Billeder på siden
PDF
ePub

y bo gwall bwyll arno neu yn myned i maes oi gof, da hefyd yr isgell hwnn rhag pob rhyw glefyd ag y sydd mewn corph dyn.

Hefyd, da yw y blodau a'r dail au berwi mewn dwr, ag a'r dwr hwnnw ymolch bob bore heb sychu a lliain, eithr gadael iddaw sychu o'i natur ei hunan, ag o ymolchi fel hynny yn dda fe wna hen yn ieuange yr olwg arno byth; y dwr hwn a drych y llysnafedd ar ymhennydd dyn, ag a drych y poen wrth garthu'r myscar a'r cylyddion, ag a yrr ymaith y gwlybyrwst, ag a iachâ'r afu, ag a ddwg wres i'r giau a'r gwythi ag a ddinistr y bystwn, ag a lawenha'r galon, ag a wna'n gedyrn esgyrn ag a fag mer ynddynt ag a iachâ'r mer ynddynt, ag ef a iachâ'r llygaid, a da yw rhag myned allan, au berwi mewn gwin egr au dodi wrth fola'r claf, ef a bair magwriaeth gwaed; a da yw rhag y mwyth tridiau, ag o bydd gwr wedi ei wanhau gan wragedd ef a gyfyd drachefn o ymarfer a hwn yn unig ddiod a gwlyb hyd ymhen naw diwarnod.

A hefyd, or bydd dyn heb ddwyn plant, gwr neu wraig y bo, arfered o'r llysewyn hwn ar fwydydd ag efe a egyr yn berffaith. O'r bydd gwr neu wraig heb gael plant a'r wraig yn ifanc, arfered o'r rhosmari.

A hefyd, o bydd gwr ag anwyd yn ei benn megis gormwyth, cymmered y rhosmari, a llosged, a gollynged y mwg hwnnw yn ei ffroenau, ag ef a fydd holl iach.

Hefyd, cymmered ddwr y berwed ynddo'r blodau neu'r dail, a doded ynddaw ychydig fêl puredig a phybur, au yfed yn dwym, a da yw rhag y pesswch, o ba ryw bynnag y bo, a gwir yw hynn. A hefyd cais wreiddiau llysewyn a rhost yn dda ynyd el yn lludw a briw yn fân a doddpu 6a6 dapūt

d4l6766 fr zf ́a6pdózó (4zo yn wir.

A hefyd, da ydyw ei risc rag y cosi afrwyog a fo ar ddyn oblegid drygwaed.

A hefyd, da yw ei wreiddyn ef wedi ei ferwi mewn gwin egr a golchi'r cymmalau a fo a gwewyr ynddynt, ag hefyd, ychydig o honyn ag ychydig o gribau sanffrêd mewn dwr glân yn bwyedig, a golchi pob rhyw frath nefail neu bryf arall gwenwynig, ag ef ai gwna'n iach heb achos eli arall yn y byd.

LLYMA ETTO DDANGOS RHINWEDD Y GEIDWAD A ELWIR YN Y LLADIN SALFIA.

§ 792. Y geidwad sydd lysewyn twym ei nattur a sych. Da yw ei ferwi ymhob bwyd a diod ar les y giau, a da yfed ei isgell drwy ddwr berw yn unig ddiod, a goreu ar les y cylla ei yfed gyda mêl da, a hefyd o bydd gwraig a dyn marw dan ei gwregys, cymmered y geidwad a gwin gwynn au berwi yn dda ynghyd ag yfed hwnnw yn oer, a hi a gaiff ei gwared yn ddiberigl o'r plentyn marw. O'i bwyo'n fân ag yn fâl ai ddodi wrth frath gwenwynig ef ai sugn allan y gwenwyn ag a iachâ'r brath.

Hefyd, o bydd brath yn llawn gwaed, ystwmpa'r dail yn fâl, a dod wrth y brath, ag ef a garth ei weli yn lân.

Hefyd, os bydd gwayw dan ais dyn, cais y geidwad a gwin, a thwyma'r gwin ar y tân cyndwymed ag y gellir ei yfed, ai gymmeryd yn ddiod, ac iach y bydd.

