Billeder på siden
PDF
ePub

Fel yr oedd efe yn marchogaeth allan gyda chyfaill un diwrnod, wele swyddog milwraidd yn ei gyfarfod, yr hwn a ymaflodd yn ei farch ef; yntau a ofynodd iddo pa beth oedd ei feddwl pan y beiddiai ei attal ef ar brif ffordd y brenin a'r swyddog gan edrych yn syn arno, ond heb fod yn ddigon adnabyddus o hono, a'i gollyngodd, ac a aeth ymaith gan fygwth y "mynai efe wybod pwy oedd y diawl du hwnw, cyn y byddai efe yn dridiau hynach." Yr oedd rhai o gyfeillion Mr. D. mewn pryder mawr am dano; ond ar y trydydd dydd, dygai un y newydd iddo, fod y cadben wedi ei dagu i farwolaeth â thamaid o fara, wrth ei fwrdd ei hun.

Y llyfrau canlynol ydynt o waith Mr. DOOLITTLE:—

A spiritual Antidote against sinful contagion in dying times.-Treatise of the Lord's supper.-Directions how to live after a wasting plague.-Rebuke for sin after God's burning anger.-Young man's instructor and old man's remembrancer.-Captives bound in chains, made free by Christ their Surety.— The Lord's last sufferings.-Call to delaying sinners.-Scheme of the principles of the Christian religion.-Swearer silenced.-Love to Christ necessary to escape the curse of his coming.-Earthquakes explained and improved.-Mourner's directory.-Plain method of catechizing.-Saints' convoy to heaven.-Four death: Compleat Body of Divinity, on the sermons in morning exercises.-Since his Assembly's catechism with memoir of his life, folio.

HYSBYSIADAU CREFYDDOL.

Yr Epistol oddiwrth y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd yn Llundain, trwy ohiriadau o'r 22ain o'r pumed mis hyd y бed o'r chweched mis, yn gynnwysedig yn y flwydd

yn 1833. At Gyfarfodydd Chwarterol a misol o Gyfeillion yn Mrydain Fawr, Iwerddon, a lleoedd eraill.

Wedi hyn efe a symmudodd i Battersea, lle y cymerwyd ei eiddo ef ac a'u gwerthwyd; ac mewn llawer lle arall hefyd y bu mewn perygl, ac yn gorfod goddef i'w erlidwyr yspeilio ei dŷ; ond fe'i noddwyd gan ragluniaeth fel na chafodd erioed ei fwrw i garchar. O'r diwedd, drwy weithred y Goddefiad, efe a gafodd ei ddychwelyd yn ol i'w le, ac at ei bobl yn Monkwell-Street, lle y bu yn pregethu ddwywaith bob Sabbath tra fu byw. Cynhaliai Ddarlith ar y Mercherau hefyd, lle y traddododd ei esponiad ar Holiad-lith y Gymanfa. Ymhoffai yn fawr mewn holwyddori, ac annogai ei gyd-weinidogion at hyny fel gorchwyl a dueddai yn fawr at ledanu gwybodaeth, cadarnhau dynion yn y gwirionedd, a'u parottoi i dderbyn lleshad o'r GYFEILLION ANWYL,-Yn ein gwaith yn pregethau a ddarllenent, neu a wrandawent. ymgynnull ynghyd ar yr achos yma, a phre Crefydd oedd ei brif orchwyl, ac efe a ym- senoli ein hunain ger bron yr Arglwydd, ddangosai yn fwyaf boddhaol pan fyddai yn cawsom ein darostwng mewn teimlad o'n Ilafurio mwyaf gyda phethau crefyddol. hamrywiol wendidau, ac o brofedigaethau ein Prin y gwelwyd neb a dreuliodd fwy o'i am- gelyn diorphwys. Cawsom ein cyfarparu ser yn ei fyfyr-gell nac efe, a gwelid yr dan yr argraphiadau hyn i deimlo grym y effeithiau daionus o hyn yn amlwg yn ei dystiolaeth hono; "Os yr Arglwydd nid agyflawniadau cyhoeddus. Blinid ef yn fawr deilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeiladwyr gan ddolur y gareg yn ei ddyddiau diweddaf, wrtho: &c. Ps. 127, 1." A chawsom ein gallua dygwyd ef fwy nac unwaith, fel i byrth yogi i gydnabod, gydâ diolchgarwch parchus, bedd drwy hyny ac anhwylderau eraill, ond adferwyd ef mewn modd hynod ar weddïau taerion ei bobl; ac efe a ymdrechai i atteb dyben gras yn oediad ei fywyd, dan syniadau bywiog o ddynesiad ei ddiweddiad.

