Billeder på siden
PDF
ePub

J

ARGRAPHWYR, CYHOEDDWYR, A
LLYFRWERTHWYR CYMRU.1

GAN ISAAC FOULKES (Llyfrbryf),
LERPWL.

TESTYN hyn o ysgrif ydyw "Argraphwyr, Cyhoeddwyr, a Llyfr-werthwyr Cymru". Wrth hyn golygir pob galwedigaeth sydd ar waith yn ngyhoeddiad llyfr, o'i awdwr i'r llyfrwerthwr. Gwelir ar unwaith eangder y maes, a'r amhosiblrwydd i undyn ymdrin mewn papyr brysiog fel hyn, ond a chongl fach ohono. Ond pa gongl? Wedi cryn betrusder dewisais y gongl agosaf ataf; y gongl y gwn fwyaf am dani oddiar adnabyddiaeth bersonol, ac y tybiaf y gwyr eraill lai na mi. Mae hanes y maes mawr a dyddorol hwn heb ei ysgrifenu eto, yn disgwyl megys am ei hanesydd; a charwn, trwy yr ychydig sylwadau hyn, roddi help llaw iddo. Hwyrach fel argraphydd agos i haner cant oed, ac un wedi ymhela a holl ganghenau'r alwedigaeth y bydd fy mhrofiad o ryw werth i'r Henry Curwen neu y William Roberts Cymreig, pan gyfyd rhyw Gymro cyffelyb i'r ddau Sais medrus hyn, i ddodi a'r gof a chadw, a chyflawni yr un gymwynas a darllenwyr Cymreig ag a wnaethant hwy a llengarwyr Seisnig.

1 Read before the Honourable Society of Cymmrodorion at 20 Hanover Square, on Wednesday the 19th of April, 1899; Chairman, Mr. William Jones, M.P.

Caniatewch i mi felly ddechreu gyda mi fy hun, neu yn hytrach fy hen feistr-fy nghyfarwyddwr yn y grefft

y

ISAAC CLARKE

o Ruthin, ac fel y bo amser yn caniatau awn ymlaen at eraill. Brodor o Bont Bleddyn ger y Wyddgrug oedd Mr. Clarke. Dysgodd ei grefft gyda Hugh Jones yn dref hono, ac yna daeth i arolygu argraphdy bychan yn Rhuthin i weddw o'r enw Mrs. Maddocks. Ni bu yn y swydd hono yn hir na chydsyniodd a chais amryw o'i gyfeillion i godi masnach ei hun. Mewn parlwr lled fawr i dy annedd, yn gwynebu ar y Wynnstay Arms, y cododd Clarke ei achos i fynu gyntaf. Nid oedd ganddo ond un wasg, Double Crown Columbian fel ei gelwir, a rhyw bymtheg neu ugain o wahanol rywogaethau o lyth'renau, rhai ohonynt yn lled gryfion at argraffu llyfrau. Yr oedd yn swyddfa fach gryno wedi ei dethol yn ofalus gan ddyn o chwaeth argraphyddol, a'i phrynu bron i gyd gan Besley o Lunden, ffirm a gynrychiolir yn awr gan gwmni Syr Charles Reed. Yn fuan daeth John Roberts, yr Almanaciwr o Gaergybi ar ei bererindod yno, a thariodd am rai misoedd yn tori llyth'renau coed, ac yn cadw ei gorphyn hirfain yn llaith gyda diod y gwesty gyferbyn. Ond daeth yr amser i wneud Almanac Caergybi at y flwyddyn ganlynol, a gadawodd John Roberts Ddyffryn Clwyd am Ynys Cybi, i efrydu'r ser a'r planedau, ac i ragfynegi yr hin am y deuddeg mis dyfodol wrth ei gydwladwyr ffyddiog.

