nad ydynt yn awr yn anfon un aelod | i'r Senedd, i gael anfon dau o hyn allan; y rhai ydynt a ganlyn. Yn Llundain a'i chyffiniau y mae 900,000 o breswylwyr heb eu cynnrychioli yn y Senedd. Tuag at ddiwygio hyny, yr ydis yn bwriadu fod y dosparthiadau canlynol yn anfon aelodau i'r senedd, sef,-Rhandir y Twr gwyn 2, Holborn 2, Marylebone a St. Pancras 2, Lambeth a'r plwyfydd cydiol 2. Bod 27 o'r Siroedd mwyaf poblogaidd a ffrwythlawn yn cael anfon dau aelod chwanegol hob un; tri Dosparth Yorkshire yn anfon dau aelod bob un; Isle of Wight un aelod chwanegol. Enwau y 27 siroedd ydynt, Cornwall Devon Essex Kent Lincoln edrych am ei bod yn Restr gywir. Nis gwyddom paham y rhaid fod wyth niwrnod yn cael eu treulio i ethol aelodau i'r senedd, ond yn y dull hwn gellir ei gyflawni mewn dau ddiwrnod yn hawdd iawn. Hefyd, bydd etholiad mewn Siroedd i gael eu cyflawni yn lled gyffelyb. Yma y canlyn enwau y Bwrdeisdrefi, &c. y rhai y bwriedir eu torri ymaith oddiwrth y fraint o anfon aelod i'r senedd am nad oes ynddynt y nifer o 2000 o drigolion, y rhai ydynt 60 o nifer. Aldborough, York Aldborough, Suffolk Appleby 1 Bedwin Beeralston Bishop's Castle Buckingham Camelford Eye Hindou Ilchester Eastloose Westloose Malmesbury Newport, Cornwall St. Michael's, Cornwall Y 47 lleoedd canlynol ydynt i anfon un Aelod bob un i'r Senedd. Amersham Arundel Salop Somerset Stafford Ashburton Suffolk Bewdley Bodmin Surrey Northumberland Bridport Leicester Chippenham Clithero Wilts Warwick Cumberland Northampton Sussex I'r dyben o attal yr amryw ddrygau sydd ynglyn ag etholiad aelodau y Senedd, maent yn bwriadu o hyn allan fod pob etholydd (voter) mewn dinas, bwrdeis-dref, a thref, yn cael eu côf restru ar ryw amser pennodol bob blwyddyn. Rhaid i swyddogion y plwyf a'r wardeiniaid barottoi côfrestr o enwau pob un fyddo ei ardreth yn ddeg punt ac uchod yn ol y dreth blwyfol, ymhob plwyf, yn cynnwys hefyd y rhai sydd yn etholwyr yn bresennol yn y cyfryw blwyfydd. Gosodir y rhestr hon i fynu ar ddrws eglwys pob plwyf ar amser pennodol bob blwyddyn, a threfnir swyddog arbenig i'w hadolygu, ac i Cockermouth Downton Droitwich Grimsby East Grinstead Honiton Liskeard Lyme Regis Northallerton Penryn Rye St. Germains Thirsk Truro Mewn perthynas i'r cyfnewidiad yn Nghymru, yr ydis yn bwriadu chwanegu trefydd ereill cyfagos at y Bwrdeisdrefi bychain; fel hyn, Chwanegir Caergybi at Beaumaris; Bangor at Gaernarvon; Wrexham at Dinbych; Treffynnon a'r Wyddgrug at Fflint; Llandaff a Merthyr Tydfil at Cardiff; Trallwm a Llanfyllin a thri man arall y rhai a anfonent aelodau gynt i'r Senedd, at Montgomery; St. David's, Fishguard, a Newport at Haverfordwest; Milford at Pembroke; Presteign at Radnor; a bod Swansea, Cowbridge, Langharn, a thri lle arall i wneud i un Bwrdeisdref i anfon un aelod i'r Senedd. Hwn yw yr unig un chwanegol at aelodau dros Gymru. Wedi hyny mae'r Darlun yn myned ymlaen i ddangos y Diwygiad yn Scotland a'r Iwerddon. Bu dadl boethlyd iawn am ddyddiau lawer yn achos y cynnygiad am y Diwygiad mawr hwn. O'r diwedd fe dderbyniwyd y Darlun Cyfraith i'r tŷ, ac fe'i darllenwyd ef y tro cyntaf; a phenderfynwyd ei ddarllen ef yr ail waith ddydd llun Mawrth 21. 