel Feddyg ab Rhys ab Llewelyn ab Philip Feddyg, ai tynnes i maes o hen lyfrau awdurdodawl y Meddygon cysefiniaid o Fyddfai, sef oeddynt Rhiwallon Feddyg ai dri meibion, nid amgen Cadwgan, a Gruffudd, ag Einion, a'r Meddygon eraill o blant ag eppil iddynt a fuant gwedi hwynt.

A minnau Hywel Feddyg ydwyf yn dyfod llin o lin o dadidad, o'r Einion hwnnw ab Rhiwallon Feddyg o Fyddfai, ag yr ydwyf yn byw yng Nghil Gwryd yng Ngwyr, a phoed o Dduw, rad a phenllad ar y llyfr hwn, ag ar ai gwypo ag a wnelo yn ei ol ef, herwydd gwybodau'r gelfyddyd er bodd Duw, ac er iachau claf a chlwyfus.

Amen. Poed felly y bo gyda Duw.

Myfi William Bona ai ysgrifenodd o Lyfr Sion Jones, Feddyg o Fyddfai, yr hwn oedd y diweddaf o dadidad o'r Meddygon ym Myddfai; Anno Christi, 1743.

A minnau Iolo Morganwg, ai cyfysgrifenais yn ofalus o Lyfr y William Bona uchod, yn awr ym meddiant Thomas Bona, Feddyg o Blwyf Llanfihangel Iorwerth, yn swydd Gaerfyrddin, ym Mesyryd y flwyddyn 1801; a chyda'r Hen Hywel Feddyg y dywedaf,

Poed rhad Duw arno. Amen.

THE PHYSICIANS OF MYDDVAI.

« ForrigeFortsæt »