Billeder på siden
PDF
ePub

Peters, ar Matth. vi, 33; Mr. Eben- | Hywels, ar Ioan 18. 36: a Thomas ezer Richards, ar Can, vii. 13.

Nos fercher, Mr. J. Jones, Tremadoc ar 2 Cor. x. 4. 5; Mr. William Haverton, ar Ioan xvii. 4, 5,

Dydd iau, am 6, Mr. John Edwards, Berthen, ar Eph. i. 21. 22; Mr. Richard Davies, Caio, ar Phil. iv. 4. Am 10, Mr. William Roberts, Amlwch, ar Ioan vi. 37; Mr. Ebenezer Richards, ar Preg. viii. 14. Am 2, Mr. William Jones, Rhuddlan, ar Ps. xxxiv. 8; Mr. Morgan Howells, ar Heb. xii. 11. Am 6, Mr. Richard Jones. Bala, ar Iob xxiii. 13. 14. Mr. David Howells ar Diar. ix. 12.

Pregethwyd ar Heol y Dref i gynnulleidfa liosocach nag a welwyd yno o'r blaen a gallaf ddywedyd na bu perchen y gwaith, fel Duw yn ymguddio oddiwrthym. J. FOULKES.

CYMDEITHASFA ABERYSTWYTH,
Mai. 4 a 5, 1831.
Cyfarfod am 10 ar gloch y dydd
cyntaf, Mr. John Evans, Llwynffortyn,
Cymedrolwr.

Ymddiddanwyd a'r brodyr yn y Weinidogaeth am eu profiadau ys. prydol fel cristionogion, ac ansawdd eu golygiadau ar, a'u teimladau yn y gwaith mawr.

Sylwyd ychydig ar natur ac effeith. iau goruchwyliaeth yr Yspryd Glan ar eneidiau dynion. Yna sylwyd ar roddiad y genadwri gan yr Arglwydd, i'w wir weinidogion-natur y genadwri-y prawf goreu o dderbyniad y genadwri-ac hefyd yn mha bethau y mae llwydd y weinidogaeth yn gynwysedig.

Am

Richards, ar 1 Cor. 15. 24-29.
6, Morris Davies, ar Gen. 37. 11; a
William Haverton, ar Luc 18. 1.

Cafwyd tywydd da, a lluaws mawr o wrandawŷr; a'r Arglwydd yn llewyrchu ei wyneb. J. FOULKES.

0

HELYNTION YR AMSEROEDD.
Y SENEDD YMERODROL.

Tŷ yr Arglwyddi.-Dydd mercher Ebrill 20. Dyg Arglwydd Suffield agos i 500, ac Arglwydd Auckland 152 o Eirchion yn erbyn caeth wasanaeth. Daeth amryw Eirchion i mewn yn erbyn, ac o blaid y Diwygiad.

Dydd iau-Arglwydd Wharncliffe, (wedi i Iarll Gray wrthod rhoddi attebiad i'r Gofyniad ynghylch digorphoriad y Senedd) a roddodd rybudd, y byddai iddo ef, ddydd gwener, roi cynnygiad am anfon Cyfarchiad gostyngedig at ei Fawrhydi, i ddeisyfu arno ef, i beidio digorphori y Senedd.

Dywedodd Iarll Carnarvon ei fod ef o'r farn, am bwy bynag a gynghorai ei Fawrhydi, yn amgylchiadau presennol y wlad, i ddigorphori y Senedd, fod ganddo ben ynfytyn ar ei gorph, a chalon bradwr yn ei fynwes.

DIGORPHORIAD Y SENEDD. Dydd gwener Ebrill 22. Gan nad oedd y bwriad am ddigorphoriad y Senedd yn hysbys, yr oedd amryw o'r Arglwyddi heb fod yn eu gwisgoedd llaesion pan ddaeth Brenin i mewn i'r tŷ. Ỷ dydd hwn bu terfysg ac annhrefn mawr iawn yn y tŷ, cyn i'r Brenin ddyfod i mewn. Canys yn absennoldeb yr Arglwydd Ganghellwr, 2 ar gloch, pethau amgylchiadol. yr hwn oedd y pryd hyn yn nghym8 ar gloch yr ail dydd,-Ymddi- deithas y Brenin, ar gynnygiad Argddanwyd a 3 brawd ieuainc o'r Swydd lwydd Mansfield, galwyd Arglwydd hono,-1. Am eu profiadau ysprydol o Shaftsbury i'r gadair. Yna Arglwydd bethau yr Efengyl. 2. Eu golygiadau Wharncliffe a gyfododd i roddi ei yn egwyddorol ar gangenau yr ath-gynnygiad: cododd Duc Richmond i rawiaeth. 3. Eu cymelliadau at waith y weinidogaeth.

