Billeder på siden
PDF
ePub

hyfrydwch a boddhad droiau wrth eu | fel hyn-Dim Pab-dim eglwys holi hwynt am y pethau hyn.

Mae hefyd un arall o gaeth-weision y pennaeth, (gwr uweh na'r lleill) yn ddiwyd iawn yn dyfod i foddion gras. Mae hwn yn un ag sydd wedi ei bennodi gan y brenin i ddysgu y gelfyddyd o ganu, yn ol trefn yr Ewropiaid.

Yn awr, er nad yw y pethau a nod-i wyd uchod ddim yn arwyddion eglur iawn o fod "gair yr Arglwydd yn rhedeg ac yn cael gogonedd; etto maent yn arwyddion gobeithiol fod gan yr Arglwydd waith i'w wneuthur ymysg y paganiaid pelledig hyn. Nid yw gwawr ond bechan iawn yn ei hymddangosiad cyntaf yn y dwyrain, ond gan fod yr haul o'r tu ol, ymlaen daw hi yn ddydd goleu. Yreiddoch. E. BAKER.

NEWYDDION DA.

Llwyddiant y grefydd brotestanaidd_yn
Ffraingc. Llythyr a anfonwyd gan Mr.
RE. Rhind, at Mr. Billingsley,
Bermondsey Terrace.

32, Sackville Street.
- Anwyl Syr, -Yr wyf yn sicr y bydd
i chwi ddarllen y talfyriad canlynol o
lythyr a dderbyniwyd o Paris yn
Ffraingc, gyda hyfrydwch mawr;
newydd ddyfod i law ydyw.

"Mae ein capeli yn cael eu gor lenwi-mae 300 o blant yn perthyn iddynt. Ni wyddom ni ddim beth i'w wneuthur am le i'r lliaws pobl ag sydd yn ymgasglu attom. Pe byddai genym ddeng mil o bunnau i adeiladu capeli, ceid digon o bobl i'w llenwi, ac ysgolion cyfattebol, fel y parent syndod yn Ewrop!

Dygwyddodd peth rhyfedd iawn yn ddiweddar. Lliaws mawr o'r offeiriadau Pabaidd a fuant yn ymofyn am foddion i ymwrthod âg eglwys Rhufain. Maent yn sicrhau fod dwy fil a phum cant o'r offeiriadau Pabaidd o'r un fwriad â hwynt yn Ffraingc. Maent newydd ffurfio Cyffes ffydd, yr hon sydd agos yr un fath a chyffes ffydd Eglwys Loegr. Maent wedi gwneuthur y peth yn hysbys i'r esgobion Saesonig. Mae amryw blwyfydd eisoes wedi anfon archiad at yr Offeiriaid hyn am eu gwasanaeth. Anfonwyd un o honynt i Montaign. Heddyw anfonodd yr enwog Dupin am un o honynt i ddyfod i Nevers (lle yn cynnwys 30,000 o drigolion) lle y mae y Gwarchawdlu Gwladwriaethol (National Guards) wedi cymmeryd meddiant o'r eglwys, y rhai a ardystiasant na chaiff yr un o'r Jesuitiaid Pabaidd byth offeiriadu iddynt.

Cyffes yr Offeiriaid diwygiedig sydd

anffaeledig-dim offeren Lladin-dim ond dau sacrament-dim gwahardd i'r offeiriaid briodi-dim gorchymyn am gyffesiad pechodau ynghlust yr offeir laid-dim ond gair Duw yn rheol ffydd.

Heddyw cyhoeddwyd deddf frenhinol roi attalfa ar y Cenhadiaeth Pabaidd, a chymmeryd meddiant o'u trysorfa, i ddiddymu yr holl wyliau Pabaidd; ac ua bydd dim dyddiau gwyliau mwyach yn Ffraingc ond yn unig Gwyl y Pasc, y Nadolig, a'r Šulgwyn. Gwelwch fod y Brif ffordd yn cael ei hagor yn wladwriaethol i gael rhwydd hynt ardderchog i Efengyl y gwirionedd drwy holl wlad boblogaidd Ffraingc." Ydwyf yr eiddoch R. E. RHIND. "Paris, Ionawr 9. 1831."

