Billeder på siden
PDF
ePub

52

hanesyn canlynol fod yn un prawf:-Fel yr |
oedd y cad-fridog Monk yn un o'i wrandaw-
wyr yn mhen ychydig ar ol adferiad y
brenin; efe a arweiniwyd i lefaru am fudr-
elw, 'a pha ham ei gelwir yn fudr,' eb efe,
'onid am ei fod yn peri i ddynion wneuthur
pethau gwaelion a budron.' A chan chwyfio
ei gadach tu ag eisteddle y cad-fridog, efe a
ychwanegai, 'Mae rhai dynion a fradychent |
dair teyrnas er mwyn budr elw.'

Dewisidef yn gadeirydd yn nghyfarfodydd gweinidogion y ddinas yn fynych; ac efe a berchid yn fawr am ei ymddygiad pwyllog a synhwyrlawn. Efe a wrthododd esgobaeth, am na allai ei chael yn ol y rhyddgyhoeddiad a roisid allan gan y brenin ar y dechreu: ond efe a gadwai ei dymher fwynaidd yn ei holl ymddygiadau, wedi ei droi allan fel cynt. Dywedai Baxter am dano, iddo ei glywed ef yn tystiolaethu lawer gwaith, ei fod yn golygu cyd-ffurfiad â llawer o bethau a ofynid yn ngweithred yr unffurfiad, yn bechadurus. Efe a draddododd ei bregeth ymadawol (yr hon oedd wedi ei sylfaenu ar 2 Sam. xxiv. 14.) wythnos cyn i ddeddf yr unffurfiad ddyfod i weithrediad. Efe a wnaeth eirchiad am oddefiad, drwy annogaeth amrai o'i gyfeillion, y rhai oeddynt yn wyr mawrion yn y llys breninol; ac a'i cyflwynodd i'r brenin ond nid attebodd hyn nemawr ddyben; canys efe a garcharwyd yn fuan ar ol hyn, am bregethu yn achlysurol yn yr hen eglwys lle y buasai yn gweinidogaethu o'r blaen, sef Aldermanbury; lle yr aethai gyd a'r bwriad o fod yn wrandawr, ond gan na ddaeth yr un a ddysgwylid i bregethu yno, efe a gydsyniodd a thaer gymhelliad y bobl, ac a bregethodd iddynt ar bryder yr hen Eli am arch Duw. Ar hyn efe a garcharwyd yn Newgate drwy orchymyn yr Arglwydd Faer, fel troseddwr gweithred yr unffurfiad. Ónd wrth weled y fath gynhwrf a barasai ei garchariad yn mysg y dinaswyr yn gyffredinol, a'r fath gyrchfa oedd gan bob graddau atto i'r carchar, efe a ryddhawyd drwy orchymyn pendant ei fawrhydi.

Bu fyw i weled Llundain yn lludw, yr hyn a effeithiodd gymmaint arno, fel yr ymneillduodd i'w ystafell, ac ni ddaeth allan o honi mwyach; ond efe a fu farw yn mhen tua mis wedi hyny, yn y chweched flwydd a thriugain o'i oedran.

HYSBYSIADAU CREFYDDOL.

CYFARFOD UNDEB YR YSGOLION SABBATH-
AWL YN NHREFFYNNON.

DYDD Nadolig diweddaf cadwyd cyfarfod
tra hyfrydlawn yn y dref uchod, lle y cyd-
ymgynnullai deiliaid a swyddwyr yr Ysgol-
ion Sabbathawl a berthynant i'r amrafael

bleidiau ó ymneillduwyr gwrth dystiawl; a dygid y cyfarfod yn mlaen yn y dull canlynol.