Un

o'r profedigaethau a ofnai fwyaf oedd, cael byw yn hwy nac y gallai fod yn fuddiol; a thrwy ras Duw fe'i cadwyd rhag hyny; oblegid yr oedd efe yn pregethu ac yn holwyddori, gyda bywiogrwydd hynodawl y Sabbath olaf y bu ar y ddaear; ac ni bu yn gorwedd ond dau ddiwrnod cyn ei farwolaeth. Mwynhâi y fath brofiad o ddwyfol bresenoldeb yn nglyn cysgod angau, nes oedd ei enaid yn cael ei lòni, a'i feddwl yn cael ei gynnal yn gysurus yn ngloesau marwolaeth. Bu farw Mai 24. 1707, yn 77 oed.

Ar ddymuniad amryw o'n darllenwyr yd. ynt hoff o waith yr hen Anghydffurfwyr, yr ydym yn bwriadu cysylltu â buchdraeth pob un, enwau y llyfrau a gyhoeddasant. N

ein bod wedi cael ein anrhydeddu âg arwyddion newydd, fod Pen sanctaidd yr eglwys yn gwylio drosom, ac yn ein diogelu yn erbyn gormesiadau y gelyn; ac y byddai iddo Ef, er mor aunheilwng ydym o'i sylw, ein hadeiladu ynghyd iddo ei hun, megis meini byw. iol wedi eu cyd-gyssylltu. Yr ydym, trwy y prawf adnewyddol hwn o garedigrwydd anwylaidd yr Arglwydd, a'i ymostyngiad tuag attom, wedi cyduno i eich hannerch etto, yn ngeiriau yr Apostol,-"Gras i chwi a thangnefedd a amlhaer, trwy adnabod Duw, a Iesu ein Harglwydd ni." 2 Pedr 1, 2.

Ein gweddi a'n dymuniad difrifolaf ydyw, i'r rhai galarus a'r gwan eu meddwl gael eu dyddanu; i'r rhai oedranus gael eu cynnal i fynu gan obaith yr Efengyl dragwyddol; i'r rhai ieuaine gael eu hannog i roddi eu calonau i'r Arglwydd: ac i'r rhai yn nghanol eu bywyd gael eu cymmell, trwy ei gariad Ef a fu farw drosom, i gyflwyno eu hunain i'w

wasanaeth. Yr ydym yn cyd-ymdeimlo â llawer o'n brodyr a'n chwiorydd caruaidd ar ba rai y rhyngodd bodd i'r Arglwydd osod ei law geryddol, pa un bynnag ai mewn meddwl, corph, neu etifeddiaeth eu tralloder. A thra yr ydym yn ystyried ei bod yn fraint Gristionogol i wylo gyda y rhai sydd yn wylo, yr ydym yn eu cyflwyno yn ddiffuant i drugareddau tyneraidd Iachawdwr dynion. Gwnaethpwyd Ef yn gyffelyb i'w frodyr, fel y byddai iddo fod yn Archoffeiriad ffyddlon a thrugarog; cafodd ei demtio yn mhob peth yr un ffunud a ninnau; ac y mae yn parhau i gyd-ddyoddef gyd â'n gwendid ni: “efe a ddichon yn gwbl iachau y rhai trwyddo Ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod Ef yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy."

Yr ydym yn credu fod llawer yn ein plith, pa rai, oddiwrth amgylchiadau yr amseroedd, ydynt mewn ymdrech gyda chyfyngderau. Bydded i'r rhai hyn gael eu calonogii geisio yn gyntaf deyrnas Duw a'i gyfiawnder Ef, yn yr ystyriaeth fod eu Tad nefol yn gwybod eu holl eisiau. I'r rhai hyny ag sydd yn rhodio yn ei ofn a'i gariad, y mae Ef yn cyfranu yn helaethach y gras hwnw trwy ba un y maent yn alluog i roddi eu hymddiried ynddo Ef. "Ymddiriedwch yn yr Arglwydd byth; o herwydd yn yr Arglwydd Dduw y mae cadernid tragwyddol." Esay 26, 4. Yr ydym yn annog yn garuaidd ein cyfeillion anwyl ag sydd wedi eu gosod mewn sefyllfaoedd fel hyn, i arfer y gwroldeb moesawl hwnw a'u galluoga i leihau eu traul deuluol o fewn cylch eu cyllid blynyddol, a ni a ddymunem eu rhybuddio i beidio oedi y ddyledswydd bwysig hon, o dan ddysgwyliad o'r hyn y dichon iddynt ystyried yn welliant yn nghyflwr masnachaeth; ac a ddichon beidio cael eu gwirfodoli. A bydded i'n holl gyfeillion anwyl fod yn ofalus pa fodd yr ëangont eu negeseuon, gyda golwg o gynnyddu moddion eu cynnaliaeth, gan gofio bob amser mai elw mawr yw duwioldeb gyda boddlonrwydd. 1 Tim. 6, 6.

