Billeder på siden
PDF
ePub

Ychydig ystyriaethau am Angau.

ti

oes ond ychydig o Ddeiliaid ein Hys golion yn meddiannu y Llyfr rhagorol Gellir galw Angau yn Anghen-hwn a gyfansoddwyd gan Flaenoriaid fil, a genhedlwyd gan bechody Corff. Cymerais ofal mawr rhag Dinystrydd, a ddaeth i'r byd trwy gwneuthur dim cam âg ef; ac wele anufudd-dod - Llysieuyn gwenyn cyflwyno y cynllun hwn at eich wynig, a dyfodd yn nhir y cwymp roddi yn eich Trysorfa werthfawr. Ac gwasanaeth, (os bernwch yn addas), i -Ffrwd ddinystriol, a lifodd o i barâau os byddwch yn dewis, trwy ddyfnfor llygredigaeth. ganiatâad y Gymdeithasfa neu Gynddrychiolwyr yr achos. J. W. J.

Marw sydd amgylchiad pob oes, gwlad, cenedl, sefyllfa, ac oed. Sicr i bawb, agos at bawb, anhysbys i bawb, effeithiol ar bawb.

Yr enwau rhyfedd arno yn y Bibl ydynt, Myned i ffordd yr holl ddaear-rhodio llwybr ar -hyd yr hwn ni ddychwelir-ymadael-dattod-huno, &c. Rhodio di droi yn ol ydyw: dattod hollol, ymadael llwyr, huno hir. Ië, gellir ei alw câs elyn naturgorthrymwr teimladau-ysgarwr perthynasau-rhwygwr undebdiweddwr amser-a a phorth tragywyddoldeb. Cerbyd-was y saint, a swyddog-carchar y rhai annuwiol.

Angenrheidiol mewn bywyd -yw ei gredu, ei gofio, a'i ystyried -troi pob golygfa, cyflawniad, a mwynhad, yn gymwysiadol at yr amgylchiad olaf hwn.

Defnyddio ein bywyd a'i holl fanteision i ddarparu at ein marw, a'i ganlyniadau diddiwedd-cymod å Duw, fel y caffom angau yn gymwynaswr · undeb â Mab Duw, cyn ein dattod yn angau"myned trwodd o farwolaeth i fywyd," cyn ein myned trwy borth tragywyddoldeb gweithio yn ddifefl yn ngwinllan Crist y prydnawn byr sydd genym, cyn dyfod y nôs hono i'n cludo i'r beddau !

Ein hymofyniad penaf fyddo, "Am yr iachawdwriaeth a fydd byth, a'r cyfiawnder ni dderfydd."

J. F.

Hybarch Olygydd, Cefais fy nhueddu i All-eirio Cyffes y Ffydd, yn y modd hyn, mewn ffordd o Holiad ac Ateb, er mwyn bûdd i'r Ysgolion Sabbothol ein gwlad, o herwydd nad

Pen-y-Park.

AM ARFAETH DUW. Hol-wyddoreg o Gyffes y Ffydd. GOF. Pa fodd yr arfaethodd Duw? ATTEB. Yn of cyngor ei Ewyllys ei hun, Ephes. 1. 11.

G. Pa bryd yr arfaethodd Duw? A. Er tragywyddoldeb, Act. 15. 18. G. Pa bethau a arfaethodd Duw? A. Efe a arfaethodd bob peth a wnai mewn amser ac i dragywyddoldeb, Esay. 14. 24. 27.

G. A arfaethodd ef bob peth mewn creadigaeth?

A. Do, Sal. 148. 5. G. A arfaethodd ef bob peth mewn llywodraethiad ei greaduriaid? A. Do, Sal. 148. 6. Iob 38. 10. 11. Dan. 4. 35. Act. 17, 26. Iob 14. 5. Diar. 8. 29. Ier. 5. 22. Deut. 32. 8.

