Billeder på siden
PDF
ePub
[ocr errors]

Y DRYSORFA:

YN CYNNWYS AMRYWIAETH

O BETHAU AR AMCAN CREFYDDOL, YN ATHRAWIAETHOL,
ANNOGAETHOL, A HANESIOL;

[blocks in formation]

BOD

18 NOV 1966

LIBRARY

ANNERCHIAD Y CYHOEDDWR.

ANWYL GYDWLADWYR,

66

MAE y flwyddyn sydd newydd gyflymu i ben wedi bod yn un nodedig iawn mewn amryw olygiadau. Wrth fwrw golwg ar y pethau rhyfeddol a ddirwynwyd oddi amgylch yn nhrefn fawr Rhagluniaeth yr hwn sydd yn gweithio pob peth wrth gyngor ei ewyllys ei hun," nis gallwn lai na chofnodi rhai, allan o lawer, o honynt, er peri i ni a'n darllenwyr gydnabod mewn gorchwyledd a gostyngeiddrwydd mai "Duw sydd yn llywodraethu yn mrenhiniaeth dynion;" ac mai "efe sydd yn tlodi ac yn cyfoethogi; yn darostwng ac yn dyrchafu." Yn wyneb holl gyfnewidiadau yr amseroedd, a chwyldroadau yn amgylchiadau teyrnasoedd y byd, dywedwn gyda'r Eglwys gynt, yn nyddiau Jeremiah, "Pwy a ddywed y bydd dim heb i'r Arglwydd ei orchymyn ?"

66

Un o'r pethau rhyfeddol a ddygwyd i ben yn nghorph y flwyddyn oedd, sefydliad a llwyr orpheniad cyfammod heddwch rhwng Brydain a China, a hyny ar ammodau hollol fanteisiol o bob tu, a hynod o foddhaol i'r ddwy blaid. Trwy hyn fe agorwyd drysau masnachol a chyfeillachol rhwng Brydain fawr a gwlad ag sydd yn cynnwys un ran o dair o drigolion y byd. A phwy a all beidio meddwl gyda llawenydd a diolchgarwch am y drws eang a agorwyd, drwy y cyfammod hwn, "i air yr Arglwydd redeg," i eithafion China fawr, a chael gogonedd" ymhlith y lliaws trigolion aneirif hyny. Dywedai yr Ymerawdwr uchelfrydig hwnw, na chai llyfr y Cristionogion ddim dyfod o fewn cyffiniau ei Ymerodraeth ef. Eithr wele yn awr, yn mhen ychydig fisoedd o ryfel digyffelyb o lwyddiannus, genedl Gristionogol wedi rhedeg yn mlaen i berfeddion ei wlad, gan ddryllio cestyll, a chwilfriwio amddiffynfeydd, nes peri i'r Ymerawdwr grynu yn ei balas, a dychryn angeuol gerdded drwy holl ardaloedd pellenig y genedl fwyaf yn yr holl fyd. Effeithiodd hyn i beri fod yn llawn cystal gan yr Ymerawdwr wneuthur ammodau heddwch ag oedd gan y Prydeiniaid.

Heblaw heddwch â China, y mae tangnefedd wedi ei sefydlu yn yr India Ddwyreiniol, tynwyd pen ar ryfel cigyddlyd a gwaedlyd Affghanistan. Yn yr olwg ar yr heddwch a wnaed bron ar unwaith yn China a'r India, dywedwn yn ngeiriau y Psalmydd, "Deuwch, gwelwch weithredoedd yr Arglwydd. Gwna i ryfeloedd beidio hyd eithaf у ddaear; efe a ddryllia y bwa, ac a dyr y waywffon, efe a lysg y cerbydau â thân. Y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni; amddiffynfa i ni yw Duw Jacob." "Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hyny yr ydym yn llawen." Efe a wnaeth “i

« ForrigeFortsæt »