0

BU FARW, Prydnawn ddydd mawrth y 18ed o Ionawr, 1831, y Parch. Thomas Jones o Gaerfyrddyn, gweinidog parchus ymlith y Trefnyddion Calfinaidd. Yr oedd yn dduwinydd doeth, yn wr cymmeradwy gan y byd a chan yr Eglwys. Cymru a deimla golled nas gwneir i fynu am amser maith i ddyfod; a'r eglwys a gydnabydda i wr mawr syrthio yn Israel.

Gobeithiaf y ceir gweled Bywgraffiad teilwng, gan ryw rhai o'i frodyr gweinidogaethol, am y gwas ffyddlon hwn i Iesu Grist. FRANCISCO.

Y SENEDD YMERODROL. Dydd iau, y 3ydd. o Chwefror yr ail-agorwyd y Senedd, wedi gwyliau y Nadolig. Gohiriwyd y cyfarfod cyhyd, fel y crybwyllasom yn y Rhif. diwedd af, fel y gallai Swyddogion y Llyw odraeth gael digon o amser i ystyried a threfnu y matterion pwysfawr oedd y pryd hyny ar droed; ac y mae, erbyn hyn, yn ddigon amlwg na buont ddim yn segur. Ond fel gwyr doethion wrth lyw llestr ar ystorm, hwy a gyd-ymgynghorasant yn ddifrifol iawn, pa beth a wnaent i'r dyben i gael y Ilong drom lwythog, Brydain boblog. aidd, i'r pothladd dymunol o heddwch, a llwydd ; ac yn wir mae lle i hydyru yn lled gadarn fod Duw y lluoedd, yr hwn sydd yn eistedd ar y llifeiriant, wedi gwrando gweddiau ei bobl ar yr achos pwysfawr hwn, fel y gellir gweled wrth yr ychydig hanes ganlyn.

a

Tŷ yr arglwyddi.-Cyfarfu y tŷ ddydd iau am hanner awr wedi 3 ar gloch. Darllenwyd y gweddiau arferol

gan Esgob Llundain. Dygwyd Eirch- | ion i mewn yn erbyn Caeth-wasanaeth, un o ba rai oedd oddiwrth y pleidiau crefyddol yn Ninbych.

Diwygiad yn Llys cydwybod (Chancery.)-Rhoddodd yr Arglwydd Ganghellwr rybudd y bydd iddo ef ar yr 17 dydd o'r mis, sef mis Chwefror, ddwyn darlun cyfraith i mewn i ystyriaeth eu harglwyddi am rwyddhau gweinyddiad cyfiawnder yn Llys cydwybod; ac i reoleiddio achosion torredigaeth (bankruptcy).

Toll ar y Glo.-Dywedodd Iarll Gray, y prif swyddog, fod y matter hwn wedi bod dan sylw dwys swyddogion y Brenhin, ac y byddai iddo ef hysbysu eu penderfyniad pan ddelai yr adeg i hyny.

Diwygiad yn y Senedd.-Dug Iarll Gray amrywiol Eirchion i mewn am ddiwygiad yn y Senedd, sef yn nghynnrychioliad y bobl yn nhŷ y Cyffredin. Dywedodd, nad oedd efe yr un farn ymhob peth a'r Eirchion hyn, ette ei fod ef o'r farn yn gadarn fod eisiau diwygiad yn y Senedd. Yr oedd efe o'r farn er yn ienange, ac yr oedd o'r un farn etto, y byddai diwygiad yn y Senedd yn sicr o fod o les mewn amryw olygiadau. Mae fy ngolwg i, eb efe, ar y pwnge hwn gyda dwysder mawr, ac y mae'n dda genyf fod yn fy ngallu hysbysu i chwi fod gweinidogion y Llywodraeth wedi dyfod yn hollol o'r un meddwl, a'u bod wedi sefydlu ar drefn ag sydd yn llwyr gydsyniol ag erfyniad un o'r Eirchion hyn: trefn a ettyb y | dyben, heb fyned dros derfynau cymi medroldeb cyfiawn a rhesymol. Mae ein bwriad i'w ddwyn ymlaer. yn fuan yn y tŷ arall, lle y dylai ymddangos gyntaf. Mae yr holl lywodraeth o'r un farn.