Cafwyd eu hatebion yn foddhaol: a derbyniwyd hwy i undeb y corph.

Y moddion cyhoeddus oeddynt fel y canlyn.

Nos fawrth, yn y Capel am 7, pregethodd y brodyr John Jones, Trefmadoc, ar Rhuf. 13. 11; a John Evans, Llwynffortyn, ar Rhuf. 8. 1.

Nos fercher, am 4, pregethodd John Jones, Trefmadoc, ar Salm 78. 5-7; a John Hughes, Bont, ar Rhuf. 8, 1.

Iau, am 6, John Foulkes, ar Heb. 3. 8; a David Hywelis, ar 1. Tim. 4. 8, Am 10, William Roberts, Amlwch, ar Ier. 13. 15, 16; a J. Evans, Llwynffortyn, ar Ioan 10.9. Am 2, Morgan

alw i drefn, ac a alwodd am gadw at rheol sefydledig, am i'r Arglwyddi ymgadw o fewn eu heisteddleoedd eu hunain; ei fod ef yn gweled Barwn yn eistedd yn eisteddle Iarll. Yna cyfododd Ardalydd Londonderry mewn cynddaredd ofnadwy, ac ymysg annhrefn a therfysg mawr iawn, a waeddodd allan mai Duc Richmond oedd yn euog o annhrefn. Arglwydd Lyndhurst a ddywedodd yr un peth. Wedi hyny sicrhaodd Duc Richmond mai efe oedd yn ei le. Cododd Arglwydd Londonderry drachefn, er fod cryn chwech o Arglwyddi yn tynu yn ei freichiau a'i ddillad i geisio ganddo eistedd i lawr, efe, er hyny, a fynodd gyfodi, ac efe a ymestynodd dros y

bwrdd, ac a ddyrchafodd ei lef gan waeddi mewn modd bygythiol megis pe buasai am daro Duc Richmond, "Pa beth, ai y Duc sydd i fod yn ben yn y tŷ hwn!" Yn y munud hwn, dyma yr Arglwydd Ganghellwr yn dyfod i mewn, ac yn eistedd yn ei le.

Dywedodd Arglwydd Mansfield, fod yn beth hollol anaddas, ac annhrefnus fod i'r Swyddogion i gynghori ei Fawrhydi i ddigorphori y Senedd yn y cyfryw amgylchiadau a'r rhai presennol.

Yr Arglwydd Ganghellwr, a attebodd, mewn llais uchel a gwrol, a chyda mawr egni, "Pa beth! ai anaddas yw i Frenin Lloegr i ymarfer â'i ragorfraint ddiddadl, o ddigorphori y Senedd, pan mae tŷ y Cyffredin, mewn modd na chlybuwyd y cyffelyb o'r blaen, wedi attal ei gynnorthwyon?" Gyda'r ymadrodd hwn rhoed bloedd orfoleddus gan bleidwyr y Swyddog. ion; a bloedd rwgnachlyd gan y rhai ag oedd yn eu herbyn hwynt.

Erbyn hyn, daeth y Brenin i ystafell y gwisgoedd, ac aeth Arglwydd Ganghellwr allan o'r tŷ. Pryd gynted ag yr aeth y Canghellwr allan, galwyd Arglwydd Shaftesbury dra. chefn i'r gadair, a hyny ynghanol y fath derfysg a chythrwfl na bu yn aml ei fath.

O'r diwedd rhoddodd Arglwydd Wharncliffe allan ei gynnygiad, ac efe a ddilynwyd gan Arglwydd Mansfield mewn araeth ffyrnig anghyffredinol, yr hon ni ddarfu hyd oni ddaeth y Brenin i fewn, ac eistedd o hono ar ei orseddfaingc.

