Billeder på siden
PDF
ePub

nid

hwn, yr hwn liw os gwyrdd fydd a arwyddocca urddas fal y dywaid Cassys y gwr doeth, a phob un o'r rhyw y sonier am danynt a fyddant ar y gormodedd ym mhob peth os trist a thrwm rhwy fal hynny, os llawen rhylawen ag nid oes gymmesur yn y byd arnynt, carant ganu yn yr unigfa, a charant o'r unig wrandaw cerdd a thannau, a charant ddangos eu meddyliau am eraill, ag ni charant ddangos modd y bydd arnynt eu hunaint, awengar a chywraint y byddant, ag mawr y carant ei ddangos, a nhwy a wellhant wybodau a chelfyddyd, ag a ddysgant yn llwyr ag a fyddant fanol yn a wnelont ag a ddywedont, ag os cymysg o'r gwaedryar ynddynt doethion amgenach nag eraill am gwelir, ag os o'r geri fydd y cymysg, chwerwon a surion fyddant, angnattach na neb eraill, ag os o'r uliar cymysc, hwy a gollant arnynt eu hunain ag a ymladdant eu hunain. Cul o gorph ag aelodau y byddant, a mynych o brydydd a geffir o'r cyfnywydd yma, ag aml y gwelir traserch a thrachas ynddynt.

Llyma gyferddonolion a gorchestolion o feddyginiaethau a gafwyd o rad Duw, a gwybodau doethion a duwiolion yr hen amseroedd, nid amgen y cyferddonau a ddangosir yma.

I BERI I DDYN GYFFESU BETH A WNAETH.

803. Cymmer froga o'r dwr yn fyw, a thyn ei dafod, a dod eilwaith yn y dwr, a dod y tafod hwnnw ar galon dyn yn cysgu, ag efe a eddyf beth a wnaeth trwy gwsc.

RHAG Y DDANNOEDD; CYFERDDAWN YW.

$ 804. Santes Fair a eisteddodd ar garreg, ar faen yn ymyl ei meudwyfa, a'r Yspryd Glân a ddaeth atti pan oedd drist. Pam drist ti fam farglwydd, a pha ddolur a'th flin? Dolurio mae fy nannedd, ag au amddarwanodd pryf a ddaeth yma a elwir migram, ag mi ai cnoais ag ai lleweis.

Mi a'th dynghedaf di daffin o negrbina trwy yr Tad, a'r Mab, a'r Yspryd Glân, Mair Forwyn, yr hael feddig Duw, na bo itti allel na chlwyf na dolur na molest i wasanaethwr y Dduw yma, yn gyndrychol yr awr honn nag mewn dant, nag mewn llygad, nag mewn penn, o gwbl or dannedd bob gwir yt. Amen.

CYFERDDAWN RHAG Y FAM, A RHIWALLON FEDDYG AI DODES I WYRFYL FERCH RHYS AB GRUFFUDD AB RHYS AB TEWDWR.

§ 805. Rwyf yn dy dynghedu di y fam ddolurus drwy'r Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glan, fel na ellech di ddolurio na chael pwyer ynof fi Gwyrfil ferch Rhys gwasanaethwraig i Dduw, nag ei phenn, nag yn ei breichiau, nag yn ei bronnau, nag yn y cylla, nag yn lle yn y byd o'i chorff, o gorfydd Duw Dad, o gorfydd Fab Duw, o gorfydd Duw Yspryd Glân: poed felly y bo, Amen.

RHAG Y DDANNOEDD.

§ 806. Cais hoel haiarn, ag ysgrifenna arni y geiriau hynn, -- agla - Sabaoth -- athanatos -- a tharo yr hoel dan y dant claf, ag oddyna mewn pren derwen, a thra fo hi yno dannoedd i'r dyn, ac a'r hoel ysgrifenna enw y dyn ar y dderwen, dan ddywedyd fal hynn: Trwy rymiant y Tad a'r geiriau cyssegredig yma, fel yr ei di yn y prenn, felly yr el y gwŷn a'r dolur o ddant y claf; poed felly y bo. Amen.

FAL HYNN Y GWNAETH RHIWALLON FEDDYG RHAG GWAED. LING I LOGRAINYS FARCHOG, SANGIWS FARCHOG A DDYWANODD YSTLYS CRIST FAB MAIR WYRY AG AR HYNT DOETH Y GWAED a'r dwr.

--Saf waed

Mab, saf waed

yn enw'r Tad, saf waed -|- yn enw'r yn enw'r Yspryd Glan, gorphwys waed,

-- yn enw'r Trindawd bendigedig na red weli, -|-.

Vnnfith Dews Patris, vanfith Bews Filius, vnnfith Dews

Spiritus sanctus -- Christi Amen

Amen poed felly y bo.

Amen Amen -|

I BERI CYSGU.

§ 807. Cymmer gorn gafr ag ysgrifenna enwau y saith gysgadur arni, a dod hi yn garn cyllell, a dechreu yr ysgrifen oddiwrth y llafn, a llyma eu henwau, Anaxeimeys, Malchws, Marsianws, Denys, Thon, Serapion, Constantynn; a gwedi ysgrifenu yr enwau dod y gyllell dan benn y claf heb yn wybod iddo, ag ef a gwsg.

Pro morbo kadendo, HYNNY YW Y CLEFYD CADARN, PAN DDEL A CHWYMPO O DDYN.

§ 808. Dyro dy feddwl at Dduw yn dda a dywed y geiriau hynn dair gwaith yn ei glust Anamzapta, a phan gotto'r dyn o'r llygfa dyro iddo fustl ci, a chrog ef yn y tŷ y bo'r claf yn preswylio, a dod ef lle y caffo wynt hyd ymhen y tridiau, yna *bwrw mewn chwart o gwrw hyn el yn beint, a dyro yfed i'r claf cyn y delo y clwyf eilwaith.

