Billeder på siden
PDF
ePub

SEREN GOMER:

NEU

GYFRWNG GWYBODAETH GYFFREDINAWL

I'R CYMMRY,

AM Y FLWYDDYN 1855.

"TRA MOR, TRA BRYTHON."-"HEB DDUW, HEB DDIM."

[graphic][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed][merged small][merged small]

ARGRAFFWYD, DROS Y CYHOEDDWYR, GAN ALICE WILLIAMS, YN

HEOL-Y-BRENIN.

1855.

-9965

རྞ 1 ཞ

CAERFYRDDIN : ARGRAFFWYD GAN A. WILLIAMS,

HEOLY BRENIN.

RHAGYMADRODD.

DDARLLENWYR SYLWGAR,

[ocr errors]

Dywedodd y Gŵr doeth, Gwrandewch, blant, addysg tad, ac erglywwch i ddysgu deall. Cais ddoethineb, cais ddeall. Penaf peth yw doethineb; cais ddoethineb; ac a'th holl gyfoeth cais ddeall. Derchafa di hi, a hithau a'th dderchafa di: hi a'th ddwg i anrhydedd, os cofleidi hi. Hi a rydd ychwaneg o ras i'th ben; ïe, hi a rydd i ti goron gogoniant." Ein tadau llênorol, gan guddio y cynghor hwn yn eu calon, yn y chwarthor cyntaf o'r ganrif bresenol, a hwy etto yn ieuaine, a ymdrechasant am wybodaeth a deall iddynt eu hunain, ac i'w plant. Wedi iddynt lafurio yn galed, a gwasanaethu eu cenedlaeth yn ffyddlawn, hwy a hunasant; a ninau, y meibion, a ddaethom i mewn i'w llafur hwy. Ac, wedi cael nerth gan Dduw, wele ni wedi dyfod â chyfrol y flwyddyn 1855 0 SEREN GOMER i ben; a phriodol i ni, ar y tro, yw ymlawenychu, gan fendithio yr Arglwydd; a chydnabod ein cyfeillion-yn Ohebwyr, Dosparthwyr, Derbynwyr, a Darllenwyr, am eu cefnogaethau hael a llwyddiannus.

Ymdrechssom am "leithig rydd a chwareu têg" (clear stage and fair play) i bawb. Bedyddwyr, megys o'i dechreuad, ydynt Berchenogion a Golygyddion presenol SEREN GOMER; er hyny, ni feddyliasant ei bod mewn un modd yn feddiant y corff enwog hwnw ; ac ni oddefasant iddi gael ei defnyddio megys castell, neu wngaer, gan undyn a berthynant iddo, er saethu at enwadau ereill; ymdrechwyd cadw at y cynghor, "Gwnewch dda i bawb, yn enwedig y rhai sydd o deulu y ffydd." Cafodd yr Athronydd, Hanesydd, Duwinydd, Dychymmygydd, Bardd, ac hyd y nod y Breuddwydydd ofergoelus, chwarae lég. Etto i gyd, gwerthfawrogwn, ac amddiffynwn y ffydd gyssegredig—“y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint"-uwchlaw pob peth. Boddlonasom i Sarff y Maen Chwyf chwarae ei champiau, cyrdeddu ei thröadau, a chonstro ei gwingiadau ger ein bron; ond pan amcanodd frathu, a rhwygo y ffydd, derbyniasom ei cholyn ar ein tarian, troisom hi o'r gampfa, i fyw neu farw, fel y myno ei hun; canys ni feiddiwn amcanu at niweidio, heb sôn am ladd, hyd y nod sarff dorchog.

