Billeder på siden
PDF
ePub
[blocks in formation]

TRAETHAWD AR Y PRIODOLDEB A'R ANGENRHEIDRWYDD O WEDDIO AM LWYDDIANT YR EFENGYL.

Y NEWYDD goreu a swniodd erioed yn nghlustiau dyn syrthiedig yw un yr efengyl; heb hwn ni buasai un newydd arall o werth dim iddo. Ymlygru fwy-fwy y buasai yn ei drueni! a marw ! marw! fuasai byth, byth yn ei erlid, ac yn ymaflyd ynddo heb obaith ganddo am ymwared! Ond yn yr efengyl, y dygir bywyd ac anllygredigaeth i oleuni yr agorir drws gobaith, ac y cynnygir teyrnas nef iddo drachefn! Ei swm yw Iesu Grist a hwnw wedi ei groeshoelio, yn fywyd, yn Waredwr, ac yn Iachawdwr i bechadur.

Ond yn 1. Sylwn ar ddymunoldeb llwydd

iant yr efengyl.

pariaeth,-i'r fath olud o ddaioni,-i'r fath lifeiriant o dosturiaethau a charedigrwydd gael eu dibrisio a'u gwrthod. Sier yw nad oes un pechod yn dangos mwy o ddirmyg i Dduw, na gwrthod yr efengyl. Na dim yn rhoddi mwy o ogoniant iddo,—yn fwy boddäol a dymunol ganddo, nac ydyw derbyn yr efengyl. Hyn ydyw ewyllys Duw, credu o honom yn yr hwn a anfonodd efe.

2. Y mae yn ddymunol hefyd gyda golwg ar ddynion sydd yn cael y llesâd. Ac mewn gwirionedd peth iddynt hwy yw efengyl; eu gobaith, eu bywyd, eu pob peth yw efengyl. A'u mantais a'u daioni hwy yn unig yw eu

2. I brofi gosodiad y testyn, sef yr angen-❘ llwyddiant; gan hyny y mae yn rhaid ei rheidrwydd o weddio am dano.

3. I atteb gwrth-ddadleuon y gosodiad. Ond yn 1. Dymunoldeb y llwyddiant. Y mae yn ddigon i beri i'r anialwch a'r anghyfanneddle lawenychu o'i blegid, ac i'r diffaethwch flodeuo fel rhosyn,-i'r mynyddoedd a'r bryniau floeddio canu, a holl goed y maes guro dwylaw.

1. Y mae yn ddymunol yn ei berthynas â Duw. Y mae yr efengyl yn dwyn gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da. A phwy ond gelyn Duw a ewyllysia i'r fath ddar

fod yn ddymunol.

Yr ydym dan rwymau fel creaduriaid rhesymol i ddymuno yn dda i'n gilydd,—i gydymdeimlo a'n gilydd, ac i gyd-lawenâu yn llwyddiant ac Iachawdwriaeth ein gilydd. Ac am lwyddiant yr efengyl, y mae ynddo ei hun yn peri y cysur a'r gorfoledd mwyaf i bob dyn da,-sain cân a moliant yn mhyrth merch Sïon, a llawenydd yn ngwydd angelion Duw. Ac y mae yn amheus genyf bod yn ngallu neb sydd yn feddiannol ar deimladau dynol, ac heb fod yn elyn i ddedwyddwch dynion, beidio dymuno fod ben

dithion yr efengyl yn dyfod i ran pawb; ac ar i'r efengyl hon am y deyrnas i gael ei phregethu dros yr holl fyd, er tystiolaeth i'r holl genedloedd."

Y mae yn hysbys bod rhanau helaeth o'r byd eto yn ymddifad o honi; a'r amser a ballai i mi i fynegi i chwi am y trigfanau trawster, yr ofergoelion a'r creulonderau sydd yn ffynu yn y rhanau hyny o hono. Ac am y cynnifer sydd yn marw yno o eisiau gwybodaeth, heb Grist, heb obaith, ac heb Dduw yn y byd. Ac ofer cynnyg un feddyginiaeth i'w cyflwr, ond yr hon a geir mewn efengyl. Ac i'm tyb I, y mae golwg ar y fath lygredd a thrueni, yn ddigonol i gyffroi pob teimlad i ddymuno efengyl iddynt, ac yn dangos hefyd ar yr un golwg ddymunoldeb ei llwyddiant; yn nghyd a'r ymdrech diflin ac egniol a weddai fod ynom i'w hanfon iddynt.

