weled ef yn hongcian ae yn sigl-gerdd ed drwy yr heolydd; efe a gyll bob gradd o gywilydd a gorchwyledd; efe a welir yn fudr a ffiaidd; efe a gura ei wraig, ac a ddarn-lewyga ei blant; bydd trigfod heddwch a chariad yn cael ei droi yn lletty cynnen ac ymryson; bydd y dyn yn ellyll o ran ei dymmer, ac yn fwystfil yn ei ymddygiad; efe a orwedd ar hyd y nos ar yr heol, neu dan y gwrychoedd; efe a waria yr hyn oll a fedd, ac a ddarostwng ei deulu i gardotta eu bara; yn y diwedd efe a dry yn anonest a lladronllyd, ac a geir yn euog o lofruddiaeth, ac a grogir; a bydd ei wraig a'i blant ar y plwyf, a than eu gwarth o'i herwydd tra byddont byw; ei feibion a ddilynant ei siampl ef, a'u diwedd fydd yn ofnadwy,' &c. Caeth wasanaeth.-Mae Mr. Buxton yn llwyr fwriadu dyfod ag achos y Caethion yn yr India Orllewinol, o flaen y Senedd, yn Nhy y Cyffredin, ddydd mawrth, y dydd cyntaf o fis Mawrth nesaf. Ni fu yr achos hwn mewn un dull nac un gradd o flaen y Senedd yn yr eisteddfod presennol. | Mae yr achos pwysfawr hwn yn cael ei adael hyd y dydd a bennodwyd uchod, pryd y rhoddir pob egui am gael y rhyddhad a erchir mewn cyn nifer o Eirchion sy'n awr o flaen y Senedd. Terfysgoedd a Dinystr yn Mrydain. Mae llawer iawn o ddynion drwg wedi eu cymmeryd i fynu mewn amrywiol barthau o'r deyrnas, am roi tân mewn deisi ŷd a gwair, ac mewn ysguboriau, beudai, &c. ac hefyd am dori Peiriannau gweithfaoedd, a'r cyffelyb ddrygau. Mae amryw o honynt wedi cael eu profi mewn brawdlysoedd, a'u cael yn euog. Collfarnwyd rhyw nifer; cafodd rhai o honynt eu dihenyddio; amryw eu barnu i'w trosglwyddo i alltudiaeth, a llawer i ddyoddef carchar, rhai am hwy a rhai am lai o amser yn ol natur eu trosedd. Dinystr Peiriannau gweithfaoedd.— Dydd llun y 17eg o Ionawr cymmerwyd i fynu chwech o ddynion yn Ashton am dorri Peiriannau yn Ngweithfa Mri. Sidebotham a Brothers yn Millbrook, Sir Gaerlleon, ac fe'u dodwyd yngharchar yn Nghastell Caer. Yr oedd y dynion hyn nifer y bobl ag oedd wedi troi allan am godiad cyflog. Dinystr trwy dân.-Dydd sabboth Ionawr 16. am 8 ar gloch y boreu canfuwyd tân mewn ysgubor yn perthyn i Mr. John Rees, Kinnerton isaf, yn Sir Flint, o fewn chwe milltir í Gaerlleon. Barnwyd mai rhyw un maleisus a gynneuodd y tân hwn. Tán arall.-Dydd llun Ionawr, 24 yn yr hwyr, canfuwyd dâs o wellt ar dân, o eiddo Mr. Moorcroft, yn Chowley, gerllaw Barnhill, ynghylch 11 milltir o Gaerlleon. Trwy fawr ymdrech a llafur attaliwyd y tân rhag llosgi dim yn ychwaneg na'r dâs hon. Pa amcan melldigedig a all fod yngolwg y dynion drygionus hyn, wrth gyflawni y fath waith dinystriol ac ofnadwy, nis gwyddom. Y Pabyddion.-Dywedir fod nifer mawr o'r offeiriaid Pabaidd yn Ffrainge ar droi at y grefydd Brotestanaidd : gobeithiwn fod hyn yn wir. Yr Iwerddon.