Am ddeg y boreu cynhelid cyfarfodydd gweddio yn addoldy y Bedyddwyr a'r Anymddibynwyr; ac un o bob plaid grefyddol a weddïai yn gyhoeddus am fendith yr Hollalluog Dduw ar y sefydliad gogoneddus yr ymgasglasent o'i herwydd y dydd hwnw.— Am un o'r gloch, rhodiai yr ysgolion mewn trefn i'r Heol-uchel, lle y ffurfient gylch, a chanorion y gwahanol ysgolion a ymgasgl. asant yn y canol lle y datganent amrai hymnau priodol i'r perwyl gyda phereidddra nodedig. Yna y dorf a ranwyd, a dychwelodd y naill ran i addoldy y Trefnyddion Calfinaidd, a'r rhan arall i addoldy y Trefnyddion Wesleyaidd; a gweinidogion ac athrawon perthynol i'r gwahanol enwau crefyddol a gyfarchent y cynnulleidfaoedd mewn dull tra thoddedig ac effeithiol ar y testunau canlynol:—

1. Sefyllfa y byd cyn i'r Bibl gael ei gyfieithu i'r amrafael ieithoedd, a'i ddosparthu mor gyffredinol.

2. Bod Duw wedi amcanu y Bibl i fod yn meddiant pob rhyw ddyn yn ddiwahaniaeth.

3. Rhagorfraint aelodau yr Ysgolion Sabbathawl hyny, lle y dysgir pur air Duw.

4. Ei bod yn ddyledswydd arnom cyn gystal a braint i ni, i ddysgu darllen, ac i amddiffyn yr Ysgrythyr Lân.

5. Bod buddioldeb yr Ysgolion Sabbathawl yn galw ar bawb i'w cefnogi.

6. Dyledswydd rhieni i anfon eu plant i'r Ysgol Sabbathawl, a'r perygl mawr o'u hanfon i'r lle na chaffont eu dysgu yn ol gair Duw.

7. Yr angenrheidrwydd parhaus i ni ddyrchafu ein llef tu a'r nef, am i'r Yspryd Glan goroni ein llafur â llwyddiant.

Yr oedd yr olygfa yn dra phrydferth; y ddau addoldy, y rhai ydynt yn eang iawn, oeddynt wedi eu tyn-lenwi: ac y mae lle i ddys-gwyl y dilynir y cyfarfod hwn âg effeithiau daionus.

Am chwech yn yr hwyr, traddodwyd pregethau priodol i'r achlysur yn mhob un o'r addoldai.

Clywsom amryw o'n darllenwyr yn tystio eu hawydd am weled rhai o'r areithiau a draddodwyd ar yr achlysur uchod yn ymddangos yn y Cynniweirydd; ac er mwyn cyd-synio a'r cyfryw ddymuniad, erfyniwn ar ein cyfeillion a allant, ein anrhegu âg ychydig loffion, a chant ymddangos gyda chroesaw yn ein rhifynau nesaf.

[blocks in formation]