2. Ond y gosodiad i'w brofi ydyw, Yrangenrheidrwydd o weddio am luyddiant yr efengyl. Y mae y dymunoldeb a nodwyd yn annogaethol atto, ac mewn rhan yn ei gadarnhau: ond "y priodoldeb a'r angenrheidrwydd "9 a ymddengys, yn 1. Wrth ystyried natur yr ymdrech sydd i fod o blaid yr efengyl. Y mae yn naturiol i bob ymdrechwr ddisgwyl llwyddiant a dymuno llwyddiant; ac yn ol fel y bydd ei ddisgwyliad at lwyddiant, y y bydd ei ymdrech am lwyddiant: ac os dygir oddiarno ei obaith am lwyddiant, y mae yn ymollwng, a'i nerth yn pallu, ei law fel yn gwywo wrtho, a'i fraich fel yn barod i syrthio oddiwrth ei ysgwydd. Unig galondid ymdrechwr ydyw llwyddiant gobaith. A hyn hefyd ydyw ei unig ddymuniad. Ac oddi ar yr egwyddor hon y mae yr apostol yn cymhell ac yn calonogi y Corinthiaid, yn y geiriau hyny, "Am hyny, frodyr anwyl, byddwch sicr a diymmod, a helaethlawn yn ngwaith yr Arglwydd yn wastadol, a chwi yn gwybod nad yw eich llafur yn ofer yn yr Arglwydd." Ac os derfydd dyn a disgwyl am lwyddiant, fe dderfydd iddo hefyd ymdrechu am lwyddiant; oblegyd oddiar ddymuniad am beth, y mae ymdrech i gael y peth hwnw yn tarddu. Ac mewn ffordd i'n cael i ymdrechu

am lwyddiant yr efengyl hefyd, y mae yn rhaid (yn ol natur pethau) ein cael yn gyntaf i ddymuno hyny. Ac am yr ymdrech o blaid yr efengyl, ymdrech ydyw mewn ymddibyniad gwastadol ar Dduw. Teimladau yr ymdrechwyr penaf, sef yr apostolion eu hunain ydoedd, "Hebddo ef nis gallwn ni wneuthur dim." Ac "Ein digonedd ni sydd o Dduw." Ac "y mae genym y trysor hwn mewn llestri pridd, (neu yn ol y Groeg, mewn llestri cregyn) fel y byddai godidowgrwydd y gallu o Dduw ac nid o honom ni." A deisyfiad Paul ei hun yn yr ymdrech yma o blaid yr efengyl ydoedd, "O frodyr gweddiwch drosom."

2. Y mae yn angenrheidrwydd o weddïo am lwyddiant yr efengyl i'w weled hefyd wrth ystyried natur a thuedd ei hathrawiaeth a'i gweinidogaeth. Y mae pob peth sydd yn perthyn i'r efengyl o duedd sanctaidd, ac felly yn ei natur yn gwrth-daro yn erbyn pechod, ac yn ymosod i ddinystrio yr hyn y mae ei gwrthddrychau yn ei garu fwyaf; o ganlyniad, y maent yn ei chasàu ac yn tramgwyddo wrthi. Craig rwystr a maen tramgwydd yw iddynt. Y mae eu llygredd mor ddwfn, a'u trueni mor fawr arnynt, fel nad oes obaith i'w chennadwri gael ei derbyn ganddynt. Oni cheir Ysbryd Duw i weithredu ar eu meddwl, neu yntau i agor eu calon. "Pan ddel efe a argyhoedda &c." Ac felly y mae yn perthyn i'w gweinidogaeth hi o angenrheidrwydd, ymwneyd â Duw, yn gystal a dynion,-Prophwydo tu a'r gwynt a dywedyd, O anadl tyred, gystal a phrophwydo wrth yr esgyrn a dywedyd, O esgyrn sychion clywch air yr Arglwydd, ac oddiwrth y ddau ymwneyd yma yn nghyd, y mae llwyddiant i'w ddysgwyl. Wrth brophwydo felly y daeth yr esgyrn sychion yn fyw, ac i sefyll ar eu traed yn llu mawr iawn. Ofer fuasai y naill brophwydo heb y llall. Ni buasai byth anadl yn dyfod iddynt yn eu sefyllfa wywedig ar wyneb y dyffryn heb eu cael yn nghyd. Ac wedi eu cael yn nghyd, a chael gïau a gwaed arnynt, a'u gwisgo a chroen hefyd, yr oedd yn rhaid prophwydo tu a'r