Iarll Darnley, a ddywedodd fod yn dda iawn ganddo ef glywed yr hyn a hysbysodd yr ardderchog Iarll, yr hwn sydd ben swyddog llywodraeth ei fawrhydi. Mae yn ddiammeu genyf, eb efe, y bydd y drefn a bennododd y swyddogion presennol am ddiwygiad yn y Senedd wrth fodd pawb yn gyff redinol oddigerth yn unig y rhai sydd am gynnyrfu chwyldroad. Gobeithiai hefyd fod y swyddogion wedi meddwl am achos yr Iwerddon.

Diddymir cyfraith y cyfarfod plwyfol, (vestry) a gosodir trefn fwy cyfiawn a didderbynwyneb yn ei lle-Diwygir cyfraith yr is-osodiad (sub-letting) tai a thiroedd fel na ellir gorthrymu y tlodion drwyddi hi-Dygir cyfraith i mewn i roi gwaith i dlodion y wlad, ac i dalu i'r gweithwyr drwy dreth i gael ei chodi oddiar berchenogion tiroedd yr ardaloedd lle y bo y gorchwylion cyhoeddus yn cael eu cyflawni. Yr wyf o'r farn, eb efe, y bydd hyn yn well na threth y tlodion, oblegid, trwy hono ya fynych y mae dynion diog a diles yn cael eu cynnaliaeth, ond drwy hon, ni chynnelir neb ond y neb a weithio i ennill ei fara; ac hefyd, bydd hyn yn peri codi mwy o gynnyrch yn y wlad, ac felly yn peri cynnaliaeth i chwaneg o drigolion.

Dydd gwener,-Dywedodd Ardalydd Lansdowne, wrth ddwyn i mewn Eirchion am Ddiwygiad yn y Senedd, ei fod ef o galon yn tueddu at gael hyny.

Tŷ y Cyffredin,-dydd iau Chwefror 3. Dyma y dydd yr agorwyd y tŷ. Yr oedd tyrfa fawr o bobl wedi ymgasglu ynghyd yn nghyntedd y llŷs. Derbyniwyd amryw aelodau newyddion i mewn, ymhlith ereill Mr. Hunt a dderbyniwyd hefyd dros Preston yn Lancashire. Dywedodd Mr. Ellice y bydd iddo ef ar y 14eg o'r mis ddwyn i mewn Ddarlun cyfraith i attal gwerthu eiddo rhedeg (Smuggling). Dywedodd Mr. Alderman Wood y bydd iddo ar yr 22in. ddwyn i mewn Ddarlun cyfraith attal dychrynllyd ganlyniadau cynddeiriogrwydd cŵn.

Ffordd haiarn.-General Gascoyne, a ddug Archiad i mewn i erfyn cael agor ffordd haiarn a cherbydau agerdd i redeg o Liverpool (Birkenhead) i Gaerlleon. Arglwydd Stanley a ddyg un cyffelyb am gael ffordd haiarn o Wigan i Preston yn Lancashire. Y rhai hyn oll a ddodwyd at ystyriaeth cyfeisteddwyr (committee).

a

Toll ar ganhwyllau,-Mr. Kennedy ddyg i mewn Eirchiad am dynu ymaith y doll oddiar ganhwyllau. Cefnogodd Mr. Hunt hyn.