ARAETH Y BRENIN. Eisteddodd ei Fawrhydi ar ei orsedd, gydag arafwch a hyfdra mawreddog, efe a ymgrymodd i'w Harglwyddi, ac a ddeisyfodd arnynt hwy thau hefyd eistedd i lawr. Ac wedi galw aelodau pennodol o dŷ y Cyffredin, cododd y Brenin ar ei draed, ac a draddododd yr Araeth wir frenhinol a ganlyn, mewn modd pwysig a grymus anghyffredinol.

"FY ARGLWYDDI A'M BONEDDIGION.

Myfi a ddaethum i'ch cyfarfod chwi i'r dyben o ohirio y Senedd hwn, mewn golygiad ar ei ddigorphori ef yn uniongyrchol.

[ocr errors]

ion diamheuol y Sefydliad gwladwriaethol, ac a dueddant ar yr un pryd i ddal i fynu hawl a rhagorfraint y Goron, ac hefyd i sicrhau rhyddid fy mhobl.

"Foneddigon o Dŷ y Cyffredin, yr wyf yn diolch i chwi am y parotoad a wnaethoch tuag gynnal anrhydedd ac urddas y Goron; ac yr wyf yn cyflwyno i chwi fy nghydnabyddiaeth neillduol am y trefniadau a wnaethoch yn amgylchiadau a chysuron fy ngwraig, y Frenhines.

Mae genyf ddiolch hefyd i chwi am y cynnorthwyon a barotoisoch at y gwasanaeth cyffredin, ac myfi a sylwais gyda boddlonrwydd eich bod chwi wedi ymgais i wneuthur y cynnildeb manylaf ymhob cangen o'r gwasanaeth hwnw, ac yr wyf yn gobeithio y bydd i'r Senedd newydd, yr hwn yn ddioed a baraf ei alw ynghyd, barhau yn eu sylw diball ar y matter pwysfawr hwnw.

"Fy Arglwyddi a'm Boneddigion, Mae yn hyfryd genyf hysbysu i chwi fod y cymmundeb heddychol sydd yn aros rhyngof fi a'r Galluoedd tramor yn rhoddi y sail gadarnaf o barhad Heddwch; i gadw pa un, fe gaiff fy ymdrech gwresocaf ei gyfeirio yn barhaus.

"Fy Arglwyddi a'm Boneddigion, Yn y penderfyniad o ddefnyddio moddion i gael hysbysrwydd o ewyllys fy mhobl yn amgylchiadau presennol y wlad, fe'm tueddwyd yn unig gan awydd tadol am foddlonrwydd a dedwyddwch fy neiliaid-i gynnyddu yr hyn, yr wyf yn hyderus ymddiried yn eich parhaus a'ch awyddus gynnorthwy,

Fy ewyllys i yw, a'r fod i'r Senedd hwn i gael ei ohirio i ddydd mawrth, y 10fed. o Mai."

Yr Arglwydd Ganhellwr a ail adroddodd y geiriau am y gohiriad, a'i Fawrhydi wedi hyny a aeth ymaith.

Pan oedd y Brenin yn myned trwy y dorf tua 'i Balas, bloeddiodd yr holl bobl a bloedd orfoleddus ac uchel, nes dadseiniodd y ddaear gan eu llef.

Ty y Cyffredin.-Dydd mercher Ebrill 20. Dygwyd i mewn amryw Eirchion o Preston, wedi eu llawarwyddo gan 4,500 o etholwyr, i ddymuno dangos fod eu barn hwy yn hollol wrthwyneb i gam-dystiolaeth Mr. Hunt yn ei araeth yn erbyn y Diwygiad yn y Senedd.

Fe'm tueddwyd i wneuthur hynyma i'r dyben o gael sicrwydd am ewyllys fy mhobl, yn y ffordd trwy yr hon v gellir yn fwyar cydymffurfiol a gwirioneddol ei ddatgan, ar y cyfaddas- Ymwrthodiad o'r Cynnygiad am Ddirwydd o wneuthur y cyfryw gyfnew-wygiad yn y Senedd. Dydd iau, gofynidiadau yn y cynnrychioliad ag y odd Syr R. H. Vyvian, pa beth a wneir byddo amgylchiadau yn gofyn, a'r o gyfraith y Diwygiad, pa un a oedd rhai a fyddont seiliedig ar egwyddor- Swyddogion y Brenin yn bwriadu

[ocr errors]

cynghori ei Fawrhydi i ddigorphori y | ddinas i'r Senedd newydd. Oherwydd
Senedd, ai peidio.
fod y ddau hyn o blaid y Diwygiad,
ni feiddiodd neb gynnyg un gwrth-
wynebiad iddynt. Dyma yr etholiad
mwyaf heddychol y mae neb yn ei
gofio yn Nghaer.