gwynt drachefn cyn i'r anadl ddyfod ynddynt. Ac felly eto y mae yn rhaid i'r Ysbryd bywyd yma ddyfod oddiwrth Dduw. Er planu a dyfrhau, Duw all roddi y cynnydd. Ac y mae yn rhaid bod y diffyg yma i'm tyb I yn rhoddi lle i weddi, ac yn dangos yn eglur yr angenrheidrwydd o honi hefyd. Llais angen yw gweddi bob amser, neu appeliad gostyngedig oddiwrth ein hanalluogrwydd ni at Hollalluogrwydd Duw.

Ond na feddyliwch fy mod yn tybied bod un diffyg yn yr efengyl nac angen arni hi. Yr ydwyf yn cyfrif mai anmhriodol yw y disgwyliadau hyny," Bendithia dy air, Bendithia foddion gras." Nid y gair sydd mewn eisiau bendith, ac nid yn y moddion y mae y diffyg, ond ynom ni. Mor dueddol ydym fyth i osod y bai yn rhyw le oddi arnom ein hunain! Ac mor agos y mae y weddi yma yn dyfod at y tystiad balchaidd hwnw, 'Myfi a gyfoethogais, ac nid oes arnaf eisiau dim.' Y moddion sydd yn cael ei osod allan mewn angen, ar gair mewn eisiau o fendith, pryd mewn gwirionedd mai ynom ni y mae y bai, ac mai arnom ni y mae angen y fendith i agor ein calon i ddal arno; i wneuthur defnydd o hono &c.

Ond pa un bynag am hyny, y mae pawb yn gadael bod rhyw ddiffyg yn bod yn rhyw le. Yr unig wahaniaeth ydyw, bod un yn ei osod ar neu yn y moddion, a'r llall tu allan i foddion, ac fe wasanaetha y naill olygiad a'r llall i brofi yr angenrheidrwydd o weddïo am lwyddiant yr efengyl.

3. Yr ydym i brofi hyn hefyd oddiwrth yr addewidion mawr iawn a gwerthfawr sydd wedi eu rhoddi ar y pen hwn. Y mae y rhai hyn yn sicrhau llwyddiant; ac yn nat uriol yn peri dymuniad a dysgwyliad yn yr enaid am ei gael; ac yn rhoddi dadl yn ei wefusau ger bron gorseddfainc Duw am dano, a grym a hyder yn y meddwl wrth ei geisio. Golwg ar yr addewidion am adferiad Israel o Babilon, a roddodd le, ac a barodd i Daniel fod mor hyderus ac mor llwyddianus yn ei weddiïau am dano.

teision ag ydyw yr addewidion, nid yn unig yn gymhelliadau grymus at y ddyledswydd yma; ond hefyd yn rhwymau cryfion i ymaflyd ynddi. Ni roddwyd hwynt ond i'w defnyddio. Eu tuedd ymarferol yw peri calondid, egni, a grym yn ein hymdrechiadau o blaid yr efengyl, a thaerineb yn ein gweddïau am ei llwyddiant.

4. Yr ydym i brofi hyn hefyd, nid oddi wrth gasgliadau yn unig, ond oddi wrth anogaethau a gorchymynion pendant.

Gyda golwg ar anfon rhai i bregethu yr efengyl yr ydym yn cael ein dysgu a'n cyfarwyddo i attolygu arno ef, Arglwydd y cynhauaf, i anfon gweithwyr i'w gynhauaf. Ac y mae gweddi ac ympryd yn cael eu cyssylltu a phob sefydliad dan y Testament Newydd. Ac y mae gweddi yn cael ei gorchymyn hefyd mewn modd eglur a phendant gyda golwg ar lwyddiant yr efengyl. 'Bellach frodyr, gweddïwch drosom ni ar fod i air yr Arglwydd redeg a chael gogonedd.' 5. Esamplau duwiolion. gweddi Moses gwr Duw, 'Arglwydd Dduw eich tadau a'ch cynnyddo yn fil lluosocach nag ydych.'

