Billeder på siden
PDF
ePub

DEDDFAU CREULAWN YN MHLITH Y CAFFRARIAID.
Rhan o Lythyr oddi wrth J. H. TREDGOLD, Ysw.-Ionawr 13, 1835.

"YN yr amrywiol orsafoedd Cenadawl y cefais i gyfle i ymweled â hwynt yn Caffraria, yr oedd yn amlwg fod effaith distaw ond gorchfygol gwirionedd yr Efengyl yn gwaredu llawer o'r trigolion, yn y wlad brydferth hono, oddi wrth arglwyddiaeth ofer-goelion deiilion a chreulawn. Yr oedd eu cred mewn rheibiaeth yn ymollwng yn amlwg mewn amryw amgylchiadau; a lle mae arteithiau yn cael eu rhoddi ar ddynion a gyhuddir o'r beïau dychymygol hyny, mae teimlad o gywilydd yn cael ei ddangos, ac ymgais yn cael ei wneyd yn aml, i gadw eu gweithrediadau ar y cyfryw achlysuron oddi wrth wybodaeth y Cenadwr. Rhoes un o'r Cenadwyr i mi yr hanes a ganlyn o olygfa ddychrynllyd o'r fath a soniwyd, yr hon a welodd efe ychydig amser cyn i ni ddyfod i wlad Caffraria. Mewn pentref (kraal) ychydig bellder o'i breswylfa ef, yr oedd dau blentyn wedi meirw ar ol salwch byr ond cyffredin; ond tybid iddynt gael eu lladd trwy reibiaeth. Chwiliwyd i'r mater yn y modd arferol, trwy gyflawni rhyw ddefodau pennodol; a phenderfynodd swynwraig Gaffrariaidd mai ewythr i'r plant (dyn o tua 40 oed) a'u lladdodd hwy trwy reibiaeth; ac yn y fàn cafodd ei ddal, ei rwymo, a'i guro yn ddidrugaredd. Wedi hyny taflwyd ef ar y ddaear, a rhwym wyd ef â chàreïau o amgylch ei figyrnau, ei arddyrnau, a'i wddf; a chwedi estyn ei aelodau, ac â'i wyneb i fynu, sicrâwyd ef wrth y ddaear, gan ei osod yn agored i belydr angerddol haul llosgedig. Gwnaed tân deifiawl wrth ei draed ef, a rhoddid cèrig mawrion wedi eu poethi ynddo wrth amrywiol ranau o'i gorph ef. Yn yr agwedd hon y cafwyd ef pan ddaeth y Cenadwr daionus i'r lle; yr hwn, can gynted ag y clywodd, a neidiodd ar ei farch, ac a garlàmodd i'r fàn, gan obeithio eiriol gyda'r dyrfa gynnulledig, a chael lleiâu peth ar arteithiau y creadur poenedig; ond ni bu ei erfyniadau ef o ddim llesâd. Chwanegwyd arteithiau y dyoddefydd digymmorth trwy dywallt ar hyd ei gorph ef nythaid o forgrug duon mawrion, cnöadau pa rai a deimlir yn ddychrynllyd o boenus; a phan nesâodd y Cenadwr, trwy gymhelliad teimladau o dosturi, i'w tarfu hwynt ymaith, gorchymynwyd iddo yn haerllug na wnelai, ac nad ymyrai ddim yn chwaneg. Parâwyd yr arteithiau ofnadwy hyn o'r boreu yn gynnar hyd yn agos i ostwng haul yn yr hwyr; pryd y rhyddâwyd y dyn truenus, ac y caniatâwyd iddo ymlusgo ymaith gyda'r gweddill bychan o fywyd oedd ganddo; ond

rhyddawyd ef o'i boenau gan angau ddau ddiwrnod wedi hynny.

