Billeder på siden
PDF
ePub

edges of the shoal swarm with voracious bigger fish. The porpoise gambols on the surface. The cannibals of the sea are having a high time of it in gorging on their tiny compatriots. Every kind of bird appears, swooping over the surface like the gull, or striking hawk-like as does the gannet, and often and often before the shoal can reach the land, to become the prey and the food of man, it has disappeared in the stomachs of its foes.

Says Shakespeare:

"Master, I marvel how the fishes live in the sea ?"

"Why as men do aland-the great ones eat up the little ones."

Pericles, ii. 1.

I think I have said enough to show how scientific investigation, observation, and thought can become a true relaxation, and how subjects for this mental recreation can be found around and about us at all times and seasons. A watchful eye, a pocket lens, and a smattering of book-lore place the whole vegetable kingdom open to the botanist. A hammer and a chisel and the open country fulfil all the wants of the geologist. The cooking of our food, the warming of our hearths, the illumination of our rooms, satisfy the chemist. The astronomer needs only a clear sky and good eyesight. The physicist sees experiments proceeding in every gleam of sunshine, in the changeful sky, in the brilliant rainbow, in the awful storm, in the melting icicle, and in the graceful dewdrop.

Science is thus knowledge based on facts obtained by observation and experiment. With books at home and eyes. abroad the scientific thinker knows neither solitude nor ennui. Culture is knowledge, resulting from reading, study, and memory. Reflection is the relaxation of each, but the one deals with crude objective matter, its changes and its uses, while the other deals with mental subjective

thought and its results. Each has its own sphere and each its value. I do not advocate the pursuit of the one to the exclusion of the other; but I assert that mental occupation without effort, contemplation with pleasurable sensations, cessation of mental restraint, oblivion of worldly affairs, is always within the reach of him whose eye can read the open works of God, and whose mind can assimilate the simple facts of Nature.

DYFFRYN CLWYD: EI RAMANTAU A'I

LAFAR GWLAD.1

GAN ISAAC FOULKES (Llyfrbryf).

ARWYDDAIR yr oes hon ydyw nid gwybod ychydig am bobpeth bron, ond gwybod pobpeth bron am ychydig. Dichon mai y prif achos imi gael yr anrhydedd o ddarllen y Papyr yma heno ydyw'r ffaith fy mod yn frodor o Ddyffryn clodfawr Clwyd; a chan fy mod hefyd yn ymweled yn fynych âg ef, dylwn wybod cymaint am dano a'r nifer luosocaf o'r rhai a anwyd yn ei gyffiniau. Y mae ei safle ddaearyddol, ei ddaeareg, ei hanes, a thlysni gogoneddus ei olygfeydd yn hysbys i'r rhan fwyaf ohonoch; a phrin y buasai angen gwahodd neb i son wrthych am yr agweddau yna arno. Ond hyd y gwn, nid oes sylw arbenig wedi ei dalu eto i'w draddodiadau a'i chwedlau gwlad; a rhaid i chwi faddeu i mi, os na linynir hwy yn nghyd yn y Papyr hwn mor drefnus ag y byddai ddymunol genyf. Heb fawr wastraff ar amser gallaf ddweyd mai hyd y Dyffryn ydyw tuag ugain milldir o Rhyl i Lanfair, a'i led yr amrywio o dair i bum milldir. Erchwynion ei wely ydyw cadwen-fynyddoedd y Fama ar du'r dwyrain, a Mynydd Hiraethog ar du'r gorllewin. Ar un o lechweddau y mynydd olaf y tardda yr afon fechan ddiog sydd yn rhoddi i'r Dyffryn ei enw. Bronbannog y gelwir tarddle yr afon, a cherllaw Bronbannog, medd traddodiad, yr oedd porfeydd BUWCH FRECH HIRAETHOG.

