Billeder på siden
PDF
ePub

orwd arnynt, yna cau yn glos ar y llestr a gad sef chwech awr, yna yf yn unig ddiod a'r nos dod y llysiau dan wasg caled a derbyn y sudd drwy hidlen i lestr glân ag yf hwnnw wrth fyned i'r gwely yn lledtwym, ag os bydd ar dy gorph ryw yn y byd o darddant, neu gornwyd, neu addwyd, neu ddarwyden, neu grach, neu gosi, neu loscfan, neu archoll, neu glwyf, neu dwnn, golch a llynn y llysiau, ai sudd ai berwyn y bo, a lle bo mawr y dolur, dod y llysiau drwy sudd yn blaster wrtho, ag y mae hyn o gyfarpar yfed a phlasteru wedi iachau y maenwynnon, a'r ddarwyden fawr, a elwir yn Lladin lepra, a'r cancar gwedi bwyta'r cnawd hyd yr escyrn.

Cymmer had y gwlydd yn eu haddfedrwydd, a sych mewn ffwrn ar ol tynnu'r bara, ddwywaith neu dair, ag yna digon cras, gwedi hynny pylora nhwy mewn mortyr meinin, a chadw y pylor mewn llestr gwydr yn gaeedig iawn, a dwg gyda thi ar bob ymdaith oddigartref a chymmer lawn lwyaid o honaw ar ddwr glân deirgwaith yn y dydd ag ef a'th geidw yn iach rhag pob dolur, ag a wna yn lle bwyd itti wrth achos caled a daw yw trin had y malw yn yr un modd, a'r un modd eu harfer.

LLYMA RINWEDD Y GWYSGONLLYS, A ELWIR O FODD ARALL YR UCHELFAR.

§ 796. Yr uchelfar a dyf gan fwyaf ar efeillgoed ag ar yr yspyddaid, ag ef ai ceir o ddigwydd ar y dderwen, a gwell hwnnw lle ai ceffir na'r lleill, hagen da a da iawn pob un o honyn. Rhinwedd y gwysgonllys yw cryfhau'r corph yn amgen ag yn rhagor nag a wna un llysewyn arall. Casgl y llysewyn yn nyddiau y Nadolig, pan fo'r gwyfon sef ei faccwyon neu'r ffrwyth yn eu llawn addfedrwydd, a chasgl y gwyfon oddiar y brig a bwrw ddwr berw arnynt a chau ar y llestr y bo, a dod ynghlais y tân lle nas berwo yspar

diwarnod a noswaith, yna hidla'n wysgonaid i lestr glân lennen rawn glân; a chymmer y dail a'r brig sef y cwbl o'r llyswydden, a briw yn fân mân, a dod ar faen bara brwd, a chras yn dda gan droi a thrafod rhag llosci, a phan fo mor gras ag y gellych ei bylori gwna hynny, gan gymmeryd at hynny o ddarpar hanner a fo ar y maen o'r llysiau, a gadu'r hanner arall i olosgi onid elo'n lludy mân, dod y pylor a'r lludy bob un ar ei ben ei hunan mewn llestri gwydr yn gaedig trachwbl.

Os gwendid a fydd yn y corph, ai yn y gewynod, ai yn y cymmalau, ai yn y cefn, ai yn y pen a'r ymhenydd, ai yn y cyllau, neu'r galon, neu ysgyf, neu'r arenau, cymmer dair llwyaid o'r gwysgon a dyro mewn berw o ddwr, neu o gwrw, neu o fedd, neu o laeth, a gad ei amdawdd yn y llynn brwd, yna bwrw ar y llyn llawn ddiod o hono lwyaid o'r pylor ag yf bob bore yn wag, a hanner diod o'r un peth y nos wrth fyned i'r gwely, a da yw rhag pob haint yr ymhennydd, a'r gewynod, a'r cefn, a rhag yr haint digwydd, a gwallgof, a gwendid pen o bob rhyw, a'r efryddhaint sef y parlys, a phob gwendid cymmalau, ag ef a gryfhâ'r llygaid a'r clyw, a'r holl synhwyrau, ag a bair ffrwythlondeb corph a chael plant, a da yw i wr a gwraig rhag yr hadred neu goll nattur, a dyn ag a yfo lwyaid o'r pylor unwaith bob dydd ar ei ddiod syched a gaiff iechyd di dorr, a chryfder corph, a nwyf gwrawl, a'r un peth hefyd o gymmeryd llwyaid o'r gwysgon yn ei gawl neu arall o ddiod frod unwaith yn y dydd.

