Billeder på siden
PDF
ePub
[graphic][graphic][merged small][merged small][merged small][subsumed][subsumed]

RAIF. X.]

HYDREF, 1831.

[LLYFR I.

PREGETH

A bregethwyd ar ail agoriad Capel Surrey, Llundain, (Capel y mae y Parch. R. Hill yn gweinyddu,) Awst 29, 1830, gan y Parch. J. Sibree, o Goventry.

y

Psalm 1. 3.-" Cesglwch fy Saint ynghyd attaf fi."

Mae yr athrawiaeth am y farn gyffredinol, yn athrawiaeth bur ysgrythyrol, athrawiaeth yn cael ei deall a'i chredu, nid yn unig o dan y newydd, ond hefyd o dan oruchwyliaeth yr hen Desdament. Nid oes iaith a ddichon fod yn fwy amlwg a chynwysfawr, ar yr achos yma, na'r eiddo Iob, yr hwn a dybir ei fod yn cydoesi å Moses, "Canys myfi a wn fod fy Mhrynwr yn fyw, ac y saif yn diwedd ar y ddaear. Ac er ar ol fy nghroen i bryfed ddifetha'r corph hwn, eto caf weled Duw yn fy nghnawd; yr hwn a gaf fi i mi fy hun ei weled, a'm llygaid a'i gwelant, ac nid arall, er i'm harenau ddarfod ynof." Mae y Salm o'r hon y dewisasom ein testyn, yn cynwys disgrifiad ardderchog o'r farn gyffredinol, Yma y gelwir ni i edrych ar ymddangosiad ofnadwy y Barnvr mawr, “Ein Duw ni a ddaw, ac ni bydd ddistaw, tân a ysa o'i flaen ef, a thymestl ddirfawr fydd o'i amgylch." Y rhybudd a roddir i'r amrywiol dystion a ddisgrifir yn yr adnod ganlynol; "geilw ar y nefoedd oddi uchod ac ar y ddaear i farnn ei bobl." Ac yn olaf gelwir arnom ni i sylwi ar y canlyniadau diweddaf y dydd hwnw, "Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfamed â mi trwy aberth; a'r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef; canys Duw ei hun sydd farnwr. Selah."

|

Un o gyfansoddiadau mwyaf ardderchog y Doctor Watts ydyw ei aralleiriad o'r 50 Salm, yn yr hwn y mae yn amlwg yn cyfeirio at ddydd y farn gyffredinol.

"Ni watwor Atheist mwy hir oediad Duw ;
Ni chwsg ei ddial chwaith, ond wele y dydd!
Ac wele 'n dod y Barnydd gyd a'i gard,

Tymestl a thân a'i dilyn ef i lawr.
Tra chryn pechadur, gorfoledda'r saint.
Nef, daear, uffern, deuwch oll ynghyd,
A chlywch fy nghyfiawn farn, a dedryd dyn;
Yn gyntaf cesglwch fy saint oll ynghyd,
O'r tiroedd pell chychwi angelion glan,
Pan dychwel Crist. deffroed pob llawen nwyd,
A bloeddiwch saintiau 'nawr Iachawdwriaeth."

Pan y daw Duw, pawb oll a'i parchant ef;

Gellir ystyried ein testyn megis awdurdod a roddir gan y Barnydd mawr i'w angelion-yr ysbrydion gwasanaethgar hyny sydd yn gwneuthur ei ewyllys, ac yn gwrandaw ar lais ei awdurdod. Mae iaith y testyn yn cydgordio â'r ymadrodd hwnw gan ein Harglwydd pan y mae yn cyfeirio at ddyfodiad Mab y dyn, mae yn dywedyd, "Ac efe a ddenfyn ei angylion a mawr sain udgorn, a hwy a gasgiant ei etholedigion ef ynghyd o'r pedwar gwynt, o eithaf y nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt." Ond yn flaenorol i'r casgliad olaf cyffredinol hwn o'i saintiau ynghyd i'r farn.