-Cymmaint yw y perygl a'r ofn yn y wlad annedwydd hon, rhag terfysg a thywallt gwaed, fel nad yw y milwyr yn myned i'r addoliad ar y sabbothau, yn Cork, Limerick, a manau ereill, eithr parhau i sefyll at eu hamrywiol wiliadwriaethau ddydd a nos. I chwi mae'r Meddyg, ac oddiar ei | Ac wele fwy!-Y mae ei anwyl Dad, Y treiddir iddynt gan y Nef a'r llawr! O! yr olygfa hynod bwysfawr iawn, Ar Galfari!-Byth cofir y prydnawn. Gwel! Anian sydd mewn cynnwrf, aeth, a braw, Mae adchwiliadau rhyfedd drwyddi draw! Lamp fawr Naturiaeth, y Goleuad gwiw, Mewn rhyw alarwisg, gorchuddiedig yw! Y Creigiau celyd, sydd yn dryllio 'n glau, A llén y Deml, hono 'n rhwygo 'n ddau ! Y Ddaear ëang, fel mewn dychryn sỳn Yn crynu drwyddi oll; mor hynod hyn! Ac, O! nid hynod yw! Crist! marw mae ! Gan oddef hyd yr eithaf boenau gwae! Mor fawr ei ddioddefaint ar y pren! Mewn pigog ddrain y mae ei nefol ben, Dan hoelion llym, ei ddwylaw sydd a'i draed, Y Croesbren liwiwyd â'i borphoraidd waed! Ei enaid sydd mewn ing! mae gwasgfa gref Yn llenwi ei feddyliau tyner Ef. Pechodau'r Eglwys, fel mynyddau plwm, Yn gyfrifedig arno-O faich trwm! Ellyllon uffern oll yn dod yn awr, Mewn llawn cynddaredd am ei gael i lawr! Cyfiawnder llym sydd yn trywanu'n hy Ei finiog Gledd drwy galon Iesu cu! Diwrnod cyfyngder a thywyllwch ddaeth I'w ran! ond etto er ei loesau caeth, Mor dawel yw y Dyoddefydd hwn, Grwgnach ni wna, er cymmaint yw ei bwn! [briw Nid oes dim anfoddlonrwydd yn rhoi I'w fynwes fwyn er mor rhwygedig yw! Wele i'r Nef ar adain ffyddiog glaer, Esgyn y mae ei weddi dirion daer; Ond, O! dros bwy? dros y gelynol rai, A'i croeshoeliasant mewn melldigaid fai. Rhydd floedd 'O Dad maddeua iddynt hwy.' Tra'r oedd, yn nwylaw rhai'n mewn poen a chlwy! Ollanwer ni â'i yspryd hawddgar, mwyn, I fod yn amyneddgar a digwyn! Mawl am y Groes! oddiyma tarddodd grâs, Ac Iachawdwriaeth i droseddwyr câs! O! syned Nefoedd, lloned Daear lawr, Mewn gofid dwys,gwarthrudded uffern fawr. Crist ar y Groes r'odd berffaith iawn i Dduw, Ganddo cadd Deddf ei hanrhydeddu'n wiw; Gorchfygodd y gelynion creulon cryf, A'r ddyled fawr a dalodd Ef yn hyf; Cwblhaodd osodiadau'r Arfaeth fawr, E sylweddolodd y cysgodol wawr! Cyflawnodd y Prophwydoliaethau oll, Gorphenodd y Cyfiawnder rhad digoll! Dattododd hen ganolfur y gwahân; A'r ffordd i'r Nef, a luniodd Ef yn lân! Gorphenwyd!" gwaeddai 'n gynnar, "darfu 'r gwaith," 66 "Pwy ofyn fwy? cyrhaeddais ben y daith," O'r frwydr waedlyd daeth yn fawr ei rym; Heb neb yn meiddio ei wrthsefyll ddim. Goroniaid enwog byd-beth ydynt hwy? Na sonier am eu campau glewaidd mwy; Diflannu mae gorchestion pob rhyw Affetuosa IOLAETH. M. N. (8. 7. 