Diwygiad yn y Senedd. Arglwydd Althorpe a ddywedodd, yr wyf fi yn codi i hysbysu i'r tŷ, y bydd llywodrArglwydd Melbourne (Ysgrifenydd aeth ei fawrhydi yn barod i ddwyn o Cartrefol) mewn ffordd o atteb i gry- flaen y tŷ eu cynllun hwynt am ddibwylliad yr Iarll Darnley mewn perth- wygiad yn y Senedd, ar y dydd cyntaf ynas i'r Iwerddon, a gymmerodd yr o Fawrth. Yr wyf hefyd yn hysbysu. achlysur i hysbysu i'r tŷ pa bethau y i chwi fod y llywodraeth wedi ymmae swyddogion y brenin yn fwriadu ddiried yr achos hwn i'm hardderchog ei wneuthur i'r Iwerddon yn yr eistedd gyfaill Arglwydd John Russell. Yr iad presennol. Diwygir pennodiad swm ydym wedi dewis yr ardderchog artreth yr uchel reithwyr yn hollol-glwydd hwnw i gyflawni hyn o orch

wvl oblegid iddo ef ymgais yn ddifrifol | gwneuthuredig, o 9s. i 4s. 6c; treth y a pharhaus am gael y diwygiad hwn i papur newydd i gael ei thynu i lawr o ben pan nad oedd un tebygolrwydd y 4c, i 2c, a'r Hysbysiadau yn y papurau, deuai hyny i ben. Gofynodd un o'r o 3s. 6c, i 1s, ar Hysbysiadau o 10 aelodau i Arglwydd Althorpe, a oedd y llinell ac isod; ac ar bob Hysbysiad diwygiad i gyrhaeddyd Scotland? At- bwy, 2s, 6c. Lleihau hefyd doll y Glo tebodd yntau ei fod. toll Cottyn argraffedig, toll y gwydr, toll y Llechau cerrig, toll y Canwyllau; toll arwerthiant cyhoedd, (auction) &c.

Dydd gwener.-Dywedodd Mr. Saddler y bydd iddo ef ddyfod ag achos tlodion y tir o flaen y tŷ yr 8ed o Fawrth. Treth y brenin, (Civil list.) Dyg Arglwydd Althorpe yr holl bapurau eg lurhaol i gyfrifon treth y brenin o flaen y tŷ. Rhy faith fyddai i ni yma ddilyn ei holl araeth eglurhaol ef ar y matter bwn. Digon yw dywedyd yn gyffredinol, fod Swyddogion y brenin yn bwriadu gwneud cryn ddiwygiad yn y draul ar y pen hwn. Er hyny bu dadl gref ynghylch amryw barthranau o'r arian hyn. Wedi i'r Swydd ogion llywodraethol osod allan y drefn oreu, yn ol eu barn hwy, o weithredu o hyn allan, dywedasant yn dirion iawn os byddai y tŷ yn eu doethineb yn gweled fod yn well ychwanegu y diwygiad hwn, na fyddai iddynt hwy mewn un modd sefyll yn erbyn dim a fyddo yn gyfiawn a rhesymol. Yna dodwyd yr holl bapurau at farn cyfeisteddwyr.

Bydd hyn yn lleihau y cyllid o dros 3 milliwn o bunnan yn flynyddol.

Bwriedir rhoi rhyw ychydig o drethi ar rai pethau ereill yn lle hyn, fel na byddo gormod pall yn y cyllid i ddal pethau i fynu heb ddyrysu. Codir ychydig ar dreth y gwin; ar doll coed tramor;_ar wlan cottyn; ar deithwyr mewn Llongau agerdd, a rhyw ychydig o bethau ereill. Ac wedi hyn oll, bydd y cyllid yn llai o £430,000 yn y flwyddyn, canys bydd y trethi a roddir yn llai na'r rhai a dynir ymaith, o hyny o swm. Bu dadl boethlyd ar yr achlysur. Taerai rhai fod hyn yn rhy fychan o lawer o dynu i lawr ar y trethi; ereill a ddywedent nad oes modd yn bresennol dynu dim yn ychwaneg, Hawdd gan bobl anneallus siarad am dynu y tollau a'r trethi i lawr. Nid oes dim lle i ammeu nad yw gweinidogion y brenin, ag sydd Maddeuant i droseddwyr rhyfygus.- yn bresennol yn rheoli wedi ystyried, Dydd llun yr 8ed. o Chwefror, cyn yn ol ac ymlaen, ac wedi cyfansoddi nygiwyd yn nhŷ y cyffredin am anfon pethau mor esmwyth ag y mae modd Archiad at ei Fawahydi am iddo weledi wneud, yn ol amgylchiad presennol y bod yn dda roi maddeuant a rhyddhad | i'r holl droseddwyr, y rhai yn ddiwedd ar a gymmerwyd i fynu ac a brofwyd Man ddyledion.-Mae amryw Eirchyn euog o roi tân mewn meddiannau, ion yn cael eu hanfon i'r Senedd i codi terfysg, ac ennyn gwrthryfel gefnogi y Darlun cyfraith a ddygwyd mewn amryw fanau o'r deyrnas. Aci mewn i'r tŷ gan yr Arglwydd Cangwedi bod dadl ar yr achlysur, rhanwyd hellwr i'r dyben o godi mân ddyledion y tŷ, a chafwyd dim ond 2 o blaid y yn ddigost i'r gofynwr. cynnygiad; a 261 yn erbyn ; ac felly collwyd y cynnygiad.