uchod yn y llys-dy gwladol yn y dref hon. D. Pennant, Ysw. yn y gadair. Traddodid areithiau bywiog a thra phrïodol i'r achlysur yn nghlyw cynnulleidfa luosog, gan y Cad. eirydd; gan y Parch. J. Doran, L. L. D. Cenhadwr o dueddau Malabar, a Llywydd yr Athrofa Syriaeg yno: a chan y Parch. R. Richards o Gaerwys. Buasai yn dda genym pe caniattasai ein terfynau i ni roddi crynodeb lled helaeth o'r areithiau rhagorol a draddodwyd yn y cyfarfod hwn; eithr nis gallwn namyn cyflwyno rhai tywysenau hanesyddol a gyfodasom i fynu tu ag at wneuthur anrheg i'n darllenwyr.-Tua 30 ml. yn ol, nid oedd ond y tiroedd ar lan y mor yn perthyn i Loegr yn Ceylon; yr oedd y canol-barth dan lywodraeth un a elwid Brenin Kandy. Yr oedd y pennaeth hwn yn dra eiddigeddus o Frydain, ac ofnai y dygent ei holl diriogaethau oddiarno yn fuan; ac o herwydd rhyw beth, efe a ammheuodd fod ei brif weinidog yn gohebu yn fradwrus a'r saeson: pan ddeallodd y swyddog ei fod yn cael ei ddrwg dybied, efe a ffodd o'r deyrnas, gan ei fod yn gwybod nad oedd dim ond marwolaeth waradwyddus yn ei aros wedi i'r brenin unwaith ei ddrwg dybiaw. Ond gan i'r brenin bwystfilaidd gael ei siomi am ei ysglyfaeth, efe a archodd ddwyn gwraig y swyddog a'i blant ger ei fron; felly hi a ddaeth, ac yn ei dilyn ddau fachgen o ddeuddeg i bedair ar ddeg oed, a baban bychan ar ei bronau. Yna galwyd y dïenyddwr a'i gleddyf noeth yn ei law, a gorchymynwyd iddo ladd y ddau fachgen; ar hyn dechreuai yr henaf grynu, ac arswydo; ond y llall a ddaeth yn mlaen gan ddywedyd, "Ai ofni marw yr ydwyt fy mrawd? gwêl fel y byddaf fi farw;" ac ar hyny, wele ei ben ef yn treiglo at ei draed: yna y dienyddiwyd y llall hefyd yr un modd. Ond nid oedd hyn o greulonderau yn ddigon i foddloni y gormeswr, ac efe a barodd i'r fam dyner roddi ei baban oddiar ei braich, mewn morter mawr, a'i bwyo a'r pestl nes oedd fel clai dan ei dwylaw; ac yn olaf gorchymynodd ei lladd hithau. Mae yr anghenfil hwn wedi ei orchfygu, a'i awdurdod ormesol wedi ei chymeryd oddiarno er ys talm yn awr, ac efengyl heddwch yn cael ei phregethu yn ei hen lŷs gwaedlyd.

Cyfarfu Bramhin ag un o'r Cenhadon yn lled fuan wedi iddynt fyned i Ceylon, ac a ddadleuai mai ofer iawn oedd eu cynnygiadau, na lwyddent hwy byth i gael gan drigolion Ceylon dderbyn eu crefydd hwy. Y cenhadwr a attebai, y gallent fod yn llafurio tymhor maith heb lwyddo nemawr; ond nad oedd hyny yn un sail nad llwyddo a wnaent: gan ychwanegu, y byddai raid iddo ef ddysgwyl lawer o flynyddoedd ar ol planu pren cyn cael ffrwyth arno: ond nad oedd hyny yn peri iddo feddwl mai yn ofer y planasai ef; ac felly yr oedd yntau a'i

frodyr yn planu gan ddysgwyl mewn amynedd am y ffrwyth. Yn mhen tua dwy flynedd, fel yr oedd yr un cenhadwr yn pregethu mewn addoldy ryw Sabbath, efe a welai y Brahmin uchod yn dyfod i fewn, ac efe a alwodd ar y dorf os oedd yno neb a dderbyniasai leshad drwy ei weinidogaeth ef, am iddo ddyfod yn mlaen a phrofi hyny: a buan y cafwyd tystiolaethau cadarnhäol. Yna y cenhadwr a gyfarchai y Bramhin gan ddywedyd, Chwi a welwch Syr, na raid i mi ddysgwyl am ffrwyth lawer o flynyddoedd; oblegyd wele yn awr dystion byw, na fu fy llafur yn Ceylon yn ofer. Y Bramhin a attebodd, os ewch chwi yn mlaen fel yr ydych, gan lafurio i ddysgu yr ieuenctyd, a phregethu ac ymarweddu y modd yr ydych, chwi a ennillwch holl Ceylon yn fuan.