Dyma oedd

A dyma fel yr oedd Dafydd mab Jesse, yn gorphen ei weddïau, Yr holl ddaear a lanwer o'i ogoniant ef, Amen ac Amen.'

Gadawwyd lle i'r deisyfiadau yma hefyd yn ngweddi yr Arglwydd, 'Deued dy deyrnas, bydded dy ewyllys ar y ddaear, &c.' 3. Y gwrthddadleuon.

1. Ond pa ham y rhaid gweddio, gan fod Duw wedi addaw llwyddo, ac wedi arfaethu llwyddo; ac onid ar etholedigaeth y mae hyny yn sefyll? Y cynnifer ag sydd wedi eu hordeinio i fywyd tragywyddol a gredant yr efengyl heb ein gweddïau ni, &c.

I hyn yr wyf yn atteb, yn 1. Mai nid rhëol Duw i weithredu ydyw ein rheol ni. Yr ydym ni dan rwymau natur i wneyd da i bawb, ac i ddymuno yn dda i bawb. ‘Talu diolch dros bob dyn.' 'Dyledwyr ydym' ni fel Paul gynt, 'i'r Groegiaid, ac i'r barbariaid hefyd, i'r doethion ac i'r annoethion

Y mae yn rhaid bod rhoddiad y fath fan- hefyd,' Ond nid ydyw Duw yn ddyledwr i

neb. Gan hyny, nid oddi ar rwymau y mae efe yn gwneyd da i neb, nac yn achub neb; ond oddi ar ei ras pen-arglwyddiaethol yn unig. 'Cyngor ei ewyllys ei hun' ydyw ei reol ef. Rhyfyg mewn dyn ydyw rhodio yn ffordd ei galon ac yn ngolwg ei lygaid, a gwneuthur a fyno ei hun. Ond am Dduw, y mae efe yn gwneuthur a fyno â llu y nef ac â thrigolion y ddaear; angylion a dynion, heb fod yn gyfrifol i neb: 'Y neb y myno y mae efe yn trugarhau wrtho, a'r neb y myno y mae efe yn ei galedu.'

Eithr am danom ni, nid ydym i wneuthur fel y mynom mewn dim, ond fel y myno efe. Y mae ein hewyllys ni i fod yn ddarostyngedig i'w ewyllys ef. Nid ydym i fyw i chwantau dynion, ond i ewyllys Duw: peidio a bod felly yw ceisio ein gwneuthur a'n dangos ein hunain cystal â Duw, a'n gosod ein hunain yn gydradd âg ef, i eistedd ar ei orsedd fainc ef, &c. Pa beth yw ei ewyllys ef? a pha beth a gais yr Arglwydd genym? | "Pa beth a fyni di i mi ei wneuthur?" Ei ewyllys datguddiedig ef ydyw bod i ni ymarfer â moddion er cyrhaedd iachawdwriaeth; a thra byddo moddion yn gyr haeddadwy, nid ydym i ddysgwyl y fendith, ond yn y cyssylltiad a'r ymarferiad o hon ynt;-" Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceiswch, a chwi a gewch."

2. Nid afreidioli y gwaith o weddio y mae arfaeth ac etholedigaeth, ond rhoddi lle iddo; -agor drws iddo ;—a'n rhwymo yn ddiffuant atto. Ac os darfu i chwi ystyried, nid ydym ni i weddïo am ddim y byddo genym sicrwydd na bydd Duw yn ewyllysio ei wneuthur. Rhyfyg o'r mwyaf fyddai ceisio ganddo wneuthur dim croes i'w ewyllys, a gwrthwynebol i'w fwriad. Gwelwn mor ochelgar yr oedd Crist ar y pen hwn,-" Er hyny nid fy ewyllys i a wneler, ond yr eiddot ti."