Ein hamcan politicaidd ydyw, amddiffyn y cyfansoddiad Prydeinig; a dymunem fod y mwynhad o'i freintiau mor ëang a phwysau cynnaliad ei weithrediad. Dymunem fod pob dyn o oedran, synwyr, a chymmeriad, ag sydd yn talu teyrnged, yn meddiannu pleidlais rydd, ac ëofn yn ei holl amgylchiadau a'i fesurau. Fod pob dyn, o'r fath, a'i sangiad ar ben ffordd agored i bob braint a swydd ag y byddai cymhwysderau ac amgylchiadau yn dirwyn—" y dyn cymhwys i'r swydd gymhwys." Ac yn benaf peth, fod pob dyn a ddewiso grefydd yn cael llonydd i'w chynnal fel y myno; heb fod ganddo yr hawl leiaf i orfodi ei gymmydog i'w chynnal drosto, mwy nâ chynnal ei wraig ; ac felly, fod pob Cristion yn cyflawnu cyfraith Crist, nid drwy daflu ei faich ei hun ar wàr ei gymmydog, a cherdded yn dalsyth i'w logell; eithr drwy gymmeryd ei grefydd yn bleser difrifol, a baich ysgafn, rhyngddo ef ei hun a'r Barnwr tragywyddol. Drwg genym i fesurau têg, megys, ysgrif yn gwahardd y dreth eglwys, &c., ar y materion hyn, erthylu yn y Senedd ddiweddaf. Am y rhyfel, digon yw dywedyd, ei bod wedi ffyrnigo, a rhaid ei hymladd allan bellach. Nid yw dadleu dros ei dwyn i derfyniad annhymmig, amgen

ymddwyn yn ail i ferched (nid Lacedemonia) Cymmru, pan yn ymblethu am freichiau eu hanwylddyn a fyddai yn ymladd, ac ar y pryd, y gwrthwynebydd yn achub yr adeg, er dyrnodio ei ymenydd yn sitrach. Bloedd y teimladau dynol ydyw, "Gorchfyger y Rwsiaid;" ac oferedd peryglus am gernodiau cartrefol yw ynganu yn y gwrthwyneb. Er hyny, ocheneidiwn am lwyddiant Brenin Heddwch; yr hwn yn y diwedd a ennilla y dydd. Nid ystorfa (magazine) grefyddol ydyw y SEREN; etto i gyd, rhoddasom o fis i fis hanes y Genadiaeth, Ysgolion Sabbothol, &c. Y mae genym hefyd air neu ddau i'w crybwyll ar rai o'r penau hyn :-Cofnodi Cyrddau Tê, Cyrddau Misol, a phethau o'r fath, na byddai unrhyw ganlyniadau yn gyssylltiedig â hwy; petrusasom lawer gwaith uwch eu penau, gan ofyn i ni ein hunain, Pa ddyben eu cofnodi ? Ond rhoddasom hwy i mewn ar yr ammod o'u crynhoi i'r lle lleiaf. Bedyddiadau hefyd. Yr unig amcan cywir cyrhaeddadwy drwy y cofrestriad hwn ydyw, cael golwg ar gynnydd y corff. Er cyrhaedd hyn, rhaid, yn un peth, ei fod yn gyffredinol; ac hefyd, cael cofrestriad mor gyffredinol o'r gwrthgiliadau, diarddeliadau, &c.; yna, drwy gyferbynu y naill wrth y llall, gellid cael golwg ar y cynnydd. Ond pe celid y blaenaf yn gyffredinol, ni byddai ei gofrestru heb yr olaf amgen pwff, annheilwng o grefydd. A pha beth a ddywedir am gofrestru rhyw hanner dwsin, mwy neu lai, o fedyddiadau, a hyny ar amgylchiadau eithriadol, megys mynediad gweinidog newydd i le newydd, onid pwff? A pha weinidog da i Iesu Grist a hoffa gael ei bwffio, fel cigydd yn chwythu cig llo? Darfod yn biff, bob amser, a wna pwff; ac nis gall amgen, canys gwagedd yw. Gan hyny, tybiem mai gwell fyddai cofrestru bedyddiadau yn llyfr yr eglwys gartref, a'u trosglwyddo yn ddestlus gyda chyfrifon ereill i'r Llythyrau Cymmanfäol.