Hefyd, y mae'r isgell drwy'r dwr, ag edlyn drwy win neu fedd, neu gwrw yn ddiod dda dros benn i iachau y gwlybyrwst, a'r pas, a'r gwayw yn y penn, yn wir.

[ocr errors]

LLYMA ETTO AM RINWEDD Y DDYNHADEN.

793. Y ddynhaden sydd lysewyn tanbaid twym a sych. Oi berwi ynghyd a gwin gwynn ai hidlo yn lân trwy liain ai adu i oeri, da yw i yfed y bore a'r nos i helpu dyn yn y clefyd melyn.

Cymmer had y dynaid a gwna'n bylor, a berw yn dda mewn dwr ffynon neu mewn llaeth geifr, neu mewn gwin

gwynn da, neu mewn hen fedd cadarn, a da yw'r edlyn hwn rhag hen beswch, a rhag y colic, ag i helaethu y cymmhibau a chwythïau eraill ynger y gwaed, o dodir halen ynghyd ag ef.

Hefyd, cais had y ddynhaden a bwrw ynghyd a phupur, a thymhera nhwy a gwin neu fêl, a dyro i yfed, ag er gwyllted fo corph gwr neu wraig ai hyfo, ef a fydd cyn ddofed a'r dofa oll.

RHINWEDD YR YSGALLEN FENDIGAID.

§ 794. Y mae ar yr ysgallen fendigaid i agoryd corph a pheri myned wrth faes, a'r llysewyn hynn wrth ei fwytta a wna les rhag dolur yn y penn ar llieingig, ag a bair clywed yn dda, ag y mae yn gwellhau yr ymhennydd a'r golygon, nid yn unig wrth ei fwytta, ond wrth iro y llygaid ai sudd, a phryd nas ceffir y sudd, arfer o'r llysewyn yn byloraid ai roi ynghymysg a dwr, a dod y sudd i ddyferu yn y llygad, a hynny sy dda rhag y gwaed a lithrodd ynddynt. Da hefyd yw'r llysewyn hwn i wellhau y synwyr a'r cof, a da hefyd rhag ysgawnder yn y penn; hwn hefyd y sy dda rhag y waedling o'r ffroen a'r genau, a phylor y llysewyn hynn ai gymysg a mêl a bair gwaredu llysnafedd ai boeri allan, ag y mae yn lleshau cylla gwann, ag yn peri chwant bwyd ag yn esmwythau y galon, ag y mae yn gwaredu gwaed drwg ag yn magu gwaed da. O berwer y llysewyn mewn dwr ai yfed ef a wareda hwnnw o'r drwg ag a geidw hwnnw yn dda, ag wrth fwytta y llysewyn ef a gryfhâ yr aelodau a efryder gan haint y giau a elwir y parlys, ag a gryfhâ'r madruddyn a'r ymhenydd, ag ai gwared o'r llynnor oer yr hwn sydd yn per gwall ag efrydd ar bwyll a nerth corph a synhwyr. Ag ef a wellha golyddion dolurus, a'r llysewyn wedi ei ferwi, neu ei yfed gyda gwin, a dyrr y garreg, a phynag pwy ai hyfo ar drwne dyn bychan iachus efe a gaiff iachâd

o'r chwarren a'r gwlybwrwst, ag a wna i gornwydon dorri, ag ef a ortrecha'r cancar a chlefyd y ffeintiau ond cael pylor y llysewyn cyn pen deuddeg awr ef a dyrr y ffeintiau, a blodau'r llysewyn or gosodir hwynt mewn archoll ef a iacheir yn ddiddolur, a da yw enoi'r llysewyn yn y genau er iachau cadernyd yr anadl; ag efe a iachâ o'r cryd oi ferwi mewn gwin ai yfed yn dwym ynghylch chwarter awr cyn dyfod y cryd a rho dillad ddigon arno i beri chwysu. A hynny a wared rhag y mwyth gryd, a'r mwyth poeth, a mwyth y cymmalau. A'r un modd pylor y llysewyn hwn gyda gwin twym, neu edlyn distyll y llysewyn a weryd dyn dolurus mewn byrr amser o bob gwenwyn a dderbynir i'r giau i hefyd. Os yfer y llysewyn drwy isgell, neu ei sudd ef, neu ei ddistyll, a chwedi hynny chwysu dros yspaid teirawr, ef a iachâ'r claf. A phylor y llysewyn y naill ai fwytta ai yfed fe esmwytha y gwewyr yn yr ystlysau a'r ddwyfron; dyma rinwedd yr ysgallen fendigaid.