Y mae gennym reswm i gredu fod y cyfeillion yn mhob rhan o'r wlad, yn parhau i ddal yn ffyddlon at ein hen dystiolaeth yn erbyn Degymau a gofynion eraill o natur eglwysig. Swm y gafaeliadau (distraints) braidd yn hollol ar yr achosion hyn, megis y maent yn awr yn adroddedig, yw yn agos i dair mil ar ddeg o bunnau. Ein barn sefydlog ydyw mai un o'r dybenion o herwydd y rhai y gwelodd yr Arglwydd yn dda ein cyfodi i fynu fel corph o bobl, oedd fel y byddaii ni ddyfod yn dystiolaethwyr ffyddlon yn erbyn y llygredigaethau a ddaethent i'w eglwys weledig; etto dymunem eich had-goffau yn garuaidd, nad yw cynnal i fynu ddadleuaeth â chyfeiliornad yn ein sefydlu o anghenrheidrwydd yn y gwirionedd; fod yn alluadwy peidio bod yn gydffurfiol â'r byd, mewn lla

wer o bethau, ac ar yr un pryd, fod heb ein cyfnewid trwy adnewyddiad ein meddwl. Gan hyny, yr ydym yn attolygu yn ddifrifol ar ein cyfeillion caruaidd, tra yn glynu yn sefydlog wrth ein holl dystiolaethau cristionogol i beidio boddloni ar ddim tu yma i'r troedigaeth calon hwnw, yr ymddibyniaeth feunyddiol hono ar Dduw, a'r ufudd-dod hollol hwnw i'w gyfraith, ag sydd yn cyf. ansoddi bywyd duwioldeb.

Heblaw gorchwylion eraill at ba rai ein galwyd y pryd hwn, cawsom ein rhoddi ar waith i adolygu Rheolau ac ymgynghorion y Gymdeithas, o ba rai mae argraphiad newydd a helaeth o gylch cael ei gyhoeddi. Yn ystod y cyflawniadau hyn, cawsom achos i gydnabod, gyda diolchgarwch, y cynnorthwy a roddwyd yn drugarog i ni yn ein gwaith yn trin ac yn penderfynu llawer o ymgynghorion pwysig. Cawsom ein gwasgnodi yn ddwys â gwerth a phwysigrwydd ein dysgyblaeth gristionogol: yr ydym yn credu fod ein cyn. dadau yn y gwirionedd wedi eu hanrhydeddu yn rasusol â chynnorthwy Dwyfol yn ei sefydliad, a'i bod mewn cyd-weddiad âg egwyddorion syml llywodraeth eglwysig a eglurir yn y Testament Newydd. Tra y mae yn gorchymmyn i ni fod yn ddarostyngedig y naill i'r llall mewn cariad, nid yw nac yn gormesu ar wir ryddid cristionogol, nac mewn unrhyw radd yn ein rhyddhau oddiwrth yr ymddibyniaeth bersonol hono ar Ben mawr yr eglwys, a'r ufudd-dod hwnw i'w orchymynion, heb ba rai nis gall fod genym unrhyw hawl i gael ein hystyried fel aelodau o gorph Crist. Yr ydym yn mawr barchu yr ordinhâd hon fel moddion cadwedigaeth i ni a'n plant, ac yn dymuno yn dra difrifol ar iddi gael ei gweinyddu bob amser gan ddynion o ddwylaw pur, mewn yspryd addfwynder, ac yn ofn Duw. Ac yr ydym yn gorchymyn yn garuaidd i'r rhai hyny sydd yn myned yn mlaen at ddynoldeb i werthfawrogi yn ddidwyll y gofal y mae ein dysgyblaeth yn ddarestyn drostynt; ei hystyried yn fraint i fod yn ddarostyngedig iddi, ac megis y dichon i achosion gyfodi, i gyfranu tuag at ei chynnaliaeth. A thra yr ydym yn dymuno yn frwdfrydaidd i rif llafurwyr ffyddlon yn y gair a'r athrawiaeth gael eu chwanegu, ni a ddymunem adgoffâu ein cyfeillion anwyl, fod dysgyblaeth yr eglwys yn caniatau cylch eang o ddefnyddioldeb i bawb sydd yn caru llwyddiant achos y Gwirionedd; ac er lleied mewn rhai achosion, y dichon ein brodyr a'n chwiorydd anwyl weled o ffrwyth eu llafur, ni a ddymunem y pryd hwn ddwys wasgu arnynt beidio llacâu mewn gofal gwyliadwrus a duwiolaidd dros y praidd.