Ac oni buasai i Dduw ddatguddio i ni ei fod yn ewyllysio achub, ac wedi arfaethu a a bwriadu achub; ac wedi ethol dynion i'w hachub, ni buasai genym ddim mwy o le i weddio am lwyddiant yr efengyl, ac i ofyn

i'r Arglwydd achub dynion, nac sydd genym o le i ofyn iddo achub cythreuliaid. Gan hyny, na fydded i neb dramgwyddo wrth etholedigaeth gras; oblegyd nid cau drws gweddi y mae, ond ei agor: a chredu fyr ydwyf fi, oni bai hon, na buasai gadwedig un cnawd oll. Gan nas gallem gadw ein hunain, pa obaith fuasai i ni, ac at bwy y buasem yn troi am achubiaeth, pe buasem yn gorfod credu nad ydyw Duw yn ewyllysio ein hachub, nac wedi meddwl gwneyd hyny.

2. Gwrthddadleuir hefyd, nad oes achos | gweddio am lwyddiant yr efengyl; mai ein dyledswydd a'n braint ni yw ymdrechu o'i phlaid, pa un bynag a wna ai llwyddo ai peidio; ac mai gadael y llwyddiant yn llaw Duw a ddylem: a chan ei fod efwedi addaw llwyddo, pa ham y rhaid i ni ofalu, &c.

Mae yn wir nad llwyddiant yr efengyl ydyw sylfaen ein dyledswyddau ni at yr efengyl: annogaeth a chalondid i ni i ymaflyd yn y dyledswyddau hyn ydyw y llwyddiant, ac nid eu sylfaen. A chofier hefyd, bod yn gynnwysedig yn yr ymdrech sydd i fod yn mhlaid yr efengyl, weddio am ei llwyddiant. Dyben yr hyn oll a wnelom o'i phlaid, sydd i fod er llwyddiant iddi : ac am yr hyn sydd uwchlaw ein gallu ni i'w wneuthur er ei llwyddo, yr ydym i ofyn i Dduw ei wneuthur; oblegyd 'pob peth sydd bossibl gyd âg ef. Nid myned a'r llwyddiant yma o'i law ef, ydyw gweddïo arno am dano; ond yn hytrach dangos a phrofi, mai yn ei law ef y mae: ac ni bu gweddio ar Dduw am yr hyn a addawsid ganddo, erioed yn ddi-fudd, nac yn ddiangenrhaid ychwaith: pe amgen, ni buasai Crist yn gwneuthur hyny. Yr ydoedd cynhaliaeth wedi ei addaw, a'i sicrâu iddo yn ei holl amgylchiadau, a'i ymdrechiadau, ac yr oedd yntau yn berffaith wybyddus o hyny; eto dywedir "iddo trwy lefain cryf a dagrau, offrwm gweddïau ac erfyniau at yr hwn oedd abl i'w achub; a chael ei wrandaw yn yr hyn a ofnodd."

Y mae yr wrthddadl hon yn darlunio y saint yn fwy difatter ac anffyddlawn yn eu

gwasanaeth na neb. Nid tebyg i hyn oedd | eraill ddyfod i mewn i'n llafur ninnau: a gwas Abraham pan anfonwyd ef i geisio bydded miloedd yn yr oesoedd dyfodol yn gwraig i fab ei feistr; nage, yr ydoedd yn | medi ffrwyth i fywyd tragywyddol, trwy ein gofalu am lwyddo yn fwy na dim arall, ac hymdrechiadau a'n gweddïau ni yn yr oes yn gweddïo am lwyddo hefyd. Ai tybied a bresenol. Bydd yr hwn sydd yn hau, a'r wnawn ni y gall gweision Crist fod yn fwy hwn sydd yn medi yn cyfarfod; yr arddwr diofal yn ei achos ef? na allant ddim, y mae wedi goddiweddyd y medelwr, a'r ddau yn cariad Crist yn eu cymhell, ac y maent yn cydlawenychu yn y byd lle yr ydym ni yn gwybod ofn yr Arglwydd, ac am hynny yn myned. IOLO DDU. perswadio dynion. Ac y mae y dull a'r ysbryd y maent yn gwneuthur hyny, yn dangos yn eglur eu bod yn dymuno llwyddo yn fawr iawn. Y maent yn “erfyn dros Crist megys pe byddai Duw yn deisyf."

