Billeder på siden
PDF
ePub

investigation of the origin of all the various strata of the Arthurian matter involves, of course, problems which do not properly belong to a study of Geoffrey of Monmouth's History. The controversy, in so far as it concerns Geoffrey, turns on the meaning, already discussed, of the words Britannia, Britones, etc., and on the evidence afforded by the forms of the proper names in his text. Zimmer maintains, as against Loth and Lot, that the more significant of these names are distinctly Breton rather than Welsh in their form. As Mr. Nutt observes, "Welsh philologists can do much to explain the Onomasticon Arthurianum," and a new critical edition of the text of Geoffrey may be of some assistance to those whose learning qualifies them to deal with this difficult branch of the subject.

1

Here, again, as in the controversy about the existence of "the British book", the truth will probably be found somewhere in the middle. "The matter of Britain " is doubtless common to all the so-called Celtic peoples; they all had it in germ, more or less. Wales, Cornwall, Brittany and, to a lesser extent, Ireland, all contributed their quota to the mass of Arthurian tradition. Is it really worth while to quarrel as to the exact share in this common heritage possessed by the different branches of a kindred race? The Britons of this island, the direct ancestors of the Welsh people, undoubtedly possessed the historical Arthur. The legendary Arthur grew in the imagination alike of the Britons of Wales, of Cornwall, of Armorica.

incident, the form, and the animating spirit. But we can detect a written as well as an oral transmission. Many of the names in the French romances not only betray the fact of their derivation from a written source, but also that this must have been in the Welsh rather than in the Breton form of the common Brythonic tongue" (p. 9).

1

1 Preface to Studies on the Legend of the Holy Grail.

We need not in this matter be too anxious to cut up the all too slender Celtic fringe. Rather let each branch of the Celtic race be allowed to rejoice in its title to be held a contributor to so splendid a monument of poetry and romance as perpetuates the memory of Arthur. For he, rex quondam rexque futurus, transfigured by the sublime dream of his return, stands as the symbol of the hope, inevitably futile perhaps but ever resurgent, of the Celtic people. Cherishing their ancient institutions and their pride of birth, they ever look forward to some brighter future,

"Still nursing the unconquerable hope,
Still clutching the inviolable shade."

It may be somewhat fanciful to find in the Arthurian legend the impress of the character and the destiny of the Celtic races. But it is curious that alike in the history of those races and in the fable of Arthur we find imagination fed and fostered upon dreams of a prowess that has departed and of a glory that is to come. The hope of "renascence" -soiled though the word has been by much ignoble use -does, after all, dwell with a strange vitality in the Celtic breast. Just as the Celt exaggerates the past achievements of his race, so does he ever love to view the future through the glamour of a splendid though vague expectation. "Arthur's return" is to him the symbol of the deathless spirit of Celtic nationality. Of Arthur the bards are still left to sing "unknown is his grave."

"Sun, rain, and sun! and where is he who knows?

From the great deep to the great deep he goes."

One thing, however, we do know, and it is something actual and tangible for the Celtic peoples to take pride in -that the legend lives, and will live, as the enduring bequest of the Celtic imagination to the literature of the world.

ARGRAPHWYR, CYHOEDDWYR, A

LLYFRWERTHWYR CYMRU.'

GAN ISAAC FOULKES (Llyfrbryf),
LERPWL.

TESTYN hyn o ysgrif ydyw "Argraphwyr, Cyhoeddwyr, a Llyfr-werthwyr Cymru ". Wrth hyn golygir pob galwedigaeth sydd ar waith yn ngyhoeddiad llyfr, o'i awdwr i'r llyfrwerthwr. Gwelir ar unwaith eangder y maes, a'r amhosiblrwydd i undyn ymdrin mewn papyr brysiog fel hyn, ond a chongl fach ohono. Ond pa gongl? Wedi cryn betrusder dewisais y gongl agosaf ataf; y gongl y gwn fwyaf am dani oddiar adnabyddiaeth bersonol, ac y tybiaf y gwyr eraill lai na mi. Mae hanes y maes mawr a dyddorol hwn heb ei ysgrifenu eto, yn disgwyl megys am ei hanesydd; a charwn, trwy yr ychydig sylwadau hyn, roddi help llaw iddo. Hwyrach fel argraphydd agos i haner cant oed, ac un wedi ymhela a holl ganghenau'r alwedigaeth y bydd fy mhrofiad o ryw werth i'r Henry Curwen neu y William Roberts Cymreig, pan gyfyd rhyw Gymro cyffelyb i'r ddau Sais medrus hyn, i ddodi a'r gof a chadw, a chyflawni yr un gymwynas a darllenwyr Cymreig ag a wnaethant hwy a llengarwyr Seisnig.

Read before the Honourable Society of Cymmrodorion at 20 Hanover Square, on Wednesday the 19th of April, 1899; Chairman, Mr. William Jones, M.P.

