Billeder på siden
PDF
ePub

gar ddychymygiaethau ag ymgeisiadau ag ni ddigia ef yn hawdd, ag ef a fydd hael ei galon ag anchwennychgar, ag ef a fydd gariadus, ag a fydd serchogaidd ei ymddwyn, a hawddgar ei weithred ai gamp, ag ef a fydd coch o liw, mal y dywed Avisen lliw coch ar groen dyn arwyddocca digonolrwydd o waed, a hwnnw ag gydnabyddir o liw coch eglur a gloyw, ag nid tywyllgoch, megis y rhai a fyddant ag ef yn y wyneb o waith yfed gormod, ag a font yn ymarfero lyseuau, canys y rhyw liw a hynny a arwyddocca gwahanglwyf, a brechlydrwydd, a llwyr llynnor, a gwaed; hefyd, ef a gân yn beraidd a serchog ei lais, ag a wrendy ar gánu, ag a ymgyfeillacha yn fynych a chaneugar, a llawen, ag lawengar, ag ef a gar dannau a phob peiriangerdd, ag a fydd

, buan a diwith yn ei orchwyl ai ymgyrch, hefyd ef a fydd dewr a hyderus gan dwymder y gwaed, ag a fydd fonheddigaidd drwy natturiaeth y gwaedlonder, a lle nis caffo athraw efe a dyb yn ry dda am dano ei hunan, ag a fydd croesan a geneugoeg ag amhwyllus achos rhysgyr gwaedlonder, ag ar y cyfagos gweithred a meddwl, ag nid mynych ar y pell; ag hefyd ef a ddysg o awen ag nid o ddambwyll, a gnawd iddaw fod yn dra choegeddus a byrr yn a ddywetto, ag a wnelo, a mynych y daw yn wall arnaw chwerthin ag ymgroesanu am nas gwypo gan chwiwder a gwylltineb y cyfnywydd gwaedryorr.

a

I ADNABOD CYFNWYDD YR ULIAR.

$ 800. Un a fo ai ardymmyr o'r uliar a fydd wineu o herwydd nad yw ei nattur ond egwan, yn yr ail gyfarwel hwy a fydd fyrrion a thewon y bobl a font o'r uliar, o herwydd nid ydyw eu nattur cyngryfed ag y gallont dyfu o hyd, hefyd hwy a fyddant diffrwythach na phobl or cyfnwyddeu eraill o herwydd eu hoerfel, a hynn a bair iddynt gyscu fwy nag y cysg eraill, a phobl gyall a fyddant, hefyd hwynt a fyddant diog a hynny o achos oerfel, canys mal y gwna twymder dyn yn ysgawn ag yn rwyfein, felly y gwna oerfel ddyn yn drwm ag yn ddiog ; hefyd pobl o'r uliar a fyddant dewon o achos amhuredd y corph ; hefyd hwy a fyddant drwm feddwl a chysglyd, neu gysgu mawr, ag o chaffant athraw hwy a fyddant yn ddeallus ag a wybyddant a weddai wybod arno, ond achaws eu hoerfel au trymder gweinion y byddant ym mhob ymgais ag a ddiffygiant yn dra hawdd, ag ni chofiant yn dda, ag ni charant ond er eu lles a'u hynnill; ag ni fynnant lawenydd, na chanu, na digrifwch, a chyd y ceffir tryw ynddynt ni cheffir awen, eithr y lle y bo cymysg o'r gwaedryar yn y cyfnywydd, a lle bo hynny mynych y gwelir doeth o ddyn ag yn gadarn ei awen, ag yn amyneddgar, ag yn ddioddefgar, ag yn ddyn pwyllgar, ag ni char ymgroesanu, nag ymwageddu, nag ysmaldodi, achos ni char ond a fo gweddus a chadarn.

a

I ADNABOD CYFNYWYDD YR AGER A'R BOBL A FYDDANT O'R

ARDYMMYR HYNNY.