Y mae yr adroddiadau a dderbyniasom y pryd hwn o sefyllfa ein Hysgolion cyhoeddus wedi bod yn foddhäol i ni. Y mae ein cyd-ymdeimlad a'n parch yn neillduol ddyl

wneuthuriad crefyddol gyrhaeddyd i barthau eraill o'r byd cristionogol sydd mewn sefyllfa gyffelyb, gydâ dymuniad difrifol ar iddynt gael eu gwneuthur yn offerynol, dan fendith Rhagluniaeth, i effeithio gwir wellhad yn nghyflwr teuluaidd, moesol a chrefyddol ein cyd-ddynion.

edus i'r rhai hyny sydd ar waith yn gydwybodol yn cyflawni y dyledswyddau rhwymedig sydd yn nglŷn â gofal ieuenctyd. Gyfeillion anwyl, y mae ein dysgwyliadau am y genhedlaeth a ddaw yn agos gyssylltiol âg iawn gyflawniad o'r hyn a ymddiriedwyd i chwi. Y mae eich galwedigaeth yn llafurus, ond o ddefnyddioldeb rhagorol; ac yn un Teimlasom y pryd hwn, fel yn y blynyddyn yr hon y mae genych gyfleusdra helaeth oedd o'r blaen, fod cyflwr gresynns y Pagan. i wasanaethu yr Arglwydd. Y mae anghen- iaid, a'r amgylchiadau isel y maent yn byw rheidrwydd neillduol arnoch ymofyn am y danynt, yn wir gyffröawl. Ac er nad oes un ddoethineb sydd oddi nchod; ond os gwnaeth llwybr yn ymddangos i ymagor, er i ni gypwyd chwi, trwy gynnorthwy nefol, yn offer. meradwyo unrhyw ffordd bennodol mewn ynol yn y gwaith o ffurfio cywir arferion trefn i gyfranu iddynt wybodaeth o wirionedd moesawl a gwir egwyddorion crefyddol, gan yr Efengyl, yr ydym yn cyflwyno yn ddifrifol nad pa mor gyfyng yw eich cylch, gellwch eu sefyllfa dywell i gofiant aml a chydymobeithio cael cyfranogi o fendith y rhai hyny deimlad cristionogol ein holl aelodau. Y sydd yn troi llawer i gyfiawnder. Dan. 12,3. mae amryw foddion o daenu gwybodaeth o Dymunem mewn ystyr grefyddol fod i'n pobl Gristionogrwydd yn en plith nad ydynt mewn ieuainc, tra yn derbyn yr addysg hono a'u unrhyw radd yn cymmysgu ein hegwyddorcymmwysa er defnyddioldeb mewn bywyd dy- ion crefyddol. Y mae yr Ysgrythyrau fodol, allu parhau i gael eu hyfforddi yn ngwy- Sanctaidd yn tystiolaethu yn helaeth mor bodaeth a chariad yr Ysgrythyrau Sanct- atgas yn ngolwg y Duwdod yw ffieidd-dra aidd; ac iddynt, yn ngostyngeiddrwydd ac eulunaddoliaeth; a dymunem ar i bawb seofn yr Arglwydd, allu chwilio drostynt eu fyll yn agored i gyfarwyddiadau y Bugail hunain dystiolaethau allanol y grefydd Grist- Nefolaidd, a dilyn arweiniadau ei Yspryd i'r ionogol. Bydded iddynt gael eu cadw bob cyfryw orchwylion ag y dichon iddo Ef benamser yn y sefyllfa meddwl addysgiadol, nodi iddynt yn bersonol. Yr ydym yn llagwyliadwrus a thyner hono, yn mha un ywenhau yn y gyfran hono a gymerodd lla byddont byw i ddylanwad gweledig yr Yspryd Glân, ac y rhynga bodd i'r Arglwydd gan iatâu iddynt iawn wybodaeth o ffordd y bywyd ac Iechydwriaeth.