Y llyfr cyntaf a argraffodd ac a gyhoeddodd Mr. Clarke oedd Ceinion Alun, sef barddoniaeth a llythyrau John Blackwell (1851) hawl-ysgrif yr hwn a brynodd gan unig chwaer y bardd-Tabitha Kirkham-yr hon gyda'i phriod oeddynt yn cadw gwartheg ac yn gwerthu llaeth yn Stryt Llanrhudd. Hi oedd unig chwaer Blackwell ac efe oedd

H

ei hunig frawd hithau. Iddi hi a'i theulu y gadawodd efe ei dipyn arian, a'r arian hyny a'i galluogodd i gychwyn yn masnach y llaeth; ond nid oedd llaethdy yn Rhuthin haner can mlynedd yn ol yn talu cystal a llaethdy yn Llunden y dyddiau hyn! Aeth y gwartheg yn llai eu nifer, darfu'r llaeth, a hendwr i Tabitha Kirkham druan oedd cael tipyn arian hawl-ysgrif Ceinion Alun, yr hyn a dderbyniai yn ddiolchgar er yn ddognau lled fychan, canys nid oedd Clarke yn graig o arian mwy na rhai o'i brentisiaid ar ei ol

Mae rhestr ei danysgrifwyr i Geinion Alun yn brawf iddo wneud ychydig arian oddiwrth yr anturiaeth, yr hyn a'i cyfiawnhaodd i ymgymeryd ag anturiaethau eraill na fuont hwyrach mor llwyddianus. Ond yr oedd gan fy hen feistr chwaeth lenyddol dda, a llygad masnachol lled glir ar y cyfan, fel y dengys y lyfrau a gyhoeddodd, megys Oriau'r Hwyr ac Oriau'r Boreu Ceiriog, rhai o lyfrau cerddorol ei gymydog J. D. Jones, ac yn enwedig Gems of Welsh Melody Owain Alaw. Prynodd music type at y gwaith hwn a chysododd ef ei hun, prawf ei fod yn ddyn celfydd, canys y mae gosod pob bar o fiwsic fel dadrys un o broblemau Euclid. Gwerthodd y Gems yn rhagorol, gwnaeth y cyhoeddwr yn ddiau elw da oddiwrtho, ac y mae'n dal i werthu eto gan Mri. Hughes o Wrecsam. Felly hefyd y darfu dau lyfr cyntaf Ceiriog, am y rhai y talodd y cyhoeddwr, £10 am Oriau'r Hwyr, a £15 am Oriau'r Boreu.

Ond collodd Mr. Clarke ei heulen o lwyddiant. Amlach y gwelid ef ar lan yr afon Glwyd yn ceisio dal pysgod, nag yn ei swyddfa yn ceisio dal cwsmeriaid, ac yn symera fel udganydd gyda'r Cavalry nag yn udganu ei glodydd ei hun a'i lyfrau, yn ol defod dda ac arfer pob cyhoeddwr llwyddianus er dechreuad yr alwedigaeth gyhoeddiadol. Bu farw Ebrill 5, 1875 yn 51 mlwydd oed.

Gadewch ini gymeryd y dref nesaf i Ruthin, a chael gair neu ddau am

THOMAS GEE.