G. A arfaethodd ef bob peth (yn neilltuol) yn Iachawdwriaeth ei bobl? A. Do, Ephes. 1. 11. Act. 4. 28Math. 10. 29. 30.

lywodraethu pob peth?

G. Pa fodd y mae Duw yn goruwch

A. Mae yn llywodraethu pob peth yn berffaith, yn y fath fodd fel nad yw yn awdwr pechod; nac yn treisio ewyllys y creadur yn y cyflawniad

o'i arfaeth, Sal. 146. 17.

G. A ydyw arfaeth Duw yn ymddibynu ar ddim mewn creadur?

A. Nac ydyw, Math. 11. 26. Es. 46. 10. Ier. 18. 4. 16. Rhuf. 9. 19—21.

bynu ar ei rag-wybodaeth ei hun? G. A ydyw arfaeth Duw yn ymddi

A. Nac ydyw ; ond yn hytrach gwyr Duw y bydd y cyfryw bethau, am iddo ef arfaethu eu bod felly, Ephes. 1. 9.

G. Pa fath yw arfaeth Duw?

A. (1) Y mae yn arfaeth anfeidrol ddoeth, Rhuf. 11. 33. (2) Arfaeth berffaith gyfiawn, Ps. 145. 7. (3) Arfaeth dragywyddol, Eph. 3. 11. (4) Arfaeth rydd, Rhuf. 9, 15. 16. (5) Arfaeth ëang, Eph. 1. 11. (6) Arfaeth rasol, 2 Tim. 1. 9. (7) Arfaeth ddirgelaidd, Deut. 29. 29. (8) Arfaeth sanctaidd, Eph. 1..4. (9) Arfaeth dda, Rhuf. 8. 28. (10) Arfaeth annghyfnewidiol, Rhuf. 8. 29, 30. a 9. 11. (11) Arfaeth effeithiol, Iob 23. 13. 14. Es. 46. 10.

HANESIAETH CENHADOL, &c.

MOR Y DE.-EIMEO. Talfyriad o Lythyr oddiwrth y Parch. J. M. Ormond, a ddyddiwyd Griffin Town, Ionawr 13, 1830, cyfeiriedig at Olygwyr y Gymdeithas Genhadol,

Yn y flwyddyn ddiweddaf ychwanegwyd at yr eglwys yma agos i ugain o rai a fuont yn fwyaf diffaith o'r rhai diffeithiaf yn y lle. Ac ni chawsom achos i fwrw allan na cheryddu gymmaint ag un o honynt. Hyd yma ni chafwyd cynnifer ag un wedi ei ddyrysu â gau athrawiaeth yn ein mysg ; a'r rhai a anfonwyd yma o Bunauia a Papeete, trwy law yr hyn wyf fi yn ystyried yn erledigaeth, oherwydd eu hathrawiaeth gyfeiliornus, a ddychwelwyd yn ol o gyfeiliorni eu ffyrdd, bob un, ac a ymunasant â ni fel aelodau. Ychydig o ymresymu, mewn yspryd addfwyn, a wna fwy o les na hanner cant o fygythion a melldithion. Hoff yw genyf fi gyfarfod a'r cyfryw bobl druain dlodion ar eu tir eu hunain, os gellir, ac i ennill palmwydd buddugoliaeth yn llaw argyhoeddiad. Ar y cyfan, yr wyf fi yn teimlo calondid wrth adolygu yr hyn a basiodd.

Dygwyd Dyfroedd poethion (Rum) mewn barilau at ddrysau tai rhai o'n pobl, ond ni phrynent hwy ef. Cyn belled ag y gellais i wybod, ni phryn odd neb ond dau o aelodau ein heglwys ni ddim o hono ef. Cafodd un bedair costrel, y rhai a werthodd efe dranoeth am ddillad; y llall a gafodd ddeg, y rhai a ffeiriodd efe am eiddo mwy angenrheidiol.

Marwolaeth Maoae.