4.) WM. PUGA. Disgwyl 'rwyf ar hyd yr hirnos, Am gael gwel'd y bore ddydd; Dysgwyl clywed pyrth yn agor, A chadwynan 'n RIF. IV.] EBRILL, 1831. [LLYFR 1.] BYWGRAFFIAD. HANES BYWYD A MARWOLAETH MR. LEWIS EVAN, (Parhad tu dal. 67.) bychan gerllaw y ffordd o Wyth Ond Yr oedd Lewis Evan yn y dyddiau boreuol hyny, yn gadarn yn cynghori yr ieuengctyd i beidio â threulio amser cws; yn eu cyf. eillach rhagbarotoawl i briodi, ac i ochelyd cyfeiliachu heb amcanu yn syml i brïodi. Ac fel nad ym-waith am fyned i'r Llan; ond ddangosai ei fod yn rhwymo baich ofnodd y delid ef yn rhy hir, os ar ereill heb ei godi ei hun, ad- âi ef yno, ac y collai y difyrwch roddai yr hanes a ganlyn. Pan o wawdio y pregethwr. oedd yn bwriadu cyfeillachu yn rhagbarotoawl at briodi, aeth at y tŷ lle y preswyliai y ferch, yn y dydd, a gofynodd iddi am ddyfod i'w hebrwng ef ychydig o ffordd, yr hyn a wnaeth. Gwedi hysbysu iddi ei fwriad, efe a ddymunodd arni ystyried y peth yn ddifrifol hyd oni alwai efe heibio drachefn. Y cyfeillach rhagbarotoawl hwn a ddibenodd mewn priodas; ac ni chymmerwyd dim o'r nos, na llawer o'r dydd ar yr un waith, i gyfeillachu ar yr achlysur. wedi aros ychydig yn y dafarm, aeth tu a'r lle yr oedd y cyfarfod i fod ynddo: a chan nad oedel yno neb wedi dyfod, gurweddódd y gwri lawr, a chysgodd. Y'mheñ ennyd, daeth yno ŵr arall, cyn i'r bobl ymgynnull ynghyd, a chanfu y dyn a ddaeth o'r dafarn, yn cysgu. Rhodiodd y gwri fynu ac i wared ar hyd y ryn, i aros i'r bobl ddyfod ynghyd; ac wrth edrych o'i gwmpas, canfu welltyn praff, megis wedi ei blanu yn y ddaear; ymaflodd ynddo, a chanfu yn ebrwydd mai powdwr oedd yndde, ae wedi iddo gloddio a'i law, cafoud dywarchen fechan, a phowdwr oddi dani, a ffos neu rigol fain yn cyrhaeddyd i ben y bryn, a "Gan fy mod eisoes wedi phowdwr ynddi o benbwygilydd; dyfod a'r hanes cyn belled a ac ar ben y bryn le crwn wetli er chwr Sir Ddinbych," medd Syl- dori yn y ddaear, o gylen dwy wedydd wrth Ýmofyngar, "ad-droedfedd drosto, ac ynddo lawer roddafi chwi hanes tra rhyfedd a o bowdwr, a gwellt yn ei orchuddddigwyddodd yn more y diwyg-io yn dra chywrain, a thywyrch iad yn y wlad hono. Yr oedd wedi eu rhoddi yn drefnus ar bob un Lewis Evan pregethwr teith-man, fel na byddai i neb amnieu iol, wedi addaw dyfod i bregethu fod yno un math o berygl. Darfu ar brydnawn Sabbath, ar fryn i'r gwr a ganfu y gwelltyn fis Cafodd Lewis Evan lawer o groesau ac erlidigaethau, fel y gwelir yn Nrych yr Amseroedd, tudal. 