Billeder på siden
PDF
ePub

golch yn lân, a phwya drwy ddwr fal garlleg, ai roi ar gwrw cadarn i'r claf mor dwym ag y gallo ei gymmeryd, a gwna felly iddo wrth y tân ar wely a lliain arno a thano, a gad yno i chwysu, a chadw tân da, ag ef a ad y frech ar y lliain, gyda Duw.

RHAG BRATH DRAEN.

§ 782. Cais floneg moch, a gwraidd y dynad cochon, au pwyo'n dda, a dod wrtho nawpryd, a iach a fydd, gyda Duw.

RHAG TRAUL A RHEDEG NATTUR.

783. Cais bylor y mynt rhiol, a phylor annys, a dyro hwynt i'r claf ar ei bottas neu yn saws, a hynny ai hettyl rhag rhedeg, gyda Duw.

RHAG Y COSDARDD, SEF Y TARDD CRAFU.

S 784. Cymmer wraidd marchalan, a berw yn dda, a berw amcan o arlleg mewn dwr arall, yf ferwyn y marchalan lawn ddiod naw bore, a chymysg y deuddwr berw a golch dy holl gorph bob bore, a chymysg y garlleg berw, a'r marchalan berw ag ymenyn heb halen, a gwna yn eli, ag elïa dy holl gorph ag ef hyd ymhen y nawnydd bob bore.

Llyma rinweddau a chyferddonau amrafaelion o lysiau er meddyginiaethu dyn.

RHINWEDD Y GEIDWAD.

§ 785. Da yw eu berw ar les y giau, os yfer eu berw gyda mêl da yw ar les y cylla, ag os bydd gwraig a dyn marw gyda hi cymmered y geidwad a berwed gyda gwin gwynn ai hidlo'n lân ag yfed hi hwnnw yn oer a hi a gaiff ei gwared yn ddiberigl o'i bywyd. Hefyd cymmer y llysewyn hwn a phwya ef yn fâl a dod wrth frath gwenwynig ag ef a ddyrr allan y gwenwyn, a hefyd o bydd un llawn dod y llysewyn wrtho ag ef a garth ei waelod, a chymmered y llysewyn

hwn a phwyed yn fâl a gwasged ei sudd am ben gwin gwynn, neu doded i sefyll yn bwyedig mewn gwin gwynn neu frecci du neu hen fedd da dros noswaith ag yfed e'n dwym hidlaid yn wag, ag iach y bydd drwy Dduw, a da iawn yw i'r iach yfed y ddiod honn hanner llwnc syched y bore yn wag er cynnal iechyd a hwyhau bywyd ag einioes.

RHINWEDD Y GAMYD.

§ 786. Llysewyn yw'r gamyd a blodeuyn gwynn arno, ai rinwedd yw, o chymmerer ei sudd gyda mêl a gwin ef a dyrr y maen tostedd, ag hefyd ef a ddinistra'r cryd a'r clefyd melyn, ag a wna haint y giau yn iach, a lle na bo gwin cymmerer y sudd mewn medd iachus a chadarn, neu mewn brecci du brag haidd; gwresog a sych yw.

LLYMA RINWEDD Y DDYNHADEN.

§ 787. Cymmer sudd y llysewyn hwn am ben gwin gwynn, ai hidlo yn lân, ai adael i oeri, ag yf ef yn ddiod nos a bore ag ef a'th iachäa o'r clefyd melyn, ag a fywhâ'r gwaed gan waredu pob afiechyd a fo ynddo, ag o chymmerer ei sudd gyda brecci du brag haidd yn ddiod hanner yn hanner of a wellhâ'r pigyn poeth yn yr ystlys a'r balfais; a hwn hefyd abair i ddyn mewn oedran ednwyf a bywusder corph a meddwl. Ag o chymmerer had y dynaid yn bylor gyda mêl, da iawn ai ceir rhag y cyllwst wynt, a rhag y tostedd, a rhag hen beswch, ag i estwng hwydd ar y claf, ag a bair wared dwr o'r corph heb niwedu'r gwysigen.

LLYMA RINWEDD CRIBAU SAINT FFRED,

§ 788. Y neb a arfero yfed eu sudd nid â gwraidd y tostedd arnaw, ag oi berwi mewn gwin gwynn ai yfed yn ddiod ef a iacheir y folwst a hwydd yn y bola, ag o'u mortyru'n fân, a gwasgu'r sudd, ai ddodi ag asgell ar lygad

dyn efe a loywa'r olwg ag ai cryfhâ, ag a wared pilendod o'r llygad. A da yw'r sudd i fwrw yn y clustiau a font yn myned yn fyddar; a da yw yn bylor gyda mêl i'r neb a fo'n myned i beswch, ag ef a dyrr y peswch, ag a wna les i lawer o glefydon yn y cylla. A da yw rhag y cryd a ddaw, ag os cymmerir cyn y del y cryd, ni ddaw y flwyddyn honno. Ag oi ferwi gyda had cennin efe a wella lygad dyn ag ai gloywa, ag a gryfha'r olwg. A gwr doeth o gelfyddyd a ddywad pei gwnelid yn had mae cynt yr elai y neidr yn ddrylliau nag yr elai hi drwy'r had. Ag o bydd hwydd yn y bola efe ai estwng o'i ferwi gyda gwin a ffigys ai roi i'r claf mewn gwely. A da fydd ei fwytta yn gymysg a sudd y ffunel cochon a gloywon mêl gydag ef, ag a yrr y llygaid yn ag yn loywon yn wir, ag a gryha'r pump synwyr yn ryfeddawl.

iach

LLYMA RINWEDD Y PERLLYS, A ELWIR YN Y LLADIN PETROSILIWM.