Nid ffug-chwedl yw efengyl Crist, yn ddiau. Mae yn gyru anwybodaeth o'r meddwl, ac yn goleuo ein mynedfa i'r beddrod; yn cyfeirio at ogoniant diddiwedd, ac yn dangos gan bwy y mae hawl iddo.

Swydd Maoae, cyn ei droedigaeth oedd cyfnerthu rhyfelwyr digalon. Treuliodd nosweithiau cyfain yn cerdd ed o dŷ i dŷ i galonogi y rhai llwfr, ac i roddi sicrwydd i'r cyfryw fod rhyw dduw wedi dweud wrtho ef y llwyddent yn ddiamheuol yn y rhyfel ag fydd ai y pryd hwnw ar droed. O'r dydd y derbyniodd efe yr efengyl hyd ei farwolaeth nid allodd hyd yn nod tafod centigen ei hun gael un bai camfucheddol yn ei erbyn. Yr oedd efe yn anrhydedd i grefydd ger bron pawb a'i had waenent ef. Y brawd Mr. Henry

[blocks in formation]

Dechreuwyd y Genhadaeth hon yn 1814 trwy annogaeth Dr. Morrison, yn benaf i'r dyben o ddwyn ymlaen yr amcan ag oedd gan y Gymdeithas Genhadol yn ei anfoniad ef i China. Yma y llafuriodd y diweddar Dr. Milne. Yma y sefydlwyd, trwy Dr. Morrison, Brif Athrofa Saesoneg a Chinaeg, yn y flwyddyn 1818, yr hon a gadarnhawyd yn ddirfawr trwy sefyd Iu Argraffwasg yn y lle.

Yn y Sefydliad hwn y cyfieithwyd rhan fawr o'r ysgrythyrau gan Dr. Milne, yr hwn a gynnorthwyodd y Dr. Morrison ynghyfieithiad y Bibl; a'r lle hefyd yr argraffwyd yr amrywiol argraffiadau o'r Bibl sydd yn awr yn cael eu taenu ar led yn iaith China. Oddiyma y cyunorthwywyd trigolion yr India tu draw i'r afon Ganges â Biblau o dro i dro. Ac hefyd, dyma lle y cafwyd yr ysgrythyrau i'w taenu ymhlith y Chineaid yn Ynysoedd yr Archipelago Indiaidd, Siam, a Cochin China, yn gystal ag yn China fawr ei hun-ynghyd a nifeiri mawr o Fândraethodau y rhai a daenwyd yn ieithoedd Chinäeg a Maläeg, ac hefyd rhanau o'r ysgrythyrau yn Maläeg.

Ni wyddom ni ddim pa faint o fendith a fu y rhanau o'r Ysgrythyrau a'r Traethodau hyn, y rhai a wasgarwyd ar hyd gwledydd eang yn y dwyrain. Mae yn amlwg fod rhaid fod llawer oedd o'r trigolion wedi eu darllen hwynt o dro i dro, ac y mae yn rhaid fod peth gwybodaeth am y gwir Dduw, ac am yr hwn a anfonodd efe Iesu Grist, wedi myned i'w plith hwynt trwy y moddion hyn, megis gwawr fechan o flaen codiad haul.

Yn y Brif Athro fa Saesoneg aChinäeg, fe ddygwyd nifer o wyr ieuainge i fynu mewn amrywiol ganghenau dysgeidiaeth a gwybodaeth gyffredinol, yn nghyd a'r grefydd Gristionogol yn ei hamrywiol ganghenau o athrawiaeth a X