Ysgafnhad y trethi, &c,-Dydd gwener yr 1leg o Chwefror, gwnaeth yr Arglwydd Althorpe ei araeth eglurhaol gyntaf fel canghellwr y Drysorlys, mewn perthynas i Gyllidau y deyrnas, yn nhŷ y Cyffredin, Efe a ddyg y cyfrifon i mewn yn gynt nag arferol am fod y wlad mewn cymmaint awydd am hysbysrwydd yn eu cylch.

deyrnas. Nis gwyddis etto pa rai o'r cynnygion hyn a gant sefyll.

Ympryd cyffredinol.-Dydd lun Chwefror 14, Mr. Spencer Percival a wnaeth gynnygiad, yn ol ei addewid, am anfon archiad at y brenin, am i'w fawrhydi weled bod yn dda bennodi diwrnod o ympryd cyffredinol drwy yr holl deyrnas; ac hefyd i ffurfio gweddi addas i'w harfer drwy yr holl eglwysi, i ofyn i'r Hollalluog Dduw, o'i fawr drugaredd, i droi oddiwrthym y cospedigaethau ag ydym ni yn eu Mae yr ysgafnhad ag y mae efe a'r cyfiawn haeddu; ac hefyd, am iddo swyddogion ereill am wneuthur yn fendithio cydymgynghoriad y Senedd dyfod i mewn ddwy ffordd-sef drwy er llesâd yr Eglwys sefydledig a'r ddiddymu rhai swyddau, a thrwy lei- wladwriaeth yn gyffredinol; ac yn hau rhai trethi. Y swyddau y rhai ymhellach ar fod i'w Fawrhydi weled cynnygir eu diddymu ydynt amrywiol, bod yn dda am beri i gasgliadau i gael rhy faith i'w henwi yma. Y trethi i'w eu gwneuthur i'r tlodion ymhob Eghysgafnhau ydynt, toll y ffwgws (to- lwys ar y dydd hwnw. Mr. Hughes, bacco) toll ar bapurau newyddion;- aelod dros Rydychen, a gefnogodd y Cynnygiodd leihau toll ar ddail ffwgws cynnygiad. o 3s. ils. 6c. y pwys; ac ar flwgws

Dywedodd Arglwydd Althorpe fod

BELGIUM.

trefn llywodraeth Brydain, o'i doeth- o lawer o'r aelodau drwy'r tŷ. Dýineb, wedi gosod yr ystyriaeth o wedir fod Mr. O'Connell wedi ffoi o'r achosion cyffelyb i hyn i'r brenin yngwlad; fe allai mai i Lunain i fyned hyd a chynghor blaenoriaid yr eglwys i'r Senedd yr aeth efe. wladol, a'i fod ef yn credu y bydd i bob achos o'r natur yma gael ei ystyried yn ddwysach, a'i sefydlu yn llawer mwy cymmwys ganddynt hwy nag yn y tŷ hwn. Yr oedd efe (Arglwydd Althorpe) yn cyfaddef fod achosion yn galw am i'r cyfryw beth i gael ei sefydlu; ac ei fod ef yn hynod o anewyllysgar i roi naccâd pennodol i'r cais; am hyny y boddlonai efe i gymmeryd barn y tŷ ar y matter. Yna fe ofynwyd y cwestiwn, a'r tŷ a farnodd yn gyffredinol mai gwell peidio.