Fel yr oedd Dr. Doran ar ei ymdaith mewn parth o'r India unwaith, gwelai dwr o bobl wedi ymgynnull o flaen drws bwthyn gwledig, ac erbyn neshau yn mlaen i ymofyn beth oedd yr achos o'r cynnulliad, gwelai gorph benyw ieuanc yn gorwedd yn y drws, newydd farw gan effeithiau brathiad sarph wenwynig a elwir Cobra Capello: a phan ofynodd oni laddasant y sarph, mam yr eneth drancedig a attebai (gan synu at ei ymholiad) "Ei lladd! naddo; a phe buasem yn gwneyd hyny, buasai ein holl dylwyth yn meirw yn fuan." Deallodd y Dr. yn fuan mai y sarph hono a frathasai yr eneth oedd y gwrthddrych a addolid gan y teulu tywyll yn lle Duw, am hyny ni feiddient gyffhwrdd â hi.-Lluaws o bethau eraill a adroddwyd; ond rhaid i ni eu gadael yn

bresenol.

ADRODDIAD DIWEDDAF CYFUNDEB YR YSGOLION SABBATHAWL AMERICAIDD.

RHIFEDI yr Ysgolion Sabbathawl yn yr Undeb, 9,187.-Athrawon, 80,913.-Dysgyblion, 542,420.-Y derbyniadau tuag at gynnal yr Undeb yn nghorph y flwyddyn ddiweddaf, 118,181 o ddolars, neu £23,636, o'r rhai yr oedd £15,857. wedi eu derbyn am eu cyhoeddiadau; a'r £7,779 eraill oeddynt roddion gwirfoddol.

Cynnwysa yr Adroddiad y sylwadau nodedig a ganlyn :—

"Yn ystod yr wyth mlynedd er pan sefydlwyd y Gymdeithas hon, cawsom yr hyfrydwch o rifo 26,393 o athrawon a deiliaid a wnaethent broffes gyhoeddus o'u ffydd yn Nghrist: a diammeu pe ychwanegid y rhai a wnaethant yr unrhyw broffes, ond na chrybwyllwyd yn ein hadroddiadau ni, yn nghyd a'r rhai a dderbyniasant y gwirionedd yn y cariad o hono, etto heb wneuthur unrhyw broffes gyhoeddus, y chwyddid y rhifedi uchod i ddeugain neu hanner cant o filoedd."

Bu Cyfeisteddwyr Cyfundeb yr Ysgolion

Sabbathawl Americaidd yn dra llafurus ac egniol yn annog lledaeniad gwybodaeth grefyddol yn mysg yr ieuengctyd, ac yn gosod i fynu lyfr-gelloedd mewn undeb a'r Ysgolion Sabbathawl. Yradfywiad crefyddol nodedig sydd yn America y dyddiau hyn a ddechreuodd mewn llawer o ardaloedd yn yr Ysgolion Sabbathawl.

ion. Eraill a gysgant y nos ar welyau wedi eu gwneyd o bicellau haiarn wedi eu pwlu fel nad elont drwy eu cnawd: y rhai hyn a barant ddyoddefiadau' annrhaethol iddynt. Eraill a'u claddant eu hunain yn fyw mewn tyllau na byddant ond cymhwys i'w cyrph, gyd ag agorfa fechan i roddi y llaw trwyddo i dderbyn elusen y neb a roddo damaid iddynt wrth fyned heibio. Ysgrifenai un awdwr yn ddiweddar, iddo weled un dyn, a addunedasai ddal ei fraich ddehau yn syth uwch ei ben dros ryw ysbaid; ond erbyn i amser yr adduned ddod i ben, yr oedd y gewynau wedi crino, a'r aelod wedi gwywo, fel na allai ei ysgogi o'r ystum hwnw: ei ewinedd oeddynt wedi tyfu drwy ei law yr hon oedd yn gauedig yr holl amser, ei wallt yn hir ac yn llawn o fudreddi; ei farf oedd yn dew, yn ddyrus, ac mor laes fel y gorchuddiai ei fynwes yr hon oedd wedi ei dwbiaw â thom gwartheg ac a lludw: yr oedd wedi llwyr