Llyma swyn a wnaeth yr Arglwydd Iesu Grist ei Hun, ag a ddangoses i'r tribrodyr gan ofyn iddynt pa le yr aent, ni awn ebent hwy i fynydd yr Olifer i gasglu llyseuau i iachau brathau a dyrnodau, yna y dywad Ef ymhoelwch drachefn a chymmerwch eliw'r eliwydden, a gwynn wi, a gwlan du, a dodwch wrthynt gan ddwedyd fal hynn: Mi a'th dynghedaf di frath drwy rad a grymiant yr wyth archoll yr rhain a fuant yn y gwir Dduw a'r gwir Ddyn, ac au cymmerth yn y santeiddaf gorph er yn prynu ni, ac er yr hwn a ddymyneisti dy hun, ac er y blinder a gefeisti, ag er y bridwerth a bryneisti dy Hun, Iesu Grist, hyd na ddolurio ag na ddrewo, ag na ddrygroglo y brath hwn y mau, yn enw y Tad, a'r Mab, a'r Yspryd Glân; poet gwir. Amen.

* Berw yn ddiau.

RHAG Y MWYTH GRYD CYFERDDAWN.

§ 809. Dod yr ysgrifen honn ar bwll calon y claf yn grogedig am ei fwnwgl.

Pan weles ein Harglwydd Iesu Grist y grog a ddarparesid iddaw, Efe a grynes yn ddirfawr, a'r Iuddewon a ofynasant iddaw yn llynn, ai ofni ydd wyd o weled y grog honn, neu ynteu y mwyth gryd y sydd yn dy ddoluriaw, a'r Iesu au hattebes yn llyn, Myfi nid wyf yn ofni y grog honn, ag nim doluria'r mwyth gryd, eithr crynu ger bronn fy Nhad nefawl ydd wyf gan weled ei ddarpar Ef i'r rhai am crogant, ag wrthych yn lle gwir y dywedaf y neb o ddyn a glywo'r geiriau a ddywettwyf ag au cretto ag a wnelo yr hynn oll a ddodais yn orchymynedig ynddynt gann ymgrynu ger bron ei Dad nefawl, efe ni ddolurir fyth gan y mwyth gryd, ag ni ellir a bair iddaw ofnau. Ag yn awr o Arglwydd Iesu Grist poed o'th drugaredd na chaffed y mwyth gryd ddoluriaw a blinaw dy was hwnn a gwasanaethwr Duw Dad o'r nef, nag yn awr gyndrychol nag yn un amser arall ynghyffryd ei fywyd ai einioes yn y byd hwnn, yn enw y Tad, a'r Mab, a'r Yspryd Glân, a phoed felly y bo. Amen fyth.

I WYBOD PAN FO DYN YN GLAF PUN FYDD EF AI BYW AI MARW.

§ 810. Cymmer wi a ddydwer ddydd Iau yn y tŷ lle bo y claf, ag ysgrifenna y llythyrennau hynn arno,

F.G.O. G. Y. L. Q. Y. . a dod hwnnw mewn lle safedig y maes o'r tŷ, a thrannoeth y bore torr y wi, ag o daw gwaed y maes marw fydd, ag oni ddaw gwaed byw fydd.

RHAG Y DYFRGLWYF, SEF YR IDROPS.

§ 811. Ira wenholod bychain a saffar, a chyn nemmor o ennyd fe ddaw yr hen wenholod a maen iddynt hwy, ag a hwnny y lleshëir y claf o'r Idrops.

AM ELLWNG GWAED I YMDDIFFYN GOLWG DYN.

§ 812. Pwy bynnag ag y gellyngir gwaed arno y ddeunawfed dydd o fis Mawrth yn y fraich ddeheu, ag ar yr ugeinfed dydd y fis Ebrill ar y fraich asswy ni bydd byth ddall, canys hyn a brified yn fynych.

RHAG DAFADENNAU.

813. Golch y dafadennau a dwr o'r bedyddfaen lle y bedyddiwyd y seithfed fab i yr un gwr a gwraig o briod.

Y FFORDD Y CEIR GWELED Y PETH NAS GALLO ARALL EI WELED.

§ 814. Cymmer fustl cath a bloneg giar, a chymysgc hwynt ynghyd a dod ar dy lygaid ag di a gei weled y peth na chaiff arall ei weled.

[ocr errors]

MODD Y GEILL DYN DDALA TAN YN EI LAW.

815. Cymmer y malw bendigaid, a gwynn dau wi, ag ira dy ddwylaw ag hwynt ynghymysg, a dod bylor elyf arno ar dy ddwylaw, ag felly di a elli deimlo tân yn ddi ddolur, a dala tân a harn brwd yn dy law yn ddiofn.

Llyma ddeuddeg cyffredinrwydd y sydd ar groen neidr y rhai a dystia Alphibam ei bod yn dda, ag a ddwad i fod yn wir ag yn ffrwythlawn i'r sawl a arferei o honynt, a minnau o'r iaith Arabaidd ai troes i'r Llading, ag o'r Llading i'r Gymraeg, nid amgen.

Pan fo y lleuad ar dyfiant cyntaf o'r arwydd a elwir Aries sef yr Hwrdd, ys sef yw hynny gwydyr yr arwydd, hwn a ddigwydd ynghylch hanner mis Mawrth, y trydydd dydd o Galan Ebrill yno y bydd yr had cyntaf i'r arwydd yn yr hwn ar yr amser hwnnw llosgwch groen neidr yr hwn a fwr hi oddiwrthi amser cynhauaf, a dwg y lludw hwn genit, a chadw ef yn dda o achos mawr werthfawrogaf yw

« ForrigeFortsæt »