0 COFRESTU TY ADDOLIAD. Ar ddymuniad rhai o'n cyfeillion, dodwn yma adysgrif o Archiad (gwel hefyd y Goleuad, llyfr vii. td. 253) i'w anfon i swyddfa Cofrestri (Registry Office) yr Esgob, am Gofrestru (Record) Capel neu dŷ i addoli; am yr hyn y telir hanner coron, a dim yn ychwaneg. Dyma yr Archiad a anfonwyd am CYMDEITHASFA RUTHIN. Cynnaliwyd y Cymdeithasfa uchod Mawrth 3 a 4, 1831. Y moddion cyhoeddus fel y canlyn Nos Iau am 6 ar gloch, gweddiodd Mr. D. Cadwaladr, a phegethodd Mr. J. Parry, Caerlleon, ar Mat. v. 8; a Mr. R. Lloyd, Beaumaris, ar Luc xxiii. 42, 43. Boreu Gwener, am 6, gweddiodd Mr. T. Owens, Mon, a phregethodd Mr. B. Davies o'r America, ar Dan. v. 26. Am 10, gweddiodd Mr. C. Williams, a phregethodd Mr. T. Elias o'r ar Esaiah liii. 8. Deheudir, ar Ps. li. 11; a Mr. H. Rees Mr. W. Williams, a phregethodd Mr. Am 2, gweddiodd J. Charles, Mon, ar Mat. xxviii. 6; a Mr. J. Elias ar Ézeciel xxii. 30. Ám 6, gweddiodd Mr. D. Jones, Dolwyddelen, a phregethodd Mr. Daniel Jones, Llanllechid, ar Ps. xlvi. 4; a Mr. J. Hughes, swydd Drefaldwyn, ar Rhuf. xiii. 11. Dydd sadwrn, 26in o Chwefror, bu farw y gwas llafurus a ffyddlon hwnw dinam, Sir Drefaldwyn. i lesu Grist, Mr. Ishmael Jones, LlanEfe fu yn pregethu yr efengyl flynyddau lawer ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd. Yr oedd efe mor lafurus a diflino yn Ngwinllan ei Arglwydd fel ag y bu iddo bregethu dair gwaith y sabboth olaf y bu ar y ddaear. Dysgwylir y fywyd gweithgar, a'i farwolaeth orfolceir hanes helaethach cyn hir, am ei eddus. We do hereby certify that the [Welsh Chapel] recently erected in [Commonhall-street,] in the [City and Diocese of Chester,] is intended forthwith to be used as a place of Religious Worship by Mawrth bu farw y gwr duwiol, dysg. Bu farw. Dydd sabboth 6ed 0 an Assembly or Congregation of Protes-edig, a llafurus y Parch. Mr. Kemp tants: and we do hereby request you to register the same according to the Provisions of an Act passed in the fifty second year of the Reign of his late Majesty King George the Third, intituled, "An Act to repeal certain Acts, and amend other Acts, relating to Religious Worship and Assemblies, and Persoms teaching or preaching therein." Witness our hands, this [second] day of [November,] One thousand eight hundred and [twenty.] [James Bridgman, John Parry.] *** Yn y Cynllun hwn nid rhaid ond newid enw yr Esgob, a'r ymadroddion ereill a welir rhwng y nodau hyn, [], ac efe a ettyb am unrhyw fan yn