|

dysgyblaeth. Y nifer o ysgolheigion | gofidio yn ddwys o herwydd y mawr sydd yn yr Athrofa yn bresennol yd a'r aml droseddu sydd ar y gorchymyn ynt 30; eu hoed yw o ddeg i ugain sanctaidd hwn yn ein gwlad, a hyny mlwydd. Mae yma hefyd lawer o oherwydd y pethau a enwyd, ynghyd blant dan addysg barhaus yn yr am- ag achlysuron ereill. Sef, y siamplau o rywiol ysgolion, sef o 150 i 200 o nifer. droseddu y gorchymyn hwn gan wyr Mae yn Malacca hefyd lawer o eneth- mawrion, agoryd masnach-dai, a od ieuainge vn yr ysgolion, dan addysg gwneuthur amryw fan fasnach ar y gristionogol yn barhaus. Onid oes gal- Sabboth, a hyny oherwydd, yn fynych wad mawr arnom i weddio am "i air yr fod cyflogau gweithwyr yn cael eu Arglwydd redeg a chael gogonedd," yn talu mor hwyr nos sadwrn-cadw y gwledydd eang a phoblogaidd hyn? tafarnau yn agored i werthu diod ar y Poblogaeth yr holl Randir hwn, yn Sabboth-yr aml dorri sydd arno trwy cynnwys y dref a'r wlad, a gyfrifir o rodiana ac yfettach mewn gerddi ar 25,000 i 30,000, o'r rhai y mae dwy fin trefydd mawrion-y mynych draran o'r tair yn preswylio yn nhref mwy mewn cerbydau, agerdd-longau, Malacca a'i chymmydogaeth, yn cyn- ac agerdd-gerbydau ar ddydd yr Argnwys pobl o'r amrywiol genhedlaethau lwydd—ac yn enwedigol argraffu pa hya, Malayaid, Chineaid, Arabiaid, purau newyddion ar y dydd SabKlingiaid (neu Malabariaid) Portugi- | both, yr hyn sydd yn peri fod y dydd aid, Is-ellmyn, a Saeson, O'r rhai hyn, cyssegredig yn cael ei droi yn ddydd y nifer fwyaf ydynt Chineaid, y rhai gorchwyl caled i ugeiniau o argraffsydd yn gwneud i fynu ychwaneg na'r yddion yn Llundain. Mae y pethau drydedd ran o drigolion y Rhandir. hyn a llawer yn ychwaneg yn arwyddo Nifer y Malayaid ydynt 10,000. fod y grefydd gristionogol wedi colli llawer o'i grym a'i pharch ymhlith amryw fath o bobl yn ein gwlad.

[ocr errors]

HYSBYSIADAU CREFYDDOL.
Cymdeithas, er annogaeth i gadw yn

Sanctaidd y dydd Sabboth.

Llundain Chwef, 14, 1831. Mewn Cyfarfod a gynnaliwyd Ion. 25, a Chwefror 8, 1831, i'r dyben o ystyried pa foddion a fyddai oreu i'w harfer tuag at attal y mawr ddrwg o dorri'r Sabboth, ac i adnewyddu, dan fendith Duw, y parch sy ddyledus i'r dwyfol orchymyn, a'r dyledswyddau y dylid eu harferyd ar ddydd yr Arglwydd, penderfynwyd o un fryd—

I. Bod y cyfarfod hwn yn credu yn ddiysgog fod neillduad un diwrnod o bob saith i'r dyben o addoli a gwas. anaethu yr Arglwydd, o ddwyfol osod iad.

[ocr errors]

IV. Bod y Cyfarfod hwn yn credu fod yn ddyledswydd arbenig ar genedl gristionogol i gyffesu eu ffyddlondeb i'r Hollalluog Dduw, a'u ffydd yn ein Harglwydd Iesu Grist trwy anrhydeddu ymhob modd dyladwy y dydd sanctaidd hwn-trwy annog ymmhlith pob math o bobl i gadw yn sanctaidd y dydd sabboth, trwy wneud pob parotoad at addoliad cyhoeddus, trwy arfer moddion i attal torriad gorchymyn hwn-trwy wneuthur pob peth a allom ymhob modd tuag at sancteiddio y dydd sanctaidd, ac attal yr halogi sydd arno yn ein gwlad.