Y Cyfeisteddwyr a sylwant yn mhellach, "Nis gwybyddwn werthfawrogrwydd y ddawn a roddes y nef i'r byd drwy sefydliad yr Ysgolion Sabbathawl, hyd oni fyddo yr arwyddair a grybwyllir gan un o'n gohebwyr, yn arwyddair holl Grêd-' Ymegniad, ymegniad cyffredinol, ymegniad gwastadol, ac ymegniad yn mhob sefyllfa.'-Egwyddor fawr y Gymdeithas hon, ar yr hon y sylfaena hawl uchelaf o ymddiried a nodded pob rhyw ddyn, yw yr egwyddor o gariad-cariad at y rhai oll a garant ein Harglwydd Jesu Grist mewn gwirionedd. Ceisio yr ydym ddedwyddwch presennol ac iachawd-galedu mewn annuwioldeb, gan dybied fod wriaeth dragywyddol meibion dynion. Mae yn ddiogel ymestyn hyd yr eithaf. Ni ddiwellir ein dymuniad nes i ni lwyr gyflawni yr amcan. Rhaid i ni gynnyddu, diwygio, a lluosogi ein hysgolion o flwyddyn i flwyddyn, nes y byddo holl drigleoedd y ddaear yn wynfydedig gan eu dylanwad."

Maent yn parhau yn llafurus yn ol y cynnygiad a wnaethant i sefydlu Ysgolion Sabbathawl drwy ddyffryn eang y Mississip pi. Y cyfraniadau a dderbyniwyd at hyn rhwng Mai 1830, a Mawrth 1, 1832, oedd 60,714 o ddolars; neu £12,142.

Rhifedi

Cenhadau perthynol i'r Ysgolion Sabbathawl a fu ar waith ganddynt yn nghorph hyny o amser, am amrafael dymhorau, oeddynt 78. Derbyniodd y Cyfeisteddwyr hysbysiad am sefydliad 2,867 o ysgolion; ac y mae rhifedi y dysgyblion mewn llai na hanner yr ysgolion a sefydlwyd, yn driugain mil. Adfywiwyd llawer o ysgolion gwywedig, a dosparthwyd llawer o gyhoeddiadau crefyddol drwy y cenhadau hyn.

COEL-GREYDDWYR INDOSTAN.

MAE llawer o'r trueiniaid hyn yn eu traddodi eu hunain i'r penydiau tostaf fel y gwnelont iawn am eu troseddau, ac yr ennill. ont hawl o wynfyd bythol. Mae y penydiau yr ânt danynt weithiau mor greulon a dychryn. llyd, fel y mae yn syn pa fodd y gall dynoliaeth ymgynnal danynt. Ceidw rhai o honynt eu haelodau mewn rhyw ystum neillduol hyd oni fyddo y cyhyrau a'r cymmalau yn anysgogadwy; eraill a'u cadwynant eu hunain wrth goed a'u wynebau tua chodiad haul, lle y byddant am flynyddoedd oni ryddheir hwy gan angau. A phorthir hwy yn dda yno gan y lluoedd a fyddant yn ymgasglu i'w gweled, gan feddwl eu bod hwy yn rhagori mewn duwioldeb ar eraill o'u cyd-ddyn

ganddo ef hawl i anfarwoldeb dedwydd ; chwyrnai yn gethin ar bawb na byddent yn barod i gyfranu i'w gyfreidiau: ac mewn gair, yr oedd yr holl olwg arno yn ffiaidd i'r eithaf.-A allwn ni ddarllen am ddynoliaeth yn y fath iselder heb adnewyddu ein heiddigedd i wneuthur pob ymdrech a allom i oleuo y trueiniaid, a gweddio yn daer am fendith ddwyfol ar ein hymdrechiadau ?

[merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][ocr errors]
[merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small]

CYMDEITHASAU AMRYWIAETHOL. C. Cymedr. B. a T.1832-33.. 1606 9 0 Addysg Cristionog. 1832-33.. 1133 1 10 Gwybodaeth Grist. 1832-33.. 69301 6 5 Cyfandirawl......1827-33.. 1609 9 Ymweliad Dosparth 1832-33.. Iwerddon(Llundain) 1832-33.. C. Wydd. Llundain 1832-33.. C. Wydd. Dulyn..1832-33.. Do. Er cadw y Sab.1832 Do. Heddwch Diwygiad .

5

645 13 1 9470 9 2052 15 4 2075 14 4 327 5 1 1832-33.. 638 7 9 1832-33.. 2298 19

-Ni ddospartha y llyfrau Apocryphaidd. -Mae y Gymdeithas yn amcanu dosparthu yr Ysgrythyrau, nid yn unig yn Ffrainc, ond mewn Gwledydd Tramor hefyd yn ol y cymhorth a gaffo gan Dduw.

-Mae trysorau y Gymdeithas i eu defnyddio i argraffu a phwrcasu Biblau a Thestamentan, i'w rhanu yn rhad i'r rhai na allant eu prynu; neu eu gwerthu am y pris y gall pob graddau eu cael.

Gobeithiant hefyd y gallant ddefnyddio eu trysorau i gyfieithu a chyhoeddi yr Ysgrythyrau mewn ieithoedd tramor, mewn

amser.

HAELIONI Y BENDEFIGES HEWLEY.

Y bendefiges uchod ydoedd wedi gadael try. sorfa yn ei hewyllys diweddaf, yr hwn a ddyddiasid Gor. 9, 1707, tuag at gynal" pregethwyr tlodion duwiol efengyl sanctaidd Crist." Trwy ryw foddion daethai yr Undodiaid i lyfu eu bysedd ar frasder yr elusen uchod er's llawer blwyddyn; ond drwy ddedryd a benderfynwyd yn llys yr Is-Ganghellydd yn mis Rhagfyr diweddaf, deallir nad oes i neb gael cyfranogi o'r haelioni uchod, a fyddo yn gwadu Duwdod Person ein Iachawdwr, a phechod gwreiddiol: felly mae yn debyg y dychwelir yr haelioni hwn i ddylifo at y gwrth-ddrychau a olygid gan y bendefiges grefyddol uchod. Mae yr hen ymddiriedolwyr a'r hen arolygwyr yn cael eu symud, a rhai newydd yn cael eu gosod yn eu lle yn fuan.

LLWYDDIANT CYMDEITHASAU CYMEDROLDEB YN UNOL DALEITHIAU AMERIC. DYWEDAI cyfeisteddwyr Cymdeithas Cym. edroldeb America, yn Mai 1832. Eu bod yn credu bod pymtheng can mil o ddynion yn ymgadw rhag yfed gwirodydd poethion eu Cyfanswm 655,488 10 0 hunain, na'u rhoddi i eraill, yn yr Unol Dal

SEFYDLIAD CYMDEITHAS FIBLAIDD FFRANCAIDD A THRAMOR.

enw

7

Yn ddiweddar sefydlwyd Cymdeithas dan yr uchod gan Gristionogion gwresog Ffrainc, er rhoddi cychwyn newydd yn achos y Bibl yn y deyrnas boblogaidd hòno: ac i'r dyben hyny y mae yn llefain ar ol Cristion ogion o bob plaid ac enw crefyddol, am eu cymhorth a'u cefnogaeth.

Gwelir ffurf ac amcan y Gymdeithas oddiwrth y llinellau canlynol a dalfyrwyd o gylch-lythyrau ei sefydlwyr.

-Amcan y "Gymdeithas Fiblaidd Ffrancaidd a Thramor," megys Cymdeithasau cyffelyb sydd yn y maes o'i blaen, yw lledaenu yr Ysgrythyran Sanctaidd heb sylw nac esponiad.