97 a 101, lle y mae yr hanesion canlynol. ymaith y powdwr yn llwyr, a dodi y tywyrch yn eu lle fel o'r blaen, a'r gwelltyn hefyd a ddod odd ef yn ei le fel y cawsai ef. Erbyn hyn, yr oedd y pregethwr a'r bobl yn dyfod: a safodd y gwr i bregethu yn gymhwys ar y fan yr oedd y powdwr wedi ei guddio ynddo. Yr oedd y gwr a ganfu y bradwriaeth yn sylwi yn fanwl pwy a ddeuai at y lle yr oedd y gwelltyn ynddo ac y'mben ychydig, dyma ddŷn yn rhedeg, a gwisg mènwr am dano, a mŵg o'i gwmpas; a phan gyrhaeddodd hyd at y gwelltyn, dechreuodd chwythu ei dân. Erbyn hyn, dyma'r gwr a ganfuasai y ddichell yn gweiddi arno, Methodd genyt dy gast yr awron! Felly ymddiffynodd Duw ei bobl megis yn wyrthiol y pryd hyny. Gwas i gyfreithiwr oedd y dyn a ddaeth â'r tân, ond pa un ai efe, ai ei feistr oedd ddyfnaf yn y ddichell dydd y farn a'i dengys.' Un tro," medd Sylwedydd yn y tudalen olaf a nodwyd uchod, sef 101, "safodd dau ddyn a phastynau mawrion yn eu dwylaw wrth bont yn Nyffryn Clwyd, i ddisgwyl pregethwr oedd i ddyfod y ffordd hono, sef Lewis Evan. Tarawodd un o honynt ef yn dra chreulon ar ei ben, nes oedd ei waed yn ffrydio; ond er hyny ni thaflwyd ef oddi ar ei farch. Ni wyddai gan y syndod oedd yn ei ben o achos y dyrnod, fod ei waed yn llifo, nes i ryw wraig ei gyfarfod, a gofyn iddo yn gyffrous, Yn enw'r Mawredd, pa beth yw y drefn yna sydd arnoch! Cyrhaeddodd fel yr oedd at rai o'i gyfeillion, i gael ei ymgeleddu, ac i iachau ei friwiau." Heblaw yr hanesion uchod, efe ei hun a adroddodd y rhai canlynol wrth Ismael Jones: Un Sabboth pan ydoedd efe ar ei daith yn pregethu yn y Bala, gwr boneddig o'r gymmydogaeth, yr hwn oedd Hedd-Ynad, a an fonodd swyddogion i'w ddal a'i ddwyn ger ei fron ef. Pan aeth yno, galwyd ef i'r parlawr, a bu yr ymddiddan canlynol rhwng yr Hedd-Ynad ac yntau: Ynad. Ai tydi fu yn pregethu yn y Bala? yn rhoi L. E. Ie, syr, myfi fu gair o gynghor i'r bobl. Ynad. O ba le yr wyt ti? L. E. O sîr Drefaldwyn, o blwyf Llanllugan. Ynad. Beth yw dy orchwyl pan fyddi gartref? L. E. Gwëydd ydwyf, syr. Ynad. A oedd genyt ddim gwaith gartref? L. E. Oedd, digon. Ynad. I ba beth ynte y daethost y ffordd hon? L. E. I roi gair o gynghor i'm cyd-bechaduriaid. Ynad. Nid oes yma ddim o dy eisieu. Mae genym ni Bersoniaid wedi eu dwyn i fynu yn Rhydychen drwy draul fawr at y gorchwyl o bregethu. L. E. Mae digon o waith iddynt hwy a minnau, oherwydd mae y bobl yn myned yn lluoedd tu a distryw er y cyfan. Ynad. Mi a'th anfonaf di i garchar am dy waith. L. E. Bu fy ngwell i yn ngharchar o'm blaen. Carcharwyd yr Arglwydd Iesu ei hun, yr hwn a ddaeth i'r byd i gadw pechaduriaid. (Tra bu L. E. yn dywedyd ychydig am yr Arglwydd Iesu, a'i ddibenion yn dyfod i'r byd, eba yr) Ynad. A wyt ti yn meddwl pregethu yn fy mharlawr i? L. E. Nid wyf yn meddwl fod eich parlawr chwi, syr, yn rhy dda i ddywedyd am yr Arglwydd Iesu Grist ynddo. Ar hyn, rhoddwyd ef dan ofal swyddogion, ac anfonwyd ef i garchar Dolgellau, lle y bu o ddeutu hanner blwyddyn. Bu ei achos dan sylw ei frodyr crefyddol, a chafwyd nad oeddid |