Edrychwch ar Paul, "Myfi a ddymunwn (medd efe) fy mod fy hun yn anathema oddiwrth Grist dros fy modyr, &c."

MYFYRDOD AR FARWOLAETH. Sonir yn yr ysgrythyrau sanctaidd am wahanol farwolaethau, megis marw i'r ddeddf; marw i bechod; a marw gydâ Christ; a'r cyfryw farwolaethau y tro hwn ni ymadroddaf yn eu cylch. Pan ystyriwyf, y tair llifeiriant erchyll a ddylifodd dros yr holl hil ddynol yn nghwymp ein cynnrychiolydd Adda, nid allaf lai na syrthio i ryfeddol syndod; yn nhrosedd yr hwn y canlyn, yn gyntaf, Y farwolaeth ysprydol, sef ymadawiad yr enaid oddiwrth Dduw. Yn ail, y farwolaeth naturiol, sef ymadawiad corph ac enaid oddiwrth eu gilydd dros amser. Yn drydydd, y farwolaeth dragywyddol, sef dinystr corph ac enaid dros byth yn uffern. Oddiwrth y farwolaeth ysprydol, a'r un dragywyddol, rhyngodd bôdd i'r Arglwydd

Y drydedd wrthddadl ydyw, “Bod gan Dduw ei amser i lwyddo, ac nad gwiw gweddio nes del yr amser. Mae y rhai a arferant yr wrthddadl hon yn debyg i wrandawwyr Haggai gynt, yn dywedyd, "Ni ddaeth yr amser, yr amser i adeiladu ty yr Arglwydd," a gellir eu hatteb fel yr attebwyd y rhai hyny, "A'i amser yw i chwi eich hunain drigo yn eich tai byrddiedig? &c." Y mae Satan wedi, ac yn llwyddo gyda llawer i beri iddynt oedi pob cyflawniad, trwy eu gosod i ddysgwyl amser gwell io benarglwyddiaeth ei ras, waredu ei bobl ddyfod, pryd mewn gwirionedd nad oes amser gwell i fod byth na'r amser presenol i weddïo," Yn awr yw yr amser cymeradwy." Ond, a gadael bod y rhan gyntaf o'r gosodiad hwn yn iawn, a bod y gair hwnw yn -hyn eto yn wir, mai ❝ arall yw yr hwn sydd ́yn hau, ac mai arall yw yr hwn sydd yn medi," mae yn rhaid bod y rhan olaf o hono yn gyfeiliornus, sef nad gwiw i ni weddïo, &c. Oblegyd, ofer meddwl medi heb hau; a Lle ni byddo ychain, glan yw y preseb;" felly hefyd, nid ydym i ddysgwyl llwyddiant, ond ar lwybr gweddi:-" Ymofynir â mi gan dŷ Israel i wneuthur hyn iddynt." Gan hyny, os na bydd ein hamser yn ddydd o lwyddiant mawr, bydded yn ddydd o ymdrech mawr a gweddi. Ac, megys y cawsom ni fyned i fewn i lafur rhai eraill, caffed

[ocr errors]
[ocr errors]

mewn amser yn y bywyd hwn; ond am y
farwolaeth naturiol ni ryddhawyd y saint
enwocaf oddiwrthi; hi a gluda i'r bedd holl
ddynolryw y sydd yn deilliaw o Adda drwy
genhedliad naturiol. Gan hynny, saf fy
nghyd-ddyn yn ddifrifol, ac ystyr mai creadur
i farw ydwyt. O! nad ystyriem redfa bywyd
a'i ddiweddiad fel yr addysgem felly redeg
fel y caffem afael. Och! pa le yr ymgûdd
y foment, neu'r mymryn hwnw, a derfyna
ansawdd sefyllfaol holl hiliogaeth Adda yn
mhob màn trwy bedeiran byd? O! fymryn
mwyaf ofnadwy yr hwn wyt ddiweddiad am-
ser, a dechreu tragwyddoldeb, yn yr hwn y caf
beidio a byw, ac y caf edrych a'r fy Marnwr,
ac er fy marnu gan y byd, a gaf ynddo
gyfiawnder yn ei lawn bwys yn ol rhif ac
atgasrwydd fy meiau! Gwel fy enaid, ac

« ForrigeFortsæt »