Os claf o'r tostedd, neu'r cyllwst wynt, neu'r dyrglwyf, cymmer lwyaid o'r llydy ar ddiod dairgwaith y dydd, a lle gallech bydded y ddiod o ferwyn y llysewyn hwn, ni waeth ai îr ai sych y bo, ag ef a'th wared, ag ymiachau a wnai.

Lle tyfo'r llysiau yn agos, nid rhaid ond isgell y gwyfon newydd a newydd, au casgl o ddydd i ddydd fal y bo gofyn, a berwyn y llysiau ffres a ffres, eithr lle bo pell oddiwrth au

ceffir gwneuthur fal y dywetpwyd, a chadw y llysiau yn sychon yn y ty drwy'r flwyddyn, au casglu haf, gauaf, a gwanwyn fal au ceffir ymhob ansawdd.

Goreu lle cael y llysewydd yma yw Gwent, a gwlad yr Haf, a Brecheiniog, a'r Mwythig, a goreu amser eu casglu dyfnder y gauaf o wyl Andras i wyl Fair y Canhwyllau, a da casglu'r llysewyn gwyrdd o wyl Iago i Galangauaf, ag er cael eu llydy llosg nhwy'n wyrddon, cyn y collont eu haliw.

LLYMA RINWEDD Y DDERWEN.

797. Y dderwen a ddyry feddyginiaethau amrafaelion rhag pob dolur a ddyfydd o wendidau yn gewynod, ar madruddyn, a'r ymhennydd, a llawer ffordd y ceir meddyginiaeth o'r dderwen.

Cymmer asglod derw newydd eu trychu a dod mewn dwr rhedegog oni waedont eu gwnedd, yna tynn allan a dod asglod ffres, a gad fal o'r blaen, gwna felly hyd ymhen y naw dodiad, ag yna berw y llynn yny bo'n ei hanner, yna dod ynddo fêl, pwys punt at bob dau alwyn, a gwna ef yn fragodlyn, ag os bydd dod ynddo beth gwysgon y gwysgonllys, guwch ag a fo o'r mêl, os bydd, neu yr hyn a fo, a lle nas bo da iawn er hynny y llynn hwn, ag ef a elwir bragodlyn y derw, a goreu o bob diod yw i gryfhau corph, a nattur, a'r gewynod, a'r ymhennydd, a'r madruddyn, ag ef a wellhäa'r clefydon a ddyfyddant o wendidau, ag yfed lawn ddiod o hono y bore ar y cythlwng.

Rhisgl y derw, y nesaf i'r pren y sydd dda rhag pob gwendidau, cymmer ef a chras a phylora, hefyd sych ef yn gras cras a chadw yn y modd hynny, fal y bo hwnnw a'r pylor gennyt rhag angen, a da ydynt ar ddiod neu eu hisgell rhag pob gwendidau, a rhag pob haint o fwyth ai parhaus ai gwerseddog y bo; a'r mwyth trydedydd a phedrydydd, a da yw rhag pob nattur brech yn y gwaed a'r llynnor; ag

isgell y rhisg yn îr y sydd dda iawn rhag yr un doluriau, a'r berw mewn cwrw, ag mewn llaeth gwartheg neu eifr.

Cymmer mes y dderwen yn eu haddfedrwydd a chras yn gras cras a phylora, a chadw mewn llestr derw yn dra chaeedig, a bwrw llwyaid ar dy ddiod nos a bore, a lle bo gwendid a choll neu draul nattur ar wr neu wraig cymmer dair llwyaid o'r pylor hwn, a berw mewn llawn ddiod o laeth geifr neu wartheg a dod fêl ynddo, ag yf nos a bore, ag ef a weryd y clefyd, a da yw rhag yr holl wendidau a soniwyd eiswys am danynt, a da rhag gwaedling gwraig, a rhag y tradd ar bob dyn, a rhag ysgyf dolurus, a da yw o fwyd gyda bara crasdafell o wenith i bob dyn gwan o gorph a rhag traul yr ysgyfaint, a phob traul corph a nattur ai gymmeryd yn fwyd cyfarpar.