Canghellwr y Trysorlys a attebodd, nad oedd efe yn rhydd i roi atteb i ofyniad Syr R. H. Vyvian am ddigorphoriad y Senedd.

Yna, cyfododd dadl boethlyd a therfysglyd iawn ar yr achlysur, yr hon a barhaodd hyd agos i un ar gloch y boreu, pryd y gwnaeth Mr. W. Bankes gynnygiad am ohiriad y ddadl hyd drannoeth.

Canghellwr y Trysorlys a wrthwynebodd y gohiriad, trwy ddywedyd nad oedd Swyddogion y llywodraeth yn bwriadu son dim yn ychwaneg yn awr am y Diwygiad, ac am hyny ofer fyddai dadleu dim ychwaneg yn ei gylch, yr hyn a barodd ychwaneg o lawer o ddadleu poethlyd nag o'r blaen. Ar hyn rhanwyd y tŷ.

164

142

A chafwyd o blaid dadleu
Yn erbyn
Mwy yn erbyn y Swyddogion-22
Yna aethant adref chwarter wedi
un ar gloch y boreu.

|

Edinburgh.-Cynnaliwyd cyfarfod yn y ddinas hon, i'r dyben o gytuno am anfon cyfarchiad caredig at ein Grasusaf Frenin, i dalu diolchgarwch diffuant iddo am ddefnyddio ei ragorfraint oruchel a chyfiawn yn ei waith yn digorphori y Senedd diweddar, yr hyn a benderfynwyd o un llais, a chyda llawen floedd. Yr oedd yn y cyfarfod hwn, yr hwn a gadwyd mewn Capel, fil a phum cant o bobl.

POLAND.

Mae y Polandiaid yn parhau i wrthsefyll eu gelynion creulon a diarbed, y Rwssiaid. Dywedir fod y Rwssiaid yn hytrach yn ffyrnigo nag yn digaloni oherwydd eu bod yn colli y dydd; ac y mae y Polandiaid hwythau yn ymwroli yn anghyffredinol i'w herbyn hwynt. Bu amryw frwydrau gwaedlyd rhyngddynt er pan ysgrifenasom eu hanes y mis diweddaf, ac oll wedi troi o blaid y Polandiaid. Mae gan Poland gynnifer ag a fynont o arfau yn awr.

Mae yspryd gwrthryfel yn ymdaenu drwy amryw barthau o Rwssia, ac mae yn debygol fod hyny yn ffyrnigo y Rwssiaid yn fawr iawn, canys maent yn gweled na wiw rhoi i fynu, onite bydd yr Ymerodraeth yn bendramwnwgl.

Dydd Gwener Y Cadeirwr a eist-
eddodd yn ei le, a'r tŷ yn llawn iawn,
Syr R. H. Vyvian a areithiodd yn faith
yn erbyn y Diwygiad, ynghanol terfysgwyr
ac annhrefn mawr. Wedi hyny siar-
adodd Syr Robert Peel yn chwerw a
ffyrnig iawn yn erbyn Swyddogion y
Brenin am eu bod yn dal at geisio y
fath beth a'r Diwygiad hwn, ac am
eu bod mor ynfyd a chynghori ei
Fawrhydi i ddigorphori y Senedd.
Ac fel yr oedd efe yn parhau i areithio
dyma y Gynnau mawrion yn dechreu
saethu, yn arwydd dyfodiad y Brenin
i dŷ yr Arglwyddi. Efe a ddaliodd
atti hyd oni ddaeth Syr T. Tyrwhitt i
mewn, fel cenhadwr y Brenin i wahodd
aelodau y tŷ i ymddangos yn nhŷ yr
Arglwyddi i wrando araeth y Brenin,
yr hyn a roes ben ar y ddadl yn
ddioed.

Wedi hyny aeth y Cadeirwr yno
gydag amryw o'r aelodau. Wedi eu
dychwelyd, darllenodd y Cadeirwr yr
araeth yn nhŷ y Cyffredin, a thorwyd
y tŷ i fynu.