Derbyniasom a darllenasom yr Epistolau a anfonwyd i annerch y cyfarfod hwn oddi wrth ein brodyr duwiolfryd yn Iwerddon, a'r amrywiol Gyfarfodydd Blynyddol ar y Cyfandir Americaidd, gyd âg eithriad o Virginia, ac yr oeddynt yn dra derbyniol genym.

Y mae sefyllfa isel ac anfoesol y tlawd, mewn amrai barthau o'r Unol Deyrnas, yn nghyd ag echrysder camweddau gwladol wedi effeithio yn ddwys arnom y pryd hwn. Gan hyny, yr ydym yn attolygu ar y cyfeillion yu eu lleoedd perthynol mewn tref neu wlad, i chwilio allan achosión y pethau hyn. Yr ydym yn tybied y ceir yn eu plith y talfyriadau hyny ar gysuron y llafurwr ag sydd yn arwain i ymofyn cynhaliaeth blwyfol resynol ac anmharchus. Yr ydym yn dymuno yn ddifrifol ar i'r cyfeillion fod yn angrhaifftiol yn eu dyfal ystyriaeth at y pwnc pwysig hwn; ac ar iddynt annog eu cymmydogion, ac uno gyda hwy yn eu hymdrechiadau, ddefnyddio meddyginiaeth rhag y drygau hyn. A chan weled ei fod yn bechod ag sydd yn ysgar yr enaid oddi wrth Dduw, a bod anwybodaeth ac anghymmedroldeb, dryg. ioni ac annuwiaeth, yn llwyddo gymmaint yn mhlith trigolion yr Ynysoedd Brytanaidd, yr ydym yn awyddus ar i'n haelodau ganiatâu i'w cydymdeimlad gael ei ddeffroi dros ein cyd-ddeiliaid hyn. A bydded i'w hym

wer o'n haelodau yn lledaeniad cyffredinol yr Ysgrythyrau Sanctaidd, ac yn y gwaith o gefnogi hyfforddiad cristionogol y tlawd, yn y wlad hon a gwledydd eraill; a dymunem ar i'r gwrthddrychau tra phwysig hyn gael sylw a chefnogiad parhaol y cyfeillion.

Yr ydym yn teimlo y pryd hwn ryw ddwys ofal gwresawg a charuaidd, ar i ni oll allu ymdrechu trwy gynnorthwy yr Yspryd Sanctaidd, i fyw yn unol â'r gyffes hono o eiddo y Grefydd Gristionogol ac i faeutumio y golygiadau hyny am ei symlrwydd, ei hysbrydolrwydd a'i phurdeb ag y darfu ein cymdeithas yn unwedd dybied yn iawn eu cynal i fyny. Ac megis y byddo i ffydd fywiol yn athrawiaeth yr Efengyl, a chadwraeth gweithredol o orchymynion ac esiampl ein Harglwydd arweddiad, bydd i ni gael ein galluogi yn bendigaid, reoleiddio ein serchiadau a'n hymgywirach i weled ein lleoedd personol yn yr eglwys. Yn yr arferiad o'r ffydd a'r ufudddod hwn ni a ddeuwn yn fwy diddyfnawl oddiwrth gariad y byd, ac yn fwy cyflawn o gariad Duw; a pha un bynag a fyddo i'n coelbren syrthio gartref neu oddi cartref, mewn gwareiddiach neu dywyllach bro, gwneir ni yn offerynol i gynnyddu y deyrnas hono, ag sydd yn gyfiawnder a thangnef. edd a llawenydd yn yr Yspryd Glan.

Mewn Epistolau blaenorol cawsom achos yn aml i ymegluro mewn iaith o dosturi, ac hefyd yn nod mewn geiriau o ddigalondid, ar orthrymiad hir-barhaol y caethion yn nhrefedigaethau yr Ymerodraeth Frytanaidd.

ond araf yn yr Yuys hon, etto llawen genym weled fod y gwaith yn cynnyddu.

Yn nhalaeth Ulster, allan o 2,294,128 o boblogaeth, y mae 156,712 yn yr Ysgol Sabbathawl, sef un i bob 15 o boblogaeth y dalaeth. Y cynydd yn y flwyddyn ddiweddaf oedd 25 o Ysgolion, 3,539 o Ysgolheigion, a 478 o athrawon.