I

[ocr errors]

eithiau.-Bod yn yr un llywodraeth fwy na phedair mil o Gymdeithasau Cymedroldeb yn cynnwys mwy na phum can mil o aelodau; bod mwy na phedair mil a phum cant o feddwon wedi eu sobri; a bod ganddynt le i gredu fod mwy nac ugain mil o ddynion yn awr yn sobr, a fuasent yn ddïotwyr oni bai y Gymdeithas hon.-Y flwyddyn ddiweddaf dywedent fod ganddynt fwy na chwe mil o Gymdeithasau, yn cynnwys mwy na deg can mil o aelodau; bod y gwenwyn wedi ei alltudio o fyddin yr Unol Daleithiau yn hollol, ac yn agos o'r llynges hefyd; a gallant gyfeirio at fwy na phum mil o feddwon wedi rhoddi heibio arferyd diod gadarn mewn pum mlynedd o amser. Y llwyddiant anghydmarol hwn sydd yn galw am ddiolchgarwch gwresocafi Awdwr pob daioni am ei fendith ar ymdrechiadau ei bobl.

HANES GWLADWRIAETHOL.

LLOEGR A FFRAINC.

DEALLWN fod y gyfeillach rhwng y ddwy deyrnas hon ar gynnydd parhaus, yr hyn sydd yn peri cryn lawer o eiddigedd yn nghyngor-lysoedd amrai o deyrnasoedd y Cyfandir, megys Rwssia, Prwssia, Awstria, &c., a da fyddai gan lawer pe gallent beri iddynt ddrwg-dybied eu gilydd, a myned i faes y gwaed drachefn i rwygo eu gilydd, fel y buant oesoedd lawer: ond o drugaredd y mae Duw wedi tueddu meddyliau pennaduriaid y teyrnasoedd hyn a'u cynghoriaid i garu heddwch, a gwneyd a allont i'w gadw, nid yn unig rhyngddynt a'u gilydd; ond drwy Ewropa hefyd. Y duedd hon a barodd iddynt gyd-ddwyn cyhyd a Brenin cyndyn yr Isel-diroedd, ac arfer cymmaint o amynedd a dyfal-barâad i geisio terfynu y ddadl rhwng Holland a Belgium trwy gyfammod hêdd, yn hytrach na thrwy rym rhyfelgar. Tebygid hefyd mai i'r un egwyddor y mae yn rhaid priodoli eu hymddygiadau diweddar tu ag at Rwssia: ar naill law parottöent eu byddinoedd a'u llyngesoedd nerthol, fel yr amlygent i'r byd nad gwendid a llwfrdra a barai iddynt arfer y llwybr goddefgar a heddychol yr oeddynt yn ei ddilyn; ac ar y llaw arall wedi cael addewid gan Rwssia ac Awstra, na fydd iddynt ymyraeth â dadgymmaliad yr amherodraeth Dwrcaidd, galwent eu ffrewyllau dychrynllyd yn ol; a gobeithiwn na bydd iddynt gymmeryd eu twyllo gan eiriau têg, ac yfed gwin madrondod addewidion tywyllodrus nes eu taflu i hunglwyf að annarbodiaeth, tra fyddo Nicholas drachwantus yn traflyncu tiriogaethau ei gymmodogion, ac yn estyn ei derfynau nes y byddo yn arswyd i Ewropa, yn rhy uchel ei ffroen i wrando ar gynghor, ac ar y cryfaf i feddwl ei geryddu.