1

"Y troion dychrynllyd hyn o greulondeb ofer-goelus, nid ydynt mewn un modd yn anfynych yn y wlad hòno: yr oedd y crëadur tlawd hwn, fel mae yn hawdd meddwl, yn hollawl ddïeuog o'r bai a roddid yn ei erbyn; ond mae y pethau hyn, yn nghyd â llawer o'u cyffelyb, yn peri i ni gredu gwirionedd tystiolaeth yr Ysgrythyr, fod" tywyll-leoedd y ddaear yn llawn o drigfanau trawsder." Ac onid yw amgylchiadau o'r fath hyn yn galw yn uchel iawn am ymdrechiadau egnïol, amynedd diflino, a gweddiau dibaid eglwysi a dynion Cristionogol, o blaid taeniad goleu bendigedig yr Efengyl yn mhlith y bobl hyn, i'w gwared hynt o'u tywyllwch a'u hudoliaethau paganaidd a chenedlig; y rhai, oddigerth hynny, ydynt ddynion nodedig a hoff."

Mewn rhan arall o'i lythyr, mae y Boneddig uchod yn sylwi fel y canlyn ar Gynnydd Dysgeidiaeth.

"Mae yr ysgolion yn yr holl orsafoedd a grybwyllwyd mewn agwedd galonogus iawn, a llawer o fechgyn a merched yn dyfod iddynt, amryw o ba rai sydd yn cynnyddu yn rhagorol mewn darllen, ysgrifenu, a rhifyddiaeth; ac mae y maeth-leoedd bychain hynny o rinwedd mabanawl, duwioldeb, a dedwyddwch, 'yr ysgolion mabanaidd,' y rhai a sefydlwyd yn yr holl orsafoedd, a llawer iawn yn dyfod iddynt, ac yn debyg o fod o les mawr a helaeth. Trwy offerynoldeb y sefydliadau gwerthfawr hyn, mae yr ysgolheigion bychain, yn lle gwastraffu eu dyddiau boreuol mewn arferion segurllyd a drygionus, yn derbyn i mewn, gyda eu haddysg, hadau egwyddorion moesol a chrefyddol; ac yn gyffredin dangosant radd o ddeall a dedwyddwch, ag sydd o angenrheidrwydd yn llawenydd ac yn syndod, i'r rhai hyny a gânt gyfle i ymweled â'r ysgolion hyn, a gweled y cynnydd sy ar y plant dan y drefn odiaethol hon o addysg."

Cofiwn mai nid oddi wrth neb o'r Cenadon eu hunain y daeth yr hanes uchod, eithr oddi wrth wr boneddig crefyddol nad oedd yn perthyn dim i'r Genadaeth, yn amgen na bod yn ewyllysiwr da i'r gwaith, ac i les ysbrydol y paganiaid. Buasai yn dda genym gyfieithu ei lythyr oll; ond ni oddef terfynau y papyryn hwn i wneud felly. Gosoder Blwch Cenadol yn mhob ty, yn enwedig yn mhob ty mawr a chyfoethog, trwy Gymru ; a dan foner eu cynnwysiadau oll bob blwyddyn, i'r Ty Cenadol yn Llundain.

Argraffedig gan W. Tyler, Llundain.

rhyngwyf a gogoniant, dim ond gorwedd i lawr ar y boncyff yma, ac myfi a gaf esgyn ar orseddfaingc. Yr wyf fi y dydd hwn yn hwylio tu ag eigion tragwyddoldeb, trwy fynedfa arw i fy ngorphwysfa.

cyfrif o ei fod yn cyfodi terfysg. O herwydd achos gwladol yr honnant fod fy mywyd innau yn cael ei gymeryd ymaith, er ei fod am i mi ddilyn fy ammod, ac na chamddefnyddiwn fy egwyddorion na fy nghydwybod, o uchelYr wyf yn meddwl fy mod yn gais a thrachwant dynion. Gwell clywed Duw yn dywedyd wrthyf, genyf farw yn geidwad cyfamfel wrth Moses gynt, "dos i ben mod, na byw yn dorwr cyfamNebo, a bydd farw yno;' felly mod. Garedigion, yr wyf fi y wrthyf finnau, "dos i ben bryn y dydd hwn yn gwneud cyfnewid tŵr, a bydd farw yno." Dywed- deublyg, newid pulpit, am daflod, odd Isaac am dano ei hun, "Ei (stage,) taflod am orseddfaingc ! fod yn hen, ac na wyddai ddydd Gallaf ychwanegu y trydydd, yr ei farwolaeth;" ond ni allaf fi wyf yn newid presenoldeb y dyrddweud felly, yr ydwyf fi yn fa liosog hon ar y Tower hill, am ieuangc, a gwn ddydd fy marwol-gymdeithas afrifed o saint ac aeth ac myfi a wn pa fath far-angelion yn y nef, bryn sanctaidd wolaeth, a lle fy marwolaeth Sion; ac yn newid gwiliadwriaeth hefyd fe'm rhoddir i i'r unrhyw o sawdwyr, am wiliadwriaeth o farwolaeth ag y rhoddwyd dau o angelion, y rhai a'm derbyniant, bregethwyr yr Efengyl o'm blaen, ac am dygant i fynwes Abraham. sef Ioan fedyddiwr, a'r Apostol Y daflod hon yw y pulpit goreu y Paul. Hwy a gawsant ill dau pregethais ynddo erioed. Yn fy dorri eu penau. eglwys-areithfa, Duw trwy ei ras, a'm gwnaeth yn offeryn i ddwyn ereill i'r nef; ond o'r areithfa hon, efe a'm dwg i fy hun i'r nef.