Ffraingc.-Mae y wlad eang a phoblogaidd hon yn parhau i ychwanegu eu gwyr arfog yn barhaus, ac y maent yn eu rhestru hwynt ar duedd. | au gogledd ddwyreiniol eu gwlad. Gyfynodd Syr R. Vivyan yn nhy y Cyffredin, a oedd pob peth yn dda rhwng Lloegr a Ffraingc. Attebodd Arglwydd Palmerston, y gallai efe dystiolaethu hyn, fod Llywodraeth Lloegr yn parhau i dderbyn oddiwrth Lywodraeth Ffraingc bob tystiolaeth fod brenin Ffraingc am gadw at heddwch a chydundeb nid yn unig â Lloegr, ond hefyd â'r holl fyd. Tebygid fod | brenin Ffrainge yn chwanegu at ei liaws gwyr rhyfel, rhag ofn, ar amser terfysglyd fel hyn, i ryw daro ddyfod oddiar y llaw ddehau neu y llaw aswy; ac fel y byddont barod yn wastadol i'w hamddiffyn eu hun. Mewn lled gyffelyb fodd a hyn y mae Lloegr hithau yn chwanegu at eu gwyr arfog, nid o ran fod un perygl yn ymddangos yn bresennol, na bwriad mewn un modd o fyned i ryfel; ond yn unig er mwyn bod yn barod i'w hamddiffyn eu hunain, pe byddai achos yn gofyn.

Iwerddon,-Mae Mr. O'Connell wedi cael ei gymmeryd i fynu ers talm, am afreolaeth; ac mae efe wedi dechreu cael ei brofi trwy gyfraith, yn y Llŷs pennadur, yn Dublin. Byd terfysglyd yw hi yn y wlad annedwydd hono yn parhau. Eisiau torri yr undeb sydd arnynt yn awr rhwng yr Iwerddon a Lloegr. Nid oes esmwythdra iddynt, canys ni cheir llonydd ganddynt.

Yn nechreu mis Chwefror darfu i Gyd henaduriaeth Belgium ethol Duc de Nemours i fod yn frenin y Netherlands. Mae efe yn bedwerydd mab i Louis Phillip, brenin y Ffrangcod, yr yr hwn nid yw ond 17mlwydd oed. Y blaid werin-lywodraethol a ddewisasant Duc de Leuchtenberg, a'r blaid Ffrangcaidd a ddewisasant Duc de Nemours. Mae brenin Ffraingc, meddynt, yn erbyn i'w fab i fod yn frenin arnynt: nis gwyddom etto pa fodd y bydd. POLAND.

Mae Poland wedi cyhoeddi ei hun yn wlad rydd, ac anymddibynol. Darfu i Eisteddfod y tywysogion (Diet) ar y 25in. o lonawr, ddatgan ar gyhoedd fod eu gorseddfaingc yn wag. Mae arfogiad y bobl yn myned ymlaen yn brysur a diball. Mae y tywysog Radziwill wedi cael ei ethol yn Benciwdod y milwyr. Maent hwythau y Rwssiaid yn dynesu tuag attynt gyda'u lliaws dirfawr o luoedd ffyrnig o fil. wyr; ac yn fuan iawn dysgwylir y bydd hi yn rhyfel ofnadwy rhyng ddynt. Mae gwyr meirch Poland wedi ymrestru o Praga hyd Brescy, ar du dehau i afon Vistula.

Cenhador y Polandiaid.-Mae y cenhadwr hwn wedi cyhoeddi llythyr yn cynnwys unig neges ei ddyfodiad i Ffraingc. Mae efe wedi cael ei anfon yno i ofyn cynnorthwy Ffraingc i'w hymddiffyn hwynt rhag cael eu dyfetha gan y Rwssiaid. Dywedir fod Brenin Ffraingc wedi anfon llythyr at Ymerawdwr Rwssia i erfyn yn daer arno beidio a rhuthro ar y Polandiaid.