RwSSIA

:

MAE yn hawdd deall fod y llywodraeth hon yn llwyr ymroddi i attal cynnydd dysgeid. iaeth o fewn ei chyffiniau, gan feddwl (mae yn debyg) mai cynnydd dysgeidiaeth yn mysg y werin sydd yn eu gwneuthur yn derfysglyd ac aflywodraethus. Ychydig wythnosau yn ol rhoddes yr arch-deyrn gyhoeddiad allan, drwy yr hwn y gwaharddai i unrhyw ysgol newydd gael ei chyfodi mewn un dref yn Rwssia, lle y byddo ysgolion gan y llywodraeth eisoes, hyd nes byddo prawf llawn wedi ei roddi o'r angen anhebgor am danynt. Nid oes i neb gynnyg cyfodi ysgolion anghyhoedd o'r fath, oddieithr eu bod yn ddeiliaid ganedigol neu ryddfreiniol o'r Amherodraeth ac y mae Gweinidog Dysgeidiaeth Gyffredinol dan rwymau i gadw y wyliadwriaeth fanylaf ar yr holl ys. golion hyn, a dwyn ei gofnodau mewn perthynas iddynt i'r Amherawdr o amser i amser. Y mae y newyn yn parhau yn drwm mewn llawer parth o'r llywodraeth ëang hon yn y taleithiau deheuol y mae y cyfyngderau yn annhraethol, a'u heffeithiau ydynt yn cyrhaedd hyd Moscow lle mae yr ŷd yn ddrutach ddwy waith eisoes nac oedd rai dyddiau yn ol. Mae perchenogion dïadellau mawrion o ddefaid, yn gorfod eu rhoddi allan i'w cadw ar yr ammodau celyd o gael un o dair yn ol yn y gwanwyn; ac er fod y llywodraeth yn ymdrechu cael rhyw lwybr i weini gwaredigaeth i'r rhai ydynt yn y cyfyngder, y mae yn ymddangos ei fod yn ormod gorchwyl i allu dyn ei gyflawni o'r bron, gan fod y ffyrdd wedi eu dryllio yn y fath fodd, fel y mae agos yn anmhosibl i neb gludo ŷd, o'r ardaloedd lle y mae llawnder, i'r taleithiau lle nad oes ond prin

der.

PORTUGAL.

Ni bu nemawr o gyfnewidiad yn sefyllfa y byddinoedd gelynol yn y deyrnas hon er pan roisom eu hanes o flaen ein darllenwyr o'r blaen; ond y mae mwy o arwyddion byw. iocâad yn mhleidwyr y frenhines ieuane nac a fu er ys dyddiau. Ymddengys fod y Duc o Terceira wedi myned at y fyddin sydd yn gwersyllu o flaen Santarem, a bod y cadfidog Saldanha gyda phum mil o wyr yn ymsymyd tuag Oporto, oddiwrth yr hyn y dysgwylir y bydd i ymosodiad gael ei wneuthur ar fyddinoedd Miguel yn fuan. Haera amryw fod Lloegr wedi penderfynu rhoddi terfyn effeithiol ar y ddadl hon yn fuan, trwy yru y ddau frawd o'r wlad, a chynnorthwyo y gwladwyr i sefydlu ffurf lywodraeth.

HISPAEN.

NID yw yr amrafael yn deyrnas hon ar ben etto, nac yn debyg o fod yn fuan ychwaith. Lled grybwyllasom yn y rhifyn o'r blaen, ein bod yn tybied fod rhyw beth mwy na'r ddadl rhwng Don Carlos â'i nith am yr orsedd yn perthynu i hanfod yr amrafael Hispaenaidd, ac y mae amgylchiadau y mis diweddaf wedi dwyn i oleuni dystiolaethau cadarnhäol o hyny: a gwelir yn amlwg fod egwyddorion rhyddid wedi gwreiddio yn ddwfn iawn yn y wlad hon, ac na ellir eu siglo a'u dymchwelyd âg awelon gweiniaid. Anfonai amryw o'r prif swyddogion milwraidd, a thywysogion y taleithiau, gennadwriaethau at y frenhines weddw yn cynnwys dymuniadau y taleithiau, gan led-grybwyll na fynent ei gwasanaethu oddieithr

« ForrigeFortsæt »