Darllenais yn Datguddiad xx. 4," y rhai y torrwyd ei penau am air Duw, a thystiolaeth Iesu;" ond dyma yr anghyfleustra yr wyf fi yn gorwedd dano yn meddyliau llawer; y maent yn barnu nad wyf yn dioddef am "air Duw," neu dros gydwybod, ond am ymyraeth âg achosion gwladol. I hyn yr attebaf yn fyr, mai hen ystryw satan ydyw, cyfrif achos dyoddefiadau pobl Dduw i ddyfeisiadau yn erbyn y llywodraeth, pan mewn gwirionedd, mai o achos crefydd, a chydwybod eu herlidir. Athrawon Israel a fyn. ent roddi Teremia i farwolaeth am achos gwladol, er yn wir mai gwirionedd a'u gwnaethant yn ddigllon wrtho; etto am achos gwledig yr ymhonnent y byddai raid iddo farw. Yr un peth a osodir yn fy erbyn innau, o yr hyn yr wyf mor wirion a Ieremia. Felly Paul, er na wnaeth ond pregethu Crist, etto ei elynion a fynnent ei roddi i farwolaeth, ar y

Wedi byny efe a ddywedodd, er nad yw fy ngwaed yn waed pendefig, etto y mae yn waed cristion, ac yn waed gweinidog, ïe mwy, y mae yn waed gwirion.

Yr wyf yn mawrygu trugaredd a gras

Duw tu ag attaf fi, yr hwn a anwyd yn Nghymru, mewn gwlad dywell, ac o rieni iselradd, am fy mod yn cael fy nidoli allan i y fath ddioddefiadau anrhydeddus. Canys dros y 14eg o flynyddoedd cyntaf o fy oes, ni chlywais un amser bregethu ; etto yn y 15ed flwyddyn fe welodd Duw yn dda fy nychwelyd. Bendigedig fyddo Duw, yr hwn (nid yn unig a'm gwnaeth yn gristion, ond hefyd) a'm gwnaeth yn weinidog, gan fy marnu yn ffyddlon, gan fy rhoddi yn y weinidogaeth ; yr hyn yw fy ngogoniant. Gwell genyf fod yn bregethwr mewn pulpit, na bod yn dywysog ar

orseddfaingc. Gwell fyddai gen- | greaduriaid ereill, neu y cyfan

yf fod yn offeryn i ddwyn eneidiau i'r nef, na bod i'r holl genhedloedd ddwyn teyrnged i mi. Bum gynt dan ysbryd caethiwed, ie rai gweithiau bu arnaf fwy o ofn tynu dant, nag sydd arnaf heddyw o ofn torri fy mhen!! Pan oedd arnaf of nid oedd

angau yn agos: ond pan yw angau yn agos, nid oes arnaf ofn!

Y mae hyny yn gysur i mi, er i ddynion fy lladd, na allant fy nghau o'r nef: pan y collwyf fy nghwaed, yr ydwyf yn disgwyl tystiolaeth lawn o faddeuant fy mhechodau trwy waed Crist. Yr wyf fi yn myned i fy hir gartref, a chwithau i eich byr gartref; ond mi a fyddaf adref o'ch blaen chwi. Yna efe a weddiodd â llais uchel, ac a g'ododd, yna gogwyddodd ar y boncyff, a chymerwyd ymaith ei ben. J. F.