a

a

§ 801. Un a fo ai ardymmyr o'r ager neu'r geri a fydd ammhwyllog o achos arddigonedd o dwymder, yr hynn ai try ar wylltineb ; ag un a fo o'r cyfnywydd hwn a fydd dra chwennychgar i gael uchelder ag urddas a bod yn benn ag yn feistr ar eraill, o achos twymder natturiol a wna feddwl dyn ar ffolineb. Hefyd y bobl a font agerddawl a ddysgant yn hawdd achos twymder y geri, ag ni fawr ymbwyllant ar a ddysgont; hefyd hwy a fyddant o galon uchel, sef yw hynny ni allan hwy oddef dim camwedd gan eu twymder hwynt, a hwy a ddeisyfant uchelder mawr, a swyddau, a derchafedigrwydd, a dyn gerïawl a fydd mor odinebus ar afr, a threch gwŷn na serch pob telm a geir arnaw, a thwyllwr y bydd efe, ag ef ddigia yn hawdd am bethau bychain, a hynny a arwyddocca twymder yr ager, a gwaed berwedig ynghylch y galon, ag ef a fydd ffel ag yn chwimwth ag annoeth ei ystryw ai ddychymyg, a threch rhysgyr na thryw yn a wnelo ag a feddylio, ag ef a fydd yn gul yn ei aelodau, ag yn sur, ag yn unlliw a'r saffar ; mal y dywaid Avisen, y lliw hwnnw a arwyddocca uchelder, a chul y bydd corph ag aelod, ag un a wel yn arall y bai lle na bo, ag ni wyl a fo arno ei hunnan yn fai, hefyd ef a fydd garedig i'r i'r neb ai anrhydeddo, ag yn falch sarrug wrth na wnelo hynny, a dialgar ag a wnant gam ag ef ar drais ag ar gelwydd, ag nis gellir cymysg o'r uliar arno, a phei gellid myned ynghyfnywydd y gwaedryar a wnelai o hynny, ag anffyddlawn a symudgar y byddant y bob o'r ardymmyr hwn; ag o'r pedwar cyfnywydd mewn dyn, hwnn yr anhawsaf ei wellhâu a gyrru moddoldeb arnaw; a'r ardymmyr hwn a elwai Rys Feddyg yr agerdde, achos ager y berw amgylch y galon a chwerwedd y bustl mewn dyn.

LLYMA DDANGOS AMNABOD NATTURIAETH A CHYFNYWYDD Y DDUEG, AC ARDYMMYR Y BOBL A FYDDANT DDUEGAWL.

$ 802. Un a fo ai gyfnywydd o'r ddueg a fydd sur ag anfoesol megis yr hwn a ymladdo ei hunan; hefyd, y rhan fwyaf o'r bobl a font duegawl a fyddant drist, ag ychydig eu chwedleua hwynt o achos eu hoerfel, hefyd, hwynt o fyddant astudawl, a myfyrllyd, a myfyrgar, a chwennychgar a fyddant i fod yn unig ag ar eu pennau eu hunain, ag ni allant gyscu yn hanner da achos sychder yr ymhennydd ag a bair iddynt fryddwydaw a dyhunaw oi cwsg, a hwy a fyddant astud o feddwl a chofaduriaid da, ag anhawdd eu gwasanaethu, a chenfigenus a chwenychgar, ag a wnant yn ddrwg achaws gwendid a bair nas gallant yn dda fal y chwennychant, achaws hynny taliadwyr drwg a thwyllodrus fyddant. A dyn duegawl a fydd ddarllenwr mawr, ag ymprydiwr, ag ofnus, a lliw y ddaear a fydd iddynt y bobl o'r ardymmyr hwn, yr

a

hwn liw os gwyrdd fydd a arwyddocca urddas fal y dywaid Cassys y gwr doeth, a phob un o'r rhyw y sonier am danynt a fyddant ar y gormodedd ym mhob peth os trist a thrwm rhwy fal hynny, os llawen rhylawen ag nid oes gymmesur yn y byd arnynt, carant ganu yn yr unigfa, a charant o'r unig wrandaw cerdd a thannau, a charant ddangos eu meddyliau am eraill, ag ni charant ddangos modd y bydd arnynt eu hunaint, awengar a chywraint y byddant, ag nid mawr y carant ei ddangos, a nhwy a wellhant wybodau

chelfyddyd, ag a ddyegant yn llwyr ag a fyddant fanol yn a wnelont ag a ddywedont, ag os cymysg o'r gwaedryar ynddynt doethion amgenach nag eraill am gwelir, ag os o'r geri fydd y cymysg, chwerwon a surion fyddant, angnattach na neb eraill, ag os o'r uliar cymysc, hwy a gollant arnynt eu hunain ag a ymladdant eu hunain. Cul o gorph ag aelodau y byddant, a mynych o brydydd a geffir o'r cyfnywydd yma, ag aml y gwelir traserch a thrachas ynddynt.