Ymdrechasom gadw heddwch drwy gydol y flwyddyn ar faes y SEREN; a bu agos iawn i ni a bod yn hollol lwyddiannus. Diangodd, mae yn wir, rai pethau pigog heibio i ni, yr hyn ni atebodd un dyben da, ac ni allesid ei ddysgwyl. Ond nid aeth y cyfryw drwy ein dwylaw ni; ac ni bu i ni gymmeryd ein cyffroi, a'n taflu o dymher heddychlawn, na cholli ein golwg, naddo am gymmaint ag un awr, ar y gorchymyn pur, " Bod heb gablu neb." Gwyddom mai gwell gochel y cyfryw bethau, am eu bod yn cynnyddu i fwy o amryson. Yr ydym yn ddigon gwrol i ddynoethi y drwg, os rhaid fydd; ond gwell genym ymarfer cariad, yr hwn a guddia luaws o bechodau. Ni fynem er unpeth i'r SEREN fod yn oracl enllib; na bod yn gyfrwng i arllwys llid, cenfigen, a malais ar draws Cymmru. Byddai y fath ymddygiad yn annheilwng o'r athronydd a'r Cristion; a chlwyf i'n teimladau y fynyd hon ydyw y dyb, y dichon i'r SEREN fod yn ystod y flwyddyn, megys brath cleddyf i ryw fron ddiniwed.

Gyda golwg ar yr amser dyfodol, yr ydym yn teimlo mor galonog ag erioed. A phaham lai? Y mae genym gymmaint o addewidion am ohebiaethau campus, ac am daliadau arianol, ag un flwyddyn a fu; a chymmaint a ddymunwn gan ein haddawwyr caredig yw, talwch eich haddunedau. Nid awn i'ch dàl gerfydd eich botwm, er dangos i chwi, yn ol dull Jehu, y daioni a wnaethom. Gofynwch i'r SEREN: y mae hi mewn oedran, a gall ateb drosti ei hun. A bydded i chwi a ninau feddiannu y ddoethineb sydd oddiuchod; yr hon sydd foneddigaidd, heddychol, hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd, a diragrith. Fel, drwy wneuthur heddwch, y delom i fwynhau cynauaf o ffrwyth cyfiawnder, drwy Iesu Grist. Amen.

GOLYGYDDION.

Tachwedd 25ain, 1855.

RHIF. 472.]

SEREN GOMER.

IONAWR, 1855.

[CYF. XXXVIII.

DYFYNIADAU 0 BREGETHAU ANGLADDOL

Y DIWEDDAR MR. THOMAS JONES, ABERTEIFI.

(GWEL "SEREN GOMER AM FIS RHAGFYR DIWEDDAF.)

"A'th gynghor y'm harweini; ac wedi hyny y'm cymeli i ogoniant.”—SALM lxxiii, 24.

Yn holiad cyntaf a ofynir braidd bob amser wedi i ni glywed am farwolaeth un yw, " Pa fodd y darfu iddo farw o ran ei brofiad? A oedd arwyddion fod ei gyflwr yn ddiogel?" Ond yr ymholiad cyntaf a ddylai fod yw, **Pa fodd y-bu efe byw?" Yna, wedi cael gwybod hyny, bydd yn rhwydd dweyd pa fodd y bu efe farw. Byw yn dduwiol a sierba farwolaeth ddedwydd. Yr oedd gwas Duw yn y testun yn gwybod sut y darfu iddo fyw, ac yn gwybod gystal â hyny sut y byddai arno wrth farw. "A'th gynghor y'm harweini," dyna ei ddull o fyw;

ac

wedi hyny y'm cymeri i ogoniant," dyna drefn ac ymddygiad Duw taag ato yn ei farw. Mae bywyd perffaith ac uniawn yn dibenu mewn tangnefedd.