Yn nhalaeth Leinster, allan o 1,927,967 o boblogaeth, mae 28,630 yn yr Ysgol Sabbathawl, sef 1 i bob 67 o'r trigolion, a'r lleihad drwy yr holl dalaeth yw 4. Ysgol, 5 dysgybl, 7 athraw.

Yn nhalaeth Connaught, o boblogaeth, o 1,348,077 y mae 7,162 o ddeiliaid yr Ysgol Sabbathawl, sef 1 i bob 188 o'r trigolion, yn cynnwys cynnydd er y flwyddyn ddiweddaf 04 Ysgol,539 o Ysgolheigion, a 27 o athrawon

Ond yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf, darfu ein cyd-wladwyr, o wahanol enwadau crefyddol, gydweithredu gyd a brwdfrydedd cynnyddol yn y gwaith o ddadleu achos y gorthrymedig. Dadleuwyd cyfiawnder cyfraith Crist yn y gwledydd hyn fel rheswm anatebadwy dros hollol ddiddymiad caethiwed. O fewn cylch yr un amser, darfu amryw ddigwyddiau cyd-unol nodi allan law Rhagluniaeth oruwch-lywodraeth, ac y mae yr achos hwn o ddynoliaeth a chyfiawnder wedi gwneuthur ei ffordd i helaethrwydd annghydmarol. Gyda diolchgarwch parchus i'n Tad Hollalluog, yr hwn sydd yn y Nef. oedd, yr ydym yn edrych yn mlaen yr awr hon at ddiweddiad y gyfundraeth greulon a gwaradwyddus hon fel dygwyddiad nad yw bell oddiwrth gymeryd lle. Y mae llywodraeth y wlad mewn effaith, wedi cydnabod y brif egwyddor, na ddylai dyn ddal unrhyw feddiant yn mherson ei gyd-ddyn; ac y mae Tŷ y Cyffredin ar waith yn arlywio ar y pwne tra phwysig hwn. Yr ydym yn cyfYsgol a 191 o ddysgyblion. Felly y mae lwyno yn ostyngedig y cyflawniadau hyn i yn mhedair talaeth Iwerddon, y rhai sydd yn fendith y Goruchaf. Rhynged bodd iddo Ef i'r hwn y mae achos y tlawd a'r gorthrym-iaid yn yr Ysgolion Sabbathawl, sef 1 i 37 o cynnwys7,734,365 o eneidiau,206,717 o ddeiledig yn werthfawr, ddylenwi ein llywodr- drigolion y tîr; a chynnydd yr Ysgolion aethwyr i ordeiniad o'r cyfryw gyfreithiau Sabbathawl drwy yr Iwerddon o'r cyntaf o cyfiawn a chyfartal ag a gyfleynt y Negröaid Ionawr 1832 hyd Ionawr laf 1833 yw 31 o caethion mewn cyflawn feddiant o'r iawnderau Ysgolion, a 4,564 o Ysgolheigion, a'r rhydd-freintiau hyny i ba rai y mae ganddynt hawl yn gyfartal â ninau.

Yn nhalaeth Munster, o boblogaeth o 2,165,193, y mae 14,213 o Ysgolheigion Sabbathawl, 1 i 152 o'r trigolion, ac yn cynnwys cynnydd yn ystod y flwyddyn ddiweddaf o

Gymdeithas Cymedroldeb Ieuenctyd. Ac yn awr, yn ddiweddglo, gyfeillion anwyl, "mewn cariad brawdol byddwch gared edroldeb yn mysg ieuenctyd, ysgol East Yn ddiweddar, sefydlwyd Cymdeithas Cymig i'ch gilydd, yn rhoddi parch, yn blaenori eich gilydd." Bydded i ni lafurio am gyn hynaf a areithient ar yr achlysur, er dangos Brook, Bradford. Ac amryw o'r bechgyn nydd o'r gyfeillach ar cyd-ymdeimlad hwnw yn y rhai y gallwn ddwyn beichiau ein gil-odydd poethion ar gorph a meddwl; a'n eu hargyhoeddiad o effeithiau niweidiol gwirydd: ac yn y rhai os bydd un aelod o'r eglwys yn dyoddef, y gallo gael yn y lleill penderfyniad hwy i ymgadw yn hollol rhag gyd-ddyoddef; ac os bydd i un gael ei aneymeryd dim o honynt, oddieithr yn feddygrhydeddu y gallent y lleill gydlawenhau. Ein gweddi oll a fyddo ar i'r cariad hwnw ag sydd yn gobeithio, yn credu, ac yn dyoddef pob dim gynnyddu a llwyddo yn ein plith. Cyd-ddygwch â'ch gilydd mewn addfwynder a chariad yn nghanol gwendidau cnawd ac yspryd. "Yr un ffunud byddwch ostyngedig i'r henuriaid." Ie, bydd wch oll yn ddarostyngedig i'ch gilydd, ac ymwisgwch â gostyngeiddrwydd; a bydded i ni oll barhau felly hyd y diwedd," fel pan ymddangoso y Pen-bugail y gallom dderbyn anniflanedig goron y gogoniant.