LLYMA RINWEDD Y GWlydd, sef gWLYDD Y PERTHI.

$795. Cymmeryd eu sudd yn unig ddiod yn y gwanwyn a'r haf a lwyr ddinistra'r frech yn y gwaed a'r llynnor, yr hwn yw achos pob tarddant, a chrach, a chornwydon, a'r maenwynon, a'r ddarwyden fawr, a'r cancar, a'r iddwf, a'r ysgyfeinglwyf, a'r dyrglwyf, a'r gymmalwst, a'r gwst mawr, a'r tostedd, a phob mwyth a thwymyn, a phob brech ar gnawd a chroen, a phob dolur rhedeg ar lygaid, a phob llysnafedd pen a chylla, a phob hwydd gwynn ar gymmal neu arall o fann, a phob poethni a llosg yn y gwaed a'r llynnor, a phob poethwayw yn y penn, a phob cyfyngder yn y bryst a'r cylla, a than y fronglwyd, a phob hwydd yn y coesau, a'r traed, a phob mannau eraill o'r corph, ag nid oes nemmawr os un o'r doluriau hanbod ynghorph dyn nad achos brech yn y gwaed a'r llynnor y mae.

Y modd y ceir eu sudd y sydd fal hynn; cymmer y llysiau, yn ddail ag yn flodau ag yn had yn yr amser y bo arnynt a'r adeg, y cwbl ynghyd, a phwya'n dda a dod mewn llestr pridd diystaen, a llanw y llestr heb wasgu'r llysiau, yna dod attynt a wedd yn eu rhynged o ddwr rhedegog glân a gad sefyll noswaith, a rhai a ddywedant y byddai gwell o ddodi un pedryran o'r dwr yn ddwr môr, neu ddwr a helltir yn unias a dwr môr dros yr wythnos gyntaf o'r yfed, ag yna peidio a'r hallt ag ymgadw ar y croyw, ag yfed yn unig ddiod dros naw wythnos, a rhyfedd o gadarn os nid iach y byddi ymhen hynny o yspar.

Casgl y llysiau yn y gwanwyn a'r haf, a sych yn dda mewn haul bore, au troi au trafod fal y gallo'r haul eu trwyedu au sychu'n dda, a chadw ar dro a thrafod yspar y dydd, a'r nos eu cymmeryd dan do, ag oni fyddant sych eu gwala dod yr ail ddydd yn yr haul a gwna fal y dydd o'r blaen, ag os bydd achos ymhellach o ddydd, lle gall fod achos gan wlaw a chrwybr, a gochel ei gadu allan ar grwybr a niwl cans tynnu ffrwyth y llysiau o gwbl a wnant, a chymmer y llysiau yn eu dail ag yn eu blodau ag yn eu had, a sych bob un ar ei ben ei hunan mewn cistiau derw neu gawneni gwellt gwenith yn gaeedig, a phan fo achos cymmer y llysiau trwy'r dail a gwna ferwyn o honynt ag yf hwnnw dair wythnos, yna gwna ferwyn trwy flodau, ag yf dair wythnos, ag yna gwna ferwyn drwy had ag yf dair wythnos, ag fel hynn ydd ei di yn nhrefn Duw a chyfarpar nattur, ag anian a syrth y flwyddyn.

Y modd y gwneir berwyn o'r llysiau yw hynn, briw'r llysiau cochon yn fân mân a'th ddwylaw, a dod mewn llestr pridd diystaen ei lonaid, a berw ddwr rhedegawg a diwal ar y llysiau a wedd yn eu rhynged, a chyn diwal dod hidlen llaeth sef y gwaelod heb gylch ar wyneb y llestr i gadw'r llysiau rhag nawf dros ymyl y llestr pan ddiwaler y dwr

« ForrigeFortsæt »