V. Bod y Cyfarfod hwn yn ystyried fod llwyddiant cenedloedd ynglyn a sancteiddiad y Sabboth Cristionogol A bod rhwymedigaeth parhaus oherwydd ei fod yn gorwedd yn sylwar bawb yn nyddiau yr efengyl i gadw edd crefydd ymarferol, a'i fod yn yn sanctaidd y dydd Sabboth, yn ol y amser penodol i gyflwyno addysgiadgorchymyn dwyfol, ac yn ol gosodiadau athrawiaethol, ac i annog at ddy. Crist, a siampl yr apostolion, &c.

II. Bod y cyfarfod hwn yn canfod gyda gofid fod ymgais egniol wedi bod yn ddiweddar, am ddiddymu rhwymedigaeth cristionogion i gadw yn sanctaidd y dydd Sabboth, fel rhwy. medigaeth ddwyfol, trwy osod sail cadwraeth Ꭹ Sabboth ar draddodiad y tadau ac rid ar orchymyn Duw. Ac felly gwanhau y rhwymedigaeth i'w gadw o gydwybod i Dduw, a thrwy hyny rhoddi mantais i ddynion bydol a phroffeswyr cnawdol i ymesgusodi rhag cadw y Sabboth mor fanwl ag y mae y gorchymyn yn gofyn.

III. Bod y Cyfarfod hwn hefyd yn

[ocr errors]

ledswyddau y Grefydd Gristionogol. Hefyd megis y mae ufudd-dod cydwybodol i'r pedwerydd gorchymyn yn tueddu at ddwyn bendith yr Arglwydd ar y genedl, felly y mae y trosedd o hono yn dwyn digofaint a dialedd ar genedl neu wlad. Bod y barnedigaethau dialeddol sydd yn awr yn disgyn ar amryw wledydd yn galw yn uchel arnom i ddiwygio yn yr hyn sy'n anfoddloni yr Hollalluog Dduw.

VI. Bod y Cyfarfod hwn yn hyderu y bydd i'r Arglwydd fendithio unrhyw ymegniad gonest a diragrith a wneler tuag at anrhydedd ei enw a'i gyfraith sanctaidd ynghanol yr anffyddiaeth a'r

claearineb ag sydd yn ein hamgylch- | ynu yn y dyddiau hyn,-ac yn addaw y bydd i bob un o honom ddiwygio yn bersonol oddiwrth bob annhrefn ag a fo yn tueddu i roi anmharch ar y dydd Sabboth ;-ac hefyd gwneuthur yr hyn a allom tuag at gael ereill i ddiwygio yr un modd.

drethu yr holl blwyf, er mwyn gwastadau treth y tlodion. Gosododd y gwr dreth ar yr holl Gapelydd yn y plwyf. Parodd hyn, gellwch feddwl, gryn gynwrf yn mhlith caredigion a chaseion y Capeli. Yr oedd y rhai olaf yn llawenychu ac yn ymffrostio; a'r lleill yn tristau a synu oblegid cydrestru eu "Tai i Dduw" gydag

VII. Bod Cymdeithas yn awr i gael ei ffurfio yn cynnwys y cyfryw berson-ystordai a siopau. Pa fodd bynag, o au a gymmeradwyo y penderfyniadau herwydd hynawsedd hyspys, gwastadhyn, ac a roddo y swm a ofynir yn y ol, a nodedig ein Hynadon parchedig, Rheolau canlynol, i gael ei chyfenwi a chrefyddolder a charedigrwydd y "Cymdeithas er annogaeth i sanct- plwyfolion, hyderem o hyd na cheisid eiddio y dydd Sabboth." gosod y trethiad mewn grym. Ond cyn y Vestry gyhoeddus flynyddol yn nech reu y mis hwn, tybiasom yn well cael gweled yr Ynadon ar yr achos: ac anfonwyd dau i'r perwyl. Nid oedd un o honynt gartref; ond caed gwrandawiad hynaws a boneddigaidd iawn gan y llall. Hwn a archodd i'r Over · seer 'sgrifenu at y Trethwr i ofyn ei awdurdodiad, &c. i'r hyn cafwyd yr atebiad canlynol:

Dybenion y Gymdeithas a amcenir eu cyflawni yn yr ymarferiad o'r moddion canlynol:

:

1. Argraffu a thaenu ar led lyfrau a thraethodau ar y ddyledswydd o sanct eiddio y dydd Sabboth; y rhai a gynnwysant Traethodau yn profi dwyfol | awdurdod y gorchymyn-ar wrthddadleuon a gyfodir yn erbyn hynyar ddyledswyddau y Sabboth-ar leshad y dydd sanctaidd y modd y mae yn cael ei halogi-y moddion goreu i attal y drwg hwn, &c.

2. Arfer moddion addas, cydunol a gair Duw, tuag at gael trigolion Llundain, a phawb drwy y deyrnas, i iawn barchu y dydd Sabboth.

3. Agor cydnabyddiaeth lythyrol trwy holl Ymerodraeth Brydain Fawr, ac os gellir, trwy holl Ewrop, i'r dy. ben o annog trwy bob moddion cyfreithlon, pawb ymhob man i ddiwygio ynghadwraeth y 4ydd gorchymyn.

4. Cynnorthwyo cymdeithasau ereill i fyned ymlaen â'r gorchwyl hwn, hyd eithaf gallu y Gymdeithas.

"Mae Capeli yn ddarostyngedig i dalu treth y tlodion, os gellir profi fod budd (profit) yn cael ei wneud trwy osod yr eistedd-leoedd. Ond y mae anhawsder mawr i brofi hyny: ac er fy mod bob amser wedi eu trethu, ni chodwyd mo honi unwaith yn un lle: ac nis gwn i am gapel mewn un plwyf ag sydd yn talu treth y tlodion. Ond am fod ammheuaeth mewn perthynas iddynt, fy nyledswydd i oedd eu rhoddi yn y trethiad: ond mi gynghorwn y plwyf i'w rhoi i fynu."

a

Wedi darllen y llythyr hwn yn y Vestry, penderfynwyd yn ddioed ac yn ddiwrthwynebiad, I BEIDIO a threthu y Capeli.

5. Cynnorthwyo, trwy bob moddion cymmwys, i anfon Eirchion i'r Senedd, o bob parth o'r wlad, am wneuthur a llunio cyfreithiau newyddion, fel y boy angenrheidrwydd yn gofyn, i'r dyben o attal halogi y Sabboth.

6. I gynnyg am gael yr holl fyd yn un Gymdeithas i'r perwyl canmoladwy hwn o sancteiddio y dydd Sabboth.

Wedi hyny y mae y Rheolau yn argraffedig. Un o ba rai ydyw, Bod i bwy bynag a roddo hanner Guni yn y flwyddyn, i gael bod yn aelod o'r Gym

deithas.

[merged small][ocr errors][merged small]

Fy nyben wrth 'sgrifenu hyn yw, cael sylw difrifol eich darllenwyr ar matter hwn. Onid oes esgeulusdra beius yn Ymneillduwyr y deyrnas yn gyffredinol mewn perthynas i'r peth! Onid oes rhywbeth anoddefadwy yn y meddwl fod "Tai i addoli y Goruchaf Dduw yn cael eu golygu gan y gyfraith fel masnachdai? Ac er na chodir y trethi, etto haerir yr edrych y gyfraith arnynt yn drethadwy. A gallai fod yn achos llawer iawn o drafferth a chostau. Pe yn lle bod yn rhai rhyddid-garawl a chris'tnogaidd fel y maent, y buasent ein Hynadon ni yn rhai erlidgar, pwy all ddywedyd faint fuasent ein helbulon, a'n costau, a'r canlyniad yn y diwedd? Ori ddylai ein heirchion am wellhad ar y gyfraith gyraedd y Senedd dai a'r llywodraeth? ac onid yw yn debyg iawn У eaent wrandawiad?