Cymmer fes a gwna frag a nhwy, a gwna gwrw a'r brag hynny, a gorau ag iachus o bob cwrw yw, a da rhag pob gwendidau ag au dyfyddant o doluriau.

Casgl ddail Ꭹ deri ym mis Awst neu fis Medi, a sych yn dda a chadw yn gaeedig, yn gaeedig, a dod ar bob twn o groen, ag ar ddofynau dyfrllyd, ag iach y byddi.

Cymmer fes cras, neu risgl nesa i'r pren cras, a mâl gyda'r yd bara, a gwna fara o hono, a goreu o bob bara i gryfhau corph dyn yw hwnnw, a goreu i wared rhag pob dolur gauaf ag oerfel a gwlybin yw.

LLYMA RINWEDD Y DDERWEN FENDIGAID.

§ 798. O byddi claf o'r maenwynnon cymmer isgell neu ferwyn y dderwen fendigaid, a chasgl ef wreiddiau a chwbl yn amser ei had a chras yn dda, a phylora, a chadw y pylor yn anwyl dan gaead trachaead, a bwrw ar dy ddiod yn gyfarpar di dorr. Berw hefyd y llysewyn drwy wraidd a hadau mewn cwrw, neu fedd, neu laeth geifr neu wartheg, ag yf yn ddiod cyfarpar; cymysg y pylor hefyd a blawd dy

fara ai gymmeryd yn fwyd cyfarpar gyda llaeth geifr, ag oni bydd geifr llaeth gwartheg; ag os clwyfau rhedegog bwrw y pylor arnynt, a chymmer y llysewyn drwy wraidd a chwbl a phwya'n dda a berw gyda menyn gwyra ag ychydig gwyr, a hidla'n dda a dod wrtho, a chymmer sudd y llysewyn drwy wraidd a dail, ag ira glwyd y ddwyfron ag ef bob dydd hyd y bo'r llysiau ar gaffaeliad, ag yn y gauaf cymysg y pylor a mêl ag ira yn yr un modd, a da'r cwbl rhag pob doluriau a ddyfyddant o wenwyn y maenwynnon, ar yr ysgyf, a'r afu, a'r arenau, a'r ymhennydd, a'r llygaid, ag ymhob man arall, casgl ef a phob llysewyn arall yn enw Duw, ag na ro goel i'r rhai a ddywedant y dylid ei gasglu yn enw y cythraul, gan nid oes a wna'r cythraul a daioni.

LLYMA DDANGOS PEDAIR ELFEN DYN, AG O HONYNT Y PEDWAR CYFNYWYDD NEU BEDWAR ARDYMMYR DYN, CYNTAF Y GWAEDRYAR, AIL YR ULIAR, TRYDYDD Y GERI, PEDWERYDD Y DUEG.

§ 799. I adnabod pobl o'r cyfnywydd gwaedryar, neu waedlawn. Un a fo'n waedryar, neu o'r cyfnywydd gwaedlawn, a fydd tew naturiol, ag nid yw yn dew yn unig, cans hynny sydd arwydd o natturiaeth oer, canys fel y dywaid Avisen, digonedd o gnawd a arwyddocca natturiaeth dwym. A digonolrwydd o gig a fegir drwy amlder y gwaed, mal y dywad Avisen. Pob dyn coch heb frasder o'r gwaedryar y mae mal y dywad Galen. Dynion gwaedryar a fyddant llawen ag a wrandawant chwedleu a digrifwch, ag o'r achos hynny hefyd byddant odinebus ag yn chwannog i ewyllys y cnawd, a hwy a yfant win yn llawen hefyd. Dyn gwaedryar a fynn ei fwyd or goreu, canys y gwaedryarion bobl a fynnant y bwyd nesaf at eu natturiaeth: hefyd, dyn gwaedryar a hwardd yn hawdd, canys y gwaed a fyn lawenydd; hefyd, ef a fydd teg o natturiaeth ei gyfnywydd, ag ef a ddywed yn ebrwydd, ag ef a fydd hyddysc i ddysgu pob gwybodau, a chelfyddodau a dosparthau dyfnion a bydd awengar ag ef a

« ForrigeFortsæt »