Wrth gynghor Duw yma y golygir ei ewyllys, ei feddwl, sef ei air santaidd. Mae y cynghor hwn yn diogelu y galon, yn llyw. odraethu y bywyd, yn dieuogi y gydwybod, ac yn cyfarwyddo i ddaioni. Sylwwn,

1. Arymddygiad dyn da tuag at Dduw yn ei fywyd.-Mae yn cymeryd cynghor Duw yn arweinydd iddo ar y ddaear,-" A'th gynghor y'm harweini." Wrth sôn am ymddygiad dyn da, byddaf yn sôn am ymddygiad fy anwyl frawd ymadawedig. Un o rai rhagorol y ddaear ydoedd efe; un nad oedd y byd yn deilwng o-hono. Canmolodd ef grefydd yn ei fywyd; mae ei rinweddau yn ei ganmawl yntau heddyw wedi iddo farw.

1. Cymeredd gynghor Duw yn arweinydd bywyd iddo.-Mae dynion gyda gwahanol alwedigaethau yn ymofyn cyfarwyddyd. Mae gan y morwr ei chart a'i gwmpawd i'w gyfarwyddo i hwylio ei lestr; ac mae y teithiwr mewn lle dyeithr yn ymofyn arweinydd i'w gyfarwyddo. Pererin yw y Cristion yn y byd hwn; oddiuchod mae wedi ei eni; a'r Jerusalem, yr hon sydd achod, yw ei fam. Mae lleoedd peryglus, ac anialwch gwag erchyll, yn y byd hwn; ac mae yn anhawdd iawa myned trwyddynt

i'r nefoedd; wele wirionedd yn gyfarwyddyd. Un oddiuchod oedd ein hanwyl frawd Jones, a chymerodd gynghor Duw yn arweinydd iddo er ys rhagor nå 40 mlynedd, pan y dechreuodd ar ei yrfa grefyddol. Dyma ei chart ar ei fordaith, y pilot i'w gyfarwyddo dros y bar, a'r arweinydd a'i tywysodd trwy yr anialwch. Fe'i harweiniodd heibio i feddau y blŷs, a chreigiau annghrediniaeth, heb gyffwrdd âg un o honynt, trwy gadw ar hyd llwybrau gwyliadwriaeth a gweddi; ac er cymaint o groesffyrdd sydd yn y byd, ni roddodd ei droed arnynt, ond cadwodd ganol ffordd y gorchymynion. Yr oedd law yn llaw â chynghor Duw yn ei fywyd, lygad yn llygad âg ef ar ei yrfa, a nos Saboth olaf ei fywyd, yr oedd gôl yn nghôl â chynghor Duw yn afon angeu.

2. Ymroddodd yn ewyllysgar i gymeryd ei arwain gan gynghor Duw.-Mae rhai dynion i'w cael gyda chrefydd megys o'u hanfodd. Mae rhyw amcan wedi eu dwyn at grefydd heblaw byw yn dduwiol, a gogoneddu Duw. Maent hwy yn arwain crefydd y ffordd y mynont, yn lle cymeryd eu har. wain gan grefydd. Ond cynghor Duw a gafodd flaenori gan ein brawd, ac yntau yn cymeryd ei arwain ganddo. Nid cymeryd ei arwain dros ryw dymor ychwaith, hyd nes cwrdd â threialon chwerw a wnaeth; ond fe a ymbriododd â chynghor Duw, i gydfyw er gwell ac er gwaeth hyd y diwedd. Yr oedd cynghor Duw iddo ef fel y cwmwl niwl a'r golofn dân i Israel; ffordd bynag yr elai y cyfryw, yr oedd Israel i ganlyn. Cynghor Duw oedd cyfarwyddyd ein brawd; ffordd bynag y byddai cynghor Duw yn myned-os ymostwng i'r ordinhadau, ái ar ei ol; os i'r ystafell weddi ddirgel, âi ar ei ol; os i gysegr Duw, âi ar ei ol; os cynghori, cyfranu, a bod yn lletygar, yr oedd yn ei ganlyn lle bynag yr elai; a phan ddaeth i lŷn cysgod angeu, yr, oedd mor oleu, nes y medrai ganu yn hyderus yn nghanol ymchwydd yr afon dònog,

« ForrigeFortsæt »