J. R. JONES, Bangor, 14 Ebrill, 1831.

BIBL GYMDEITHAS CAERGYBI. Nos lun, mawrth 7fed, cadwyd Cyfarfod cyhoeddus y Gymdeithas hon yn nghapel y Trefnyddion Wesleyaidd, pryd yr ymgynhullodd tyrfa liosog; a dewiswyd Mr. Owens, Draper, o'r dref hon, i gymeryd y gadair. Yna agor. wyd y cyfarfod, trwy ddarllen a gweddio, gan Mr. Hugh Jones, o'r dref hon. Wedi hyny cyfarchwyd y gynnulleidfa gan y Cadeirydd, trwy araeth syml a difrifol ar yr achos, yna gan y Parch. Mr. Griffiths, Llandrygan, Mr. W. Williams, Bryndu, y Parch. Mr. Williams, Rhosgolyn; y Parch. D. Morgans (Wesleyad) y Parch. W. Morgans, (Baptist), Mr. Roberts, Mynyddy-gôf, a Mr. Roberts, Tanner, o'r dref hon; a dibenwyd trwy weddi, gan y Parch. D. Morgans.

Swm y Casgliad y flwyddyn ddiweddaf ydoedd £40 7s 114c. Rhoddwyd o Feiblau a Thestamentau yn rhad, werth £5 188 6c. Gallasem ddywedyd wrth ymadael, mai da oedd i ni fod yma. Un or gwrandawyr.

0

MARW RESTR.

Dydd mawrth yr 8fed o Mawrth diweddaf, bu farw y Parch. Nathaniel Rowlands, A. M. yn 82 mlwydd oed; yr hwn oedd fab i'r Parch. Daniel

Rowlands, Llangeitho; ac hefyd yn Gapelwr i'r

Duc o Gordon, ac Arglwyddes Huntingdon.

Ar yr 13eg o Ebrill, yn Nhrefriw, swydd Gaer

narfon, bu farw Mrs. Elizabeth Evans, gwraig Mr. Robert Evans, diweddar o Dàn-y-celyn, a mam leuan Glan Geirionydd, yn y 76 mlwydd o'i hoedran. Bu fyw y'nghymundeb y Trefnyddion Calfinaidd o ddeutu 50 o flynyddoedd. Anfynych iawn y cydgyfarfu yn yr un person y fath liosogrwydd o amrywiaeth ddoniau a rhagorion, er addurno einioes, ac ennill serch a chymmeriad, ag yn y wraig dduwiol a chariadus hon: ac ni chlöodd dorau bedd erioed ar neb a berchid yn fwy yn ei bywyd, ac a alerid yn fwy yn ei marwolaeth. Yr uchradd a'i parchent o herwydd ei challineb, ei hymddygiad gweddus, a'i moesgar. wch-yr isradd oblegyd ei haddfwynder, ei charedigrwydd, ac yn enwedig ei duwioldeb. Bu yn gystuddiol y'nghylch dau fis; ac yn ystod yr holl amser hwn profodd beth a ddichon gwir grefydd wneud ar ran y sawl a'i meddo yn yr amgylch. iadau cyfyngaf. Yr oedd ei byspryd yn anadlu mewn awyr uwchlaw ei gofidiau; ac etto yr oedd mor dawel a difrysio, fel yr oedd yn alluogi ol, yn y pethau lleiaf a distadlaf. Gwaith cwbl ofer a fyddai amcanu rhoddi darluniad o'i dyddiau olaf, gyda golwg i wneud cyfiawnder iddynt.