Llyma gyferddonolion a gorchestolion o feddyginiaethau a gafwyd o rad Duw, a gwybodau doethion a duwiolion yr hen amseroedd, nid amgen y cyferddonau a ddangosir yma.

a

I BERI I DDYN GYFFESU BETH A WNAETH.

$ 803. Cymmer froga o'r dwr yn fyw, a thyn ei dafod, a dod eilwaith yn y dwr, a dod y tafod hwnnw ar galon dyn yn cysgu, ag efe a eddyf beth a wnaeth trwy gwsc.

RHAG Y DDANNOEDD ; CYFERDDAWN YW. $

804. Santes Fair a eisteddodd ar garreg, ar faen yn ymyl ei meudwyfa, a'r Yspryd Glân a ddaeth atti pan oedd drist. Pam drist ti fam farglwydd, a pha ddolur a'th flin? Dolurio mae fy nannedd, ag au amddarwanodd pryf a ddaeth yma a elwir migram, ag mi ai cnoais ag ai lleweis. Mi a'th dynghedaf di daffin o negrbina trwy yr Tad, a'r Mab, a'r Yspryd Glân, Mair Forwyn, yr hael feddig Duw, na bo itti allel na chlwyf na dolur na molest i wasanaethwr

yma, yn gyndrychol yr awr honn nag mewn dant, nag mewn llygad, nag mewn penn, o gwbl or dannedd bob gwir yt. Amen.

y Dduw

CYFERDDAWN RHAG Y FAM, A RHIWALLON FEDDYG AI DODES I WYRFYL FERCH RHYS AB GRUFFUDD AB RHYS AB TEWDWR.

$ 805. Rwyf yn dy dynghedu di y fam ddolurus drwy'r Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glan, fel na ellech di ddolurio na chael pwyer ynof fi Gwyrfil ferch Rhys gwasanaethwraig i Dduw, nag ei phenn, nag yn ei breichiau, nag yn ei bronnau, nag yn y cylla, nag yn lle yn y byd o'i chorff, o gorfydd Duw Dad, o gorfydd Fab Duw, o gorfydd Duw Yspryd Glân : poed felly y bo, Amen.

RHAG Y DDANNOEDD. $ 806. Cais hoel haiarn, ag ysgrifenna arni y geiriau hynn, -|- agla -|- Sabaoth t-athanatos -- a tharo yr hoel dan y dant claf, ag oddyna mewn pren derwen, a thra fo hi yno dannoedd i'r dyn, ac a'r hoel ysgrifenna enw y dyn ar y dderwen, dan ddywedyd fal hynn: Trwy rymiant y

Tad a'r geiriau cyssegredig yma, fel yr ei di yn y prenn, felly yr el y gwŷn a'r dolur o ddant y claf; poed felly y bo. Amen.

FAL HYNN Y GWNAETH RHIWALLON FEDDYG RHAG GWAED. LING I LOGRAINYS FARCHOG, SANGIWS FARCHOG A DDYWANODD YSTLYS CRIST

FAB MAIR WYRY AG AR HYNT DOETH Y GWAED A'R DWR. --- Saf waed -- yn enw'r Tad, saf waed - yn enw'r Mab, saf waed -- yn enw'r Yspryd Glan, gorphwys waed, --- yn enw'r Trindawd bendigedig na red weli, t.

Vnnfith Dews Patris, bnnfith Dews Filius, bnnfith Dews Spiritus sanctus -|- Christi Amen --- Amen --- Amen --Amen --- poed felly y bo.

« ForrigeFortsæt »