Buwch ryfedd oedd hon-garedig i'r eithaf. Deuai

1 Darllenwyd yn nghyfarfod y Gymdeithas, Mehefin 13% 1893.

pobl dlodion yr holl wlad yno i'w godro, a rhoddai hithau i bob un ohonynt lon'd ei lestr o'r llaeth brasaf a blasusaf. Yr oedd hyn yn hendwr mawr i boblach ar eu goreu, ac nid oedd greadur ar wyneb daear uwch yn eu golwg na Buwch Frech Hiraethog. Ond fel mae gwaetha'r modd, daeth rhyw hen wrach eiddigus, genfigenus, a melldigedig, o rywle; a beth a wnaeth yr un ddrwg ond cymeryd gogor neu ridyll i odro'r Fuwch Frech, a'r llaeth yn rhedeg trwy hwnw i'r llawr heb obaith ei lanw byth. Digiodd y Fuwch Frech o'rherwydd, ac aeth i ffwrdd o'r fangre na wyr neb i b'le hyd y dydd hwn. Rhai a dybiant iddi fyned yn syth gyda'i theulu i Lyn y Ddau Ychain gerllaw. Modd bynag, er dirfawr golled i'r tlodion ni welwyd mohoni mwy; ond y mae enwau ar leoedd yn yr ardal yn dal i gadarnhau yr hen draddodiad am dani. Mewn llythyr a dderbyniais ychydig wythnosau yn ol oddiwrth Mr. Robert Roberts, trethgasglydd, Clocaenog, efe a ddywed fod yn y llanerch ffynon a elwir Ffynon y Fuwch Frech; a thua chanllath oddiwrth y ffynon ceir olion gwaith maen a elwir yn Breseb y Fuwch Frech; yna yn arwain oddiwrth hwn ar hyd lethr y mynydd y mae hen ffordd sydd yn cael ei galw fyth yn Llwybr y Fuwch Frech. Yr wyf yn gwybod fod gan fanau eraill eu traddodiad am Fuwch Frech neu ei thebyg. Er engraifft, "Audhumla," gwyr Llychlyn.

Wedi gadael Bronbannog, a diodi Llyn Petryal, cerdda y Glwyd yn hamddenol a sidellog heibio Felin y Wig nes y daw i'r glyn a elwir am rai milldiroedd yn Nantclwyd, y llecyn mwyaf dyddorol ar yr hwn ydyw pentref bychan a elwir Bryn Saith Marchog. Y mae blas henaint ar yr enw, a thybia yr Archddiacon Newcome iddo gael ei alw felly am i Owen Glyndwr ddal Arglwydd Grey a saith o'i farchogion yn y fan. Gwyddis i Glyndwr ddal Arglwydd Grey, ai garcharu, a'i orfodi, medd rhai, i briodi ei ferch Sian ; ond nid oes fawr o sicrwydd mai yn y lle hwn y syrthiodd ef i'r ddalfa, na bod cysylltiad yn y byd rhwng yr enw âg Owen Glyndwr. Y

tebygolrwydd yw fod yr enw yn llawer hŷn nag amser y ddau. Yr oedd yr hen Gymry yn nodedig am roddi enwau cymhwys ar eu haneddau a'u meusydd a'u bardaloedd, gan eu cysylltu naill ai gyda rhyw ddigwyddiad hanesyddol, neu eu hamgylchoedd. Cawn engraifft neillduol o hyn yn enw tref-ddegwm sydd gerllaw y fan y daw'r afon Glwyd o'i Nant i'w Dyffryn, sef Cilgroeslwyd. Math o gafell haner crwn yn nghesail Mynydd Efenechtyd ydyw'r llanerch brydferth hon, un o'r rhai harddaf yn y Dyffryn. Mae rhyw olwg dawelfwyn ddefosiynol ar y lle; a phan oedd Cymru mor Babyddol ag yw rhanau o Lydaw a'r Iwerddon yn bresenol, a chroesau yn bethau mor gyffredin ar hyd-ddi ag yw ceryg milltiroedd yn awr, mae'n ddiau fod yn y llecyn hwn lun croes lle y gallai'r pererin ymblygu ger ei bron. Yna pa enw cymhwysach ar y dref-ddegwm? Cil—a nook, y groes lwyd-the holy cross, canys yr hen air Cymraeg am holy ydyw lwyd. Duw lwyd, Curig lwyd, a welir yn fynych yn ngwaith y Beirdd, ac yr oedd ganddynt fath o chwareu crefyddol yn Ngwent a Morganwg hyd yn ddiweddar a alwent yn 'Mari Lwyd' neu " Holy Mary.'

[ocr errors]

Os edrychir yn nghyfeiriad codiad haul o Gilgroeslwyd, gwelir y Foel Fenlli y nesaf o ran safle ac o ran taldra i'r Foel Fama. Credir iddi gael ei henw oddiwrth Benlli Gawr, ac mai braddug creulon a gorthrymus oedd Benlli, un or Coraniaid drygnaws; ond yn ol cywydd sydd yn y gyfrol gyntaf o'r Cambrian Journal, yn yr hwn y mae ei awdwr, Gruffydd ap Ieuan ap Llywelyn Fychan o'r Llanerch, yn atolygu ar Gynhafal Sant iachau ei gryd cymalau, dywed y bardd mai Cynhafal a roes y cryd cymalau ar Benlli fel barnedigaeth am ei greulonderau—" rhoi gwayw yn ei gorph a thân gwyllt" nes "y fföai'r diawl i ffrwd Alun," i ymoeri, tra yr ymguddiai'r afon hono rhag lliniaru ei boenau :

Aeth deirgwaith wedi argoedd

Yn dir sych-un dyrras oedd ;

« ForrigeFortsæt »