Caniatewch i mi felly ddechreu gyda mi fy hun, neu yn hytrach fy hen feistr-fy nghyfarwyddwr yn y grefft

ISAAC CLARKE

o Ruthin, ac fel y bo amser yn caniatau awn ymlaen at eraill. Brodor o Bont Bleddyn ger y Wyddgrug oedd Mr. Clarke. Dysgodd ei grefft gyda Hugh Jones yn y dref hono, ac yna daeth i arolygu argraphdy bychan yn Rhuthin i weddw o'r enw Mrs. Maddocks. Ni bu yn y swydd hono yn hir na chydsyniodd a chais amryw o'i gyfeillion i godi masnach ei hun. Mewn parlwr lled fawr i dy annedd, yn gwynebu ar y Wynnstay Arms, y cododd Clarke ei achos i fynu gyntaf. Nid oedd ganddo ond un wasg, Double Crown Columbian fel ei gelwir, a rhyw bymtheg neu ugain o wahanol rywogaethau o lyth'renau, rhai ohonynt yn lled gryfion at argraffu llyfrau. Yr oedd yn swyddfa fach gryno wedi ei dethol yn ofalus gan ddyn o chwaeth argraphyddol, a'i phrynu bron i gyd gan Besley o Lunden, ffirm a gynrychiolir yn awr gan gwmni Syr Charles Reed. Yn fuan daeth John Roberts, yr Almanaciwr o Gaergybi ar ei bererindod yno, a thariodd am rai misoedd yn tori llyth'renau coed, ac yn cadw ei gorphyn hirfain yn llaith gyda diod y gwesty gyferbyn. Ond daeth yr amser i wneud Almanac Caergybi at y flwyddyn ganlynol, a gadawodd John Roberts Ddyffryn Clwyd am Ynys Cybi, i efrydu'r ser a'r planedau, ac i ragfynegi yr hin am y deuddeg mis dyfodol wrth ei gydwladwyr ffyddiog.

Y llyfr cyntaf a argraffodd ac a gyhoeddodd Mr. Clarke oedd Ceinion Alun, sef barddoniaeth a llythyrau John Blackwell (1851) hawl-ysgrif yr hwn a brynodd gan unig chwaer y bardd-Tabitha Kirkham-yr hon gyda' i phriod oeddynt yn cadw gwartheg ac yn gwerthu llaeth yn Stryt Llanrhudd. Hi oedd unig chwaer Blackwell ac efe oedd

H

ei hunig frawd hithau. Iddi hi a'i theulu y gadawodd efe ei dipyn arian, a'r arian hyny a'i galluogodd i gychwyn yn masnach y llaeth; ond nid oedd llaethdy yn Rhuthin haner can mlynedd yn ol yn talu cystal a llaethdy yn Llunden y dyddiau hyn! Aeth y gwartheg yn llai eu nifer, darfu'r llaeth, a hendwr i Tabitha Kirkham druan oedd cael tipyn arian hawl-ysgrif Ceinion Alun, yr hyn a dderbyniai yn ddiolchgar er yn ddognau lled fychan, canys nid oedd Clarke yn graig o arian mwy na rhai o'i brentisiaid ar ei ol.

Mae rhestr ei danysgrifwyr i Geinion Alun yn brawf iddo wneud ychydig arian oddiwrth yr anturiaeth, yr hyn a'i cyfiawnhaodd i ymgymeryd ag anturiaethau eraill na fuont hwyrach mor llwyddianus. Ond yr oedd gan fy hen feistr chwaeth lenyddol dda, a llygad masnachol lled glir ar y cyfan, fel y dengys y lyfrau a gyhoeddodd, megys Oriau'r Hwyr ac Oriau'r Boreu Ceiriog, rhai o lyfrau cerddorol ei gymydog J. D. Jones, ac yn enwedig Gems of Welsh Melody Owain Alaw. Prynodd music type at y gwaith hwn a chysododd ef ei hun, prawf ei fod yn ddyn celfydd, canys y mae gosod pob bar o fiwsic fel dadrys un o broblemau Euclid. Gwerthodd y Gems yn rhagorol, gwnaeth y cyhoeddwr yn ddiau elw da oddiwrtho, ac y mae'n dal i werthu eto gan Mri. Hughes o Wrecsam. Felly hefyd y darfu dau lyfr cyntaf Ceiriog, am y rhai y talodd y cyhoeddwr, £10 am Oriau'r Hwyr, a £15 am Oriau'r Boreu.

Ond collodd Mr. Clarke ei heulen o lwyddiant. Amlach y gwelid ef ar lan yr afon Glwyd yn ceisio dal pysgod, nag yn ei swyddfa yn ceisio dal cwsmeriaid, ac yn symera fel udganydd gyda'r Cavalry nag yn udganu ei glodydd ei hun a'i lyfrau, yn ol defod dda ac arfer pob cyhoeddwr llwyddianus er dechreuad yr alwedigaeth gyhoeddiadol. Bu farw Ebrill 5, 1875 yn 51 mlwydd oed.

« ForrigeFortsæt »