Talfyriad o Lythyr y diweddar barch. T. Charles, A. B. at Miss Jones, o'r Bala, gwedi hyny Mrs. Charles, dyddiedig Mawrth laf, 1780, yn cynnwys rhai sylwadau ar gariad brawdol, a rhai meddyliau buddiol ymherthynas i ofn marwolaeth."

Mae Duw megys gwedi ymwasgaru trwy ei holl greaduriaid; a phan y byddom yn ei fwynhau Ef yn ei greaduriaid, maent yna yn ateb y dyben i ni er pa un y crewyd hwynt.Felly mae cariad at Dduw ac at ei greaduriaid nid yn unig yn gyson â'u gilydd, ond hefyd yn anwahanol gysylltiedig. O achos hyn y rhoddir cymaint pwys yn yr ysgrythyr ar y ddyledswydd o garu gwir ddysgyblion Iesu Grist, ein brodyr Cristionogol. Mae Duw gwedi rhoddi uwch a rhyfeddach anrhydedd, ac anfeidrol fwy gwerth, ar un gwir gredadyn, pa mor wael a dirmygedig bynag yngolwg y byd, nag ar un o'i

hwn

o honynt, pe eu rhoddid ynghyd. Ac amlygir perffeithiadau Duw yn fwy ardderchog ynddo nag yn ei holl weithredoedd ereill. Gan hyny pa fodd y dichon neb ag sydd yn caru Duw, gasâu yr sydd mor anwyl annhraethadwy gan Dduw, ac yn yr hwn y mae cymaint o Dduw i'w weled? Nid oes modd. Gan i Dduw garu ei blant yma mewn llwch a lludw, â ganddo tuag at ei holl greadurchariad rhagorach na'r hwn sy aid ereill, (cariad mor dra rhyfeddol nes y mae ein crediniaeth yn synu wrth ei fawredd,) mewn cyffelyb fodd mae y naill Gristion yn caru y llall. Mae yn ei garu yn nesaf at yr Hollalluog. O achos hyn, fel ag yr ydych chwi yn sylwi, "Cyfeillach Gristionogol yw yr oreu gyda pha un y dymunwn ddechreu,'' er nad yr unig un a ewyllysiwn i ei gwybod; ond cyfeillach nad yw mewn un modd yn wrthwynebol iddi, ond yn sylfaenedig arni. Am hyny, bid sicr i chwi, pe byddai holl berffeithiadau eich rhyw yn gyfunedig ynoch, a golud yr Ind yn eich meddiant, os na byddai genyf sail i gredu eich bod yn blentyn mabwysiedig i'n Tad nefol, gobeithiaf, trwy gymhorth gras Duw, na byddai i mi byth chwennychu llunio unrhyw gyfathrach â chwi. Ond mae genyf sail, a phob sail, i gredu mai dyma eich cyflwr dedwydd chwi. Gan hyny mae fy nymuniad diffuant a'm gweddi ar Dduw mai llwyddo a wnelwyf.

Yr ydwyf yn cydymdeimlo yn ddwys â chwi wrth glywed genych bod meddyliau am farw yn ddychrynllyd i chwi. Bu felly gyda minnau am lawer o flynyddoedd tristion. Ond trwy helaethrwydd daioni fy Nhad nefol, nid yw felly yn gyffredin gyda mi yn bresennol. Yr ysgrythyr hono, 1 Cor. xv. 25, 26, a

anwyl, y Parch. Josiah Hughes, gan hyderu yn gryf y bydd yn ddywenydd mawr i lawer o'ch darllenwyr gael clywed oddiwrtho. Y mae y llythyrau wedi eu dyddio yn Bombay, Hydref, 1830.-Yr eiddoch, &c.

Liverpool, Ebrill 20, 1831,

MINIMUS.