Mae Iehofa yn eu casglu yn nghyd mewn amrywiol ffyrdd, ag amrywiol foddion rhagluniaeth a gras hefyd. Yn flaenorol iddo eistedd ar orsedd barn, yr ydym yn ei weled ar orsedd gras, ac yr ydym yn ei glywed yn dywedyd, Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi.' Chychwi, fy mrodyr crist'nog

aida, aelodau y Gymdeithas hon, | haniaeth; "canys pawb a bech

asant, ac ydynt yn ol am ogoniant Duw." Ond trwy ddwyfol ras, yr ydym yn brofiadol o gyfnewidiad natur, ac yn ganlynol o gyfnewidiad enw. Mae yr enw saint yn aml yn cael ei roddi ar bobl Duw, mewn ffordd o wawd. "Y cyfryw," medd dyn o'r byd, "ydyw eich saint." Ond, fy mrodyr, nid oes anrhydedd uwch yn

Yn 1. Trwy Ddwyfol dde

wisiad.

a fuoch am yr ychydig wythnosau diweddaf ar wasgar oddi cartref. Chwi a fuoch yn addoli Duw, ac yn gwrandaw ar ei air mewn amrywiol lefydd addoliad cristionogaidd. Er hyny fe'ch galwyd eto ynghyd y boreu hwn, ac yr ydwyf yn eich llawen gyfarch ar eich dychweliad. Mae llawer o honoch yn ddiamau yn profi y dydd hwn megis y darfu y Salm-cael ei roddi arnom ni, na'n cyfydd, pan yr ysgrifenodd yr 122 enwi yn saint, os byddwn yn deilSalm, "Lawenychais pan y dy- wng o'r enw:-ond ymha ffordd wedent wrthyf, awn i dŷ yr Arg- yr ydym yn dyfod yn saint? Yr lwydd. Ein traed a safant o fewn ydym yn dyfod yn saint, dy byrth di, O Ierusalem. Ierusalem a adeiladwyd fel dinas wedi ei chyd-gysylltu ynddi ei hun. Y saint ydynt wrthrychau Yno yr esgyn y llwythau, llwyth-cariad tragwyddol ; mae eu henwau yr Arglwydd, yn dystiolaeth i Israel, i folianu enw yr Arglwydd. Canys yno y gosodwyd gorseddfeingciau barn, gorsedd-feingciau tŷ Dafydd. Dymunwch heddwch Ierusalem: llwydded y rhai a'th hoffant. Heddwch fyddo o fewn dy ragfur a ffyniant yn dy balasan. Er mwyn fy mrodyr a'm cyfeillion y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti. Er mwyn tŷ yr Arglwydd ein Duw y ceisjaf iti ddaioni." Gwrandewch gan hyny ar lais rhagluniaeth Duw yn dywedyd y boreu hwn, "Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi."

Mae geiriau y testyn yn ein tywys i sylwi,

I. Yr enwau a ddarlunir, "Fy saint

II. Y Gorchymyn a gyhoeddir, "Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi."

[blocks in formation]

au yn ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen; ac mae yn deilwng o sylw ymha le bynag mae pobl Dduw yn cael son am danynt yn yr ysgrythyrau sanctaidd, fel gwrthrychau y cariad tragwyddol hwnw, mai mewn cysylltiad a'u santeiddhad personol y mae. Felly yn y benod gyutaf o'r Epistol at yr Ephesiaid mae yr Apostol yn dywedyd, "Megis yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd, fel y byddem santaidd, ac yn ddifeins ger ei fron ef mewn cariad." Ac eto yn yr 8fed bennod o'r Epistol at y Rhufeiniaid mae yr un ysgrifenydd ysbrydawl yn dywedyd, "Oblegid y rhai a ragwybu a ragluniodd efe hefyd, i fod yn un ffurf a delw ei Fab ef:" daliwch sylw, ni ddewiswyd hwynt, am eu bod yn saint, nac am ei fod yn rhagweled y byddent felly, ond hwy a ddewiswyd i fod yn saint.-Santeiddhad ydyw efaith, a'r unig dystiolaeth o'u hetholedigaeth. Mae pobl Dduw yn cael eu galw i fod yn santaidd, ac y maent i roddi cwbl ddiwydrwydd i wneuthur eu galwedigaeth a'u hetholedigaeth yn sicr. Bydded ein galwedigaeth