yr

ieuainc

Wedi ei arwyddnodi yn ac ar ran y Cy-
farfod, gan
SAMUEL TUKE,
Ysgrifenydd y Cyfarfod y flwyddyn hon.
Cyf. ILLAUDATUS.

ADRODDIAD CYMDEITHAS YR YS

GOL SABBATHAWL YN IWERDDON.
ER nad yw cynnydd yr Ysgolion Sabbathawl

ol yn unig. Y mae 58 o fechgyn wedi rhoddi eu henwau, wrth yr ymrwymiad isod. Ysgol East Brook, trwy gydsyniad ein rhieni, "Yr ydym ni, y plant ymgynnulledig i ac ar esampl ein hathrawon, yn ymrwymo yma nad archwaethwn wirodydd poethion yn unig pan archir i ni gymeryd o hon. ynt fel meddyginiaeth; ac i beidio cymeryd o unrhyw ddïod gadarn arall ond yn gym. hedrol."

ond

cynnal cyfarfodydd wythnosol, lle y cynnygFfurfiwyd Cyfeisteddfod, ac y maent yo ir ac y derbynir aelodau newyddion, ac yr adroddir gweithrediadau yr wythnos. Un peth nodedig yn nghyfansoddiad y Gymdeithas hon yw, ei bod yn gofyn i'w holl aelodau ddarllen ei thraethodau a'u dosparthu yn eu cymmydogaethau, drwy yr hyn y maent hwy eu hunain yn derbyn lleshâd, ac y mae egwyddorion ac amcanion y sefydl adnabyddus i lawer o'u cymmydogion a'u iadau buddiol hyn yn cael eu gwneuthur yn perthynasau.

HANES GWLADWRIAETHOL.

Y SENEDD AMHERODRAWL.

TY YR ARGLWYDDI, DDYDD MAWRTH CHWEF. 4.

Bymtheng mynyd wedi dau o'r gloch, aeth ei Fawrhydi i dŷ yr Arglwyddi, i agor eisteddfod bresennol y Senedd, ac wedi gwysio aelodau Tŷ y Cyffredin i ymddangos ger bron; ei Fawrhydi a ddarllenai mewn llais hyglyw,

YR ARAETH FRENINOL.

"Fy Arglwyddi a'm Boneddigion,

Wrth eich galw ynghyd drachefn i gyf- | lawni eich dyledswyddau uchel, yr ydwyf yn ymorphwys mewn llawn hyder ar eich aidd a'ch diwydrwydd, eich dyhewyd at les y cyffredin, ac ar eich diysgogrwydd i gynnal Ffurf lywodraeth sefydledig y wladwriaeth ar ei hen sylfaeni, ac yn y iawn gyfraniad o'i galluoedd...

"Y cymhwysderau hyn a hynodent eich llafur yn nodedig yn ystod yr eisteddfod ddiweddaf; yn yr hon y dygid mwy o bethau, a'r rhai hyny o natur fwy pwysfawr, ger sylw y Senedd, nac a ddygid mewn cyffelyb yspaid, unrhyw eisteddfod o'r blaen.

"O'r mesurau a awdurdodwyd gan y Llywodraeth mewn canlyniad, un o'r rhai mwyaf dyrus a phwysfawr, ydoedd yr Ysgrif er Diddymiad caethwasanaeth, Ac y mae y dull y derbyniwyd y trefniad buddfawr hwnw yn yr holl Drefedigaethau Prydeinaidd, a'r hyn a wnaed eisoes tu ag at ei ddwyn i weithrediad gan Lywodraeth ynys Jamaica, yn ein cynysgaeddu â seiliau cyfiawn i ddysgwyl y canlyniadau dedwydd

af.