Nghymru neu Loegr. gynt o Swansea, yn ddiweddar Athraw Yr oedd efe yn bregethwr dwfn ei Difinyddiaeth yn Athrofa Cheshunt. ddysg, dwys ei brofiad, a chadarn yn yr athrawiaeth iachus. Yr oedd ei fuchedd dduwiol a dichlynaidd yn ngwinllan Crist,ac efe a fu farw mewn addurn i'w broffes. Llafuriodd oes ynfel Iacob gynt, ac a aeth i mewn i tangnefedd, gan fendithio ei blant, lawenydd ei Arglwydd; a mawr yw y golled ar ei ol ef. Llong-ddrylliad.-Dydd sadwrn 12ed. o Fawrth, yn y prydnawn, aeth llong allan o Fflint mewn bwriad o fyned i Liverpool. Tua'r hwyr cododd yn wynt cryf, ac aeth y llestr i lawr yn y dyfnfor, a boddodd y Cadpen a'i wraig a'i ddau fab ar unwaith. Yr oedd y Cadpen yn hen, ac fe ddywedir ei fod ef yn feddw yn Fflint cyn cych wyn ei fordaith olaf hon. Russia.-Ynol y cyfrif awdurdedig, nifer y bobl y rhai a gymmerwyd yn gleifion o'r Cholera morbus oeddynt 70,000, ac o honynt bu farw 40,000. Ond ni chafwyd y nifer o Daleithiau Caucasus ac Orenburg lle yr oedd y clefyd waethaf. Y Cyfrin-Gynghor.-Dywedir fod yr Arglwydd John Russell, a Mr. Stanley i gael eu derbyn i mewn i'r CyfrinGynghor brenhinol (King's Cabinet). Tân etto.-Cynneuwyd tân vr ail waith yn un o dai Mr. Nunnerley yr hwn y llosgwyd ei ysgubor o'r blaen | yn Heath lane, Whitchurch. Llosgodd rhes o dai, yn y rhai hefyd y llosgwyd pedairarddeg o wartheg, a dau geffyl ! Achubwyd y tŷ annedd. Mae sail i gredu mai rhyw un o falais a gynneuodd y tân hwn. POLAND. Mae rhyfel ofnadwy wedi bod rhwng lluoedd ffyrnig a chreulon y Rwssiaid a milwyr Poland. Lladdwyd miloedd lawer o bob tu. Parhaodd y rhyfel | dros amryw ddyddiau, a hyny yn agos i Warsaw, prif ddinas Poland. Buont yn ymladd y 19, 20, 21 o Chwef. Dywedir mewn rhai hanesion fod nifer milwyr Rwssia yn 170,000; a rhai Poland yn 70,000. Aethpwyd i ryfel wedi hyny, sef ar y 24 a'r 25 o'r un mis. Ar y 24 y bu rhyfel ofnadwy o boethlyd. Dywedir i'r Polandiaid golli o ddwy i dair mil o wyr. Ar y 25, y Penciwdod Tywysog Radzivill a arweiniodd y cyfan o wyr arfog_ei fyddinoedd i du deheuol yr afon, sef y tu nesaf i Warsaw, gan adael yn Praga ychydig nifer i gadw y lle. Bu y Rwssiaid mor dost wrth y rhai hyn nes y bu iddynt hwy eu hunain orfod rhoi y lle ar dân. Mae y minteioedd, y rhai a ddaliasant ryfel â'r Rwssiaid am gynnifer o ddyddiau, ac a gollasant gynnifer o'u gwyr, er hyny yn parhau heb eu gwasgaru. Mae y Penciwdod Radzivill wedi rhoi ei swydd i fynu i'r Rhyfelwr enwog y Câd flaenor Skzynerki: yn llaw hwn yn awr y mae yr holl fyddin galonog hon. Dysgwylir y bydd i'r Rwssiaid bellach ymosod yn uniongyrchol ar Praga, a'r amddiffynfa sydd yn y fan hono yn cadw y bont sydd ar yr afon Vistula, Ond mae yn debygol nad all y bont hon ddim dal yn hir, ond y bydd raid i'r Polandiaid losgi y bont bren ag sydd rhwng Praga a Warsaw er mwyn attal y Rwssiaid i ruthro ar