Diammheu genyf eich bod yn awyddus i glywed am fy nyfodiad i'r lle y'm pennodwyd iddo; ond gwelwch fod fy nhaith wedi ei gohirio yn llawer hwy nag y dysgwyliais. Cyrhaeddasom Bombay ar yr ail o Fedi, ar ol mordaith hir ond llwyddiannus. Ni chawsom gymaint ag un awel gref o wynt, hyd yn nod pan yn troi o gylch y Penrhyn (Cape) yr hyn fel y sylwodd ein llywydd Cadben Cowen, oedd yn dra hynod, yn enwedig gan ei bod yn ddyfnder gauaf yn y rhan hono o'r byd. Yr oedd y llong yn mha un yr hwyliem yn gollwng llawer o ddwfr, a gorfu ar y dwylaw fod wrth y sugn-bibellau(pumps) bob pedair awr, yr hyn oedd yn gwneuthur ein sefyllfa yn dra annymunol. Mor ddaionus y gofalodd ein Tad nefol am danom! Onid ellir priodoli hyny i'r gweddiau lliosog a offrymwyd gan ein cyfeillion caruaidd am ein gwaredigaeth, i'r Hwn sydd yn llywodraethu ymchwydd y môr, ac yn tawelu y gwyntoedd cedyrn.

fendithiwyd mewn modd neilltuol i mi er symud ymaith yr holl feddyliau trallodus a phryderus ymherthynas i angau, y rhai hyd y pryd hwnw a'm difeddiannent o bob cysur parhaol. Ystyrir angau yno, fel gelyn i Grist yn fwy nag i ni. A rhaid yw iddo Ef deyrnasu hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed; ac er mai angau fydd y gelyn diweddaf, eto rhaid fydd ei ddinystrio yn tau. Gwelais na feddwn i ddim i'w wneuthur ond mwynhau y fuddugoliaeth: mae Crist gwedi ymrwymo i orchfygu. Braich Hollalluogrwydd a enilla y fuddugoliaeth; a chawn ninnau, cyn y byddo hir, ddwyn y palmwydd yn ein dwylaw fel arwydd o honi. Hyd oni ddelo yr amser dedwydd hwnw, bydded ein gofal a'n hastudrwydd gwastadol ar fyw yn ofn, ac er gogoniant yr Hwn a'n carodd fel hyn, ac a faeddodd trosom ein gelynion cryfion. O! mae yn hyfryd, mae yn gysurus, edrych ar Grist ar faes y frwydr, yn dwyn y credadyn gwan ar ei ysgwyddau, trwy ganol llengau cyfain o elynion uffernol, i drigfanau gwynfydedig tŷ ei Dad. Ni chollir un o honynt. Mae ei Dad Ef a'n Tad ninnau yn fwy na phawb; ac nis gall neb ddwyn cymaint ag un o'i ddefaid o'i law Ef. O y fath Iachawdwr! Oy fath iachawdwriaeth a ddarparodd Duw erom ni! Oni foliannwn ni Ef? Gwnawn, Gobeithiaf y Bu fy iechyd ar y cyfan yn bur cewch chwi a minnau uno ein dda ar hyd yr holl fordaith, caniadau, trwy yspaid annherfyn-oddieithr rhai ymosodiadau ar ol tragywyddoldeb, i glodfori amserau, o'r dolur rhydd, pan yn Duw a'r Oen. Dyna y cwbl a hwylio rhwng y trofanau. allwn ei roddi iddo am ei dostur- oedd fy nghyd-deithwyr yn hyniaethau rhyfeddol. T. C. od o garedig tuag ataf; ac i un Cadben Gordon, teimlwyf yn dra Barchedig Gyfaill.-Cymerwyf rhwymedig, am ei ddyfalwch yr hyfder o anfon i chwi grynoad caredigol a dibaid.-Byddai yn cyfieithiedig o ddau lythyr a arferol o ddarllen gweddiau Egdderbyniwyd yr wythnos ddi-lwys Loegr, yn y gwasanaeth weddaf oddiwrth ein cydgyfaill dwyfol, a gweithredai Cadben

་་

Yr

Cowen fel clochydd, ac yna | swyddogion milwraidd, ac Europbyddwn inau yn pregethu.

eaid cyfrifol ereill yn bresennol.