Terfysg yn Itali,-Mae cryn derfysg a gwrthryfel wedi codi yn ddiweddar yn Itali, cartrefle y Pab! Yn Bologna yn benaf y mae y terfysg hwn. Bologna sydd ddinas enwog, a lliosog ei thrigolion, Yn Modena, dinas ang arall, y dechreuodd y terfysg. Ar y 5ed o Chwefror, pan oedd yr uchel Dduc yn bresennol, dyn gwrol a diofn, a gododd ar ei draed yn y Chwareudy, a banner tri-lliw yn ei law, ac a waeddodd allan Vive de liberte, "Llwyddiant Dywedodd Mr. Stanley (ysgrifenydd i ryddid." Yn y fan aeth y terfysg dros yr Iwerddon) yn nhy y Cyffredin, drwy yr holl ddinas, ac aeth pawb dan fod y llywodraeth yn bwriadu rhoi y arfau. Cododd y bobl yn erbyn milgyfraith yn ei llawn rym i gospi ywyr y llywodraeth. Pan glywsom terfysgwyr yn yr Iwerddon. Mae y llywodraeth hefyd yn penderfynu na fydd iddynt roddi cydsyniad â thorri yr undeb rhwng yr Iwerddon a Lloegr; a'r un farn a hwynt yw y rhan fwyaf

ddiweddaf addiyno y bobl oedd drechaf. Digon tebyg mai y diwedd fydd taflu yr holl fân Dywysogaethau yn un Llywodraeth, a hel y milwyr estronol tuag adre.

Pab newydd.-Mae yr hen Bab wedi marw; ac y mae un newydd wedi ei osod i fynu yn ei le ef.

PORTUGAL.

Mae terfysg ac afreolaeth mawr yn Lisbon, dinas yn Portugal; dywedir fod yno oddeutu tair mil o bobl wedi en cymmeryd i fynu a'u carcharu. Nid oes lle i ddysgwyl dim yn amgen na phethau ofnadwy o'r fath ymhlith tri- | golion gorthrymedig y wlad hon.

Finland.-Mae terfysg a gwrthryfel newydd godi yn Finland yn erbyn y Rwssiaid ag oedd yn llywodraethu arnynt. Mae y tân gwyllt yn awr wedi dechreu cynneu yn agos i brif ddinas Rwssia.

Arfau Rhyfel.-Mae Llywodraeth Lloegr wedi gwerthu i'r Ffrangcod yn agos i gan mil o arfau rhyfel; ac y maent wedi eu llwytho hwynt o'r Tŵr gwyn yn Llundain i'w hanfon yno. Dywedir eu bod yn hen arfau, a bod Ffraingc yn addaw anfon rhai newyddion yn eu lle hwynt, ond idd. ynt gael amser i'w gwneuthur hwynt. Caeth-wasanaeth.-Mae yn amlwg fod swyddogion y Llywodraeth yn bwriadu dwyn i mewn eu darlun cyfraith am ddiwygiad yn y Senedd ar y dydd laf. o Fawrth, sef yr un dydd ag yr oedd Mr. Buxton am ddwyn i mewn, yn yr un tŷ, ei gynnygiad am ryw drefn o ryddhad i Gaeth-weision yr India Orllewinol. Er hyny, fe ddygir yr achos hwn oflaen y ty yn fuan; ac er nad yw yn ymddangos fod Swyddogion y Llywodraeth wedi ymbarotoi i gymmeryd y gorchwyl mewn llaw yn yr eisteddfod presennol, etto dysgwylir y bydd i'r peth i gael ei ystyried cyn belled fel nad aiff heibio heb ei benderfynu yr eisteddfod nesaf o'r hyn pellaf.

Ffrainge. Mae terfysg mawr yn codi etto yn Paris a rhanau ereill o'r deyrnas, a hyny yn benaf yn erbyn y Pabyddion, yn enwedig y Jesuitiaid. Mae y terfysgwyr wedi dial eu llid yn ofnadwy arnynt. Maent wedi dryllio rhai eglwysydd, a malu y delwau yn chwilfriw. Aethant i mewn i balas yr archesgob Paris, ac a'i hanrheithiasant ef, gan daflu ei eiddo i'r afon Seine, a ilosgi y gweddill a thân. Mae y bobl wedi eu llenwi a'r fath gynddaredd yn erbyn yr offeiriaid Pabaidd, ac yn er byn hen deulu Bourbon, fel y maent wedi ynfydu mewn yspryd dinystr.