gael ei gwneud yn sicr, mae genym sicrwydd o'n hetholedigaeth. Etholedigol gariad ydyw ffynonell yr holl fendithion eraill. Etholedigaeth ydyw y ffynon; santeiddhad ydyw y ffrydiau; a gogoniant ydyw y môr mawr y maent yn llifo iddo. Etholedigaeth ydyw y gwreiddyn; santeidd had ydyw y pren; a gogoniant ydyw y ffrwyth. Etholedigaeth ydyw y sylfaen santeidd had ydyw y goruwch adeiladaeth, ac efe a ddwg allan y maen penaf, gan weiddi" Rhad, Rhad, iddo." Nid oes un fendith dymorol,-nac oes, un fendith dymorol ag yr ydych yn eu derbyn fel crist'nogion, nac un fendith ysprydol yn ein meddiant, nad ydynt ffrwyth y cariad annrhaethadwy, anheiddianol, a thrag'wyddol hwn! O bydded i ni gyd a'r holl saint ei ddeall! O bydded ini fyfyrio arno! Mae mor ddwfn a'r bedd y bu ein Hiachawdwr yn gorwedd ynddo; mor uchel a'r orseddfainge y mae yn eistedd arni; mor hen a thrag'wyddoldeb; ac mor barhaus, megis etifeddiaeth eneidiau anfarwol! Yr ydym i fod yn saint,

Yn 2. Trwy ddwyfol gyfnewid iad, yr hyn sydd ganlyniadau angenrheidiol o'r etholedigaeth hon:

oes ynddo y duedd na'r gallumae yn amddifad o'r ysbrydolrwydd y mae gwaith Duw yn galw am dano. Er nad oes ar angel eisieu y dull-newydiad effeithiol i weithredu arno; rhaid i bob dyn yngwasanaeth Duw, fod yn brofiadol o'r cyfnewydiad ysbrydol hwnw a elwir adenedigaeth. "Oddi eithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw." Mae yn anaddas i bleser goruchel y deyrnas hon, ac nid ydyw wedi ei gymhwyso i gyflawni ei dyledswyddau. Oddi yma mae yr addewid, "Rhoddaf, iddynt un galon, ac ysbryd newydd a roddaf ynoch; tynaf hefyd y galon garreg ymaith o'u cnawd hwynt, a rhoddaf iddynt galon gig; fel y rhodiont yn fy neddfau, ac y cadwont fy marnedigaethau, ac y gwnelont hwynt." Manwl gydsyniol â hyn ydyw iaith yr apostol Paul. "Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yn Nghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a ragddarparodd Duw, fel y rhodiem ni ynddynt." Golygwch y pechadur fel y mae yn dyfod o dan law ei Greawdydd newydd. Nid oes un peth mor nodedig mewn cristion, a'i gariad at sancteiddrwydd. Y mae yn caru ei Fibl, am fod ei ditl, y Bibl Sanctaidd. Y mae yn caru pobl Dduw, am eu bod yn bobl sanctaidd. Y mae yn caru ei angelion am eu bod yn fodau sanctaidd. Y mae yn caru y nefoedd, ac yn dymuno bod gyd â'r Iesu, oherwydd

Y mae cyfnewidiad tufewnol, ysprydol, goruwch naturiol, a chyffredinol, yn cael ei weithredu yn y saint, trwy nerth yr Ysbryd Glan. Fel hyn, y maent yn cael eu hadnewyddu yn ys- "Yno ceiff wel'd ei siriol wedd, bryd eu meddwl, a'u gwneud yn Byth, byth, heb bechu mwy." gyfranogion o'r dduwiol anian. Mae yn caru Duw, oherwydd Fe all Duw alw angel i'w bresen- Sanct, Sanct, Sanct, yw yr Argoldeb, a'i wasanaeth, heb ei gyf- lwydd Dduw Hollalluog.' Cofnewid i'w waith. Fe gar angel y iwch gan hyny y gwirionedd pwysgorchymyn, ac y mae yn gymwysig hwn, fod crist'nogion yn cael i'r gwasanaeth. Ond pe byddai ieu galw trwy yr efengyl i fod yn Dduw benderfynu i gymeryd i'w saint,-eich bod yn grist'nogion wasanaeth bechadur diadgened-nid cymaint o herwydd eich iawn ledig, mae yn anghymwys,-nid gred ag o herwydd eich sancteidd