Hawdd i chwi feddwl fod de- Y mae agos i bum wythnos er fodau ac arferion dwyreiniol ac pan ddaethum i Bombay, yn yr ymddangosiad y trigolion brod- hwn amser y llettyais gyda'r orol, yn olygfeydd tra hynod i Parch. Mr. Wilson, o Gymdeithas ddieithr-ddyn, ac sydd wedi cyn- Genadol Scotland. Y mae efe nefino â dull hollol wahanol o a'i wraig yn bobl dra rhinweddol, fyw. Y mai y radd isaf o'r brod- ac yn llwyr ymroddgar i'w gwaith. orion agos yn noethion; ond yr Y mae ganddynt 14 o ysgolion o uwchraddau a wisgant wisg o dan eu golygiad, yn cynnwys tua galico gwyn, yn debyg mewn llun 400 o blant. Ymwelais âg ama maintioli i gôb (Surtout). Y ryw o'r ysgolion hyn, gyda Mr. golygfeydd o amgylch yr ynys Wilson, a llonwyd fi yn fawr ydynt dra heirdd,ac effeithiant yn wrth weled cynnydd yr ysgoleighyfrydol ar feddwl myfyrgar. Y ion mewn gwybodaeth gristionogmae yma ddwy Eglwys; yn un ol. Mae yr ofergoeledd ac sydd o ba rai y cynnelir y gwasanaeth yn llywodraethu yma yn mysg y yn ol trefn Eglwys Loegr, a'r llall brodorion, yn anghredadwy bron. yn ol trefn Eglwys Scotland: y Aethum gyda Mr. Wilson un mae yma gapel hefyd yn perthynu prydnawn i le a alwant Moom bee i'r Cenadon Americanaidd, lle y devee, He y mae amryw o ddïofpregethir yn yr iaith Saesonig. rydyddion, a themlau Hindooaidd. Pregethais yno ddwy nos Sab- Gwelsom un o'r diofrydwŷr hyn both. Sefydlwyd y genadaeth yn gorwedd ar ei hyd ar y llawr, hon gan Meistri Newell a Hall, yn noeth, ac yn ymdroi mewn dau o'r Cenadon cyntaf oAmerica, Iludw a gaed oddiar bentwr o y rhai sydd wedi gorphen eu goed a losgai yn ei ymyl. Wrth gyrfa, ac yn awr yn etifeddu yr fyned yn mlaen gwelsom un arall, addewidion. Llonwyd fi yn fawr yr hwn a ymddangosai yn wrthwrth weled ail wraig Mr. Newell, ddrych mwy truenus. Anffurfiwyd oblegyd Harriet, i'r hon yr oedd ei wynebpryd yn fawr â phaent yn gyfeilles neillduol. Yn nghof- a lludw: ei gorff a wisgwyd ymiant Harriet, gwelir dau lythyr aith i ysgerbwd bron, ac un o'i at M. J. Newbury, yr hon, wedi ddwylaw oedd agos a gwywo. marwolaeth Harriet, a briodwyd Goddefwyd i ewinau y law hon â Mr. Newell. Y mae hi yn awr dyfu yn chwe modfedd o hyd, ac yn wraig i Mr. Garret, yr hwn ar y rhai hyn y daliai blodeulestr. sydd yn golygu Argraffwasg y Perchir ef yn fawr gan y brodorGenadaeth Americanaidd. Enw-ion, a llawer o'r cyfoethogion a au y Cenadon ydynt Stone ac roddant anrhegion iddo, trwy yr Allen; eu gwragedd ydynt dra hyn y barnant y gwnant iawn rhinweddol, ac yn ymroddgar i'w am eu pechodau. Gofynodd Mr. gwaith. Y mae yma ferch ieuanc Wilson iddo paham y dyoddefai hefyd, yn golygu yr ysgolion y cyfryw benyd? ac atebai yntau benywaidd. ei fod yn peri llawenydd i'w galon. Y creadur twylledig! y mae yn meddwl ei fod, trwy y cyfryw benyd, wedi gwneyd iawn digonol am ei bechodau ei hun, ac y bydd yr un effeithiau i bawb a roddant anrhegion iddo. Wedi troi oddi

Pregethais hefyd ddau Sabboth yn olynol yn Addoldŷ Dr. Robison, Bungalow i'r milwŷr saesonig ac sydd wedi eu sefydlu yno. Cefais gynnulleidfa luosog a syml bob tro; yr oedd amryw o'r

« ForrigeFortsæt »