"Etto y mae llawer o bethau pwysig yn parhau i alw am eich ystyriaeth ddyfalaf.

"Ni's gall adroddiadau y Dirprwyaethau a bennodwyd i chwilio i ansawdd corphoraethau dinasawl, i weinyddiad ac effeithiad deddfau y Tlodion, ac i gyllidau a noddau eglwysig yn Lloegr a Chymru, y rhai y gorchymynais eu gosod ger eich bron, lai na'ch cynnysgaeddu a llawer o hysbysiaeth fuddiol, drwy yr hyn eich cynnorthwyir i farnu am natur ac eangder unrhyw ddiffygion a chamarferion sydd yn bod, ac yn mha ddull, y gellid mewn amser priodol, wneuthur cymhwysiad diogel a buddiol o'r gwelliadau angenrheidiol.

"Amcan diball fy llywyddiaeth fu diogelu i'm pobl fwynhad didor o fendithion hedd. wch. Cynnorthwyid fi yn hyn yn fawr drwy y cydsyniad daionus a hanfoda rhwng fy llywodraeth I a'r eiddo Ffrainc; a'r tystiolaethau ydwyf yn dderbyn o duedd gyfeill

[ocr errors]

gar Galluoedd eraill y Cyfandir, ydynt yn peri i mi hyderu y bydd llwyddiant parhaus ar fy ymdrechiadau.

"Er hyny, y mae yn ddrwg genyf na wnaed cytundeb terfynol rhwng Holland a Belgium, a bod y rhyfel wladol yn parhau etto yn Portugal.

"Gellwch fod yn hyderus y byddaf ofalus i ddefnyddio unrhyw adeg a'm galluogo i gynnorthwyo yn sefydliad diogelwch a heddwch y gwledydd hyny y mae eu ffynniant mor gyd-gysylltiedig á llwyddiant fy nhiriogaethau.

"Ar farwolaeth diweddar Frenin Hispaen, ni phetrusais gydnabod hawl-honiad ei ferch; ac myfi a wyliaf gyda'r pryder mwyaf, ar hynt amgylchiadau a allant gyffroi Llywodraeth, tangnefedd a llonyddwch yr hon sydd o'r pwysigrwydd blaenaf i'r wladwriaeth hon, cyn gystal a thawelwch cyffredinol Ewrop.

"Ni thorwyd ar heddwch Twrei er pan wnaed cytundeb a Mehemet Ali; a hyderaf na's bygythir ef â pherygl newydd.

"Amcanaf attal unrhyw gyfnewidiad yn mherthynasau yr Amherodraeth hono â Galluoedd eraill, a all wanychu ei grym a'i hanymddibyniad rhagllaw.

"Foneddigion Ty y Cyffredin,

"Yr wyf wedi gorchymyn i gyfrifon traul y flwyddyn nesaf gael eu gosod ger eich bron. Maent wedi eu llunio gyda golwg ar y cynnildeb manylaf a ellir ei gyrhaedd heb niweidio y gwasanaeth cyffredin.

"Yr ydwyf yn hyderus y gallaf ymddiried ar eich gwladgarwch doeth-gall, ac ar gydsyniad siriol fy mhobl i ddarparu y moddion anghenrheidiol i gynnal, anrhydedd fy nghoron, a lleshad fy nhiriogaethau.

66

Canfyddir y cyfrifon a roddir o'ch blaen o ansawdd y Cyllid, mewn cydmariaeth a'r Draul, yn fwyaf boddhäol.

"Fy Arglwyddi a Boneddigion,

"Mae yn alarus genyf fod y fath gyfyngder yn parhau yn mysg tir-feddiannwyr a thir-ddeiliaid; er fod ansawdd y wlad yn mhob golygiad arall, o barth ei thawelwch tumewnol, ei masgnach a'i gweithfäau, yn rhoddi yr olygfa fwyaf calonog o welliant cynnyddol.

"Mae y cyfreithiau a gymmeradwywyd yn yr eisteddfod ddiweddaf i ddwyn amrai fesurau diwygiadol a iachusol i weithrediad yn Iwerddon mewn grym yn awr: a gellir dysgwyl mai diwygiadau helaethach fydd y canlyniad o'r Dirprwyaethau a awdurdodwyd i chwilio i mewn i bethau pwysfawr eraill.

"Yr ydwyf yn eich annog i roddi ystyr

« ForrigeFortsæt »