[ocr errors]

rwydd-nid ydych yn saint ddim pellach, nag yr ydych yn sanctaidd ymhob ymarweddiad. Fel hyn, os bu i chwi brofi adnewyddiad y galon, y cyfnewydiad ysbrydol yn eich golygiadau, yn eich teimladau, yn eich ewyllysiau, yn eich canlyniadau, yn eich pleserau, ac yn eich golygiadau, er pa mor anweledig a graddol y byddo y cyfnewidiad wedi effeithio-os bu i chwi gael eich dwyn i ystyriaeth difrifol am eich eneidiau anfarwol-os ydych i eich cael yn wastadol wrth draed Cristos na fedrwch fyw heb weddio-os na bydd dim a fydd wch yn ei gashau yn fwy na phechod, na dim a fyddwch yn ei garu yn fwy na sancteiddrwydd, chwi a ellwch yn ddiogel fynwesu y gobaith eich bod yn rhifedig ymhlith pobl ddewisedig Duw, a'ch bod yn wrthrychan cyfnewid ind dwyfol. Oblegid "y rhai a ragwybu, a ragluniodd efe; y rhai a ragluniodd efe, y rhai hyny hefyd a alwodd efe."

(I'w barhau.)

Rhesymau yn profi fod y Bibl yn air Duw.

1. Ei hynafiaeth, mae ynddo hanesion am bethau cyn bod y ddaeai, a chyn creu un creadur: sef hanes am arfaeth Duw, a'r cyfammod tragywyddol a fu rhwng Duw, Dad, Mab ac Ysbryd Glân mewn perthynas i achub pechaduriaid, &c. ni allasai neb ond Duw roddi y cyfryw hanes.

2. Mae ei fod wedi cael ei gadw yn bur yngwyneb cynnifer o elynion iddo yn profi ei fod yn

air Duw.

3. Mae cyssondeb holl ranau'r Bibl â'u gilydd, er éu hysgrifenu gan wahanol bersonau mewn gwahanol amserau, yn profi ei fod yn air Duw.

4. Mae y grym a'r nerth sydd

yn cydfyned a'r Bibl, lle yr anfonir ef; mae yn dwyn dynion i iawn drefn, &c. (lle mae yn eff eithiol) mae hyn yn profi ei fod yn wir air Duw.

5. Mae yr amddiffyniad sydd ar y sawl sydd yn ei gredu ac yn ei broffesu, yn profi mai Duw yw ei Awdwr.

6. Pwy bynag a gyfeirio ei weddi yn ol y gair, caiff attebiad; mae hyn yn dangos mai gair Duw yw y Bibl.

7. Mae fod y rhai sydd yn gwadu y Bibl agos bob un yn marw yn ddychrynllyd, ac yn gorfod cyfaddef ei fod yn air

Duw.

8. Mae'r blas adnewyddol Bibl yn profi mai gair Duw yw mae y credadyn yn ei gael yn y efe.

wydoliaethau, &c. megis y rhai 9. Mae cyflawniad y propham Grist, dinystr Ierusalem, profi fod y Bibl yn air Duw. gwasgariad yr luddewon, &c. yn

10. Ni fedrai neb ond Duw ddweud am ddichell, a thrueni calon dyn, fel y gwelwn yn y Bibl, mae hyn yn profi mai efe a'i llefarodd.

11. Nid yr angylion na dynond offerynau) maent yn traddodi ion da a'i llefarodd, (nid oeddynt nid y cythreuliaid na dynion yn aml yn enw'r Arglwydd. Ae drwg chwaith, o blegid mae y Bibl yn dweud yn erbyn pechod, &c. am hyny rhaid addef mai Duw yw ei Awdwr.

12. Nid allasai neb ddweud am Dduw, ei fod yn Anfeidrol Hollwybodol, Hunan-ymddibynond efe ei hun: am byny ei air ol, Hollbresenol, Hollalluog, &c. ef yw y Bibl.

"Dyma Feibl anwyl Iesu,

Dyma rôdd deheulaw Duw ;
Dengys hwn y ffordd i farw,
Dengys hwn y ffordd i fyw;
Dengys hwn y golled erchyll,
Draw a gaed yn Eden drist;
Dengys hwn y ffordd i fywyd,
Drwy adnabod Iesu Grist."

« ForrigeFortsæt »