§ 789. Y perllys sydd lysewyn da twym ei nattur, a gwresog, a gwlyb yn y drydydd radd; da yw ymhob bwyd i amlhau gwaed, ag efe a egyr y gwythi gwaed, a gwythi'r llynnor, a'r rhedweliau ynghorph dyn, fal y cerddo'r gwaed a'r llynnor, a'r dwr yn rwydd y ffyrdd y dylynt, a hynny a wna yn wir.

Hefyd da yw arfer o'r perllys rhag y galon ddiffyg, a rhag mwyth y tridiau, a'r ystlysan, a'r gwlybyrwst, o arall o wlybyn yr amser hynny. A llawenhau'r galon yn ddirfawr y gwna, ag iachau'r cylla.

Y mae rhyw o'r perllys a elwir yn y Gymraeg perllys yr hêl, achos y tyf o ryw a nattur ar heloedd agos i'r mor lle delo'r dwr hallt amser gorllanw mor, ag yn y Lladin gelwir ef petorsilTM marina, da yw ymhob achos attal ar ddwr a llynnor yn y corph, a rhag y cyllwst a'r tostedd, o gym

meryd ei sudd ef, a da yw ei sudd i ddifa cig marw mewn clwyf o dwn ag arholl, a hwn a dyf mewn gerddi, y lle y dylid ei gadw ymhob lle pell oddiwrth fôr.

LLYMA RINWEDD Y FFUNEL, A ELWIR YN Y LLADIN FUNICULWM.

§ 790. Y ffunel sydd o nattur dwym a sych yn yr ail radd, a da yw rhag clefydau'r llygaid, a da yw rhag pob rhyw wenwyn ynghorph dyn o'i yfed yn bylor mewn gwin gwynn, neu mewn hen fedd cadarn; a da yw rhag mwyth y tridiau, a mwyth gwerseddog. Ag o berwer yr had neu'r llysiau mewn dwr oni fo cryf a ffrwythlawn o nattur y llysewyn a golchi pen dolurus a'r dwr hwnnw efe a wna les mawr ag ai iachäa, lle bo'r dolur o achos oerfel a mwyth, ag efe a dyrr y gwayw yn y pen yn ebrwydd iawn.

LLYMA RINWEDD Y RHOSMARI, A ELWIR HEFYD YR YSBWYNWYDD, AG YN LLADIN ROSA MARINA.

$791. Rhosmari sydd bren a llysewyn twym ei nattur a sych yn y drydydd radd, a llyswydden ai gelwir am ei fod o rywogaeth rhwng llysewyn a gwydden.

Cymmer flodau rhosmari a chymysg a mêl ai fwytta yn ymprydiol beunydd, ag ni chyfyd na gwrthlys na dim gwenwynig arall arnat tra arferych y feddyginiaeth hon.

Hefyd y blodau sydd fwy enwedigol yn dda ai berwi gyda mêl, neu win gwynn hyd am yr hanner, ai hidlo yn lân, ai yfed yn oer y bore lwyaid neu ddwy, ag ychydig o fêl gydag ef, ag ychydig ronyn yn ei ôl a ddyrr ymaith y collic oddifewn i deirawr, ag or mynni ei ddodi wrth dy fola o'r tu allan na ddod ddim o'r mêl ynddaw ef.

Hefyd, cymmer ddail y rhosmari, a dail y chwerwyn, a gwna yn edlyn yn yr un modd, a mêl ynddo yn un modd, ag ar ei ol. A meddyginiaeth dda iawn ydyw rhag y tostedd

maen, a'r tostedd llysnafedd, ag ef au dettyd ag au gyrr ymaith yn y dwr.

Hefyd, dod eu blodau neu eu dail dan dy ben yn dy wely, ag nith derfysca na breuddwyd gwrthwynebus, na gwâg yspryd profedigaethgar.

Hefyd, or dygi gyda thi ffonn neu ddryll o'r llysewyn hwnnw ni ddychyn ysbryd drwg ddyfod i'th gyfyl, na gwneuthur o neb brofedigaeth arnati.

Ag y mae ar y rhosmari holl rinweddau y maen a elwir y muchudd.

Hefyd, myn wneuthur llwy o'r bôn neu o wreiddyn y llyswydden yma, a'r dydd y hyfech gawl a'r llwy honno nith wenwynir di y dydd hwnnw, a chadwedig y byddi drwy'r dydd hynny rhag twrw neu luched, a chadwedig fyddi rhag pob gwaith adwyth.

Hefyd, casgl ddail y rhosmari a phwya nhwy yn fâl a hidla ef, ag yf y sudd, ag ef a dyrr y llysnafedd o'r pen a'r ysgyfaint, ag ai difa, yn wir yn wir.

Hefyd, y mae yn dda rhag gwres yr afu ag ai dyrr allan, aga dynn o hano'r gorwyth, ag ai gwna'n iach.

Hefyd, or bydd dyn a rhwystr gwneuthur dwr arno ceisied y blodau neu'r dail a berwed gyda gwin gwynn ag yfed yr edlyn hwnnw yn gyntaf o beth y bore, a'r diweddaf y nos.

Hefyd, o gymmeryd y blodau au dodi gyda gwin gwynn mewn callor distyll au distyllu, cystal yw'r edlyn a geir o honynt a'r distyll bendigaid, a da yn lle hwnw ymhob peth, a da iawn yw i olchi penn rhag gwayw oerfelog ag o fwyth ynddo, a rhag dyfod gwallgof ar ddyn, a llwyaid o'r edlyn hwnn gyda llwyaid o fêl, a llwyaid o ymenyn toddedig, neu hufen tew ffres y sydd dda rhag y pesswch ag i dynnu llysnafedd o'r ysgy faint.

Hefyd, y dwr y berwer hwynt ynddo y sydd dda i'r dyn

« ForrigeFortsæt »