Warsaw. Dywedir fod yr Ymerawdwr Nicholas | wedi dyfod at ei filwyr yn bersonol i'w calonogi hwynt yn yr ymgyrch presennol. Os felly y bydd pethau yn myned ymlaen, bydd raid i'r Rwssiaid gadw mintai o filwyr i sefyll yn wyneb y Polandiaid, ac anfon ychydig nifer i wylio ar lan yr afon i ymgais am gyfleusdra i fwrw ponto gychod ar draws yr afon i'r dyben i'r milwyr ddyfod drosodd i Warsaw. Cymmer hyn i fynu gryn amser. Paris-Cafodd y newydd o greulondeb y Rwesiaid yn erbyn y Polandiaid effaith hynod ar y Ffrangcod yn Paris, Cododd y bobl allan yn y nos, a thorasant ffenestri Cenadwr Rwssia yr hwn oedd yn preswylio yn Paris. Gwaeddasant ar hyd yr heolydd, “i lawr a'r Rwssiaid; chwareu teg i'r Polandiaid—rhyfel, rhyfel !" Belgium.-Mae pobl Belgium wedi gosod arnynt eu hunain Raglaw i'w llywodraethu hyd oni osodont frenin arnynt. Mae y Rhaglaw hwn wedi anfon allan Gyhoeddiad at drigolion Luxemberg, i sicrhau iddynt y bydd i lywodaeth Belgium eu cynnorthwyo hwynt yn erbyn Holland. Mae brenin Holland wedi anfon Llywodraethwr newydd, a gwyr meirch gydag ef, i Luxemberg, i sicrhau ei hawl yn y Dalaeth hono, yn ol yr hyn y cytunwyd arno yn y cyfarfod a fu yn Llundain. Rhaid gan hyny y bydd rhyfel etto yn y fan hono, oni fydd i'r galluoedd cyngreiriol roddi attalfa arnynt. Senedd Ffraingc.-Yn y newydd a gyrhaeddodd Lundain yn ddiweddar, dywedir mai M. Cassimir Perrier oedd y gwr a ddewisir gan y Brenin i fod yn brif swyddog y llywodraeth, i gymmeryd y gorchwyl o ffurfio y Senedd newydd. Pa fodd bynag, mae yn amlwg ddarfod iddo ef y tro cyntaf y crybwyllwyd hyny wrtho ymwrthod a'r swydd; ond dysgwylir iddo etto ei chymmeryd hi. Canada yn Ngogledd America.-Mae y newyddion diweddaf a ddaeth o'r wlad hon, yn dangos fod yno gynnydd mawr a'r boblogaeth y Dalaith drefedigol hono o eiddo Brydain fawr. Mae ymofyn mawr am dir gan yr ymfudwyr i'r wlad hono yn parhau. Mae Cyd-fasnachwyr Canada, yn mis Ionawr diweddaf, wedi gwerthu 15,000 o Erwau neu Gyferau (Acres) o dir i'r ymfudwyr. Y tir sydd ar werth gan y llywodraeth sy'n gwerthu am 10s. 11c, yr Erw; yn Ardaloedd Huron, 7s. 7c.; ac yn Guelph 15s. yr Erw. Disgwylir y bydd llawer ychwaneg yn ymfudaw y flwyddyn hon nag yn y blynyddoedd o'r blaen. Cerbyd yr Israel a ddaeth, A'i ddewrion farchogion yn un, Ac esgyn drwy'r cwmwl a wnaeth, Cyn uched a'r nefoedd ei hun; 'Does genym yr awrhon ond codi ein cri, A gwaeddi ein "Tad" â'n dagrau yn lli, O golli ein "Tad" y mae ádfyd i ni!! Dych'mygwyf ei fod yn cael pob Y gwr yr eglurodd ei waith; Ag Awdwr yr Hebreaid câ gwmni hardd coeth; A Moses lariaidd-deg, a Solomon ddoeth. Eneinwn â'n dagrau yn lli' Y fàn lle gorwedda efe :Mor ddistaw yw 'r genau a fu 'N cyhoeddi yr Iesu y'mhob lle!! Y bysedd a ddiwyd 'sgrifenai, sy'n awr Yn oeraidd a llonydd ym mhriddell y llawr Merch Sion galara â galar fydd mawr. |