Bolivar. Bu farw Bolivar, y penrhyfelwr enwog America ddeheuol, yn Santa Martha, ar yr 17eg o Ragfyr, 1830, yn 47 ml. oed. Parodd y rewydd alar mawr yn Carthagena, lle yr oedd ei barch yu fawr; ïe, mae yn

debygol, yn fwy nag mewn un rhan o Colombia. Er ei fod ef yn ei fywyd wedi dyfod i hawl o reolaeth yr holl gyllidau yn Colombia, Peru, a Bolivia, etto pan fu farw, nid oedd cymmaint a cheiniog o arian llywodraeth yn ei feddiant, er hyny nid oedd dyled arno.

Colli Llythyr god (Mail),-Dydd mawrth chwefror 7, fel yr oedd y Llythyr-gerbyd (Mail Coach) sydd yn tramwy rhwng Dumfriers ac Edinburgh yn myned trwy eira anarferol, collwyd y Llythyr god, a bu y Cerbydwr a'r Gwyliwr (Guard) farw trwy rewi i fynu yn yr iâ. Yr hanes sydd fel hyn:-Wedi i'r Cerbyd adael Moffat ar ei ffordd tuag Edinburgh, heb neb yn y Cerbyd, nag yn perthyn iddo ond y Cerbydwr a'r Gwyliwr yn unig, mewn gorifynu a elwir Erickstane, lle y mae ffordd faith, uchel, oer, a llom. Ymhen y pedair milltir o ffordd o Moffat, wrth weled yr eira yn myned yn ddyfnach, a'r ffordd yn anhaws ei theithio, a chwech o geffylau, darfų i'r ddau ddyn dynu allan dri o'r ceffylau, a thrwy gael arweinydd hwy a aethant yn eu blaen gyda'r tri cheffyl a'r llythyr god, gan adael y cerbyd ar ol. Nid aethant yn neppell na chanfuant fod mor anmhossibl teithio ar feirch ag oedd gyda cherbyd. Disgynasant, ac a ddeisyfiasaut ar eu harweinydd fyned yn ol i Moffat, gyda'r ceffylau, ac y byddai iddynt hwythau ymgais am wneud eu ffordd drwy'r eira ar eu traed, gan rwymo y llythyr-god ar eu cefnau. Cafwyd y llythyr god wedi hyny wedi ei rwymo wrth bost pren, ac ar y dydd sabboth canlynol, cafwyd cyrff y ddau ddyn yn agos i le a elwir Tweed Shaws, ynghylch can lath oddiwrth y naill y llall, ac yn agos i hanner milltir oddiwrth y fan lle y gadawsant y gôd. Eu henwau oeddynt M'George, a Goodfellow.

Llong-ddrylliad.-Y llong deu-fast a elwid Quixotte, a ddrylliwyd gan donau cynddeiriog y môr yn Hydred 6,, 13 Gorllewinol, a Lledred 48,, 0 Gogleddol. Achubwyd dau ddyn yn unig, a chyn y gallwyd eu hachub hwynt oddiar ddrylliau o'r llong, yr oeddynt oddiar faint eu newyn, wedi gorfod ymborthi ar gyrff meirwon eu cyd ddynion, y rhai a fuont feirw o eisiau ymborth, a thrwy rym yr oerfel!

Ystorm-Dydd mawrth, y laf o Chwefror disgynodd ystorm o genllysg ofnadwy yn Swydd Sussex, yn enwed igol ar balas Walter Burrell, Ysŵ. M. P. West Grinstead Park; y gawod a barhaodd ddeng munud, ac ynghorff hyny o amser hi ddrylliodd 935 o bedrorynau gwydr yn ei ardd ef,

« ForrigeFortsæt »