Sylfaenydd y wasg adnabyddus, hen, ac anrhydeddus hon, ydoedd tad y Mr. Gee a adwaenem ni ac a fu farw ddeunaw mis yn ol. Brodor o Gaerlleon oedd y Thomas Gee cyntaf yr hwn, gyda Robert Saunderson o'r Bala, a John Brown o Fangor, a ddysgasant eu crefft ar yr un pryd yn swyddfa W. Collister Jones yn Nghaer. Os trowch chwi i wyneb-ddalen y Drysorfa Ysprydol yn nechreu y ganrif, chwi a welwch mai Mr. Collister Jones oedd yn ei hargraphu. ei hargraphu. Ond, oblegyd anghyfleusdra gwasg bell, cododd Mr. Charles wasg yn ei ymyl yn y Bala, ac aeth Mr. Saunderson yno fel y prif weithiwr yn 1803, a phan fu farw Mr. Charles prynodd y swyddfa gan ei dwyn ymlaen yn llwyddianus hyd nes y bu farw. Argraphwyd amryw lyfrau pwysig gan Mr. Saunderson megys Geiriadur Charles; ac yma yr argreffid y Gwyliedydd o'r rhifyn cyntaf i'r olaf. Cerir gwaith argraphydd ymlaen yn yr un adeilad hyd y dydd hwn. Aeth Mr. Brown i Fangor a bu am lawer iawn o flynyddau yn cyhoeddi ac yn argraphu y North Wales Chronicle. Derbyniodd Thomas Gee alwad y Parch. Thomas Jones awdwr enwog y Merthyrdraeth, a chyfieithydd Llyfr Gurnal "Y Cristion mewn cyflawn arfogaeth",-dau lyfr a fuont yn dra phoblogaidd am oesau, ac nad ydynt eto wedi colli eu blas i genedl y Cymry. Yr oedd Mr. Jones ar y pryd yn byw yn Rhuthin, ac yno y gosododd ei swyddfa i fynu. Daeth Mr. Gee ato yn 1808, ond yn 1809, symudodd Mr. Jones ei swyddfa a'i weithwyr i Ddinbych. Y mae'r adeilad a drodd Mr. Jones yn argraphdy yn Rhuthin yn dal i fynu eto, ac i'w weled yn muarth yr Antelope, Penbarras. Yn union ar ol cyrhaedd Dinbych prynodd Mr. Gee y swyddfa a dechreuodd yn fuan gynysgaeddu y

297450

Cymry a llyfrau; ac ni fu odid ball ar y llyfrau a ddaeth o'r Clwydian Press, fel ei gelwir, o 1809 hyd 1899, cyfnod hir o gant namyn deng mlynedd.

Mab hynaf Thomas Gee y Cyntaf oedd Thomas Gee yr Ail y bu y wlad yn galaru ar ei ol yn ddiweddar. Ganwyd ef yn 1815; cafodd addysg dda; dechreuodd weithio yn swyddfa ei dad pan yn 13 mlwydd oed, a chymerodd ei holl ofal pan yn ddeunaw oed. Ymunodd a'i dad fel cyd-gyfranogydd, a bu yn foddion i eangu'r fasnach, nes y daeth, ac yr erys ar rai golygon, y swyddfa gyhoeddi ac argraphu Gymraeg fwyaf yn Nghymru. Yr oedd Mr. Thomas Gee yr Ail mor llawn o yspryd anturiaethus fel y cyhoeddodd y Gwyddioniadur, yr hwn a gwblhawyd mewn deg cyfrol drwchus; a bu galwad mor fawr am dano fel y dygwyd ail argraphiad diwygiadol allan bedair neu bum mlynedd yn ol. Amser a ballai imi nodi y llyfrau trymion a ddaeth o wasg Mr. Gee yn ystod yr haner canrif ddiweddaf, heblaw y newyddiaduron-y ddwy Faner-a'r cylch-gronau, megys cyfrolau cyntaf y Traethodydd a'r Geiniogwerth-cyhoeddiadau na bu gan lenyddiaeth yr un wlad eu rhagorach. Un o'r dynion mwyaf anturiaethus a fu erioed yn Nghymru oedd Mr. Gee gyda' i fasnach cystal a phethau eraill. Hyn oedd ei nerth; hyn hefyd oedd ei wendid, oblegid nid yw ttwyddiant bob amser yn dilyn anturiaeth.

Yn 1842 ymunodd ei fab Mr. Howell Gee a'r fasnach, ac efe sydd yn ei dwyn ymlaen yn bresenol. Ni fuasai cenedl y Cymry yr hyn ydyw yn awr yn llenyddol na chymdeithasol oni buasai am y Clwydian Press; a hir y parhao i ledaenu ei dylanwad iachus yn mysg ein cenedl.

ROBERT DAVIES

o Lansannan. Un o brif lyfr-werthwyr Mr. Gee a chyhoeddwyr llyfrau Cymraeg eraill ei oes ef, oedd Robert

« ForrigeFortsæt »