drefnu ei thy, ac i wastadhau ei hachosion allan

Ni ddichon i neb ond a'i gwelodd ac a'i clywodd

ddychymmygu yr hanner. Nid oes genym esiampl am neb yn yr oes hon wedi gadael tystiolaeth amlycach ar ei hol, nac wedi buddugoliaethu yn fwy pendant a gorfoleddus ar angau a'r bedd. Yr oedd pob peth a wnelai ac a adroddai yn dywedyd mewn ystyr, "tyred yma, a gwel fel y gall cristion farw." Ar ddydd ei harwyl, y gymmydogaeth, am rai milltiroedd o gwmpas, a ymgynnullasant, yn ugeiniau a channoedd, i dystiolaethu eu parch a'n cariad, drwy ddilyn ei helor, a chael y galarus foddbad o weled ei chyfleu yn y dystaw fedd, Hynod oedd gweled cynnulleidfa gymmysg o fondigion a gwreng, er mor wahanol en golygiadau mewn pethau ereill, yn un a chyttûn yn eu hawydd i ddangos pob parch a chymmeriad i enw

un oedd mor hoff ac anwyl ganddynt yn ei bywyd. A thra bo yn yr ardal hon ond un person yn ei chofio, yno y ceir allor oddiar yr hon y deillia arogledd peraidd ei henw.

"Cheir neb fel fy mam."

HELYNTION YR AMSERÓEDD,

DIWYGIAD YN Y SENEDD.

Dydd gwener, Mawrth 18, yr oedd pob aelod o'r ddau dŷ y Senedd yn brysur iawn yn ymbarotoi erbyn yr ail ddarlleniad o'r Darlun cyfraith am Ddiwygiad yn nghynnrychioliad y bobl yn nhŷ y Cyffredin. Yr oedd pawb yn defnyddio pob moddion o fewn ei gyrhaedd tuag at ennill aelodau tŷ y Cyffredin i'w ochr ei hun. Mae yn anhawdd coelio y fath ymgais oedd o blaid ac yn erbyn y Diwygiad. Ac wedi bod dadl boethlyd iawn o bob tu, ar ddydd mawrth y 22ain o Fawrth, Rhanwyd y tŷ, a chafwyd, O blaid y Diwygiad . 302 Yn erbyn

....

.....

301 -1

Mwy o blaid Felly fe ennillodd Swyddogion y brenin ar y blaid.wrthwynebol o un. Bychan iawn oedd troad y fantol; er hyny troi a wnaeth: ac oni buasai iddi droi yr ochr hono, mae yn debyggorphori yn y fan, i'r dyben i'r bobl ol y buasai y Senedd yn cael ei difyddent yn tueddu yn fwy at y Diwanton aelodau i'r Senedd y rhai a ygiad mawr hwn,

Penderfynwyd bod darllen y Darlun cyfraith hwn y drydedd waith y 18 dydd o Ebrill.

Yn

Ebril 11. Agorwyd y ddau dŷ y Senedd ar ol gwyliau y Pasc. nhŷ yr Arglwyddi dechreuwyd derbyn Eirchion am gael y Diwygiad ymlaen. Ac yn nhŷ y Cyffredin ymdrinwyd cryn lawer ar y Darlun cyfraith am y Diwygiad. Boddlonwyd i wneuthur peth cyfnewidiad mewn rhai pethau ynddo, megis gadael un neu ddwy o'r Bwrdeisdrefi heb eu torri ymaith, o'r rhai y bwriadwyd eu torri; a hyny oherwydd y gellid profi fod ynddynt fwy o drigolion na 2000 yn y fl. 1821; a rhyw ychydig o bethau ereill. Ond parhau i ardystio o hyd na fydd iddmae Swyddogion y llywodraeth yn ynt oddef i ddim cyfnewidiad i gael ei wneud yn sylwedd cyfraith y Diwygiad.

Mae arglwydd Brougham wedi dwyn o flaen tŷ yr Arglwyddi Ddarlun Cyfraith am ddiwygiad yn nhrefniadau y cyfreithiau yn Llys Cydwybod (Chancery), i'r hyn y mae cryn wrthwynebiad gan amryw o wyr y gyfraith y rhai oedd yn derbyn elw oddiwrth ohiriad cyfreithiau yn y Llys hwn.

« ForrigeFortsæt »