Y DIGORPHORIAD.
Dydd Sadwrn, dri ar gloch bryd
nawn, cadwyd Cyfrin Gynghor yn St.
James's, lle y llaw-arwyddodd y Bren-
in y cyhoeddiad am ddigorphoriad y
Senedd, ac yr appwyntiwyd fod y Sen-
edd newydd i ymgyfarfod ar y 14eg o

Mehefin.

Caerlleon.-Dewiswyd y Gwir anrhydeddus Robert Grosvenor, a Foster Cunliff Offley, Yow. yn aelodau dros y

PORTUGAL,

Yr

Mae Don Miguel, wedi gwneud peth sarhad i Loegr, ac wedi drygu rhai o ddeiliaid brenin y Ffrangcod. oedd Fraingc yn parotei Llynges, ac wedi anfon at Don Miguel, oni wnai efe y drwg yn dda, y gwnaent hwy o'r goreu ag ef cyn ychydig ddyddiau. Lloegr hithau hefyd a anfonodd yn y cyffelyb fodd, gan anfon atto ef amryw ofynion, y naill ynglyn a'r llall, gan ddywedyd, oni roddai efe attebiad boddhaol i'r rhai hyny, y byddai raid i Frydain yn ddioed ymosod yn ei erbyn ef. Pan welodd Don Miguel hyn, er mor gibddall ac anmhlygedig ydyw, efe a welodd yn dda ymddaros twng yn fawr i'r ddwy deyrnas hyn, a rhoi atteb boddlonawl i holl ofynion Brenin Brydain: felly ni fyrhawyd ei oes ef, hyd yn hyn, beth bynag.

RwSSIA, Mae y pla, a elwir Cholera morbus, yn lladd llawer iawn o filwyr Rwssia, heblaw y cleddyf gwaedlyd. Mae hwn hefyd, wedi cyrhaeddyd i blith rhai o filwyr Poland. Barn dost

yw y rhyfel, canys heblaw y dinystr | trwy dywallt gwaed, y mae rhyw bethau ofnadwy yn ei ddilyn, megis newyn, lludded, terfysg, annhrefn, ac afiechyd o amryw fath. O y fath ddi. luw o ddrygau a barnedigaethau a ddaeth i'r byd trwy bechod!

ITALI, Mae y dynion a gymmerwyd i fynu am wythryfel yn Itali, wedi eu cael yn euog, ac y mae brenin y Ffrangcod wedi anfon yno i ddymuno ar oruchwylwyr y llywodraeth i beidio bod yn galed wrthynt, ond arbed eu bywyd os oes modd yn y byd.

LLUNDAIN, Cyfarfu ynghylch 250 o Freinolion (Livery) dinas Llundain i giniawa ynghyd i'r dyben o ddatgan eu boddlonrwydd a'u gorfoledd oherwydd fod y pedwar o Aelodau y Senedd, dewisedig dros Lundain, oll yn bleidwyr dewr i'r Diwygiad yn y Senedd. George Grote, Ysw. yn y Gadair.

Y SENEDD NEWYDD,-Mae yr etholiadau (elections) am aelodau Tŷ y Cyffredin y Senedd Newydd yn myned ymlaen gyda brys mawr ymhob man. Mae yr aelodau dewisedig y tro hwn, agos i gyd oll, o blaid y Diwygiad yn y Senedd, fel y mae pob tebyg. olrwydd na fydd nemawr o wrthwy. nebu arno yn Nhŷ y Cyffredin, beth bynag,

welwyd a'r Gorph Ann Parry o Fryn
Mulan. Cymmeraf yr hyfdra i'ch
dwyn ar ddeall fy mod i yn y fan a'r
lle yn yr amser, a gwelais y Corph, er
fy mawr syndod; a gwelais un o dor-
wyr y Bedd i lawr yn teimlo ei gwy.
neb. Mae Gwraig hefyd yr hon a'i
gwelodd, yn byw o fewn 20 llath i'r
Bedd; heblaw y ddau dorrwr beddau;
ac amrywiol eraill, y rhai a gyd dys-
tiol
tiolaethwn, os rhaid, mai gwir digym-
mysg yw'r hanes a roddwyd. Os bydd
rhywun yn ewyllysio holi ymhellach,
galwant yn yr Ysgoldŷ efo eich ufudd
Wasanaethwr,
HENRY PARRY.
Llanrhaiadr, Ebrill 29, 1831.
+00

AMRYWIAETH,

Ffraingc-Fe fu ychwaneg o derfysgiadau bychain yn Ffraingc, ond yn awr maent wedi llonyddu. Mae Pen Swyddog y llywodraeth yn ddyn doeth, medrus, gwrol, ac awdurdodol iawn. Mae efe yn penderfynu mynu cadw heddwch cartrefol, trwy symud ymaith bob gwir achos grwgnachrwydd a therfysg, a thrwy wneud i'r bobl ymostwng yn heddychol i'r llywod raeth. Yr oedd mawr eisiau gwr o'r fath yma yn y wlad hono; a thyma'r dyn. Mae brenin y Ffrangcod hefyd, yn parotoi i gychwyn taith trwy amrywiol barthau ei deyrnas, i holi ac ymofyn a oes etto unrhyw fath o cyff-ddeiliaid mewn un man, i'r dyben o ormes, gorthrymder, neu wasgfa ar ei esmwythau y cyfryw bethau gofidus hyd eithaf ei allu.

AGERDD-GERBYDAU.-Mae Agerdd Gerbydau (Steam Carriages) yn dechreu cael eu defnyddio ar ffyrdd redin, yn enwedigol ar ffordd wastad. Mae un yn rhedeg yn gysson rhwng Glocester a Cheltenham, yn Lloegr. Cyn i'r Cerbyd hwn gychwyn yr oedd traul cludiad gwr o'r naill dref i'r llall yn 4s. ond yn awr, nid yw ond 1s. Mae yr Agerdd-gerbyd yn rhedeg o'r naill dref i'r llall mewn 50 manud, ac yn cludo 33 o deithwyr ar unwaith,

HAELIONI.-Hyfryd iawn genym adrodd gweithredoedd elusengar ein cyd. wladwyr tuag at eu cymmydogion clwyfus a thlodion. Fe ddarfu i'r caredig a'r haelionus Wilson Jones, ysw. o Gelligynan yn Llanarmon, Siri swydd Dinbych, cyn y Sessiwn ddiweddar, ofyn i'r boneddigion oedd a'r fedr ei gyfarfod yn Rhuthin, i dalu bob un am eu ciniaw, fel y caffai yntau roddi, yn lle y gost, £50 i Feddygdŷ (Dispensary) Dinbych: ac â hyn cytunasant yn unfryd.-R. Llwyd.

CORPH ANN PARRY BRYN MULAN. Syr-Yn gymmaint a bod rhai o ddarllenwyr eich Trysorfa, mewn ffordd o wawd, yn dibrisio yr hanes a anfonwyd i chwi gan Mr. John Wynne, yn Rhif 3, tu dalen 74, am yr olwg a

Mae ei ddeiliaid

yn hynod o hoff' o'u brenin.

Brydain fawr. Mae yn debygol na bu deiliaid erioed yn fwy hoff o'u brenin nag ydyw deiliaid ein Grasusaf a'n Heddychol Frenin ni, ei Fawrhydi William IV. Mae pob ymddygiad o'i eiddo er pan ddaeth efe i'r Goron, yn ychwanegu iddo gariad, diolchgarweh ac ufudd-dod diffuant ei ddeiliaid. "Duw gadwo'r Brenin," yw gweddi pob Cristion diffuant.

Terfysg yn yr Iwerddon, Mae Ardalydd Mon, Anrhydedus Arglwydd Rhaglaw yr Iwerddon, ynghyd a'r Cyfrin-gynghor, wedi cyhoeddi fod gwlad Clare; Breyriaethau (Baronies) Leitrim, Louchrea, Athenry, Clonmacowen, Longford, Killconnell, Killyan, Ballimoe, a Kiltarton, yngwlad Galway; Breyriaethau Moycarno, ac Athlone, yn ngwlad Rosscommon; a Breyriaethau Ormond uchaf, ac Ormond isaf, yngwlad Tipperary, mewn sefyllfa o derfysg, ac felly yn galw am rym anghyffredinol nifer o swyddwyr gwladol i gadw trefn yn eu plith.

[graphic][graphic][merged small][merged small][subsumed][subsumed][subsumed]
« ForrigeFortsæt »